Mark Isherwood: Diolch yn fawr iawn. Wel, ar bwnc tebyg, ac unwaith eto, ar fater cydraddoldeb, yn gynnar y mis diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei gwerthusiad o'r gwasanaeth awtistiaeth integredig a'r cynllun gweithredu strategol ar gyfer anhwylderau'r—gair rwy'n gobeithio y mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi'r gorau i'w ddefnyddio; 'cyflwr' ddylai'r gair fod—sbectrwm awtistig: adroddiad interim, a...
Mark Isherwood: Ac mae fy nghwestiwn olaf, unwaith eto, yn dilyn thema debyg, mae gennyf—mae llawer mwy o bobl yn dwyn hyn i fy sylw, oherwydd fy mod yn gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar awtistiaeth mae'n debyg—lwyth achosion cynyddol o deuluoedd lle y gwrthodir asesiad a diagnosis awtistiaeth i blant, yn enwedig merched, a hynny oherwydd camsyniadau ynghylch sut y mae awtistiaeth yn amlygu ei hun. Mae...
Mark Isherwood: Mae ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion ein hadroddiad yn honni ei bod wedi symud 'yn gyflym yn dilyn canlyniad y refferendwm i greu’r gallu ar draws y Llywodraeth i ymateb i’r heriau ac i archwilio’r cyfleoedd y mae ymadael â’r Undeb Ewropeaidd yn eu cynnig.' Fodd bynnag, gwyddom o'r adborth a gafwyd yn ystod ymweliadau pwyllgorau'r Cynulliad sy'n gysylltiedig â Brexit â...
Mark Isherwood: Er gwaethaf cyfraniad gwerthfawr uned gymorth asesu effaith ar iechyd Cymru i ymchwiliad cyhoeddus yr A494 Queensferry-Ewlo yn 2007, oherwydd y diffyg grym oedd ganddo, bu raid i minnau roi tystiolaeth ar ansawdd aer i'r ymchwiliad cyhoeddus. Derbyniwyd hyn gan yr arolygydd, a chyfrannodd y dystiolaeth at yr argymhelliad llwyddiannus na ddylai'r rhaglen honno neu'r cynnig hwnnw ar yr adeg...
Mark Isherwood: 4. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gwella cyfraddau diagnosis canser y prostad? OAQ52016
Mark Isherwood: Y mis diwethaf, gelwais am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar sganio MRI amlbarametrig—neu mpMRI—ar gyfer cleifion y GIG yr amheuir bod canser y prostad arnynt. Yn dilyn hynny, ysgrifenasoch at glaf yn dweud bod bwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr yn darparu sganiau mpMRI yn unol â chanllawiau cyfredol y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal ar gyfer canser y...
Mark Isherwood: Yn wahanol i'r ymateb Paflofaidd y gellid bod wedi'i ragweld o bosibl o rai mannau, a gaf fi ddechrau drwy ddiolch i chi a David Lidington, Gweinidog Swyddfa'r Cabinet, a'ch llongyfarch am y ffordd bwyllog, aeddfed a phragmatig y cynhaliwyd y negodiadau gennych er mwyn sicrhau cytundeb ar gymal 11—
Mark Isherwood: —o Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael), sy'n gwrthdroi'r cymal 11 presennol fel y bydd pwerau sy'n dychwelyd o'r UE mewn meysydd sydd fel arall wedi'u datganoli yn trosglwyddo i'r Llywodraethau a'r deddfwrfeydd datganoledig? A gaf fi hefyd ddiolch i chi am y ffordd gynhwysol yr aethoch ati ar hyn o'm rhan i a David Melding, ac nid yn unig y dystiolaeth a roesoch yn gyson i'r pwyllgor...
Mark Isherwood: A wnewch chi ildio?
Mark Isherwood: Siaradwch am dywysogion Cymru yn yr oes Normanaidd. A wnewch chi dderbyn bod y Tywysog Charles, drwy'r llinell Duduraidd, nid yn unig yn hanu o un o ddisgynyddion teulu hynafol ar Ynys Môn, ond o linach Cadwaladr, y brenin hynafol Prydeinig olaf gyda mwy o hawl na'r hawlwyr ôl-Normanaidd?
Mark Isherwood: 1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ddarpariaeth o wasanaethau meddygon teulu locwm yng Nghymru? OAQ52065
Mark Isherwood: Diolch yn fawr iawn. Wel, yn 2014, ysgrifennodd cadeirydd pwyllgor meddygol lleol gogledd Cymru at Aelodau yn galw am gamau brys i fynd i'r afael ag argyfwng cynyddol a oedd yn datblygu ym maes ymarfer cyffredinol. Yn 2016, ysgrifennodd is-gadeirydd pwyllgor meddygol lleol gogledd Cymru at yr Aelodau yn dweud eu bod yn ymwybodol iawn o ba mor fregus yw ymarfer cyffredinol yn y gogledd, lle...
