Mike Hedges: Iawn. A gaf i ofyn dau gwestiwn yn fyr iawn? [Chwerthin.] Pam ydym ni’n awyddus i gael dinas -ranbarth a rhanbarth arall ar gyfer gwasanaethau? Does bosib nad y ddinas-ranbarth yw’r ôl troed. Rwy’n credu y gallech fod eisiau isrannu o fewn yr ôl troed, ond mae ei gael ar draws—. Bydd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yn cael eu galw’n Janus, oherwydd ein bod yn edrych i'r...
Mike Hedges: A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu'r diwydiant TGCh yng Nghymru?
Mike Hedges: A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi mai’r hyn sy'n bwysig yw canlyniadau nid mewnbynnau? Ac a wnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi i longyfarch cyngor Abertawe ar ganlyniadau TGAU gorau erioed, ac Ysgol Pentrehafod ac Ysgol Gyfun Treforys—dwy ysgol Her Ysgolion Cymru—ar eu canlyniadau TGAU rhagorol?
Mike Hedges: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf oll, hoffwn fynegi fy siom ynghylch y datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n credu bod Cymunedau yn Gyntaf yn gwneud gwaith rhagorol yn fy etholaeth i. Ond rwyf wedi dweud ers blynyddoedd y dylai Cymunedau yn Gyntaf a Dechrau'n Deg fod yn seiliedig ar gymunedau, nid yn cael eu llywio gan y ffordd y mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn penderfynu...
Mike Hedges: 15. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau sy’n cael eu cymryd i rwystro afonydd rhag gorlifo? OAQ(5)0038(ERA)
Mike Hedges: 6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am Dechrau’n Deg? OAQ(5)0040(ERA)
Mike Hedges: Yn gyntaf oll, Weinidog, a gaf fi dynnu sylw at lwyddiant y gorlifdir yn Ynysforgan, sydd yn fy etholaeth, a hanner milltir yn unig o ble rwy’n byw? Mae’n ardal a arferai fod dan lawer iawn o lifogydd dros gyfnod o amser, ond mae hynny bellach wedi dod i ben oherwydd bod y gorlifdir wedi gweithio mor llwyddiannus. A oes cynlluniau i gyflwyno gorlifdiroedd ar gyfer afonydd eraill, fel y...
Mike Hedges: A gaf fi ddatgan buddiant yn gyntaf fel llywydd grŵp pobl drwm eu clyw Abertawe, ac mae gennyf chwaer sy’n fyddar iawn hefyd? Mae’n hawdd iawn gwahaniaethu mewn cyflogaeth: nid oes ond yn rhaid i chi nodi bod ateb y ffôn yn rhan o’r swydd ac yn syth, ni fydd rhywun sy’n fyddar yn gallu ymgeisio. Yr un peth a fyddai’n gwneud gwahaniaeth enfawr yw parch cydradd rhwng iaith arwyddion...
Mike Hedges: A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ymateb hwnnw? Mae Dechrau’n Deg wedi gwella cyfleoedd bywyd llawer o fy etholwyr yn fawr. Mae’n golygu bod plant yn dechrau yn yr ysgol ar lefel eu hoedran cronolegol neu’n agos ato. Er fy mod yn credu y dylai fod yn seiliedig ar gymunedau, nid ar ardaloedd cynnyrch ehangach a grëwyd ar fympwy’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, a wnaiff y...
Mike Hedges: A wnewch chi dderbyn ymyriad? A wnewch chi ymrwymo, os na fydd y Ddeddf honno wedi gweithio, i gyflwyno Deddf awtistiaeth?
Mike Hedges: A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am dwf y diwydiant TGCh yng Nghymru?
Mike Hedges: Yr wythnos diwethaf, dywedodd y Gweinidog gwasanaethau cymdeithasol: Bydd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn gweddnewid y ffordd yr ydym yn diwallu anghenion yr holl bobl sydd ag anghenion gofal a chymorth, gan gynnwys pobl ag awtistiaeth, a'u gofalwyr. A gaf i ofyn, felly, am ddatganiad gan y Llywodraeth ar y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a sut y mae'n gweithio?
Mike Hedges: Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf i ddweud bod yr hyn y mae’r Gweinidog wedi’i gytuno gyda Phlaid Cymru yn cynnwys llawer o’r materion y byddwn i, mewn gwirionedd, wedi bod yn gofyn iddo amdanynt, pe na byddai wedi gwneud hynny? Polisi gwleidyddol yw cyni i'r Torïaid ac nid un economaidd. Mae'n ymwneud â chrebachu’r wladwriaeth. Mae'n cael effaith ddifrifol ar wasanaethau...
Mike Hedges: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymuno â mi i longyfarch Prifysgol Abertawe ar ddatblygu rhaglen i ymestyn graddau Meistr ymchwil a doethuriaethau mewn peirianneg, gan weithio gyda rhai o’r cwmnïau diwydiannol mwyaf blaenllaw yn y DU ac yn y byd? Yn sicr, mae’n rhywbeth y mae economi Cymru ei angen yn daer. Cefnogir hyn gan gyllid yr Undeb Ewropeaidd. Beth fydd yn digwydd pan ddaw cyllid...
Mike Hedges: Rwy’n credu fy mod yn ôl pob tebyg ar y chwith, yn gorfforol ac yn wleidyddol. A gaf fi ddiolch i chi, Ddirprwy Lywydd? A gaf fi yn gyntaf oll ddychwelyd at y cynnig y mae Plaid Cymru wedi ei gyflwyno? Hoffwn gytuno â’r datganiad fod llywodraeth leol yn cyfrannu tuag at yr economi leol, y gwasanaeth iechyd a chanlyniadau addysgol. Gan gymryd pob un yn ei dro, mae llywodraeth leol yn...
Mike Hedges: A ydych hefyd yn cefnogi pleidleisio a chofrestru etholiadol ar yr un diwrnod, fel sydd ganddynt yn America?
Mike Hedges: Rwy’n croesawu'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet a'r cynnig ar gyfer y 20,000 o gartrefi fforddiadwy i bobl fyw ynddynt. Bydd diddymu’r hawl i brynu a’r hawl i gaffael yn rhoi terfyn ar golli tai cyhoeddus i'w rhentu. Mae adeiladu cartrefi nid yn unig yn dda ar gyfer y bobl a fydd yn byw yn y cartrefi hyn, ond yn dda i economi Cymru a chael pobl i mewn i waith. Mae gennyf dri...
Mike Hedges: 2. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am adroddiad Comisiwn y Gyfraith sy’n argymell cyfundrefnu cyfraith Cymru? OAQ(5)0006(CG)
Mike Hedges: A all y Cwnsler Cyffredinol nodi’r trywydd ar gyfer y broses gyfundrefnu, a dynodi’r manteision a’r risgiau posibl a allai godi o gyfundrefnu?
Mike Hedges: 5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ardaloedd dim galw diwahoddiad yng Nghymru? OAQ(5)0245(FM)