Canlyniadau 41–60 o 1000 ar gyfer speaker:Caroline Jones

2. Cwestiwn Brys: Ffatri Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr (13 Med 2016)

Caroline Jones: Ysgrifennydd y Cabinet, er ei fod yn siomedig bod y buddsoddiad arfaethedig ym Mhen-y-bont yn cael ei leihau, mae'n galonogol clywed Ford yn ailddatgan eu hymrwymiad i ffatri Pen-y-bont ar Ogwr a'i gallu gweithgynhyrchu hyblyg. Mae Ford a'r undebau yn gwrthod yr honiad bod y penderfyniad hwn unrhyw beth i wneud â Brexit. Cafwyd straeon codi braw arall yn y dyddiau diwethaf, gan ddweud bod...

3. Cwestiwn Brys: Byrddau Iechyd Lleol Abertawe Bro Morgannwg, Caerdydd a'r Fro a Hywel Dda (13 Med 2016)

Caroline Jones: Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, erbyn hyn mae angen rhyw fath o ymyrraeth gan y Llywodraeth ar dros hanner yr holl fyrddau iechyd lleol. Mae fy mwrdd iechyd i yn derbyn ymyrraeth wedi’i thargedu oherwydd perfformiad gwael mewn gofal heb ei drefnu a gofal canser. Mae'r perfformiad gwael hwn yn rhoi bywydau pobl mewn perygl ac yn arwydd damniol o'n polisïau iechyd. Mae'n gwbl amlwg...

8. 6. Dadl ar y Cynllun Cyflawni Camddefnyddio Sylweddau 2016-18 (13 Med 2016)

Caroline Jones: Rwy’n croesawu’r cyfle i gymryd rhan yn y ddadl bwysig hon. Mae camddefnyddio sylweddau yn effeithio ar bob rhan o'n cymdeithas a’n cymunedau. Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, yfodd tri deg pedwar y cant o ddynion a 28 y cant o fenywod fwy na'r terfynau a argymhellir ar o leiaf un diwrnod. Mae oedolion sy'n byw mewn aelwydydd yn y grŵp incwm uchaf ddwywaith yn fwy tebygol o yfed yn drwm...

QNR: Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig (14 Med 2016)

Caroline Jones: Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella ansawdd aer yng Ngorllewin De Cymru?

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant: <p>Tlodi Plant yng Ngorllewin De Cymru</p> (14 Med 2016)

Caroline Jones: Ysgrifennydd y Cabinet, mae gan Aberafan rai o’r lefelau uchaf o dlodi plant yng Nghymru. Mewn un ward, mae bron i 46 y cant o’r plant yn byw mewn tlodi. Roedd adroddiad blynyddol Comisiwn Symudedd Cymdeithasol a Thlodi Plant y DU ar Gyflwr y Wlad yn feirniadol o bolisïau Llywodraeth Cymru, gan nodi nad oeddent yn cael y lefel gywir o effaith. O ystyried ymrwymiad Llywodraeth Cymru i...

6. 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Gweithlu’r GIG (14 Med 2016)

Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i’r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno’r ddadl hon. Mae i’w chroesawu’n fawr. Hefyd, hoffwn ganmol staff y GIG am y gwaith y maent yn ei wneud, yn aml o dan amgylchiadau anodd iawn. Mae problemau gyda recriwtio a chadw staff rheng flaen, clinigwyr yn arbennig, wedi cael llawer o sylw yn y blynyddoedd diwethaf. Mae prinder staff wedi arwain at fwy o lwyth gwaith nag y gall...

7. 7. Dadl UKIP Cymru: Yr Economi a Gadael yr UE (14 Med 2016)

Caroline Jones: Yn y dyddiau a’r wythnosau cyn y bleidlais ar adael yr UE a’r dyddiau a’r wythnosau a ddilynodd hynny, cawsom rybuddion enbyd o fethiant economaidd o ganlyniad i’n penderfyniad i adael yr UE. Ond yn yr wythnosau diwethaf, mae data economaidd wedi profi nad oedd y rhybuddion yn fawr mwy na chodi bwganod. Ond yr wythnos hon, mae Siambrau Masnach Prydain wedi adolygu eu ffigurau twf...

7. 7. Dadl UKIP Cymru: Yr Economi a Gadael yr UE (14 Med 2016)

Caroline Jones: Gwnaf.

7. 7. Dadl UKIP Cymru: Yr Economi a Gadael yr UE (14 Med 2016)

Caroline Jones: Gobeithiaf weld proses erthygl 50 yn cael ei dechrau yn weddol fuan, er mwyn i bawb allu—[Torri ar draws.] Bydd ychydig o ddyfalu yn ei chylch. Rydym i gyd yn dyfalu ar hyn o bryd, ac mae yna amrywiadau sy’n mynd i ddigwydd. [Torri ar draws.] Wrth gwrs ei fod yn bwysig i mi, rwy’n byw yng Nghymru. Beth ydych chi’n ei feddwl sy’n bwysig i mi? [Chwerthin.] Brensiach. O ble rydych...

