Canlyniadau 521–540 o 2000 ar gyfer speaker:David Melding

6. Datganiad gan y Gweinidog Tai ac Adfywio: Perchnogaeth Tai Cost Isel ( 1 Mai 2018)

David Melding: Teimlaf y dylwn i ddechrau mewn ysbryd mwy hael nag y gwneuthum yr wythnos diwethaf, oherwydd rydym yn aml yn gwrthdaro ar faterion tai. Felly, gadewch imi groesawu naws y datganiad hwn ac ymadroddion megis: 'Rwyf eisiau gweithio gyda nhw i adeiladu llawer o dai yn gyflym'—dyna'r amrywiol bobl sy'n adeiladu tai; 'Credwn nad yw perchentyaeth ar gyfer pobl ar incwm uwch yn unig'—wel, dyna...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cymorth i Brynu — Cymru ( 8 Mai 2018)

David Melding: Prif Weinidog, rwy'n sicr yn cytuno bod y cynllun Cymorth i Brynu wedi bod yn llwyddiannus, fel y mae wedi bod yn Lloegr, ac mae'r mesurau eraill o ran galw a grybwyllwyd gennych—mae'r rhan fwyaf ohonynt yn Lloegr hefyd—wedi bod o gymorth hefyd, ond nid ydynt mor rymus â mesurau'r ochr gyflenwi. A gaf i ddweud wrthych chi, nawr, y ffigurau diweddaraf? Ers mis Mawrth 2018, sydd newydd...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Twf Economaidd yng Nghwm Cynon ( 8 Mai 2018)

David Melding: Diolch yn fawr, Llywydd. Rydych chi'n amlwg yn fy ffafrio i y prynhawn yma, a hir y parhaed hynny. [Chwerthin.] Prif Weinidog, Cwm Cynon yw'r drydedd etholaeth leiaf gweithgar yn economaidd yng Nghymru, a gwyddom am y cysylltiad rhwng gweithgarwch economaidd a ffyniant. Y prif reswm y mae pobl yn parhau i fod yn economaidd anweithgar, pan y gallent, mewn gwirionedd, am resymau iechyd, fod yn...

6. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: Dyfodol Rheoli Tir ( 8 Mai 2018)

David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ddweud—[Anhyglyw.]—nid wyf i o'r farn fod yn rhaid cael tyndra rhwng amaethyddiaeth gynhyrchiol a gofal am yr amgylchedd. Felly, gallwn yn sicr gyfuno'r nwyddau cyhoeddus a'r dyheadau hyn sydd yn bwysig iawn. Yn amlwg, ceir rhai meysydd lle mae modd inni gael mwy o amrywiaeth o ran cynnyrch, ac mae garddwriaeth yn un maes diddorol iawn yn fy marn i. Ceir...

7. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd: Cyfrifoldeb Cynhyrchydd Estynedig ( 8 Mai 2018)

David Melding: A gaf i ddweud fy mod i'n croesawu'r adroddiad hwn ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i strategaeth blastigau ehangach? Rydym ni wedi bod yn galw am hyn ers peth amser. Rwy'n credu mai mynd ati ar lefel y DU i ymdrin â llawer o'r ysgogiadau polisi i reoli gwastraff plastig a chynyddu ailgylchu yw'r ffordd orau ymlaen yn sicr, er bod mentrau y gallwn ni eu rhoi ar waith hefyd, fel y nodwyd yn yr...

7. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd: Cyfrifoldeb Cynhyrchydd Estynedig ( 8 Mai 2018)

David Melding: Iawn, wel mae hynny 100 y cant yn fwy nag y tybiais yr oedd gennym.

7. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd: Cyfrifoldeb Cynhyrchydd Estynedig ( 8 Mai 2018)

David Melding: Byddwn i'n falch o ymuno â chi.

8. Dadl Cyfnod 4 y Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) ( 8 Mai 2018)

David Melding: Llywydd, mae hi er budd y cyhoedd fod y Bil hwn yn cael cefnogaeth heddiw. O ystyried penderfyniad y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar ddosbarthiad landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, mae'n rhaid inni weithredu. Ers y cychwyn cyntaf, rydym wedi derbyn egwyddor y Bil hwn ar yr ochr hon i'r Cynulliad, fodd bynnag, rydym wedi ceisio craffu arno fel darn o ddadreoleiddio sylweddol, ond...

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Treth trafodiadau tir ar dir masnachol ( 9 Mai 2018)

David Melding: Diolch, Ddirprwy Lywydd, mae bob amser yn bleser cael dilyn Mike Hedges, ac roedd mor ddewr yn trafod y mater o safbwynt athronyddol. Roedd i'w weld fel pe bai'n dadlau bod y dreth ar dir yn hanfodol ac yn ddychmygol ar un pryd, ond efallai na lwyddais i ddilyn ei resymeg yn arbennig o dda. Roedd gweddill ei berorasiwn ar ddiben a rhyfeddod trethiant, ac rwyf wedi darllen y cynnig yn...

