Caroline Jones: Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru ar garcharu yng Nghymru yn tanlinellu beth y mae llawer ohonom wedi ei ddweud dros nifer o flynyddoedd: mae Cymru yn dibynnu ar garchardai yn Lloegr. Fel un a oedd yn rhedeg ei hadran ei hun yn y gwasanaeth carchardai, gwn fod y carchar yn gweithio, ond dim ond os yw'n cael ei ariannu'n iawn ac yn cael adnoddau priodol. Yn...
Caroline Jones: 5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â bwlio ar sail rhyw? OAQ52720
Caroline Jones: Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o effaith cyllideb ddiweddar Llywodraeth Cymru ar dalwyr y dreth gyngor yng Ngorllewin De Cymru?
Caroline Jones: Diolch i chi am yr ateb hwnnw, arweinydd y tŷ. Mae achosion cynyddol o fwlio homoffobig a bwlio ar sail rhywedd ar-lein yn cael effaith enfawr ar bobl ifanc yng Nghymru. Yr wythnos hon, cawsom wybod bod gweinidog hoyw yn wynebu cam-drin ar-lein cyson, gan amlaf yn galw arno i ladd ei hun. Mae menywod ifanc yn cael eu cymell i beidio â mynd i fyd gwleidyddiaeth oherwydd y llif cyson o...
Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i Rhun a Darren am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw, a diolch i Neil am ei ymdrechion i sicrhau nad yw'r gwaddodion sy'n cael eu dympio'n creu unrhyw risg i iechyd pobl na'n hamgylchedd. Efallai mai yn rhanbarth Neil y mae gwastraff Hinkley yn cael ei ddympio, ond mae'n effeithio ar fy rhanbarth i hefyd, rhanbarth sy'n gartref i rai o draethau gorau'r byd a hafan i blanhigion...
Caroline Jones: Prif Weinidog, o ganlyniad i setliad llywodraeth leol eleni, mae awdurdodau lleol ar draws fy rhanbarth i yn rhybuddio bod toriadau i wasanaethau hanfodol yn anochel. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig cau toiledau cyhoeddus ym Mhorthcawl, mae Abertawe yn cau cartrefi gofal, ac mae Castell-nedd Port Talbot ar ben eu tennyn oherwydd y toriadau. Prif Weinidog, sut mae...
Caroline Jones: Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i chi am eich datganiad, arweinydd y tŷ. Rwy'n croesawu fframwaith diweddar eich Llywodraeth ar gyfer gweithredu ar fyw'n annibynnol. Mae cael byw'n annibynnol yn rhywbeth yr ydym i gyd yn ei gymryd yn ganiataol, ond i unigolyn ag anableddau ceir cymaint o rwystrau sy'n gwneud byw'n annibynnol bron yn amhosibl i lawer. Mae cymydog i mi, er enghraifft, yn...
Caroline Jones: Ysgrifennydd y Cabinet, Weinidog, bydd economi Cymru yn trawsnewid dros y degawdau sydd i ddod wrth i dechnolegau digidol ddod yn fwy amlwg. Bydd yn rhaid i fusnesau addasu wrth i ddata ddod yn nwydd mwy gwerthfawr na dim arall. Er mwyn helpu ein heconomi i addasu, mae'n rhaid inni sicrhau bod ein pobl ifanc yn meddu ar y sgiliau angenrheidiol. Ysgrifennydd y Cabinet, beth y mae eich...
Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw. Mae ein GIG yn wynebu galw nas gwelwyd mo'i debyg o'r blaen. Yn y 12 mis diwethaf, cafwyd ymhell dros filiwn o ymweliadau ag adrannau damweiniau ac achosion brys ledled Cymru. Mae dros bedwar o bob 10 ohonom yn ei chael hi'n anodd gwneud apwyntiad gyda meddyg teulu a chaiff llawdriniaethau eu canslo fel mater o drefn...
Caroline Jones: Arweinydd y tŷ, y rheswm y mae gan Gymru rai o'r cyfraddau goroesi canser yr ysgyfaint gwaethaf yn Ewrop, yn bennaf, yw oedi cyn cael diagnosis. Mae amseroedd aros annerbyniol o hir am brofion diagnostig ac israddio atgyfeiriadau meddygon teulu fel mater o drefn yn cyfrannu at ddiagnosis hwyr o ganser yr ysgyfaint. Felly, arweinydd y tŷ, beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud i leihau...
Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad. Mae'r gwasanaeth prawf yn rhan hanfodol o'r system cyfiawnder troseddol ac yn debygol o ddod yn bwysicach fyth yn y dyfodol wrth i'n carchardai ddod yn gynyddol fwy gorlawn. Mae carchardai Cymru yn gweithredu ymhell y tu hwnt i'w capasiti, gan arwain at orlenwi difrifol, sy'n andwyol i garcharorion a'r rhai sy'n gofalu amdanyn nhw—y...
