Russell George: Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r Prif Weinidog wedi cytuno’n garedig i edrych ar y mater y tynnais ei sylw ato ddoe yn ystod y Cwestiynau i’r Prif Weinidog mewn perthynas â phenderfyniad Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i wahardd y cwmni rheoli gwastraff mwyaf yng Nghymru, Potter Group, rhag cynnig am gontract rheoli gwastraff am nad oes ganddo drosiant blynyddol o fwy na £50...
Russell George: Fel Cadeirydd y grŵp trawsbleidiol sydd newydd ei ethol ar faterion trawsffiniol hoffwn ganolbwyntio fy nghyfraniad a fy sylwadau heddiw ar heriau a chyfleoedd cydweithio trawsffiniol a’r angen am well cysylltedd rhwng gogledd Cymru a Phwerdy’r Gogledd sy’n datblygu yng ngogledd Lloegr. Trwy gadarnhau bod gogledd Cymru yn rhan bwysig o’r rhanbarth economaidd newydd hwn, mae gennym...
Russell George: Brif Weinidog, mae Visit Scotland yn gwario dros £50 miliwn ar hyrwyddo’r Alban. Yng Nghymru, Croeso Cymru, gwariwyd £8.3 miliwn ar Gymru yn ei chyfanrwydd. Ond nid oes unrhyw ran o’r gwariant hwnnw yn cael ei wario'n benodol ar hyrwyddo’r canolbarth fel cyrchfan penodol i ymweld ag ef. Mae gennym y llwybr arfordirol, mae gennym drefi marchnad hardd yn edrych dros olygfeydd gwych...
Russell George: Hoffwn ymuno ag Ysgrifennydd y Cabinet wrth groesawu adref yr holl athletwyr o Gymru a gyfrannodd at ennill mwy o fedalau nag erioed gan Dîm GB yng Ngemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd Rio. Fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud, mae’r digwyddiad hwn i groesawu’r athletwyr ysbrydoledig hyn adref yn gyfle gwych i ddiolch iddynt ac, wrth gwrs, i’r holl bobl hynny sydd wedi cymryd...
Russell George: Roeddwn eisiau canolbwyntio fy nghyfraniad heddiw ar y trallod personol sy’n cael ei achosi i fusnesau a theuluoedd ffermio. Rwy’n credu bod busnesau ffermio yn unigryw yn y ffaith nad yw’r ffermwr yn mynd allan i weithio am wyth ac yn dychwelyd am chwech. Mae’r teulu cyfan yn rhan o’r busnes, gan gynnwys plant, a phan fydd problem ar y fferm, mae’n effeithio ar y teulu cyfan....
Russell George: Rwy’n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon gan y Ceidwadwyr y prynhawn yma. Pan fyddaf yn darllen rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru, yr hyn rwy’n siomedig yn ei gylch yw ei bod yn methu’n glir â nodi’r hyn y byddant yn ei wneud yn wahanol—yn wahanol—y tro hwn er mwyn sicrhau bod eu nodau yn cael eu cyflawni’n effeithiol. Nid yw’r rhaglen lywodraethu’n cynnwys unrhyw...
Russell George: Yn dilyn ailddosbarthiad cymdeithasau tai gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, a wnewch chi, Brif Weinidog, nodi a ydych chi’n bwriadu gwneud newidiadau deddfwriaethol tebyg i rai Llywodraeth y DU yn Lloegr i gadw statws cymdeithasau tai o fod yn fusnesau cymdeithasol annibynnol, yn dilyn, wrth gwrs, newidiadau a ddaeth yn sgil Deddf Tai ac Adfywio 2008 Llywodraeth ddiwethaf y DU?
Russell George: Yn gyntaf oll, byddaf yn dweud fy mod yn croesawu'n fawr ddatganiad cynnar Ysgrifennydd y Cabinet i ni ddoe. Roedd yn hynod ddefnyddiol, rwy’n credu, er mwyn galluogi Aelodau i grynhoi’r datganiad ddiwrnod cyn eich bod chi’n gwneud y datganiad i'r Siambr. Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd hynny'n fodel, Ysgrifennydd y Cabinet, y byddwch chi’n parhau i’w ddefnyddio, ac, mewn gwirionedd,...
Russell George: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyflwyno wi-fi cyhoeddus yng nghanolbarth Cymru?
Russell George: Ysgrifennydd y Cabinet, yn ystod yr haf, un mater a ddaeth i fy sylw gan etholwyr oedd cymudwyr yn cael eu gadael heb wasanaeth trên mewn gorsafoedd ar lein y Cambrian. Nid problem ynglŷn â chanslo trenau ar fyr rybudd yn unig yw hon, ond un sy’n ymwneud â’u canslo heb unrhyw rybudd. Felly, nid oes unrhyw wasanaethau bws ar waith i helpu cymudwyr a adawyd heb wasanaeth trên er bod yr...
