Bethan Sayed: Diolch, Delyth. Credaf fod eich dadansoddiad yn ysbrydoledig iawn yn yr ystyr eich bod wedi edrych ar y mater o safbwynt gwahanol fel Aelod Cynulliad newydd gyda golwg newydd ar yr hyn y gallwn fod yn edrych arno mewn perthynas â'r pwyllgor hwn, mewn perthynas ag ieithoedd modern a cholli'r celfyddydau, a sut y gallai hyn fod wedi arwain at rai o'r materion a arweiniodd at Brexit—lleihau'r...
Bethan Sayed: Ond, fi sy'n ymateb.
Bethan Sayed: Ie, sori. [Chwerthin.] Yn anffodus, nid y Gweinidog, gan ei fod yn ddatganiad gen i, ond mae'r Gweinidog yma. Mae posibiliad, achos bod lot o gwestiynau wedi dod at y Gweinidog gan yr Aelodau, y gallwn ni ysgrifennu ar sail rhai o'r cyfraniadau fan hyn at y Gweinidog. Mae hi'n nodio'i phen yn hapus â hynny. Felly, fe wnawn ni hynny fel canlyniad i'r datganiad yma. Gallaf ond fynd nôl at...
Bethan Sayed: Hoffwn ddiolch i'r Cadeirydd am ei sylwadau agoriadol. O'r hyn a gofiaf, ni chymerais ran yn yr ymchwiliad llawn, ond roeddwn yno ar gyfer diwedd y gwaith, ac mae'n amlwg yn fater pwysig sy'n effeithio ar bawb ohonom. Rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn edrych tua'r dyfodol ac yn edrych ar ffyrdd o ddatblygu seilwaith. Fodd bynnag, ceir bylchau enfawr yn y cysylltedd ledled...
Bethan Sayed: Wel, nid wyf yn siŵr os gallwn ddweud ein bod yn croesawu dadl arall am Brexit, ond credaf ei bod yn bwysig inni ei drafod mewn perthynas ag addysg. Ond dyma ni unwaith eto, yn sôn am y mater pwysig hwn. Nid wyf am fynd i'r afael â llawer o fanylion yr adroddiad pwyllgor hwn. Rwy'n siŵr y bydd llawer ohonom wedi darllen yr adroddiad ac wedi gwrando ar gyflwyniad Lynne Neagle fel...
Bethan Sayed: Diolch i Delyth Jewell am agor y ddadl hon, ac rwy'n falch ein bod yn sefyll yma'n cael y dadleuon rhyngwladol hyn, oherwydd dyma'r lle i'w cael. Dyma ein sefydliad cenedlaethol ac ni ddylem ymddiheuro am hynny. I ddechrau, roeddwn eisiau ymateb yn gyflym i rywbeth a ddywedodd Darren Millar. Dyfarnodd Goruchaf Lys Gwlad Belg yn gynharach y mis hwn nad oes unrhyw weithgarwch terfysgol gan y...
Bethan Sayed: Cymerodd bedair munud cyn i chi sôn am Dwrci hyd yn oed—
Bethan Sayed: —ac am y derfysgaeth y mae Twrci yn ei orfodi ar y gymuned Gwrdaidd. Credaf fod cynnig Plaid Cymru yn cwmpasu'r pwyntiau allweddol sy'n berthnasol i'r ddadl. Rwy'n ddryslyd braidd ynghylch rhai o welliannau'r Ceidwadwyr, sy'n ymddangos fel pe baent ond yn cyfeirio at y PKK yn rhyfedd ddigon, er bod y ddadl hon yn canolbwyntio ar sefyllfa gyffredinol y Cwrdiaid yn Anatolia a gogledd Syria:...
Bethan Sayed: A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu polisi Llywodraeth Cymru mewn perthynas â phrosesau gwneud penderfyniadau mewn cyrff hyd braich?
Bethan Sayed: Yn y datganiad ysgrifenedig heddiw, rydych chi'n sôn am leihau allyriadau ac am foderneiddio'r gweithlu dur o ran y gwaith pŵer ac o ran y cyfleusterau newydd sydd ar gael. Wrth gwrs, roedd hyn yn rhan o gytundeb cyllidebol Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru, a hoffwn ddeall ar ba gam yr ydym ni erbyn hyn o ran rhyddhau'r cyllid ar gyfer camau'r dyfodol. Rydym ni wedi cael sawl trafodaeth yn y...
