Jack Sargeant: Diolch i’r pwyllgor diwylliant am ymgymryd â’r gwaith hwn a chodi’r mater pwysig hwn. Lywydd, rwy’n codi i gyfrannu heddiw yn fy rôl fel cadeirydd y Pwyllgor Deisebau. Mae un o'r deisebau mwyaf poblogaidd ers dechrau'r flwyddyn hon wedi canolbwyntio ar effaith costau ynni uchel ar byllau nofio a chanolfannau hamdden. Mae’r ddeiseb o’r enw 'Diogelu canolfannau hamdden a phyllau...
Jack Sargeant: Wrth gwrs.
Jack Sargeant: A gaf fi ddiolch i Jenny Rathbone am ei hawgrym? Mae hynny'n sicr yn rhywbeth y byddwn yn ymchwilio iddo ymhellach. Mae’n awgrym gwerthfawr gan yr Aelod. Wrth gwrs, mae unrhyw awgrymiadau ynglŷn â gwaith y pwyllgor i'w croesawu bob amser. Lywydd, roedd yr her sy’n wynebu’r rheini sy’n rhedeg pyllau nofio yn fater a godwyd yn ymchwiliad y pwyllgor diwylliant, fel y clywsom heddiw, ac...
Jack Sargeant: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, ac wrth agor y ddadl fer heddiw hoffwn roi munud o fy amser i Sioned Williams a Jane Dodds. Mae 'argyfwng costau byw' yn ffordd arall o ddweud bod nifer cynyddol o bobl yn cael eu gorfodi i fyw mewn tlodi. Mae'n arwydd o fethiant llunwyr polisi a'r ffordd y caiff ein heconomi ei threfnu. Nid yw'n anochel, ac fe allwn ac fe ddylem geisio gwneud bywydau pobl...
Jack Sargeant: Yng nghanol gaeaf oer a thwf sylweddol mewn tlodi, gyda chwyddiant yn rhemp a chyflogau'n llusgo ar ôl, rydym yn caniatáu i gwmnïau ynni newid pobl i'r ffordd fwyaf drud ac ansicr o dalu am ynni—cannoedd o filoedd o bobl. Ac o'r 500,000 o geisiadau am orchmynion llys i newid preswylwyr yn orfodol, dim ond 72 a gafodd eu gwrthod, a hynny er gwaethaf y gofyniad honedig i gwmnïau ynni...
Jack Sargeant: 5. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidogion cyfatebol Llywodraeth y DU ar ddiogelu dyfodol y diwydiant dur yng Nghymru? OQ59034
Jack Sargeant: Os caf i barhau ar yr hyn sy'n sgandal cenedlaethol a fy ymgyrch i ddod â'r sgandal cenedlaethol hwnnw i ben, sef gorfodi mesuryddion rhagdalu ar bobl, Trefnydd, byddwch yn ymwybodol bod 72, allan o 500,000 o warantau y gwnaethpwyd ceisiadau amdanyn nhw drwy'r llysoedd, dim ond 72 a wrthodwyd. Mae'n ymddangos i mi fod rhywbeth amlwg o'i le ac yn anghyfiawn. Dros wythnos yn ôl bellach, roedd...
Jack Sargeant: Rwy'n ddiolchgar, Dirprwy Lywydd, i gael cyfle unwaith eto i godi'r mater o ddarpariaeth bancio yn y Senedd. Rwy'n credu ei fod yn un sydd wedi'i drafod droeon ar lawr y Siambr yma. Mae'n un sy'n effeithio ar bob cornel o Gymru. Bydd y Gweinidog yn llwyr ymwybodol o fy ymgyrch hirsefydlog i ddod â changen banc cymunedol cyntaf Cymru i Fwcle yn fy etholaeth fy hun. Yr hyn sy'n amlwg,...