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Treth trafodiadau tir ar dir masnachol ( 9 Mai 2018)

David Melding: Credaf mai un peth y dylem edrych arno efallai yw lleihau baich y dreth ar fuddsoddiad masnachol drwy wobrwyo arferion a thechnegau adeiladu amgylcheddol sensitif a sut y maent yn mynd i ddefnyddio'r adeilad a chyfleusterau eraill a allai fod ganddynt yno a fydd yn gynaliadwy yn amgylcheddol. Efallai y gallech gynnig cymhellion yn hynny o beth i liniaru'r penderfyniad anffodus rydych...

9. Dadl Fer: Tai yn y cymoedd — Treftadaeth y mae gwerth buddsoddi ynddi ( 9 Mai 2018)

David Melding: Diolch yn fawr, Llywydd.

9. Dadl Fer: Tai yn y cymoedd — Treftadaeth y mae gwerth buddsoddi ynddi ( 9 Mai 2018)

David Melding: Mae hanes, daearyddiaeth ac ehangu cyflym diwydiannau echdynnol, yn enwedig glo, wedi cyfuno i lunio amgylchedd adeiledig unigryw yng Nghymru, ac rwy'n falch o gyflwyno'r ddadl hon heno. Rwyf hefyd yn falch o ganiatáu i Hefin David a Suzy Davies gael munud o fy amser. Mae tai teras o'r cyfnod diwydiannol yn bresennol mewn rhannau eraill o'r DU, ond nid mewn crynodiadau o'r maint a...

9. Dadl Fer: Tai yn y cymoedd — Treftadaeth y mae gwerth buddsoddi ynddi ( 9 Mai 2018)

David Melding: Cyfunodd tai teras i wneud cyfres unigryw o gymunedau trefol, pentrefi bron, a wrthgyferbynnai'n amlwg â datblygiadau trefol cnewyllol mewn mannau eraill. Mae oddeutu 40 y cant o gartrefi Cymru yn dai teras, a bydd yn dal i fod yn 28 y cant o'n stoc dai erbyn 2050. Dylid dathlu'r etifeddiaeth hon yn frwd, yn hytrach na'i gweld fel baich neu rywbeth sydd wedi goroesi o'r oes ddiwydiannol....

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Y Gwasanaeth Ambiwlans (15 Mai 2018)

David Melding: Prif Weinidog, dros dri mis y gaeaf, bu'n rhaid i 1,860 o bobl a ddosbarthwyd yn ambr, a byddwch yn gwybod bod hyn yn cynnwys pobl sy'n dioddef strôc neu drawiad ar y galon, aros dros chwe awr am eu hambiwlans. Nawr, does bosib bod hyn yn annerbyniol ac mae angen i ni sicrhau, y gaeaf nesaf, bod rhai o'r safonau sylfaenol iawn hyn yn cael eu bodloni.

3. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) (15 Mai 2018)

David Melding: Rwy'n falch o gefnogi'r cynnig sydd gerbron y Cynulliad y prynhawn yma. Fel y noda adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, mae'r cytundeb rhynglywodraethol yn ganolog i'r argymhelliad i gymeradwyo'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol, ac rwyf eisiau dychwelyd at hynny yn ddiweddarach. Hyn, ynghyd â'r gwelliannau i'r cymal 11 gwreiddiol. Fel y noda adroddiad y pwyllgor:...

3. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) (15 Mai 2018)

David Melding: Os yw hyn yn wir yn gam yn ôl o ddatganoli, fel mae Plaid a'r SNP yn honni, mae'r cyhoedd yn ymddangos yn hyderus iawn. Fe wnaf ildio. 

3. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) (15 Mai 2018)

David Melding: Wel, dyna'r holl bwynt, welwch chi, ynte? Rydych chi'n dadlau, 'Oes, mae eu hangen nhw arnom ni', ond wnewch chi ddim cytuno ar unrhyw broses neu roi cydsyniad rhesymol i'w ffurfio. Rydych chi eisiau pleidlais atal genedlaethol. Rydych chi eisiau cadw'r hyn a welwch chi fel eich sofraniaeth absoliwt.

3. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) (15 Mai 2018)

David Melding: Ni fyddai UE wedi bodoli yn y lle cyntaf oni ailaseswyd y dehongliad penodol hwnnw o sofraniaeth. Fel y dywedodd Monnet, mae angen inni oresgyn y rhwystr o sofraniaeth genedlaethol gul, ac mae angen inni greu, yn y DU, rhywbeth sy'n cyfateb i'r llywodraethiant cyffredin yn yr UE. Mae'r ffordd yr ydych chi'n mynd ati yn gwyrdroi hynny a dyna'r holl broblem yma y prynhawn yma.

3. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) (15 Mai 2018)

David Melding: Iawn, fe wnaf i dderbyn un yn rhagor.

3. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) (15 Mai 2018)

David Melding: A gaf i ddweud, Rhun, rwy'n wirioneddol falch eich bod wedi gwneud y sylw hwnnw oherwydd rwyf eisiau symud yn awr at fy nghasgliad, sydd yn faes, rwy'n credu, efallai, y byddwn yn fwy unedig yn ei gylch? Fel y dywedais ar y dechrau, mae'r cytundeb rhynglywodraethol yn bwysig iawn. Dim ond y dechrau yw, fodd bynnag, o'n cysyniad o gyd-lywodraethu ac mae angen ailwampio hyn a dyna fydd y prawf...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.