Jeremy Miles: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Jeremy Miles: Mae hi'n codi'r cwestiwn o bobl yn teimlo eu bod yn gallu rhannu eu profiadau. A fyddai hi'n cydnabod bod nifer yr achosion o droseddau casineb trawsffobaidd a adroddir yn sylweddol is na’r rhai sy’n digwydd mewn gwirionedd, sef tua 1 y cant o'r holl droseddau casineb? Ac, a fyddai hi'n cytuno bod pwyslais ar waith cymunedol rhwng sefydliadau trawsrywiol a'r heddlu, er enghraifft,...
Jeremy Miles: 7. A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i’r YMCA yng Nghymru? OAQ(5)0050(CC)
Jeremy Miles: Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ateb hwnnw. Cafwyd 27,000 o ymweliadau â’r YMCA yng Nghastell-nedd y llynedd, fel rhan o rwydwaith o ganolfannau YMCA ledled Cymru, sydd gyda’i gilydd yn darparu llety â chymorth, hyfforddiant, addysg a ffitrwydd a lles yn ogystal ag ystod o wasanaethau eraill. Mae nifer wedi bod yn gweithredu ar sail clystyrau at ddibenion cydweithio. A yw’n...
Jeremy Miles: Diolch yn fawr, Brif Weinidog, am eich ateb i Bethan Jenkins. A gaf i gydnabod y gwerth y mae Bethan wedi ei neilltuo i’r rhan y mae Canolfan Gelfyddydau Pontardawe yn ei chwarae yn y gymuned? Roeddwn i, fy hun, gyda Bethan yn gwylio 'The Revlon Girl' yno ychydig ddiwrnodau yn ôl. A fyddai hefyd yn cydnabod—[Chwerthin.] Nid ‘gyda’ yn union. [Chwerthin.] A fyddai hefyd yn...
Jeremy Miles: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n croesawu'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet. Rydych yn nodi yn yr ymgynghoriad bod angen i waith y comisiwn, a chyngor y comisiwn, gael eu gosod yng nghyd-destun rhagolwg realistig o lefel y buddsoddiad cyfalaf sy'n debygol o fod ar gael, ac rydych wedi siarad ychydig am yr ystod o ffynonellau y gallai hynny ddod ohonynt. Ai eich bwriad yw y byddai’r...
Jeremy Miles: Yn ail, yn fyr, o ran y meini prawf fydd yn cael eu defnyddio i asesu hyfywedd unrhyw brosiect penodol, ai’r bwriad yw edrych yn ehangach ar effaith prosiect penodol ar yr economi leol a rhanbarthol ac, mewn gwirionedd, yr economi genedlaethol? Gofynnaf y cwestiwn gan fy mod yn casglu mai dim ond dau brosiect trafnidiaeth, Crossrail ac ymestyn llinell y gogledd, sydd wedi cael y golau...
Jeremy Miles: A gaf i ddechrau gan ategu’r diolch mae’r Gweinidog a Sian Gwenllian wedi ymestyn i’r Comisiynydd am ei gwaith yn paratoi’r adroddiad yma? Rwy’n croesawu’r adroddiad ac yn croesawu’r cyfle i drafod yr adroddiad a chroesawu’r gwelliannau sydd wedi dod wrth Blaid Cymru hefyd. Mae’r adroddiad wedi’i lunio o safbwynt y defnyddiwr, hynny yw, y person sy’n gofyn am y...
Jeremy Miles: A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygu Trysorlys Cymru?
Jeremy Miles: Yn ogystal â chynhyrchu ynni adnewyddadwy, a yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi bod storio a dosbarthu cynaliadwy yn hanfodol i'n dyfodol ynni cynaliadwy, ac a yw’n croesawu'r gwaith ymchwil arloesol sy'n cael ei wneud i storio a dosbarthu ynni arloesol gan brifysgolion Caerdydd, Abertawe a de Cymru, trwy brosiect FLEXIS, sydd â’r nod o ddatblygu safle arddangos yng Nghastell-nedd Port...
Jeremy Miles: Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad, a chroesawaf hynny, a diolch iddo hefyd am ei ragrybudd o’r datganiad, a roddodd, o safbwynt personol, ddigon o amser i mi ei ddarllen ymlaen llaw. Mae wedi crybwyll yn ei atebion hyd yn hyn —ac mae wedi’i ailadrodd yn y datganiad, a chroesawaf hynny—yr ymrwymiad i ymgysylltu â'r cymunedau i lywio gwaith y tasglu. A gaf i ei holi ychydig...
