Canlyniadau 41–60 o 300 ar gyfer speaker:Altaf Hussain

4. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Rhoi Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ar Waith yn Genedlaethol ( 5 Hyd 2021)

Altaf Hussain: Mae gan gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol y cyfle i herio pob un ohonom ni a'r ffordd yr ydym ni'n gweithio i sicrhau dyfodol gwell. Hoffwn longyfarch y comisiynydd presennol a'r comisiynydd cyntaf ar sefydlu'r swyddogaeth, datblygu ei phroffil a'i pherthynas â chyrff cyhoeddus, gan weithio gyda nhw i ymgorffori egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn eu gwaith....

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Prosiectau Adeiladu Ysgolion Newydd ( 6 Hyd 2021)

Altaf Hussain: Weinidog, mae Llywodraeth Cymru wedi nodi targed lleihau allyriadau carbon o 37 y cant erbyn 2025, a 67 y cant erbyn 2030. Pa asesiadau y mae'r Gweinidog wedi'u gwneud o allbwn carbon presennol ein hysgolion a pha fuddsoddiad sydd ei angen ganddo i gynorthwyo pob ysgol i gyrraedd targedau lleihau allyriadau carbon ei Lywodraeth?

9. Dadl Ceidwadwyr Cymreig: Iechyd Meddwl ( 6 Hyd 2021)

Altaf Hussain: Diolch am y cyfle i siarad yn y ddadl hon. Rwyf wedi dweud ar fwy nag un achlysur fod y pandemig COVID wedi amlygu'r gwendidau yn llawer o'n gwasanaethau, ac yn anffodus mae diffyg cynnydd ar ddatblygu gwasanaethau iechyd meddwl o'r radd flaenaf yn enghraifft arall o sut y mae'r wlad hon bellach yn ei chael hi'n anodd. Nid yw iechyd meddwl yn adnabod ffiniau, nid yw wedi'i gyfyngu i un rhan...

10. Dadl Plaid Cymru: Tâl gweithwyr gofal iechyd ( 6 Hyd 2021)

Altaf Hussain: Diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi gweithio gyda nyrsys ar hyd fy oes, ac mae'n iawn ein bod yn cydnabod cyfraniad ein holl weithwyr gofal iechyd ar draws y GIG a gofal cymdeithasol. Gwyddom fod y 18 mis diwethaf wedi bod yn eithriadol o heriol. Fel cymaint o rai eraill yn ein gwasanaethau cyhoeddus, mae'r rheini ar y rheng flaen ym maes gofal wedi bod yn dyst i drasiedi ddynol y pandemig. Mae...

11. Dadl Plaid Cymru: Pwysau Gaeaf y GIG ( 6 Hyd 2021)

Altaf Hussain: Rydych yn llygad eich lle; bob blwyddyn cawn aeaf. Mae cynllun diogelu ar gyfer y gaeaf yn rhywbeth rhesymol i ofyn amdano, ac fel y nododd cyd-Aelodau y prynhawn yma, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gosod ei hamcanion fel mater o drefn er mwyn i'n system iechyd a gofal allu ymateb i bwysau galw tymhorol cynyddol tra'n ceisio darparu gofal wedi'i gynllunio a llawdriniaethau. Yn wir, roedd...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (12 Hyd 2021)

Altaf Hussain: Yn ddiweddar, es i ar ymweliad â chamlas Tenant yn Aberdulais i gwrdd â chynrychiolwyr ei pherchnogion ac aelodau o Ymddiriedolaeth Camlesi Castell-nedd a Thenant i drafod ei dyfodol, yn dilyn gostyngiad yn lefelau'r dŵr. Mae llawer o drigolion yn pryderu am ddyfodol y gamlas, ei seilwaith hanesyddol a'i swyddogaeth o ran cynnal bywyd gwyllt. Er bod materion i'w datrys gyda CNC a chyrff...

3. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Cynnydd ar y Cynllun Cyflawni ‘Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’ (12 Hyd 2021)

Altaf Hussain: Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i godi un neu ddau o gwestiynau ynglŷn â chynnydd o ran y cynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' ac archwilio'r materion allweddol ar gyfer y cynllun nesaf. Rwyf i am gydnabod cyfraniad at y gwaith hwn hefyd gan y rhai sydd wedi byw trwy gyfnodau o salwch meddwl, am eu hegni a'u hymrwymiad nhw wrth ddarparu eu cyngor. Fy nghwestiynau i yw: er fy mod i'n...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Ardrethi Busnes (13 Hyd 2021)

Altaf Hussain: 6. A wnaiff y Gweinidog nodi polisi ardrethi busnes Llywodraeth Cymru ar gyfer y tymor seneddol hwn? OQ56991

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Ardrethi Busnes (13 Hyd 2021)

Altaf Hussain: Diolch. Weinidog, mae arweinydd eich plaid, Keir Starmer, wedi dweud bod y Blaid Lafur o blaid diddymu ardrethi busnes ac y dylid cael rhywbeth arall yn eu lle. Gŵyr pawb ohonom fod llawer o fusnesau yng Nghymru wedi ei chael hi'n anodd, a chyda ein trefi angen hwb economaidd, mae'n bryd mynd i'r afael â'n dull o roi cymorth busnes. A oedd Keir Starmer yn siarad ar eich rhan chi hefyd, ac...

