Rhianon Passmore: Iawn. Y cwestiwn y byddwn yn ei ofyn i’r rhai sy’n crochlefain am gael dychwelyd at system ddethol yw: a ydych chi wir eisiau gwahanu disgyblion Cymru? Mae’r ateb yn glir: rydych yn dymuno rhannu a gwahanu plant Cymru. Rwy’n gwrthwynebu’r cynnig hwn yn gryf.
Rhianon Passmore: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rhianon Passmore: A allech egluro eich safbwynt drwy’r cynnig hwn mewn perthynas ag ysgolion gramadeg cyfrwng Cymraeg?
Rhianon Passmore: Diolch i chi—ni ddywedaf ‘Llywydd’—Ddirprwy Lywydd—?
Rhianon Passmore: Dro dro—iawn, diolch. Yn gyntaf, hoffwn innau hefyd ddiolch i chi, Vikki. Fel cyn athrawes, rwy’n ddiolchgar i’r Aelod dros Gwm Cynon am godi’r mater pwysig hwn, ac rwy’n llwyr gefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i hyrwyddo addysg awyr agored drwy gydol y cyfnod sylfaen. Yn fy etholaeth i, cyfleusterau rhyfeddol megis Ffordd Goedwig Cwmcarn a Chanolfan Gweithgareddau Awyr Agored...
Rhianon Passmore: 9. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am berfformiad gwasanaeth ambiwlans Cymru? OAQ(5)0185(FM)
Rhianon Passmore: Diolch i chi am yr ateb yna. Yn amlwg, soniodd y Prif Weinidog am y ffaith fod gwasanaeth ambiwlans Cymru wedi ymateb, unwaith eto, i bron i 81 y cant o'r galwadau lle ceir y bygythiad mwyaf i fywyd mewn wyth munud neu lai ym mis Awst a, thrwy wneud hynny, mae wedi cyrraedd y targed am yr unfed mis ar ddeg yn olynol. Mae hynny'n glod enfawr i'n staff ambiwlans yng Nghymru. Felly, a wnaiff y...
Rhianon Passmore: O ran heddiw o bob diwrnod—i’r Torïaid sôn am dro pedol pan, yn sydyn, nad oes angen gwarged yn y gyllideb bellach ar gyfer cyni. Ond dyna ni. Rwy’n crwydro. Iawn. Rwyf eisiau croesawu’n gryf y datganiad heddiw gan Ysgrifennydd y Cabinet a'r ymagwedd gydadeiladol gadarnhaol gyda rhanddeiliaid ledled Cymru heddiw, sy'n amlinellu ffyrdd newydd o weithio, mwy o eglurder a sicrwydd...
Rhianon Passmore: Gwnaf ei ystyried.
Rhianon Passmore: Yr arian coll a addawyd ac a warantwyd o Gymru—. Efallai bod Paul Davies wedi mynd i brynu brecwast i rywun. Cafodd y mater hwn, yn ail—
Rhianon Passmore: Cafodd y mater hwn ei waethygu ymhellach gan angen demograffig sy’n cynyddu’n barhaus ac sy’n tyfu am ddarpariaeth o wasanaethau cyhoeddus lleol rhagorol. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod yr angen am fframwaith amserol, cydnerth a chryf yn hanfodol i Gymru, ac mai nawr yw’r amser i’r Siambr hon achub ar ei chyfle i gydsynio, rhoi'r gorau i din-droi dros bwyntiau gwleidyddol...
Rhianon Passmore: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rhianon Passmore: Er fy mod yn tueddu i gytuno â chi ei bod yn fenter boblogaidd iawn, o ganlyniad uniongyrchol i’r polisi hwn cafodd nifer sylweddol o dai cymdeithasol yr oedd eu hangen eu tynnu o’r sector. Mae hyn, ynghyd â’r ffaith nad oedd yr offerynnau angenrheidiol ar waith ar lefel awdurdodau lleol, o ganlyniad uniongyrchol i’r mentrau y sonioch amdanynt, wedi golygu bod rhestrau aros am dai...
Rhianon Passmore: A ydych yn gwybod beth yw’r data—yr ystadegau—ar lefelau adfeddiannu tai ar gyfer y rhai sydd wedi defnyddio’r hawl i brynu?
Rhianon Passmore: 5. Faint o bwys y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar ddarlledwyr sy'n derbyn arian cyhoeddus, o ran darparu lefelau uchel o raglenni gwreiddiol? OAQ(5)0201(FM)
Rhianon Passmore: Diolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog. Dywedodd prif weithredwr S4C, wrth roi tystiolaeth i'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yr wythnos diwethaf, bod 57 y cant o'u rhaglenni wedi cael eu dangos o'r blaen o'i gymharu â tharged o 20 y cant pan lansiwyd S4C ym 1982. Bydd cyllid o ffi trwydded y BBC ar gyfer S4C yn parhau i fod yn £74.5 miliwn y flwyddyn tan 2022, ac mae...
Rhianon Passmore: Rwy’n falch fod Plaid Cymru wedi dewis iechyd meddwl fel pwnc ar gyfer y ddadl yr wythnos hon, wythnos pan gafodd diwrnod iechyd meddwl ei nodi ar draws y byd. Mae ffigurau’n dangos y bydd salwch meddwl yn effeithio ar un o bob pedwar o bobl yn ystod eu bywydau, ac erbyn 2020, bydd y problemau sy’n gysylltiedig â salwch meddwl yn ail i glefydau’r galon fel prif gyfrannwr i’r baich...
Rhianon Passmore: [Yn parhau.]—y ddadl bwysig hon ac yn yr un modd, penderfyniad cadarn Llywodraeth Lafur Cymru i fynd i’r afael â heriau darparu iechyd meddwl. Diolch.
Rhianon Passmore: Yn gyntaf oll, diolch i chi, Joyce Watson, am adael i mi gymryd rhan yn y ddadl fer hon. Yn gyntaf, er hynny, hoffwn longyfarch yr Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru am ei gwaith ardderchog yn cynrychioli seneddwragedd y Gymanwlad o ranbarth yr Ynysoedd Prydeinig a Môr y Canoldir ar bwyllgor llywio seneddol rhyngwladol y Gymanwlad—mae’n lond ceg. Mae’n wych gweld Cymraes yn y...
Rhianon Passmore: 8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y gwahaniaeth y mae'r grant amddifadedd disgyblion yn ei wneud i ganlyniadau addysgol yn Islwyn? OAQ(5)0214(FM)