Bethan Sayed: Tybed a allwn ni gael dadl yn amser y Llywodraeth ynghylch cyflog teg i weithwyr y gwasanaeth sifil. Byddwch yn ymwybodol bod Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol—y fi yw cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar hyn o bryd—yn pleidleisio’n ddirgel tan 29 Ebrill ynghylch gweithredu’n ddiwydiannol. Nawr, maen nhw'n canolbwyntio ar Llywodraeth y DU ar hyn o bryd, er mwyn sicrhau codiad...
Bethan Sayed: 3. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cynnal ynghylch a oes gan y Cynulliad bwerau deddfu mewn perthynas â newid y llw teyrngarwch? OAQ53708
Bethan Sayed: Wel, rwyf i newydd glywed rhywun yn gweiddi oddi ar ei eistedd, 'Gwarthus'. Ond, fel rhywun sy'n weriniaethwr, hoffwn gael y dewis o gael y llw teyrngarwch hwnnw i ddinasyddion Cymru ac nid i gorff sy'n ymgorffori braint a grym etifeddol sy'n aml yn anathema i bobl Cymru. Mae fy mhrif ffyddlondeb i'r bobl. A allwch chi amlinellu pa un a allai Llywodraeth Cymru wneud cais i'r pwerau dros y llw...
Bethan Sayed: Mewn perthynas ag achos Claire Greaves—yr achos trasig—roedd hwn yn amlwg yn achos o anorecsia yn ogystal ag anhwylder personoliaeth o oedran cynnar. Fel rhan o'r adolygiad ar anhwylderau bwyta, hoffwn wybod a ydych yn ystyried trafodaeth, trafodaeth ehangach, ar anhwylderau bwyta mewn uned neu unedau cleifion mewnol yng Nghymru, nid yn uniongyrchol o ganlyniad i hyn, ond o ganlyniad i'r...
Bethan Sayed: Roeddwn yn awyddus i gyflwyno'r ddadl hon heddiw oherwydd fy mod i ac eraill yma wedi bod â diddordeb yn y ddadl hon ar fodelau darparu gwasanaethau cymorth yn y maes hwn. Bydd yr Aelodau yn ymwybodol o'r ddeiseb, sy'n dal dan ystyriaeth gan y Pwyllgor Deisebau, mewn perthynas â'r model Barnahus a chynyddu'r ddarpariaeth ddiogelwch a chymorth i blant sydd wedi cael eu cam-drin yn rhywiol....
Bethan Sayed: Rwy'n cydnabod bod rhai o'r syniadau y byddwn yn eu trafod yn gysyniadau cymharol newydd yn y DU, ond credaf eu bod yn rhan o chwyldro hanfodol posibl yn y ffordd yr ydym yn trin plant a sut y gallwn gynorthwyo plant, y bydd llawer ohonynt mewn lle truenus o anobaith a thrawma. Mae fy nghynnig yn canolbwyntio ar dri phwynt sylfaenol: sut y gallwn weithio gyda'r heddlu i gynhyrchu canlyniadau...
Bethan Sayed: Mae'n ddrwg gennyf, nid oeddwn yn sylweddoli bod yr amser wedi mynd.
Bethan Sayed: Ni fyddaf yn hir iawn. Roeddwn am ddiolch i Janet Finch-Saunders, fel arfer, am ei chefnogaeth i'r syniad hwn ac i eraill a gyflwynais yn y gorffennol, ac i Caroline Jones hefyd—roeddech chi gyda mi pan gyfarfûm â'n hetholwr a gwn i hynny effeithio arnom, ac y bydd yn ffurfio sail i waith yn y dyfodol, rwy'n siŵr. O ran yr ymateb oddi wrth y Llywodraeth—yn amlwg rwy'n siomedig eich bod...
Bethan Sayed: Rwyf wedi gofyn ar sawl achlysur a oes modd cael yr wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Iechyd am y fframwaith anhwylderau bwyta. Gwyddom fod hyn yn ei gyfnod ymgynghori, ac mae cleifion a gofalwyr wedi bod yn allweddol o ran cyflwyno eu syniadau, er fy mod yn gwybod bod peth ymateb negyddol gan ymgynghorwyr yn y maes, yn anffodus. Yr wythnos hon, rwyf wedi cael achosion newydd o bobl ag...
Bethan Sayed: Diolch am ryddhau'r datganiad hwn heddiw ac am y rhybudd ymlaen llaw. O'r hyn yr wyf yn ei weld o'r datganiad hwn, mae'r prif bwynt newydd yn rhywbeth nad yw'n uchel iawn yn y datganiad, sef cymorth i dalu am gynhyrchion mislif rhad ac am ddim mewn colegau addysg bellach, sef rhywbeth yr ydym wedi'i drafod eisoes, ond rwy'n sicr na chyhoeddwyd hynny pan y'i cyhoeddwyd gennych ar gyfer...