4. Datganiadau 90 eiliad (13 Hyd 2021)

Altaf Hussain: Arthritis yw'r afiechyd mwyaf cyffredin yn y byd, ac mae'n effeithio ar 1 o bob 4 unigolyn. Caiff Diwrnod Arthritis y Byd ei nodi ledled y byd ar 12 Hydref—sef ddoe—bob blwyddyn, i addysgu'r cyhoedd ar ddiagnosis arthritis amserol a rheoli arthritis. Heddiw yw diwrnod olaf Wythnos Genedlaethol Arthritis yma yn y DU. Thema'r ymgyrch eleni yw 'Don’t Delay, Connect Today' gyda ffocws ar...

5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Manteision cymunedol prosiectau ynni (13 Hyd 2021)

Altaf Hussain: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o fod yn un o gyd-gyflwynwyr y ddadl hon. Fel gwlad, mae gennym dirwedd a morwedd anhygoel, sy'n llawn o fynyddoedd gwyntog ac arfordiroedd ysblennydd, gyda'r gallu i gynhyrchu ynni gwyrdd mewn ffordd a fyddai o fudd nid yn unig i gymunedau Cymru, ond a fyddai'n ychwanegu'n sylweddol at anghenion ynni'r DU yn y dyfodol. Wrth gwrs, mae potensial i ynni...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (19 Hyd 2021)

Altaf Hussain: Gweinidog, mae cyhoeddiad Llywodraeth y DU ar ariannu gofal cymdeithasol yn y dyfodol yn golygu mwy o arian i Gymru er mwyn sicrhau ein bod ni'n ymdrin â her cyllid cynaliadwy a thâl ac amodau staff. A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, i'w gyhoeddi ar ôl y toriad, er mwyn i'r Llywodraeth amlinellu'r hyn y mae'n ei gynnig nawr i Gymru? Diolch.

11. Dadl: Cael gwared â hiliaeth a chreu Cymru wrth-hiliol (19 Hyd 2021)

Altaf Hussain: Rwy'n falch o gael cyfrannu at y ddadl hon y prynhawn yma. Yn falch oherwydd fy mod i'n rhywun a ddaeth i'r wlad hon yn fewnfudwr yn chwilio am gyfle a chartref, felly rwy'n gwybod cymaint y mae'r wlad hon wedi gwella. Yn falch oherwydd bod y wlad yr wyf i'n byw ynddi bellach mor wahanol o ran ei hagweddau o'i chymharu â'r un y des i iddi. Yn falch oherwydd fy mod i wedi cael y cyfle i...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Y Gronfa Cymorth Dewisol (20 Hyd 2021)

Altaf Hussain: Weinidog, yn ôl tystiolaeth a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, ceir rhai heriau i fynd i'r afael â hwy. Dywedodd Karen Davies o Purple Shoots, darparwr Cyllid Cyfrifol, fod lefel ymwybyddiaeth o'r gronfa'n isel ac nad yw'n cael ei hyrwyddo'n dda, a nododd Shelter Cymru eu bod wedi gweld nifer sylweddol o geisiadau i'r gronfa cymorth dewisol yn cael eu...

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru ( 2 Tach 2021)

Altaf Hussain: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i dyfu economi Gorllewin De Cymru?

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Economi Gorllewin De Cymru ( 3 Tach 2021)

Altaf Hussain: 4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ddatblygu economi Gorllewin De Cymru? OQ57085

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Llwythi a Gludir gan Drenau ( 3 Tach 2021)

Altaf Hussain: Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Diolch, Weinidog. Mae'n dda eich gweld chi ar ôl chwe blynedd, a dweud y gwir. Fy nghwestiwn yw—[Chwerthin.] Y bedwaredd Senedd oedd hi, a hon yw'r chweched Senedd. [Chwerthin.]

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Economi Gorllewin De Cymru ( 3 Tach 2021)

Altaf Hussain: Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Weinidog, os ydym eisiau i bobl De Orllewin Cymru brofi manteision economi sy’n tyfu dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, rwy'n sicr fod angen inni weld strategaeth sy’n canolbwyntio nid yn unig ar greu swyddi, ond swyddi ar gyflogau uwch, gan wobrwyo sgiliau ac ymrwymiad y bobl leol. A all y Gweinidog nodi faint o swyddi newydd y mae'n bwriadu eu cefnogi dros...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Rhyddhau Cleifion o'r Ysbyty ( 3 Tach 2021)

Altaf Hussain: Weinidog, pe bai eich Llywodraeth wedi darparu system iechyd a gofal cymdeithasol fwy integredig dros yr 20 mlynedd diwethaf, efallai y byddai cynlluniau rhyddhau cleifion o'r ysbyty wedi bod yn fwy effeithlon ac yn well ar gyfer gofal cleifion. Rydym yn gwybod bod rhai cleifion yn aros yn hwy yn yr ysbyty oherwydd yr amser y gall ei gymryd i asesu eu hanghenion. A yw'r Gweinidog wedi...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Diwrnod y Cofio ( 9 Tach 2021)

Altaf Hussain: 4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i helpu cymunedau Cymru i ymgysylltu â diwrnod y cofio? OQ57135


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.