Jeremy Miles: Yn y pwyllgor materion allanol ddydd Llun, cawsom dystiolaeth y gallai’r Bil diddymu Ewropeaidd, os yw’n unrhyw beth mwy na Bil arbed syml, dorri confensiwn Sewel ac adfachu pwerau gan Weinidogion Cymru. A yw’n cytuno bod angen i ni fod yn wyliadwrus na ddefnyddir y Bil diddymu, fel y mae Bil Cymru yn cael ei ddefnyddio, i dynnu’n ôl elfennau o’r setliad cyfansoddiadol Cymreig nad...
Jeremy Miles: Diolch, Lywydd. Diolch am y cyfle hwn i drafod a dathlu gwaith haearn abaty Nedd, a diolch am yr ychwanegiad newydd hwn yn y Siambr. Mae’r gwaith haearn heddiw yn safle dadfeiliedig, ond fel llawer o safleoedd diwydiannol yng Nghymru, roeddent yn arfer bod yn fan lle y bu cryn arloesi, o’r mwyndoddi copr cynharaf, ac yn fwy diweddar, lle y sefydlwyd gwaith haearn a oedd yn hanfodol yn...
Jeremy Miles: Diolch i Hannah Blythyn am roi munud o’i hamser i mi. Yn amlwg, rwy’n cynrychioli etholaeth yn ne Cymru, ond fy nghyfraniad i’r ddadl, mewn gwirionedd, yw dweud bod y blaenoriaethau a nodwyd gan Hannah Blythyn yn ei haraith yn rhai y dylem eu canmol a’u cefnogi ym mhob rhan o Gymru. Maent yn hanfodol ar gyfer ein datblygiad economaidd a’n dyfodol economaidd cadarn, ym mha ran bynnag...
Jeremy Miles: Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ddatganiad. Os caf ddweud, mae’n ddatganiad o ffaith sydd i'w groesawu ac yn ddyfarniad da yn y ddadl, dros y dyddiau diwethaf, y tu allan i'r Siambr hon, sydd, yn rhy aml o lawer, heb gynnwys llawer iawn o’r naill na’r llall. Heddiw o bob diwrnod, efallai y byddwch yn cofio bod ail Arlywydd yr Unol Daleithiau, John Adams, wedi disgrifio Prydain...
Jeremy Miles: Un o’r amcanion y dylem ei osod i ni ein hunain yw sicrhau bod y llwybr tuag at waith i’r rhai sy’n gadael y lluoedd arfog yn cael ei gefnogi fel y gallant barhau i gyflawni eu potensial yn y gweithlu sifil. Ar draws y DU, mae cyn-filwyr yn llai tebygol o fod mewn gwaith na’r boblogaeth yn gyffredinol, ac maent bron ddwywaith yn fwy tebygol o fod yn ddi-waith. Nawr, mae yna resymau...
Jeremy Miles: 9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wydnwch gwasanaethau gofal plant a gaiff eu darparu gan fentrau cymdeithasol? OAQ(5)0073(CC)
Jeremy Miles: Rwy’n diolch iddo am y datganiad hwnnw. Yfory, fel y mae’n gwybod, yw Diwrnod Mentrau Cymdeithasol. Mae llawer o leoliadau gofal plant yn cael eu darparu drwy gyfrwng mentrau cymdeithasol, fel y bydd yn gwybod gan ei fod yn gyfarwydd â lleoliadau yn fy etholaeth. Mae sicrhau gwydnwch y sector yn hanfodol, ac mae hynny’n cynnwys y sgiliau rheng flaen, wrth gwrs, ond hefyd, yn bwysig,...
Jeremy Miles: A gaf fi gymeradwyo Steffan Lewis am ddod â’r ddadl hon i’r tŷ ac am gyflwyno’r cynnig? Rwy’n ei gefnogi, ac rwy’n cefnogi safbwynt Llywodraeth Cymru a galwadau Undeb Cenedlaethol y Glowyr dros nifer o flynyddoedd am adolygu’r trefniant rhannu gwarged. Cafodd rhannau o fy etholaeth eu hadeiladu ar y diwydiant glo. Mae llawer iawn o bobl yn dal i hawlio o dan y pensiwn fel...
Jeremy Miles: A gaf i longyfarch Ysgrifennydd y Cabinet ar ymweliad llwyddiannus â Japan? Mae'n amlwg yn bwysig cadw'r marchnadoedd hyn ar agor ar gyfer allforion o Gymru. A gaf i ofyn iddo fynd i'r afael â'r heriau penodol a wynebir gan fusnesau bach a chanolig wrth allforio, y mae hanner ohonynt yn dibynnu'n helaeth ar y rhyngrwyd i yrru gwerthiant allforio? Soniodd ei fod wedi cael rhywfaint o...