Delyth Jewell: Soniodd hefyd sut y caiff credyd ei wrthod yn aml i bobl hŷn a sut, mewn gwirionedd, y gall pobl, oherwydd eu hamgylchiadau, gael eu heffeithio hyd yn oed yn waeth. Diolch i'r Gweinidog am ei chyfraniad a'i gwybodaeth ddiweddaraf am rai o'r ffyrdd y mae'r Llywodraeth yn gweithredu ar hyn. Rwy'n croesawu'r newyddion am yr ymgyrch 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi'. Byddai'n well gennyf...
Delyth Jewell: Diolch, Rhianon, rwyf mor falch eich bod wedi sôn am y brodyr Watkins talentog; mae eu rhieni'n ffrindiau annwyl i'r teulu. Gall cerddoriaeth newid bywydau pobl. Cawn hynny o'r ddadl fer hon hyd yn oed. Yn anffodus, mae cerddoriaeth Safon Uwch yn cael ei chynnig yn rhy anaml mewn ysgolion erbyn hyn, ond mae angen i bobl ifanc fod yn ymwybodol o'r rhagolygon gyrfa cyffrous sy'n bodoli i...
Delyth Jewell: Trefnydd, hoffwn i gael datganiad, os gwelwch yn dda, ar sut y mae penderfyniadau ar driniaethau'r GIG yn cael eu gwneud yng Nghymru. Dros y penwythnos, enillodd un o fy etholwyr i, Maria Wallpott, ei hachos yn yr Uchel Lys ar ôl i'r GIG yng Nghymru wrthod ariannu triniaeth arbenigol ar gyfer ei chanser sydd ar gael yn yr Alban a Lloegr. Nawr, rwy'n sylweddoli'n iawn na fydd y Llywodraeth yn...
Delyth Jewell: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yr wythnos diwethaf, dywedodd pennaeth Trafnidiaeth Cymru fod teithio ar eu trenau yn sylfaenol ddiogel. Mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn nodi bod angen cadw at y mesurau canlynol i sicrhau diogelwch COVID: cadw pellter oddi wrth bobl eraill, osgoi lleoedd gorlawn, awyru da pan fyddwch yn agos at eraill, a gwisgo gorchuddion wyneb. Felly, a yw'r mesurau hyn yn cael...
Delyth Jewell: Weinidog, cytunaf yn llwyr fod angen inni fod yn ymwybodol o'r heriau amrywiol y mae'r sector trafnidiaeth yn eu hwynebu. Ni waeth pwy sydd ar fai am y risgiau hyn, rwy'n ei chael hi'n anodd gweld sut y gellir dweud bod trenau'n sylfaenol ddiogel, ond efallai nad ydynt yn ddiogel ar rai adegau o'r dydd. Gwelais neithiwr fod rhywun yn dyfynnu George Orwell ar Twitter, ond mewn perthynas â...
Delyth Jewell: Weinidog, ar yr union bwynt hwnnw, gallai Cymru fod £5 biliwn ar ei cholled heb swm canlyniadol Barnett yn sgil y gwariant ar HS2. Fel y gwyddoch yn amlwg, mae hynny oddeutu 5 y cant o gyfanswm gwariant y prosiect. Gallai fod yn llawer uwch, wrth gwrs, pe bai'r costau'n cynyddu, sy'n debygol. Yng ngeiriau Will Hayward o'r Western Mail, 'Mae'r penderfyniad i gyfrif HS2, buddsoddiad unwaith...
Delyth Jewell: A allwch gadarnhau, Weinidog, fod Llywodraeth Cymru wedi cael cadarnhad gan Keir Starmer y byddai Llywodraeth Lafur y DU yn y dyfodol yn darparu'r swm canlyniadol Barnett llawn i Gymru yn sgil gwariant HS2, wedi'i ôl-ddyddio i'r bunt gyntaf a wariwyd?
Delyth Jewell: Mae hon yn ddadl ofnadwy o amserol gan ein bod yng nghrafangau gaeaf anodd eisoes. Mae ffigurau Cyngor ar Bopeth yn dangos bod un o bob pump o bobl eisoes wedi torri'n ôl ar eu siopa bwyd yn ystod y tri mis diwethaf i arbed arian. Mae un o bob 10 yn rhagweld y bydd yn rhaid cael cymorth argyfwng y gaeaf hwn, fel banciau bwyd neu dalebau tanwydd. Cymorth argyfwng, hynny yw, i'w helpu i gael...
Delyth Jewell: Prif Weinidog, mae Boris Johnson wedi dweud wrth bobl sy'n byw yn y DU nad yw dau frechlyn yn ddigon mwyach i amddiffyn rhag amrywiolyn omicron. Yn Affrica, nid yw 70 y cant o weithwyr iechyd rheng flaen wedi cael un dos. Mae hynny, fel yr ydym ni wedi bod yn ei drafod, i raddau helaeth oherwydd anhyblygrwydd Llywodraethau fel y DU a'r Swistir, yn rhwystro ymdrechion i hepgor patentau ar...
