Alun Davies: Rwyf yn dweud wrthych—nid wyf yn anghytuno â hanfodion ei bwynt—ond rwyf am ddweud wrtho ei bod yn briodol mai materion i'r Cynulliad Cenedlaethol ac nid i'r Llywodraeth yw’r materion hynny. Mae'n gwbl hanfodol i mi fod y rhaniad rhwng y Weithrediaeth a'r ddeddfwrfa yn cael ei barchu a bod y ddeddfwrfa ei hun yn penderfynu sut y mae'n gweithredu, yn hytrach na fy mod i’n gwneud...
Alun Davies: Edrychaf ymlaen at glywed yr hyn sydd gan yr Aelodau i'w ddweud. Edrychaf ymlaen at wrando ar yr hyn sydd gan yr Aelodau i'w ddweud a byddaf yn sicrhau bod y ddadl y prynhawn yma yn cael ei dwyn i sylw'r Ysgrifennydd Gwladol ac eraill sy’n ystyried y materion hyn. Rwy’n gobeithio y bydd yr Aelodau'n parhau i gyfrannu yn y ffordd y maent wedi ei wneud dros y misoedd diwethaf i sicrhau ein...
Alun Davies: Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma, yn enwedig yr Aelodau hynny a gyflwynodd eiriau caredig a hael. A gaf i ddweud, gan ddilyn yn uniongyrchol yr hyn a ddywedodd Rhun ap Iorwerth, fy mod yn credu ei fod yn llygad ei le o ran bod yn rhaid i’r lle hwn dderbyn ein cyfrifoldebau a rhai o’r cyfrifoldebau newydd...
Alun Davies: Bydd y Gymraeg yn parhau i fod yn orfodol hyd at 16 oed a bydd y cwricwlwm newydd yn cynnwys continwwm ieithyddol ar gyfer y Gymraeg o 2021 ymlaen. Rydym ni wedi cynnal cynlluniau peilot yn ehangu’r Gymraeg i feysydd pwnc eraill a byddwn ni’n parhau i ganolbwyntio ar wella sgiliau cyfathrebu ein pobl ifanc. Rydym ni hefyd yn cynyddu ein cymorth ar gyfer y Gymraeg i athrawon ac ysgolion.
Alun Davies: Rydw i’n gwybod bod lot fawr o bobl wedi gresynu wrth y geiriau yr oeddwn i wedi’u defnyddio. Roeddwn i’n synnu at hynny hefyd, achos nid oeddwn i’n newid polisi; roeddwn i’n ailadrodd polisi presennol. Rydym ni ar hyn o bryd mewn cyfnod pontio o ble yr oeddem ni pan oedd yr Athro Sioned Davies wedi cyhoeddi ei hadroddiad hyd at gyflwyniad y cwricwlwm newydd yn 2021. Mi fydd y...
Alun Davies: Rydw i’n hapus iawn i barhau’r drafodaeth ar hynny os oes gan yr Aelod awgrymiadau y buasai hi’n licio eu gwneud. Ond a gaf i ddweud hyn? Mae wedi bod lot o drafod amboutu lle rydym ni ar hyn o bryd ers i adroddiad Sioned Davies gael ei gyhoeddi. Mi fydd yna newidiadau sylfaenol yn cael eu cyflwyno yn ystod y blynyddoedd nesaf, ac felly ni fydd yna ddim cyfnod coll, fel y mae rhai wedi...
Alun Davies: Mae’n ofynnol i holl ddarparwyr cyrsiau galwedigaethol hyrwyddo a datblygu eu darpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog. Mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud hi’n ofynnol i holl ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith a cholegau addysg bellach gynyddu nifer y dysgwyr sy’n defnyddio’r Gymraeg yn rhan o’u dysgu a darparu cyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.
Alun Davies: Efallai y byddai’n hwylus petaech chi’n ysgrifennu ataf i gyda manylion yr enghraifft benodol rydych wedi ei disgrifio’r prynhawn yma. Ond a gaf i ddweud yn fwy cyffredinol, ac nid am yr enghraifft ei hun, mi fuaswn i’n disgwyl i unrhyw sefydliad sy’n derbyn nawdd gan Lywodraeth Cymru weithredu polisi iaith? Pan fyddwn yn sôn amboutu’r sector preifat a busnesau preifat, wrth...
Alun Davies: I think the Cabinet Secretary’s clear in her vision and she’s in the Chamber and listening to your comments this afternoon. The Cabinet Secretary for Education and the First Minister made such a statement during the National Eisteddfod, and we as a team of Ministers have been discussing this since that time. I know that the Cabinet Secretary for Education is about to make a statement.
Alun Davies: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Mae’n bleser cael arwain y drafodaeth yma y prynhawn yma ar adroddiad blynyddol Comisiynydd y Gymraeg. Rwyf eisiau dechrau, wrth gwrs, drwy ddweud gair o ddiolch wrth Meri a’i thîm, sydd wedi gweithio yn galed iawn dros y flwyddyn ddiwethaf yn arwain y gwaith. Yn aml iawn, mae rôl y comisiynydd yn rôl ddigon diddiolch, ac rwy’n awyddus iawn bod...