Jack Sargeant: Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ateb ac, hefyd, i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth barhaus i'r diwydiant dur yng Nghymru. Mae'r Gweinidog wedi ymuno â mi droeon yn Shotton Steel yn fy etholaeth fy hun, sy'n profi eich bod yn deall pwysigrwydd dur Cymru ac rydych chi'n deall pwysigrwydd bod Shotton yn cael cyflenwad o ddur gwyrdd. Gweinidog, mae partneriaid y diwydiant fel Tata Steel...
Jack Sargeant: Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y cynnydd diweddar mewn ceisiadau am warantau llys i osod mesuryddion rhagdalu drwy rym yng nghartrefi pobol?
Jack Sargeant: 1. Yn sgil cyhoeddiad Ofgem ynghylch roi terfyn ar osod mesuryddion rhagdalu yn orfodol, pa sylwadau y mae'r Gweinidog wedi'u gwneud i Lywodraeth y DU ynghylch cefnogaeth i'r rhai sy'n wynebu cael eu datgysylltu o ganlyniad i gael eu gorfodi i newid yn barod y gaeaf hwn? TQ722
Jack Sargeant: Sut mae Llywodraeth Cymru'n gweithio i sicrhau bod y nifer mwyaf posibl yn manteisio ar ei chynnig prydau ysgol am ddim i bawb?
Jack Sargeant: A gaf fi ddiolch i’r Gweinidog am ei hateb, a diolch iddi eto am ei harweinyddiaeth ar ran Llywodraeth Cymru yn dwyn y materion hyn i sylw Llywodraeth y DU? Mae Llywodraeth y DU, Ofgem a’r llysoedd wedi gwylio’r sgandal genedlaethol hon yn datblygu ers dros flwyddyn, gan ymddiried mewn cyflenwyr ynni ac asiantau casglu dyledion yn ôl pob golwg i wneud y peth iawn. Mae miloedd o...
Jack Sargeant: 6. Sut mae Llywodraeth Cymru'n amddiffyn trigolion Alun a Glannau Dyfrdwy rhag syrthio i dlodi tanwydd y gaeaf hwn? OQ59140
Jack Sargeant: A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am yr ateb yna, a hefyd croesawu'r gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei darparu ar hyn o bryd? Bydd y Gweinidog yn gwybod fy mod i wedi codi ers cryn amser bellach sgandal genedlaethol miloedd o bobl agored i niwed yn cael eu gorfodi i newid i fesuryddion rhagdalu. Mae Llywodraeth y DU, Ofgem a'r cyflenwyr ynni eu hunain wedi bod yn ciwio i ddweud eu bod...
Jack Sargeant: Diolch i chi, Dirprwy Lywydd. Ni fydd hi'n syndod i'r Gweinidog, rwy'n siŵr, fy mod i'n amlwg yn siomedig iawn gyda chyhoeddiad heddiw. Mae hi'n amlwg o'r cyhoeddiadau a'r datganiad a wnaethoch chi heddiw nad yw'r llwybr coch yn sir y Fflint am fynd yn ei flaen. Yn y pen draw, roedd y prosiect hwn yn ymwneud â lleihau llygredd aer. Gweinidog, rwy'n ymwybodol bod gan aelodau eraill yn y...
Jack Sargeant: 7. Pa ystyriaeth mae Llywodraeth Cymru wedi ei rhoi i wahardd rasio milgwn? OQ59110
Jack Sargeant: Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw ac rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ymateb yn gadarnhaol i Bwyllgor Deisebau'r Senedd ar yr adroddiad a alwai am waharddiad graddol ar rasio milgwn. Y rheswm y gwnaethom alw am waharddiad graddol ar rasio milgwn yw oherwydd bod y mwyafrif o'r Aelodau'n teimlo bod y dystiolaeth a glywsom yn llethol o blaid gwaharddiad graddol. Rwy'n deall...
Jack Sargeant: 1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith cap prisiau newydd Ofgem ar drigolion yng Nghymru? TQ732
Jack Sargeant: Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi'u cael gydag Ofgem ynglŷn â'i adolygiad o orfodi gosod mesuryddion rhagdalu?