Delyth Jewell: Nos Sul, Trefnydd, roedd darllediad Boris Johnson ar deledu pobl Cymru yn dweud y byddai pawb yn derbyn trydydd brechiad erbyn diwedd y flwyddyn. Nawr, ar y pryd, roedd hwnna'n gyhoeddiad ar gyfer Lloegr yn unig, ac nid dyma'r tro cyntaf i'r Prif Weinidog wneud datganiad a gafodd ei ddarlledu ar setiau teledu yng Nghymru doedd ddim yn berthnasol i ni. Roedd yr un ym mis Mai lawer gwaeth, wrth...
Delyth Jewell: Gwn fod yr RSPCA hefyd yn pryderu bod hela trywydd yn gweithredu fel llen fwg, gan ganiatáu i hela llwynogod barhau. I Aelodau nad ydynt yn ymwybodol o sut mae hyn yn gweithio, mae hela trywydd yn golygu defnyddio wrin, rhannau o'r corff neu garcasau llwynogod, ceirw neu ysgyfarnogod wedi'u gosod ar lwybr i gŵn eu dilyn, ac er bod helfeydd traddodiadol wedi'u gwahardd, fel y clywsom, gall...
Delyth Jewell: I gychwyn, byddwn yn dweud nad wyf yn amau ymrwymiad y Gweinidogion a’r Prif Weinidog, a wynebodd amgylchiadau erchyll y llynedd. Ni ddylai hyn ymwneud ag ymosodiadau personol. Rwy'n mynd i ganolbwyntio ar fater penodol sydd, yn fy marn i, yn enghraifft o'r angen am ymchwiliad COVID sy'n benodol i Gymru. Ar 27 Ebrill 2020, cysylltodd rheolwr cartref gofal â mi am ei bod yn credu bod...
Delyth Jewell: 1. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o gapasiti ysbytai yn Nwyrain De Cymru? OQ57425
Delyth Jewell: Diolch, Prif Weinidog. Fel y dywedoch chi, mae ysbytai dan straen aruthrol oherwydd yr amrywiolyn omicron o COVID-19. Mae Dr Phil Banfield, cadeirydd pwyllgor ymgynghorwyr Cymru Cymdeithas Feddygol Prydain, wedi disgrifio sut mae meddygon yn ofidus iawn ynghylch eu hanallu i asesu cleifion mewn adrannau achosion brys, ac y gallai nifer y bobl sy'n cael yr amrywiolyn hwn olygu y gallai hyd yn...
Delyth Jewell: Byddwn i'n ddiolchgar pe bai'r Trefnydd yn cadarnhau adroddiadau'r cyfryngau y bydd dadl frys yn cael ei chynnal yn fuan ynghylch y newid i sgriniau canser ceg y groth, ar ôl i ni glywed eisoes y prynhawn yma fod dros 1 miliwn o bobl wedi llofnodi deisebau ar y mater hwn. Rwy'n credu ei bod yn hanfodol bwysig, oherwydd unwaith eto, fel yr ydym ni wedi'i glywed, yn ystod yr wythnos diwethaf,...
Delyth Jewell: 5. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ar reoliadau diogelwch tomenni glo? OQ57426
Delyth Jewell: Diolch am eich ateb. Gwn y bydd Llywodraeth Cymru yn ymwybodol iawn o’r pryderon hyn ynghylch diogelwch tomenni glo. Mae’n rhywbeth rwyf wedi’i godi droeon yn y Senedd, ac fel y nodwyd gennych, gwn fod gwaith yn mynd rhagddo i ganfod i atebion i sicrhau bod y tomenni yr ystyrir eu bod yn peri’r risg fwyaf, yn enwedig, yn ddiogel. Byddai'n dda gennyf ddeall safbwynt cyfreithiol...
Delyth Jewell: Wel, fel dŷn ni wedi clywed yn barod, mae anghydraddoldebau iechyd fel arfer yn symptom o anghydraddoldebau eraill, gydag incwm y prif ffactor fel arfer. Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac mae Mike Hedges ac eraill wedi cyfeirio at y ffigurau yma, mae pobl yn yr ardaloedd lleiaf llewyrchus yng Nghymru yn byw yn iach am 18 mlynedd yn llai na phobl yn yr ardaloedd mwyaf llewyrchus, ac mae pobl...
Delyth Jewell: 7. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cynnal gyda Gweinidogion cyfatebol Llywodraeth y DU ynghylch mesurau i leihau cyfraddau heintio COVID-19? OQ57487
Delyth Jewell: Diolch, Prif Weinidog. Fel y trafodwyd eisoes, mae'r gyfres o straeon sy'n dod allan o San Steffan yr wythnos diwethaf am bartïon yn Rhif 10 Downing Street, o ddiwylliant ymddangosiadol yng nghanol Llywodraeth y DU sydd, i bob golwg, wedi bod yn benderfynol o anwybyddu cyfreithiau a chanllawiau COVID—. Bydd y straeon hynny wedi cael effaith barhaol ar gydymffurfiad y cyhoedd, cefnogaeth y...