Mark Isherwood: Wel, a gaf i gydnabod eich dygnwch a galw am ddau ddatganiad gan Lywodraeth Cymru, y cyntaf ar grant byw'n annibynnol Cymru? Fel, ymysg pethau eraill, cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar anabledd, rwyf wedi bod yn mynegi pryderon yn y Siambr hon ac mewn gohebiaeth â Llywodraeth Cymru ers i Lywodraeth Cymru benderfynu symud grant byw'n annibynnol Cymru i gyllid awdurdodau lleol, yn wahanol...
Mark Isherwood: Yr wythnos diwethaf, cadarnhaodd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru eu bod wedi dod i gytundeb ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) i'w gyflwyno yn dilyn hynny yn Senedd y DU. Golyga hyn y bydd Llywodraeth Cymru yn argymell yn awr fod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn pasio cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil. Felly, gadewch imi ailadrodd y diolch a'r llongyfarchiadau a roddais...
Mark Isherwood: Yn eich datganiad i ni, rydych chi'n dweud y dylai unrhyw un sydd wedi rhoi o'u hamser i ddarllen yr adroddiad yn ofalus sylweddoli pa mor drylwyr oedd yr ymchwiliad a deall sut y daethpwyd i'r casgliadau. Mae'n rhaid inni anghytuno. Ond, wrth gwrs, nid ni yw'r unig rai. Mae'r prif swyddog yng Nghyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru wedi dweud bod diystyru tystiolaeth teuluoedd Tawel Fan yn...
Mark Isherwood: Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Gwnaethoch chi gyfeirio at yr 1 y cant o wariant. Canfu adroddiad blynyddol y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd ar wybodaeth ariannol diwydiant rheilffyrdd y DU, a gyhoeddwyd y llynedd, bod Cymru mewn gwirionedd yn cael 9.6 y cant o arian net Llywodraeth y DU ar gyfer gweithrediadau trenau masnachfraint a Network Rail, a 6.4 y cant o gyfanswm cyllid net Llywodraeth y...
Mark Isherwood: Diolch, Lywydd. Wel, mae'n hanfodol y dylai Llywodraeth Cymru gefnogi darparwyr y sector gwirfoddol sy'n darparu gwasanaethau ymyrraeth ac atal cynnar rheng flaen allweddol, ac rwy'n gwybod eich bod yn cytuno eu bod yn cynnal miloedd o fywydau ac yn arbed miliynau i'r gwasanaethau statudol. Ond yn yr un modd, pan fydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid ariannol, mae'n hanfodol fod diwydrwydd...
Mark Isherwood: Wel, rwy'n deall hynny'n iawn, ond fe fyddwch yr un mor ymwybodol a minnau, o'ch amser yn y Cynulliad hwn, o'r nifer o achlysuron y mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cefnogaeth ariannol i gyrff trydydd sector sydd wedi dioddef honiadau tebyg, ac mae Llywodraeth Cymru wedi cael ei dwyn i gyfrif yn y pen draw am ei methiant i ymyrryd. O ystyried yr ymrwymiad ariannol y mae Llywodraeth Cymru yn...
Mark Isherwood: Wel, yn amlwg, rwy'n defnyddio'r cyfle hwn i godi'r materion hyn gyda Llywodraeth Cymru. Am resymau cyfrinachedd, ni allaf ddatgelu pa gamau gweithredu pellach y gellid eu cymryd na'r wybodaeth rwy'n ymwybodol ohoni a allai fod o fewn y camau gweithredu pellach hynny. Rwy'n rhannu'r wybodaeth y cefais fy awdurdodi i'w rhannu ar hyn o bryd. Unwaith eto, pa gamau, o ystyried mai chi sy'n...
Mark Isherwood: Datgelodd ein hymchwiliad i brentisiaethau yng Nghymru bryderon fod nifer y prentisiaid anabl yng Nghymru yn llawer is na'r gyfradd yn Lloegr, fod rhwystrau economaidd yn atal pobl ifanc rhag manteisio ar gyfleoedd, fod gwahaniaeth rhwng y rhywiau'n parhau ac y gallai prinder darparwyr atal pobl ifanc rhag dilyn prentisiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg. Wrth dderbyn ein hargymhelliad ar rywedd...