Alun Davies: Rwyf wedi bod yn gobeithio gwneud yn well y flwyddyn nesaf trwy rhan fwyaf fy mywyd i, ond rwy’n falch iawn ein bod ni wedi taro nodyn o gytundeb yn hwyr y prynhawn dydd Mawrth yma wrth drafod yr adroddiad yma. Rwy’n croesawu ac rwy’n ddiolchgar i bob un Aelod sydd wedi cyfrannu at y drafodaeth. Fel rydym wedi gweld sawl gwaith yn y gorffennol, mae’r drafodaeth yma wedi cytuno ar yr...
Alun Davies: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Pan lansiais y tasglu gweinidogol ar gyfer Cymoedd y de mewn datganiad i'r Cynulliad Cenedlaethol ym mis Gorffennaf, ymrwymais i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ei gynnydd. Mae'r tasglu wedi cynnal ei gyfarfod cyntaf, gan gwrdd â rhanddeiliaid lleol a derbyn cyflwyniadau ar ystod o faterion. Bydd yr ail gyfarfod yn ddiweddarach y mis hwn...
Alun Davies: Credaf fod Aelodau ar draws y Siambr yn mwynhau'r darlithoedd rheolaidd a gawn gan y Blaid Geidwadol ar yr anawsterau sy'n wynebu cymunedau yn y Cymoedd, lawer ohonynt, wrth gwrs, o ganlyniad uniongyrchol i bolisïau'r Llywodraeth Geidwadol. Os edrychwch, er enghraifft, ar y rhaglen diwygio lles sydd ar hyn o bryd gerbron Senedd y Deyrnas Unedig, fe welwch y bydd cymunedau yng Nghymoedd y De...
Alun Davies: Cytunaf yn llwyr â nifer o'r pwyntiau a wnaed gan Bethan Jenkins, a deallaf ei bod yn ddidwyll yn y modd y mae hi wedi mynegi’r pwyntiau hynny. Gadewch i mi ddweud hyn: rwy’n hollol benderfynol nad siop siarad yn unig fydd y tasglu hwn, ac ni fydd yn darparu'r sylwebaeth o bell fel y disgrifiwyd ganddi. Yn amlwg, wrth sefydlu corff, mae angen cael nifer o sgyrsiau ynghylch sut bydd y...
Alun Davies: Nid wyf yn siŵr a ddylwn i fod yn ddiolchgar am y sylwadau hynny ai peidio. Gadewch i mi ddweud hyn: mae gan UKIP hanes eithaf rhyfedd yn hyn o beth, lle nad yw cofnod pleidleisio ei Aelodau etholedig bob amser yn cyd-fynd â'r rhethreg a gyflwynir ar wahanol adegau. Mae arweinydd UKIP yn y lle hwn o hyd yn ein hatgoffa ei fod wedi bod yn falch o bleidleisio dros y gyllideb ym 1981 a...
Alun Davies: Credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn sicrhau bod pobl ym mhob rhan o’r Cymoedd yn teimlo bod y strwythur hwn yn siarad drostynt ac ar eu rhan. Credaf weithiau fod perygl y byddwn yn canolbwyntio ar Gymoedd canolog Sir Forgannwg a Chymoedd dwyreiniol Gwent. Credaf ei bod yn bwysig bod Cymoedd gorllewinol Sir Gaerfyrddin a Morgannwg yr ydych yn eu cynrychioli hefyd yn teimlo eu bod yn...
Alun Davies: Rwy'n siŵr bod yr Aelod wedi clywed y gwahoddiad caredig hwnnw. A gaf i ddweud bod yr Aelod dros Gaerffili yn gwneud rhai pwyntiau pwysig iawn, iawn am natur y Cymoedd hefyd? Un peth sy'n uno pob un ohonom o Gymoedd y de, yn ein ffyrdd gwahanol, yw bod gennym ymdeimlad clir o le, ac mae'r lle yn bwysig i ni. Caiff ein golwg o’r byd ei bennu gan y pwynt pan gawsom ein geni, ble’r ydym yn...
Alun Davies: Gall ysgolion ddarparu hyfforddiant dementia ar draws pob grŵp oedran drwy addysg bersonol a chymdeithasol a byddwn, trwy gylchlythyr Dysg, yn tynnu sylw at adnoddau’r Gymdeithas Alzheimer ar gyfer creu cenhedlaeth sy’n ystyriol o ddementia.
Alun Davies: Gall ysgolion ddarparu hyfforddiant dementia ar draws pob grŵp oedran drwy addysg bersonol a chymdeithasol a byddwn, trwy gylchlythyr Dysg, yn tynnu sylw at adnoddau’r Gymdeithas Alzheimer ar gyfer creu cenhedlaeth sy’n ystyriol o ddementia.
Alun Davies: The Welsh Government is committed to transforming the expectations, experiences and outcomes for all learners, including those with additional learning needs. The forthcoming introduction of the additional learning needs and education tribunal (Wales) Bill will be a key milestone in the transformation journey that is already under way.