Russell George: Ysgrifennydd y Cabinet, gan Gymru y mae’r trenau hynaf sydd ar waith yn y DU, gyda rhai ohonynt bron yn 40 mlynedd yn oed, ac mae eu gallu i gynnig gwasanaeth effeithlon ar gyfer yr oes fodern yn prysur leihau. Clywais eich ateb i Leanne Wood yn gynharach heddiw. A gaf fi ofyn, Ysgrifennydd y Cabinet: sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y gweithredwr trenau nesaf yng Nghymru yn...
Russell George: Diolch am eich ateb manwl, Ysgrifennydd y Cabinet. Erbyn 2020, mae’n rhaid i bob gorsaf a thrên fod yn gwbl hygyrch. Ar hyn o bryd, 53 y cant yn unig o orsafoedd Cymru sy’n darparu hygyrchedd llawn. Gan fod contract Trenau Arriva yn dod i ben yn 2018, nid oes unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol arnynt i gyflawni’r gwelliannau hyn. Felly, fy nghwestiwn yw hwn: a yw Cymru ar y trywydd iawn i...
Russell George: Ysgrifennydd y Cabinet, clywais eich ymateb i lefarydd Plaid Cymru o ran y fasnachfraint reilffyrdd ddielw. Mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi mynegi pryderon y bydd yn rhaid i’ch Llywodraeth ddysgu gwersi gan fasnachfreintiau’r gorffennol ac y bydd yn rhaid iddi reoli’r risgiau wrth gaffael yr hyn sy’n fuddsoddiad sylweddol i Gymru yn effeithlon ac yn effeithiol. Felly, gyda hynny, a...
Russell George: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch o gymryd rhan yn y ddadl heddiw. Byddaf yn mwynhau cymryd rhan ynddi oherwydd ei fod yn fater rwy’n teimlo’n angerddol yn ei gylch. Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyflwyno dadleuon ar y mater hwn yn aml iawn, ac mae’n dda ein bod ni wedi cael un arall heddiw; gadewch i ni barhau i’w cael hyd nes y bydd y mater wedi cael ei ddatrys. Rwy’n...
Russell George: Gorffennaf drwy ddweud mai eu problem fwyaf oedd yr effaith y mae ardrethi busnes yn ei chael ar eu busnesau bach, a’u rhwystredigaeth, a’n rhwystredigaeth ni nad yw ymrwymiad maniffesto o doriadau treth i 70,000 o fusnesau yn doriad treth mewn gwirionedd; nid yw’n ddim mwy na pharhad o’r hyn a oedd yno o’r blaen. Diolch i chi am ganiatáu amser ychwanegol i mi, Ddirprwy Lywydd.
Russell George: Diolch i chi, Lywydd. Hoffwn gynnig y gwelliannau yn enw Paul Davies ac wrth wneud hynny, rwy’n nodi fy siom fod UKIP wedi cyflwyno’r cynnig hwn heddiw. Mae’n ymddangos bod yna fethiant i gydnabod y manteision cymdeithasol ac economaidd y bydd HS2 yn eu dwyn i bobl canolbarth a gogledd Cymru yn arbennig. Mae gwrthod y cynllun a fydd yn asgwrn cefn, rwy’n meddwl, i rwydwaith...
Russell George: O, iawn. Wel, mae gennyf eich blog o fy mlaen yma, ond mae’n gwrthddweud rhai o’r pwyntiau a wnaeth eich cyd-Aelod, sy’n eistedd wrth eich ymyl, yn llwyr. Efallai y gwnaf ei drosglwyddo i David Rowlands i’w ddarllen ychydig yn nes ymlaen. Nawr, ble roeddwn i? Ble roeddwn i? Iawn. Bydd hyd yn oed y bobl nad ydynt yn defnyddio trenau yn elwa hefyd wrth gwrs, yn enwedig yng ngogledd...
Russell George: Roeddwn yn gwrthwynebu'r ddeddfwriaeth a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i asiantau gosod a landlordiaid rheoli gyflawni hyfforddiant i gael trwydded gan Rhentu Doeth Cymru, ond cafwyd y ddadl honno eisoes. Rwyf wedi cysylltu â nifer o etholwyr yn ystod y saith diwrnod diwethaf sydd wedi fy hysbysu nad yw’n ymddangos bod gan Rhentu Doeth Cymru ddigon o staff i allu derbyn galwadau ac...
Russell George: Hoffwn ddiolch yn gyntaf i'r Gweinidog am y datganiad derbyniol heddiw a'r ffaith bod y prosiect Cyflymu Cymru wedi gwella faint o fand eang ffibr sydd ar gael ar draws Cymru, gan roi budd i drigolion a busnesau fel ei gilydd yn y maes ymyrraeth. Felly, dylai fod croeso i hynny. Er bod llawer o ddatblygiadau yng nghysylltedd Cymru o ganlyniad i'r prosiect Cyflymu Cymru, mae'r gwerthusiad a...
Russell George: Y ddau 'yn olaf', yr ‘olaf’ pum eiliad—