David Melding: Rwyf i o'r farn fod y dull o reoli cyflenwad tir yn fater pwysig iawn; nid wyf wedi fy argyhoeddi y bydd hon yn ffordd arbennig o gynhyrchiol o wneud hynny, ond rwy'n agored i dystiolaeth yn sicr. Mae diddordeb cyhoeddus gwirioneddol yma—yr arian annisgwyl mwyaf, dylwn ddweud wrthych chi, Gweinidog, wrth gwrs, yw pan gaiff tir ei roi ar gyfer parthau i adeiladu pan fu defnydd blaenorol...
David Melding: Diolch yn fawr, Llywydd, ac rwy'n falch o gynnig y gwelliannau, ac rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon. Dydw i ddim yn siŵr ein bod ni'n trafod cynllunio yn aml iawn, ond mae'n bwysig iawn, iawn. Er mwyn ad-dalu haelioni'r Gweinidog wrth gyflwyno hwn y prynhawn yma, hoffwn ddechrau mewn maes lle y mae yna gytundeb diamheuol, sef bod cynllunio da a datblygu lleoedd cydlynol yn hanfodol...
David Melding: Pa ystyriaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei rhoi i lywodraeth leol wrth ddyrannu cyllid yn y gyllideb?
David Melding: A gaf fi ychwanegu ein cefnogaeth i'r ymdrechion i gynyddu capasiti undebau credyd? Ar hyn o bryd, yn ôl y Money Charity, rydym yn gwario £139 miliwn y dydd ar ad-daliadau a dyledion personol. Mae'n gwbl anghredadwy. Ac mae undebau credyd yn rhan allweddol, yn fy marn i, yn sicr i bobl mewn amgylchiadau ariannol anodd, ond yn fwy cyffredinol hefyd, o bosibl. Felly, mae angen ehangu rôl...
David Melding: Cytunaf â llawer o'r hyn a ddywedwyd yn awr gan Lee Waters, ond diolch i Rhun am gyflwyno hyn fel cynnig deddfwriaethol, ac yn sicr, rwy'n cytuno â'r amcan cyffredinol. Nid wyf yn siŵr a oes angen cyfrwng deddfwriaethol arnom, ond mae'n dda ein bod yn trafod y materion hyn. Fel y dywedodd Lee Waters, mae angen inni gofio bod y ffordd rydym yn cynhyrchu ynni yn allweddol yma, ac mae...
David Melding: A wnaiff yr Aelod ildio?
David Melding: Mae'n ddiddorol mai hanner y bobl gymwys yn unig sy'n cael eu sgrinio, ond rwyf hefyd wedi cael etholwr sydd wedi cael ei sgrinio'n rheolaidd, neu wedi gwneud y prawf sgrinio, ac yna, yn 75 oed, mae'n dod i ben, ac mewn gwirionedd mae'n achosi llawer iawn o bryder. Tybed a oes unrhyw dystiolaeth yn dod i'r amlwg fod parhau i sgrinio y tu hwnt i 75 yn fuddiol hefyd.
David Melding: Diolch i Jenny am dynnu ein sylw at y pwnc pwysig hwn y prynhawn yma. Mae gennym ymagwedd glir iawn, rwy'n credu, o ochr chwith gwleidyddiaeth ac rydych yn gwneud rhai pwyntiau diddorol a phwerus. Rwy'n cytuno â chi ar rai materion. Mewn rhai mannau, mae'r farchnad dai yn sicr yn gamweithredol a cheir nifer o resymau am hynny. Mae gennym y ffenomen hon o genhedlaeth rent, lle mae pobl a...
David Melding: Prif Weinidog, mae rheoli gwastraff ymbelydrol yn fater datganoledig, ac nid oes gennym ni unrhyw safle gwaredu gwastraff lefel uchel yng Nghymru ar hyn o bryd. Nawr, lansiwyd ymgynghoriad ym mis Ionawr i weld a fyddai unrhyw le yng Nghymru yn gwirfoddoli i fod yn gartref i safle gwaredu gwastraff niwclear. A ydych chi wedi cael unrhyw ymatebion ac a allwch chi hysbysu'r Siambr am unrhyw gynnydd?
David Melding: 2. Beth yw ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad terfynol ar adolygiad annibynnol y Fonesig Judith Hackitt o reoliadau adeiladu a diogelwch tân? 180
David Melding: Rwyf innau'n falch hefyd fod y penderfyniad hwn yn cael ei ailystyried, a gwneuthum innau sylwadau ysgrifenedig a thrwy gyfarfod â'r uwch ffigurau yng Nghyngor Bro Morgannwg. Credaf fod rhywfaint o ddryswch wedi bod yn lleol ynglŷn â'r rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig, a amlinellwyd gennych yn yr ymgynghoriad ar y cod trefniadaeth ysgolion diwygiedig, a phwysleisiais wrth y...
