Rhun ap Iorwerth: Mae camddefnydd sylweddau yn rhywbeth sy’n gadael ei ôl ar unigolion, ac yn gadael ei ôl ar deuluoedd a chymunedau ledled Cymru. Mae’n effeithio ar iechyd y rheini sy’n camddefnyddio–neu’n waeth, wrth gwrs: mae nifer y marwolaethau yng Nghymru o ganlyniad i gamddefnydd cyffuriau wedi treblu mewn 20 mlynedd. Mae yna effaith ar yr economi hefyd, wrth gwrs, o ran colled incwm i...
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr. Rydym ni’n nodi’r adroddiad yma heddiw. Mi gefnogwn ni y gwelliannau gan y Ceidwadwyr hefyd. Rwy’n edrych ymlaen i glywed ymateb y Gweinidog i rai o fy nghwestiynau, ond yn bennaf oll at allu edrych yn ôl ar lwyddiant yn y maes yma ar ôl gormod o fethiant yn y gorffennol.
Rhun ap Iorwerth: Halen Môn.
Rhun ap Iorwerth: Roeddwn yn falch iawn o glywed bod Halen Môn, sydd wrth gwrs yn destun gwarchodaeth Ewropeaidd, yn un o’r pum cynnyrch Cymreig diwethaf i’r Ysgrifennydd Cabinet eu prynu. Rwyf wedi bod yn trafod efo Halen Môn, yn digwydd bod, y syniad yma rydw i wedi bod yn ceisio cael cefnogaeth iddo o datblygu parc cynhyrchu bwyd ar Ynys Môn. Rydw i’n bryderus iawn am beth sy’n mynd i fod yn...
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch o gynnig y gwelliant yna ac o siarad yn y ddadl yma. Rydw i’n credu bod cynllunio gweithlu ac ymateb i’r broblem o brinder staff, neu’r argyfwng o brinder staff mewn rhai meysydd o’r gwasanaeth, yn un o’r materion mwyaf allweddol sy’n ein hwynebu wrth inni geisio cynllunio NHS sydd wir yn ateb gofynion pobl Cymru. Rwy’n croesawu’r...
Rhun ap Iorwerth: Rwyf bron â gorffen.
Rhun ap Iorwerth: Wrth gwrs mae yna lawer o dystiolaeth anecdotaidd. Mae hwn yn waith sy’n cael ei wneud. Rwy’n credu ei fod eisoes ar y gweill yn awr. Mae’n waith sy’n hanfodol. Gwyddom o dystiolaeth anecdotaidd fod hyn yn digwydd. Mae arnom angen y dystiolaeth empirig, yn bendant. Rwy’n gwbl argyhoeddedig mai felly y mae. Gallwn sôn hefyd, wrth gwrs, am yr angen i wneud hyn ac i sicrhau bod gennym...
Rhun ap Iorwerth: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rhun ap Iorwerth: Beth fyddai eich neges i’r busnes bach llwyddiannus yn fy etholaeth sydd wedi penderfynu gohirio pob buddsoddiad am y tro hyd nes y bydd mater gadael yr UE wedi ei ddatrys? Hyd yn oed os yw popeth yn mynd i fod yn wych ar y diwedd, byddwn wedi colli dwy, tair, pedair neu bum mlynedd o fuddsoddi posibl yn y busnes hwnnw.
Rhun ap Iorwerth: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rhun ap Iorwerth: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rhun ap Iorwerth: Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am y datganiad. Mae hwn yn faes sy’n sicr yn flaenoriaeth i ni ym Mhlaid Cymru, a dyna pam, wrth gwrs, yr oeddem ni’n benderfynol o gael ymrwymiad yn y maes yma yn rhan o’r cytundeb ôl-etholiadol. Mi ydym ni’n wynebu argyfwng ac, yn wyneb argyfwng o’r math yma, mae angen gweithredu brys. Mae yna lai o feddygon teulu y pen...
Rhun ap Iorwerth: Rwyf wedi ymweld yn yr wythnosau diwethaf â dwy fferyllfa yn fy etholaeth i—fferyllfa Rowlands yn Llanfair Pwllgwyngyll a fferyllfa Boots yn Llangefni. Mae fferyllfeydd, wrth gwrs, yn chwarae rhan hanfodol o fewn y ddarpariaeth ehangach o ofal sylfaenol ac mi fyddwn i’n sicr yn dymuno gweld y ddarpariaeth honno yn cael ei hymestyn. A ydy’r Prif Weinidog yn cytuno â mi bod angen cael...
Rhun ap Iorwerth: A gaf i groesawu’r datganiad yma? Rydym ni’n siarad yn y fan hyn am ddwy elfen, rydw i’n meddwl, o wendidau yn y ddarpariaeth iechyd sydd ar hyn o bryd yn arwain at rwystredigaeth ymhlith cleifion a’u teuluoedd, a lle mae yna wir deimlad bod yna, mewn rhyw fodd, annhegwch yn y system. Mi rof i sylw yn gyntaf i’r cyhoeddiad ynglŷn â’r adolygiad annibynnol o’r broses ceisiadau...
Rhun ap Iorwerth: Ni wnaf i siarad yn hir, dim ond i ategu llawer o’r hyn sydd wedi cael ei grybwyll yn barod gan nifer o Aelodau, sef beth sy’n bwysig o ganlyniad i’r broses rydym wedi mynd drwyddi o ran y siarter ydy’r hyn sy’n cael ei weithredu yng Nghymru. Mae yna fygythiadau yn wynebu BBC Cymru a darlledu yng Nghymru, heb os, o ganlyniad i’r siarter a fydd gennym ni wrth symud ymlaen. Heb os,...
Rhun ap Iorwerth: Yn sicr.
Rhun ap Iorwerth: Rydych yn llygad eich lle, ac rwyf yn cytuno â'r pwyntiau a godwyd gennych. Mae materion ymarferol penodol o ran sicrhau y gall cynulleidfaoedd ar hyd a lled Cymru wylio gwasanaethau BBC Cymru drwy eu teledu a'u radio, ac mae angen i ni sicrhau yr eir i’r afael a nifer y bobl sy'n derbyn rhaglenni rhanbarthol Lloegr yn hytrach na rhaglenni cenedlaethol Cymru. Mae’r cwbl yn dibynnu ar y...
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Wel, rydym wedi cyflwyno’r cynnig heddiw am reswm syml iawn: credwn fod y fwrsariaeth nyrsio yn werthfawr ac rydym yn chwilio am eglurder gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â’i bwriadau mewn perthynas â dyfodol y fwrsariaeth. Gwyddom fod Llywodraeth y DU wedi penderfynu dileu’r fwrsariaeth yn Lloegr gan ganu larymau yng Nghymru, ac yn yr Alban hefyd. Ond ar 20...
Rhun ap Iorwerth: Yn sicr.
Rhun ap Iorwerth: Yn hollol, oherwydd mae’r cyfnod hyfforddi a gweithio yn y GIG yn ffordd o agor y drws ar yrfa yn y dyfodol yn yr ardaloedd lle rydym yn ei chael hi’n anodd recriwtio iddynt o bosibl. Rwy’n credu bod nyrsys yn haeddu cael eu talu am y gwaith a wnânt—am weithio’r hyn sy’n cyfateb i swydd amser llawn yn y GIG wrth astudio. Er enghraifft, a yw’n ymarferol iddynt weithio’n...