Mandy Jones: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer cwricwlwm y cyfnod sylfaen?
Mandy Jones: Beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu economaidd yng Ngogledd Cymru?
Mandy Jones: 2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i harneisio pŵer ynni'r llanw yng Ngogledd Cymru? OAQ52315
Mandy Jones: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Yr wythnos diwethaf, cynigiodd y Prif Weinidog £200 miliwn i wella rhagolygon morlyn llanw bae Abertawe. Fel arfer, mae'r ffocws cyfan wedi bod ar dde Cymru pan fo arfordir gogledd Cymru yn barod i gael ei ystyried ar gyfer y math hwn o brosiect. Rwy'n siŵr y byddai hyd yn oed canran fach o'r £200 miliwn hwnnw yn helpu i roi hwb cychwynnol i'r cysyniad...
Mandy Jones: Ydw, rwy'n gwrthwynebu.
Mandy Jones: Byddaf, fe fyddaf yn siarad.
Mandy Jones: Diolch. Mae'n ddrwg gennyf. Rwy'n gwrthwynebu'r cynnig i alw Neil Hamilton ar gyfer y Comisiwn. Mae rôl y Comisiynydd yn mynd i galon y lle hwn—sut y caiff ei redeg, sut y mae'n cynllunio ar gyfer y dyfodol, a sut y caiff ei weld gan y cyhoedd. Mae'r Comisiwn—a dyfynnaf oddi ar ein gwefan— 'yn gyfrifol am ddarparu eiddo, staff a gwasanaethau i gefnogi Aelodau'r Cynulliad'. Un o'r...
Mandy Jones: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ynni adnewyddadwy yng Ngogledd Cymru?
Mandy Jones: 4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am lefelau'r dreth gyngor yng Ngogledd Cymru? OAQ52356
Mandy Jones: 1. A wnaiff y Comisiynydd ddatganiad am gynnydd yn erbyn yr uchelgais a nodir yn strategaeth gyfredol Comisiwn y Cynulliad i ymgysylltu â holl bobl Cymru a hyrwyddo'r Cynulliad? OAQ52370
Mandy Jones: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol?
Mandy Jones: Diolch am eich ateb. Rwy'n croesawu'r ffaith bod wyth awdurdod lleol wedi rhoi esemptiad i bobl sy'n gadael gofal yn eu hardaloedd rhag talu'r dreth gyngor hyd nes y byddant yn 25 oed, gan gynnwys un yn fy rhanbarth i, Ynys Môn. Mae hyn yn rhoi cyfle i bobl sy'n gadael gofal bontio'n well i fyw'n annibynnol heb ofni ymateb anghymesur gan gynghorau os na allant dalu'r dreth gyngor....
Mandy Jones: Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Gwn y bydd y Senedd yn fy rhanbarth i yn Nelyn yr wythnos nesaf ac rwy'n croesawu'n fawr iawn y cyfle i bobl o bob cwr o Gymru weld a chlywed am yr hyn sy'n digwydd yn y lle hwn. Mae gennyf ddiddordeb arbennig heddiw yn yr uchelgeisiau a nodwyd yn y strategaeth i ganolbwyntio ar ddod wyneb yn wyneb â phobl sydd wedi ymddieithrio a thrwy dargedu gwell. Beth y...
Mandy Jones: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyllid awdurdodau lleol yng Ngogledd Cymru?
Mandy Jones: 4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am addysgu sgiliau digidol mewn ysgolion yng Ngogledd Cymru? OAQ52416
Mandy Jones: Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Darllenais yn ddiweddar eu bod yn gwthio ffiniau yn Tsieina mewn perthynas â sgiliau codio, a bod hyd yn oed plant cyn ysgol yn dysgu'r sgiliau sylfaenol, gan ddefnyddio apiau a gwersi ar-lein yn aml. Mae bron i flwyddyn wedi bod bellach ers eich datganiad ar 'Cracio'r Cod' lle y dywedoch y byddech yn annog clybiau codio i ffurfio ledled Cymru....
Mandy Jones: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyfraddau goroesi canser yng Ngogledd Cymru?
Mandy Jones: Ysgrifennydd y Cabinet, y mis diwethaf, croesawais eich datganiad ar y buddsoddiad mewn cerbydau yng ngogledd Cymru i helpu i wella trafnidiaeth ar draws y rhanbarth. Fodd bynnag, mae'n siomedig y bydd yn rhaid i rannau o ogledd Cymru fodloni ar drenau 30 oed a arferai fod yn drenau rheilffyrdd ardal, yn wahanol i dde Cymru, a fydd yn cael rhai newydd sbon. Ysgrifennydd y Cabinet, a fyddech...
Mandy Jones: Prif Weinidog, dywedodd un o'm hetholwyr ei fod wedi gweld 15 o ambiwlansys yn ciwio y tu allan i adran achosion brys yn y gogledd heb fod ymhell yn ôl. Dyma'r bwrdd iechyd sy'n dal i fod yn destun mesurau arbennig, yn dal i fod o dan oruchwyliaeth eich Llywodraeth chi. Mae hynny'n 15 o ambiwlansys nad ydynt ar gael i helpu'r rhai sydd angen cymorth yn ddybryd mewn mannau eraill. Ymddengys...
Mandy Jones: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae'r gaeaf yn prysur agosáu, ac mae'r rhagolygon yn awgrymu bod hwn yn mynd i fod yn un gwael. Nid yw'n ymddangos eich bod chi byth yn ateb cwestiynau, a bob amser yn rhoi'r bai ar gyni cyllidol y Torïaid. Pa gymorth y mae eich Llywodraeth yn bwriadu ei roi i awdurdodau lleol a'r asiantaethau sydd ar y rheng flaen yn ymdrin â'r epidemig cysgu ar y stryd yng...