Caroline Jones: Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Symud at y model clinigol ar gyfer ymateb ambiwlans oedd un o'r newidiadau pwysicaf a wnaed i ofal heb ei drefnu. Roedd sicrhau bod cleifion yn cael yr ymateb iawn yn seiliedig ar eu hangen hefyd yn cyflymu amseroedd ymateb ar gyfer y cleifion mwyaf agored i niwed. Yn anffodus, mae ffactorau eraill wedi llesteirio gallu gwasanaeth...
Caroline Jones: Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n croesawu safbwynt eich Llywodraeth ar ffracio. Pa un a ellir gwneud y broses ffracio'n ddiogel ar gyfer yr amgylchedd ai peidio, tanwydd ffosil yw'r cynnyrch terfynol o hyd. Ysgrifennydd y Cabinet, a fydd eich Llywodraeth hefyd yn gwrthwynebu pob trwydded ar gyfer nwyeiddio glo tanddaearol yng Nghymru, yn ogystal â thrwyddedau ar gyfer gwaith echdynnu glo newydd?
Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw. Mae'n bleser gennyf fod yn rhan o'r grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog, a hoffwn ddiolch i Darren Millar am yr ymrwymiad y mae'n ei ddangos wrth ei arwain. Hoffwn dalu teyrnged hefyd i Carl Sargeant, a weithiodd yn ddiflino yn y maes hwn a chyflawni llawer. Ddydd Sul, byddwn yn ymgasglu wrth gofebion rhyfel...
Caroline Jones: Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, a'r camau a gymerwyd gennych i wella lles anifeiliaid yng Nghymru. Rwyf innau hefyd yn cefnogi cyflwyno cyfraith Lucy ac edrychaf ymlaen at ddeddfwriaeth i wahardd ffermio cŵn bach a chathod bach. Ysgrifennydd Cabinet, pryd ydych chi'n disgwyl cyflwyno unrhyw ddeddfwriaeth newydd a nodwyd gan yr ymgynghoriad? Ysgrifennydd y Cabinet, mae...
Caroline Jones: Ysgrifennydd y Cabinet, mae rhagolwg y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer y boblogaeth o oedran gweithio yng Nghymru yn creu her wirioneddol i ni. Erbyn 2035, disgwylir y bydd cyfran yr oedolion sy'n byw â chyflwr cyfyngus gydol oes yn cynyddu 22 y cant, ac ar yr un pryd, bydd 48 o bobl dros 65 oed am bob 100 o bobl o oedran gweithio. Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau y mae eich Llywodraeth...
Caroline Jones: Arweinydd y tŷ, rwy'n croesawu'r camau rydych yn eu cymryd i fynd i'r afael â throseddau casineb. Fodd bynnag, mae hon yn broblem gynyddol, yn enwedig ar-lein. Mae llawer o bobl ifanc yn wynebu cawod gyson o gasineb, siarad casineb a bwlio ar-lein na ellir dianc rhagddo. Arweinydd y tŷ, a wnewch chi amlinellu sut rydych chi ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ar y cyd â Llywodraeth y...
Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid am eu hadroddiad. Dros y ddau ddegawd diwethaf, mae Cymru wedi derbyn biliynau o bunnoedd o gyllid yr UE, ac rydym ar hyn o bryd yn derbyn bron i £700 miliwn y flwyddyn. Gyda'r DU i adael yr UE ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf, mae'n hanfodol ein bod yn cael arian gan Lywodraeth y DU sydd yr un faint neu'n fwy na lefel yr arian a gawn gan yr UE. Mae'r DU yn...
Caroline Jones: Prif Weinidog, mae fy rhanbarth i wedi colli llawer gormod o swyddi gweithgynhyrchu yn ystod y degawdau diwethaf, ac er fy mod i'n croesawu camau eich Llywodraeth i sicrhau buddsoddiad gweithgynhyrchu newydd, fel cytundeb Aston Martin, nid yw hyn yn disodli'r golled o allbwn gweithgynhyrchu yng Ngorllewin De Cymru. Prif Weinidog, sut gwnaiff eich Llywodraeth sicrhau bod fy rhanbarth i yn...
Caroline Jones: Rwy'n croesawu adroddiad 'Cynhyrchu ynni yng Nghymru 2017' Llywodraeth Cymru. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y mynydd y mae'n rhaid inni ei ddringo os ydym ni i leihau allyriadau Cymru o leiaf 80 y cant dros y 30 mlynedd nesaf. Mae'n hanfodol ein bod ni'n cyrraedd y targedau hyn er mwyn goroesi yn y dyfodol. Fel y nodir yng nghytundeb Paris, mae lleihau allyriadau yn hanfodol os ydym ni i...