Vikki Howells: Hoffwn ddiolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n croesawu'n fawr iawn eich cyhoeddiad heddiw. Deallaf fod Llywodraeth Cymru yn amlwg ar gam cynnar iawn o ran y comisiwn, ond un peth yr hoffwn ganolbwyntio arno yw’r ffaith bod yn rhaid i’r datblygiadau seilwaith hyn yr ydym yn edrych arnynt gysylltu yn ôl i swyddi a gwaith a chyfleoedd hyfforddi da. Cefais fy nharo gan ffaith a...
Vikki Howells: Yn dilyn fy nghyfarfodydd â rhanddeiliaid, gan gynnwys grwpiau o ffermwyr yn fy etholaeth, a drefnwyd yn garedig gan yr FUW ac Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, ond cyfarfodydd hefyd yr wyf wedi’u cynnal â sefydliadau lles anifeiliaid, rwy’n gwybod y bydd mabwysiadu dull cytbwys a phwrpasol o fynd i'r afael â TB buchol, a amlinellir yn natganiad Ysgrifennydd y Cabinet, o gysur iddynt. ...
Vikki Howells: Bydd gwaith adeiladu yn dechrau yn fy etholaeth yn fuan ar ysgol gynradd gymunedol newydd yng Nghwmaman, lle mae’r awdurdod lleol yn defnyddio cyllid ysgolion yr unfed ganrif ar hugain i ddarparu cyfleusterau ysgol sy’n addas i’r diben. A wnewch chi ymuno â mi, Ysgrifennydd y Cabinet, i longyfarch Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf am y ffordd y mae’n ymwneud â’r rhaglen...
Vikki Howells: Brif Weinidog, mae ychydig dros draean o safleoedd busnes yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, ac ychydig yn llai na hanner yn yr Alban, yn elwa ar hyn o bryd ar ryddhad ardrethi busnes, o’i gymharu â dros 70 y cant o fusnesau Cymru. Edrychaf ymlaen at gyhoeddiad cynllun rhyddhad ardrethi parhaol Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau bach, ond a fydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau y bydd hwn yn dal i...
Vikki Howells: 7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddod â’r rhaglen Her Ysgolion Cymru i ben? OAQ(5)0037(EDU)
Vikki Howells: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn ddiweddar, ymwelais ag Ysgol Uwchradd Pontypridd yn fy etholaeth a chael trafodaeth ddefnyddiol gyda’r pennaeth ar sut roedd Her Ysgolion Cymru yn eu helpu i wella safonau. Er enghraifft, eu perfformiad yn 2016 oedd y gorau erioed o ran canlyniadau TGAU. Wedi dysgu mewn ysgol Her Ysgolion Cymru fy hun, yn yr ysgol a oedd wedi gwella orau ond un yng...
Vikki Howells: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn gyntaf, rhaid i mi ddweud pa mor falch yr wyf o glywed y bydd Rhondda Cynon Taf yn un o'r awdurdodau peilot yn y cynllun hwn. Rwy'n siŵr y bydd yn dod â manteision enfawr i fy ardal. Mae gennyf dri chwestiwn i chi heddiw. Yn gyntaf, Ysgrifennydd y Cabinet, tybed pa ystyriaeth yr ydych wedi'i rhoi i fodelau hyblyg ac amgen o ddarparu gofal plant...
Vikki Howells: Diolch, Lywydd a diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Hoffwn gofnodi fy nghefnogaeth lawn i'r cynnig a amlinellwch heddiw. Rydym ni i gyd yn gwybod pa mor bwysig yw twristiaeth fel sector i economi Cymru, ac mae'n gwbl hanfodol ein bod yn ei marchnata yn gryf wrth symud ymlaen, os yw am gynnal a gwella'r presenoldeb sydd ganddi ar hyn o bryd. Mae fy nghwestiwn cyntaf yn ymwneud â...
Vikki Howells: 6. A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wneir gan Lywodraeth Cymru i ostwng y cyfraddau gordewdra ymhlith plant? OAQ(5)0063(HWS)
Vikki Howells: Beirniadwyd cyhoeddiad cynllun gweithredu Llywodraeth y DU ar gyfer mynd i’r afael â gordewdra plentyndod gan ymgyrchwyr yn sgil glastwreiddio llawer o’r cynigion disgwyliedig, yn enwedig rhai’n ymwneud â siwgr ac ar hysbysebu bwydydd afiach. Yn ardal Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf, sy’n cynnwys fy etholaeth i, mae 28.1 y cant o blant pedair i bump oed yn cario gormod o bwysau neu’n...
