Canlyniadau 561–580 o 2000 ar gyfer speaker:Huw Irranca-Davies

6. Dadl: Yr Adroddiad Blynyddol ar Gamddefnyddio Sylweddau (12 Chw 2019)

Huw Irranca-Davies: Diolch yn fawr, ac rwy'n ymddiheuro, doeddwn i ddim yma ar gyfer yr araith agoriadol. A allaf i ofyn iddo—? Rwyf wedi ysgrifennu ato gyda chyfres o gwestiynau ynghylch y cymorth y mae Tŷ Brynawel yn ei ddarparu mewn gwirionedd. Tybed, o ystyried y ffaith bod rhai canolfannau adsefydlu yn cau yng Nghymru, ac mai Tŷ Brynawel yw'r unig ganolfan adsefydlu ar fframwaith Cymru gyfan Llywodraeth...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit): Gweithgynhyrchwyr Ceir (13 Chw 2019)

Huw Irranca-Davies: 3. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cymorth ar gyfer gweithgynhyrchwyr ceir yng Nghymru pe bai Brexit heb fargen yn digwydd? OAQ53399

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit): Symud Nwyddau i Gymru ar ôl Brexit (13 Chw 2019)

Huw Irranca-Davies: 6. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cynnal o ran hwyluso symud nwyddau i Gymru'n effeithlon ar ôl Brexit? OAQ53400

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit): Gweithgynhyrchwyr Ceir (13 Chw 2019)

Huw Irranca-Davies: Rwy'n gobeithio bod y dyfalu ar sgwrs y digwyddwyd ei chlywed mewn bwyty neu far ym Mrwsel gydag Olly Robbins yn gywir a bod y Llywodraeth wedi diystyru 'dim bargen', ond nad yw'n dweud wrthym ei bod wedi diystyru 'dim bargen', oherwydd dywedodd Prif Weithredwr y Gymdeithas Gweithgynhyrchwyr a Masnachwyr Moduron, yn ei eiriau ef, y byddai 'dim bargen' yn drychinebus—bydd ffatrïoedd yn...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit): Symud Nwyddau i Gymru ar ôl Brexit (13 Chw 2019)

Huw Irranca-Davies: Diolch i'r Gweinidog am yr ymateb hwnnw. Rydym yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi canolbwyntio'n briodol ar liniaru effeithiau posibl ym mhorthladdoedd Cymru, ond onid yw'n wir fod Cymru, fel gweddill y DU, yn dibynnu'n llwyr mewn gwirionedd ar lwybr Calais-Dover ar gyfer meddyginiaethau, bwyd a chyflenwadau eraill? Nawr, rwy'n petruso cyn gofyn y cwestiwn hwn. Pa drafodaethau y mae'r...

8. Dadl Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Carchardai a Charcharorion (13 Chw 2019)

Huw Irranca-Davies: Neil, diolch yn fawr iawn am ildio. Rwyf am wneud y sylw, hyd yn oed o dan ddyfarniad Llys Hawliau Dynol Ewrop, ac yn eu dyfarniadau blaenorol, mae yna wledydd yn Ewrop sy'n gweithredu heb unrhyw gyfyngiadau ar hawliau pleidleisio—etholfraint gyffredinol ar gyfer carcharorion i bob pwrpas. Ceir eraill sy'n gweithredu gyda chyfyngiadau. Maent wedi dehongli yn union yr un penderfyniad mewn...

8. Dadl Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Carchardai a Charcharorion (13 Chw 2019)

Huw Irranca-Davies: Rwyf am gyfrannu at y ddadl hon mewn ysbryd myfyriol—nid i achub y blaen ar ganlyniad y pwyllgor rwy'n aelod ohono dan arweiniad John Griffiths, ond wrth agor, rwyf am ddiolch i garcharorion a staff y carchar a swyddogion carchar y Parc, lle buom ar ymweliad y diwrnod o'r blaen. Fe'm trawyd gan ba mor huawdl, gwybodus a deallus oedd y trafodaethau gyda'r carcharorion a staff y carchar....

7. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Teithio Llesol (20 Chw 2019)

Huw Irranca-Davies: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ar ôl cerdded i lawr y mynydd uchaf ym Maesteg y bore yma i waelod y cwm i ddal y trên yma i Gaerdydd, ac yna seiclo ar hyd y ffordd yma i weithio, rwy'n falch iawn o agor y ddadl hon ar deithio llesol, gyda chymorth Aelodau o wahanol bleidiau ar draws y Siambr. Nawr, gwyddom fod gan Gymru beth o'r ddeddfwriaeth fwyaf arloesol a phellgyrhaeddol sydd gan unrhyw wlad...

7. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Teithio Llesol (20 Chw 2019)

Huw Irranca-Davies: Gan roi mater gwelliannau i ansawdd aer a gyflawnir drwy gymryd lle siwrneiau car i'r naill ochr, mae effeithiau buddiol tu hwnt i weithgarwch corfforol syml fel cerdded a beicio, fel y gwneuthum y bore yma, i'r unigolyn, ond hefyd i lefelau iechyd y genedl. Gan Gymru y mae'r lefelau isaf o weithgarwch corfforol ym Mhrydain, gan arwain at ordewdra a llu o afiechydon amrywiol yr amcangyfrifir...

7. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Teithio Llesol (20 Chw 2019)

Huw Irranca-Davies: Gwnaf, yn wir.

7. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Teithio Llesol (20 Chw 2019)

Huw Irranca-Davies: Mae'n bwynt da iawn, ac mae'r gwahaniaeth yn yr arbenigedd i alluogi'r ceisiadau hyn i gael eu cyflwyno yn amlwg iawn. Buom yn ffodus ym Mhen-y-bont ar Ogwr, roedd gennym feiciwr gweithgar iawn a oedd yn digwydd bod yn swyddog monitro teithio llesol hefyd—Matt, mae wedi symud ymlaen yn awr i Lywodraeth Cymru, pob lwc iddo, bydd yn gwneud pethau da yno—ond ef a'i gyrrai, gydag ymrwymiad yr...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Buddsoddiad Arfaethedig yn Seilwaith Cymru ( 5 Maw 2019)

Huw Irranca-Davies: Mae effaith cyfres, catalog erbyn hyn, o fethiannau o ran buddsoddi yng Nghymru yn helaeth—y prosiectau mawr y cyfeiriwyd atynt gan fy nghyd-Aelodau, ond maen nhw hefyd yn cael effeithiau lleol. Yn etholaethau Pen-y-bont ar Ogwr ac Ogwr, mae'r buddsoddiad sydd ei angen arnom ni yn y brif reilffordd, ond hefyd mewn signalau, ac ati, yn fesur o danfuddsoddiad flwyddyn ar ôl blwyddyn, gan UK...

3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 5 Maw 2019)

Huw Irranca-Davies: Diolch, Llywydd. A gaf i ddweud wrth Andrew R.T. Davies, ac wrth Bethan Sayed, petai awydd cyflwyno dadl Aelod unigol ar ddyfodol rygbi yng Nghymru, yna oni ddylid cynnwys rygbi ar lawr gwlad hefyd? Gan fod y strwythur rhanbarthol yn bwysig nid yn unig i dîm Cymru, ond i rygbi ar lawr gwlad hefyd. Ond a gaf i ofyn am ddwy ddadl os gwelwch yn dda? Ac rwy'n rhoi digon o amser i'r Trefnydd...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Brexit heb Gytundeb ( 6 Maw 2019)

Huw Irranca-Davies: 5. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidogion y DU ynghylch yr angen am gyllideb frys rhag ofn y bydd Brexit heb gytundeb yn digwydd? OAQ53515

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Brexit heb Gytundeb ( 6 Maw 2019)

Huw Irranca-Davies: Croesawaf y ffaith bod y Gweinidog o'n blaenau a'r Gweinidog cyfatebol yn yr Alban ill dau wedi codi'r mater yn uniongyrchol gyda Liz Truss, y Gweinidog perthnasol, yn eu trafodaethau, ond rwy'n siomedig iawn gyda'r ymateb. Yn ôl ar 28 Hydref y llynedd, dywedodd Philip Hammond, y Canghellor, yn glir mewn ymateb i gyfweliad y byddai angen cyllideb frys yn wir pe ceid Brexit 'dim bargen'....

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Teithio Llesol (13 Maw 2019)

Huw Irranca-Davies: 4. Pa drafodaethau diweddar y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda gweinidogion eraill y Llywodraeth ynghylch rôl teithio llesol o ran hybu iechyd a lles ar gyfer plant a phobl ifanc? OAQ53559

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Teithio Llesol (13 Maw 2019)

Huw Irranca-Davies: Wel, diolch yn fawr iawn am yr ateb hwnnw, Weinidog. Rwy'n falch eich bod eisoes—. Rydych wedi achub y blaen ar fy nghwestiwn, oherwydd mae rhan o ddarpariaeth Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013—a gyflwynwyd gydag uchelgeisiau clodwiw gan fy nghyd-Aelod yma, John Griffiths, cyn fy amser i—yn nodi y byddai Cymru yn datblygu i fod yn wlad lle mae pobl yn cerdded ac yn beicio fel y dewis...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (19 Maw 2019)

Huw Irranca-Davies: Yn dilyn fy nghais diweddar am ddatganiad ynghylch y crocbris am docynnau trên drwy Ben-y-bont ar Ogwr, a gaf i ailadrodd yr alwad honno? Fe gefais i sgwrs ddiddorol ar Twitter ddoe rhyngof i, fy etholwr a, chwarae teg iddo, gweithredwr cyfrif Twitter Trafnidiaeth Cymru gweithgar, a datgelwyd (a) bod yr un tocyn o Faesteg i Lundain, o’i gymharu â Phen-y-bont ar Ogwr i Lundain £31 yn...

6. Dadl: Dadansoddiad o Effaith Diwygio Lles Llywodraeth y DU ar Aelwydydd yng Nghymru (19 Maw 2019)

Huw Irranca-Davies: Diolch i chi, Mark, am ildio. Diolch yn fawr iawn. Os derbyniwn fod cyfraddau uchel o anfantais ac amddifadedd yn rhai o'r cymunedau ac yr effeithir ar rywfaint o'r rhai sydd ar yr incwm isaf gan y newidiadau mwyaf pitw, rwy'n gofyn iddo wrando ar lais Aelodau Seneddol Ceidwadol, a Gweinidogion yn wir, sydd wedi siarad allan ynglŷn â hyn. Pan wnaeth Esther McVey gydnabod y gallai pobl gyda...

6. Dadl: Dadansoddiad o Effaith Diwygio Lles Llywodraeth y DU ar Aelwydydd yng Nghymru (19 Maw 2019)

Huw Irranca-Davies: Mae'n bleser gen i gymryd rhan yn y ddadl, ond byddai'n well gen i pe na fyddai'n rhaid i mi, mewn sawl ffordd. Dywedodd John F. Kennedy un tro: Os na all cymdeithas rydd helpu'r niferoedd sy'n dlawd, ni all achub yr ychydig sy'n gyfoethog. Rwyf i o'r farn mai hynny yw hanfod yr hyn yr ydym ni'n edrych arno yma—sut y mae cymdeithas yn gwarchod y rhai sy'n wynebu anfantais. Gyda llaw, nid...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.