7. 7. Dadl UKIP Cymru: Yr Economi a Gadael yr UE (14 Med 2016)

Caroline Jones: Diolch yn fawr iawn. Yr wythnos diwethaf, cefais wahoddiad i agoriad dau fusnes newydd yn fy rhanbarth. Felly, os yw pobl ar y raddfa lai yn barod i fuddsoddi’r arian y maent wedi gweithio’n galed i’w ennill, yna gallaf weld busnesau eraill yn manteisio hefyd, busnesau mawr.

7. 7. Dadl UKIP Cymru: Yr Economi a Gadael yr UE (14 Med 2016)

Caroline Jones: Gwnaf.

7. 7. Dadl UKIP Cymru: Yr Economi a Gadael yr UE (14 Med 2016)

Caroline Jones: Wel, y cyfan y gallaf ei ddweud, Rhun, yw bod y busnesau yn fy rhanbarth, o brofiad personol—llawer o fusnesau—yn agor busnesau newydd, mae eiddo gwag yn cael ei lenwi, ac nid wyf wedi clywed neb yn dweud wrthyf fod—. Fel cyn-wraig fusnes fy hun, nid oes neb wedi dod ataf i ddweud nad ydynt yn mynd i fanteisio ar unrhyw gyfle oherwydd y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Nid oes...

7. 7. Dadl UKIP Cymru: Yr Economi a Gadael yr UE (14 Med 2016)

Caroline Jones: Ie, mae gennym Aston Martin yn dod i Sain Tathan, gan greu 750 o swyddi. Felly nid ar chwarae bach mae hynny’n digwydd. Felly, rwy’n dweud bod gadael yr UE yn cynnig cyfle gwych i’r DU a Chymru hybu masnach, tyfu ein diwydiant, a chynyddu cyflogaeth. Pan fyddwn wedi cael ein rhyddhau hefyd, rwy’n credu y bydd yn cynyddu hyd yn oed ymhellach, pan fyddwn yn dechrau proses erthygl 50....

7. 7. Dadl UKIP Cymru: Yr Economi a Gadael yr UE (14 Med 2016)

Caroline Jones: Ddim eto. Mae’n rhaid i ni groesawu masnach rydd â’r byd i gyd, yn hytrach na chanolbwyntio’n unig ar floc masnachu mwyfwy ynysig. Mae’n bryd i Lywodraeth y DU gyflawni ei haddewid fod gadael yn golygu gadael, ac mae angen i ni adael cyn gynted â phosibl.

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (20 Med 2016)

Caroline Jones: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i liniaru effeithiau llygredd aer yng Nghymru?

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog: <p>Gwasanaethau Llyfrgell</p> (20 Med 2016)

Caroline Jones: Brif Weinidog, er ein bod yn croesawu eich ailgadarnhâd o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wasanaethau llyfrgelloedd, nid yw eich cefnogaeth yn fawr o gysur i'r cymunedau hynny y caewyd eu llyfrgelloedd o ganlyniad i doriadau llywodraeth leol. Rydym ni wedi gweld llawer o lyfrgelloedd yn cau eu drysau am byth, tra bod eraill yn ddyledus i dîm bychan o wirfoddolwyr ymroddedig am eu...

5. 5. Datganiad: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am y Cynlluniau i Recriwtio a Hyfforddi Meddygon Teulu Ychwanegol ynghyd â Gweithwyr Proffesiynol Eraill ym Maes Gofal Sylfaenol (20 Med 2016)

Caroline Jones: Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru yn derbyn bod argyfwng ym maes gofal sylfaenol. Dymunwn bob llwyddiant ichi â’r ymgyrch hon, oherwydd mae angen dybryd ar Gymru am fwy o feddygon teulu, neu bydd gennym broblem enfawr. Yn anffodus, nid yw eich cynigion yn gwneud llawer i’n helpu ni yn y sefyllfa sydd ohoni. Wrth i’r GIG baratoi am...

10. 10. Dadl UKIP Cymru: Ysgolion Gramadeg (21 Med 2016)

Caroline Jones: Pan euthum i goleg hyfforddi athrawon gyntaf, roedd y dirwedd addysg yn wahanol iawn i’r hyn a welwn heddiw. Roedd y rhai â thueddiad academaidd yn mynd i ysgolion gramadeg, ond roedd y rhai a oedd yn tueddu mwy at alwedigaeth yn mynd i ysgol uwchradd fodern. Roedd ysgolion gramadeg gwladol yn addysgu cannoedd o filoedd o ddisgyblion, ac yn cynnig addysg am ddim y gellid ei chymharu ag...

10. 10. Dadl UKIP Cymru: Ysgolion Gramadeg (21 Med 2016)

Caroline Jones: Na, mae’n ddrwg gennyf, Llyr, ni wnaf. Mae’r galw am ysgolion gramadeg yn yr ychydig bocedi lle maent yn dal i fodoli wedi saethu i’r entrychion. Felly, unwaith eto, nid ydym yn edrych ar yr hyn y mae pobl ei eisiau, rydym yn edrych ar orfodi rhywbeth nad ydynt ei eisiau o bosibl. Yn anffodus, nid yw’r ysgolion gramadeg hyn ond yn bodoli yn y rhannau cyfoethocach o dde Lloegr ac yn...

10. 10. Dadl UKIP Cymru: Ysgolion Gramadeg (21 Med 2016)

Caroline Jones: Gwnaf, yn sicr.


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.