Vikki Howells: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Dau gwestiwn ac fe geisiaf fod yn gryno, Gadeirydd. Hoffwn ddiolch i chi am y datganiad a wnaethoch heddiw, fel un o aelodau’r pwyllgor fy hun, ac rwy’n croesawu’r sylwadau ynglŷn ag edrych ar gyd-destun ehangach ffermio a rôl yr economi wledig, yn enwedig o ran yr iaith Gymraeg yn ogystal. Felly, yn gyntaf, fy nghwestiwn yw: sut y gallwn integreiddio’r...
Vikki Howells: Mae’r ddadl hon yn ein hatgoffa o’r heriau sy’n wynebu’r amgylchedd naturiol, nid yn unig yng Nghymru, ond yn y moroedd a’r cefnforoedd sy’n ffinio â’n gwlad. Y bygythiadau sy’n wynebu’r ecosystemau morol bregus hyn, a’r camau y gallwn eu cymryd i liniaru eu heffaith, fydd canolbwynt fy nghyfraniad heddiw. Wedi’r cyfan, ni ddylem byth anghofio bod dyfroedd tiriogaethol...
Vikki Howells: 1. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl y mae clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint yn effeithio arnynt? OAQ(5)0263(FM)
Vikki Howells: Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Cefais gyfarfod â Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint yn ddiweddar i drafod mynediad at wasanaethau adsefydlu cleifion yr ysgyfaint i’r 2,000 o bobl yn fy etholaeth i sy'n byw gyda COPD. Er bod y rhai yng nghlwstwr meddygon teulu gogledd Cynon yn cael eu cludo i Ferthyr yn gymharol hawdd, gall y rhai yn y de wynebu anawsterau, gan orfod teithio i Donypandy, dros...
Vikki Howells: Mae beicio anghyfreithlon oddi ar y ffordd yn fath o drosedd tirwedd sy’n niweidio ein tirwedd naturiol ac sy’n gallu bod yn beryglus i’r cyhoedd hefyd. Yn ddiweddar, datgelodd Cyfoeth Naturiol Cymru fod 22 o bobl wedi cael eu harestio am feicio anghyfreithlon oddi ar y ffordd yn ne Cymru ym mis Tachwedd yn unig, ac mae llawer o drigolion rwyf wedi siarad â hwy yn fy etholaeth wedi...
Vikki Howells: 5. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o waith consortia rhanbarthol o ran gwella cyrhaeddiad addysgol yng Nghwm Cynon? OAQ(5)0052(EDU)
Vikki Howells: Yn ddiweddar, cyfarfûm â chynrychiolwyr o Gonsortiwm Canolbarth y De yn Ysgol Gyfun Aberpennar yn fy etholaeth, ac roeddwn yn falch o glywed am y gwelliant y mae’r consortiwm wedi’i weld o un flwyddyn i’r llall ar draws pob dangosydd perfformiad, o gyfnod allweddol 2 i gyfnod allweddol 5. Mae llwyddiant mewn ardaloedd fel Caerdydd yn aml yn seiliedig ar waith gyda disgyblion o...
Vikki Howells: Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'r diwygiadau addysgol eang a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru mewn meysydd sy’n cynnwys y cwricwlwm, cymwysterau a datblygiad proffesiynol athrawon wedi eu croesawu gan athrawon a’u cefnogi'n llawn gan yr OECD. Rwy’n croesawu eich sicrwydd pendant y byddwn yn dal at yr agenda hon yn gadarn, yn hytrach na gwyro oddi wrth y llwybr yr ydym wedi’i osod i...
Vikki Howells: Fel y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ein hatgoffa yn ‘Gwneud Gwahaniaeth’, eu meysydd polisi â blaenoriaeth ar gyfer creu Cymru iach, mae dros hanner oedolion Cymru ac oddeutu chwarter plant Cymru yn cario gormod o bwysau neu’n ordew, gyda phroblemau penodol mewn cymunedau difreintiedig, fel fy un i yn Rhondda Cynon Taf, lle y mae’r ffigur yn 63 y cant o oedolion. Os yw nifer y bobl...
Vikki Howells: A yw'r Prif Weinidog yn cytuno y bydd cwblhau'r ffordd gyswllt ar draws y Cymoedd yn Aberpennar yn lleihau tagfeydd yn y rhan benodol hon o Ganol De Cymru ac, yn ogystal, y bydd yn chwarae rhan bwysig i gynorthwyo’r llif dwyffordd o gyfalaf a llafur yng nghynlluniau economaidd y dyfodol, fel prifddinas-ranbarth Caerdydd?