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, fe wnaethom ni, y Ceidwadwyr Cymreig, lansio ein strategaeth drefol yr wythnos diwethaf, a rhoesom rai mesurau ar waith i wella ansawdd aer, megis y gofyniad i bob ysgol a meithrinfa fonitro ansawdd yr aer ar eu safle. Tybed pa fath o sgyrsiau rydych yn eu cael gyda'ch cyd-Aelodau yn y Cabinet, yn enwedig Ysgrifennydd y Cabinet dros yr amgylchedd, i ddechrau mynd i'r...
David Melding: A gaf fi groesawu'r ymateb cychwynnol hwnnw? Fel y gwyddoch, daeth yr adolygiad i'r casgliad fod difaterwch ac anwybodaeth wedi arwain at ras i'r gwaelod mewn perthynas ag arferion diogelwch adeiladu, gyda chostau yn cael blaenoriaeth dros ddiogelwch. Dywedwyd hefyd y dylai rheoleiddiwr safonau newydd fod yn ganolbwynt i system ddiwygiedig, ond roedd y sefyllfa mewn perthynas â defnyddio...
David Melding: Hoffwn ddiolch i David Rowlands a'i Bwyllgor Deisebau am eu diwydrwydd yn eu gwaith ac am gynhyrchu'r adroddiad hwn? Rwyf hefyd yn ddiolchgar i Tim Deere-Jones a aeth i'r drafferth i fy nghyfarfod a darparu gwybodaeth i mi ynglŷn â'r ymgyrch. Fel Mike, rwy'n aelod o'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, ac wrth gwrs, rydym wedi trafod y materion hyn...
David Melding: Un eiliad. Rwy'n credu bod gennym broblem ynglŷn â dealltwriaeth y cyhoedd o'r materion hyn a'r ymgysylltiad â'r cyhoedd, ac rwyf am roi sylw i hynny. Ond os ydym yn mynd i sathru ar draws safonau gwyddonol sefydledig a dderbynnir yn rhyngwladol, fel y cânt eu harfer gan wladwriaethau ledled y byd, yna rydym mewn sefyllfa anodd iawn, ac rwy'n annog yr Aelodau i gofio hynny. Fe ildiaf,...
David Melding: Wel, fy nealltwriaeth i o'r dystiolaeth yw y gallai'r fethodoleg honno a dderbynnir yn rhyngwladol fod wedi canfod yr angen i edrych yn benodol am yr halogion eraill y cyfeirioch chi atynt. Ac rydych wedi dweud hynny ar goedd, a mater i eraill yn awr yw tynnu sylw at dystiolaeth os yw'n bodoli. A gaf fi ddweud ein bod eisoes wedi clywed bod y data ar gael i'r ymgyrchwyr? Nawr, rwy'n...
David Melding: Un eiliad. Ond ni ellir herio tryloywder sylfaenol rhannu'r wybodaeth. Unwaith eto, credaf y dylem wneud rhywbeth i sicrhau y gellir ei ddehongli wedyn gan amrywiaeth mor eang o bobl ag sy'n awyddus i edrych ar y mater, ond nid yw'n weithdrefn gaeedig. Gwn fod gennych ddiddordeb mawr iawn yn y mater hwn ac y byddwch yn gwneud eich cyfraniad eich hun, ond os ydych am ymyrryd eto, dyma'r tro...
David Melding: Wel, fy nealltwriaeth i yw bod yr ymgyrchwyr wedi cydnabod ei fod wedi'i drosglwyddo i'r ymgyrchwyr. Nawr—fel y dywedais, rwy'n deall y problemau. Gwn fod yr amser bellach yn rhuthro yn ei flaen a rhaid imi wneud rhai pwyntiau hanfodol, oherwydd cafwyd trafodaeth am y fethodoleg. Nid wyf yn wyddonydd niwclear—nid wyf yn wyddonydd o unrhyw fath, oni bai eich bod yn cyfrif...
David Melding: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gymorth ar gyfer teithio llesol yng Nghymru?
David Melding: Prif Weinidog, a gaf i groesawu'r ffaith y bydd sir Fynwy yn cael ei dewis fel gwely prawf ar gyfer 5G? Rwy'n credu bod y goblygiadau ar gyfer cysylltedd gwledig yn rhagorol, ac mae'r cyhoeddiad hwn yn enghraifft eglur o Lywodraeth y DU yn cyflawni o ran strategaeth ddigidol i Gymru, ac rwy'n edrych ymlaen at weld sut yr ydych chi'n mynd i gydweithredu â hi. Rydym ni wedi clywed am yr ystod...