David Melding: Brif Weinidog, nid wyf yn gwybod os ydw i'n mynd i’ch cynorthwyo, ond beth bynnag, gadewch i mi atgoffa'r Siambr ein bod, dros y 15 mlynedd diwethaf, wedi adeiladu cyfartaledd o 8,000 o gartrefi y flwyddyn yng Nghymru, pan nododd tueddiadau bod angen i ni adeiladu 12,000 o gartrefi y flwyddyn i gadw i fyny â'r galw. Os ydym ni’n mynd i ddal i fyny o gwbl, mae’n debyg y bydd yn rhaid i...
David Melding: Weinidog, yn y rhan fwyaf o wledydd sydd wedi llwyddo i annog cynhyrchu ynni’n lleol, maent wedi addasu’r farchnad er mwyn rhoi cymhelliant i ganiatáu hyn, gan gynnwys rheolaeth neu fynediad i’r grid. Gwn nad yw’r pwerau hyn yn eich dwylo chi, ond a ydych yn trafod gyda’r awdurdodaethau eraill pa ffyrdd y gallem agor y farchnad ac annog cynhyrchu ynni’n lleol?
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, fe gewch gefnogaeth os byddwch yn cyflwyno deddfwriaeth yn y maes hwn, gan y Ceidwadwr hwn beth bynnag. [Torri ar draws.] Wel, rwy’n cofio fy mod i a nifer o gyd-Aelodau ar y meinciau hyn, mewn Cynulliadau blaenorol, wedi dweud ei bod yn bryd symud ymlaen a rhoi diwedd ar yr arfer hwn. Mae’n rhaid i mi ddweud nad wyf yn cytuno’n llwyr â geiriad y cwestiwn,...
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n siŵr eich bod yn ymwybodol mai’r unig beth sy’n mynd i drechu tlodi plant mewn gwirionedd yw polisi integredig iawn ar draws meysydd y Llywodraeth. Er enghraifft, mae’r lefel o anweithgarwch economaidd yn cael effaith fawr ar nifer y plant sy’n byw mewn tlodi. Gobeithiaf y byddwch yn siarad â’ch cyd-Aelodau, Gweinidog yr economi a’r Ysgrifennydd...
David Melding: Diolch i chi, Lywydd, am eich goddefgarwch. A gaf i groesawu'r ymrwymiad i ddarparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol, Brif Weinidog? Rwyf i wedi cyfrifo—a hoffwn i chi gadarnhau hyn—bod hynny’n golygu eich bod yn cynyddu’r targed ar gyfer y pum mlynedd nesaf ar gyfer y farchnad dai i gynhyrchu, nid 8,000 o gartrefi y flwyddyn, ond 12,000 o gartrefi y flwyddyn erbyn hyn. Rwyf...
David Melding: Weinidog, cerddais i'r gwaith y bore yma a byddaf hefyd yn cerdded adref. Cerddais ar draws y morglawdd o Benarth. Weithiau byddaf yn dilyn y llwybr arall ar draws Pont y Werin. Mae’r daith honno ychydig yn hwy. Ni fyddai'r un o'r llwybrau hyn wedi bod ar gael i mi bum neu chwe blynedd yn ôl. Yr unig ffordd y gallwn i fod wedi cerdded i mewn i'r Cynulliad bryd hynny oedd i lawr Heol...
David Melding: 1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y broses i sefydlu meiri etholedig yng Nghymru? OAQ(5)0019(FLG)
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych yn edifar am y penderfyniad i godi’r trothwy sydd ei angen i sbarduno refferendwm? Oherwydd rydym bellach wedi gweld bod y defnydd o feiri etholedig wedi adfywio llywodraeth leol ar hyd a lled y DU ac yn wir, dyna sydd wrth wraidd datganoli yn Lloegr. Mae llawer o bobl yn teimlo y dylid cyflwyno’r cwestiynau hyn i’r etholwyr o leiaf, heb amodau afresymol...
David Melding: Lywydd, a gaf fi eich llongyfarch chi a’r Pwyllgor Busnes am gyflwyno’r weithdrefn hon. Carwn pe bai wedi’i rhoi ar waith yn ystod y pedwerydd Cynulliad pan oeddwn yn Gadeirydd pwyllgor. Efallai fod cyswllt uniongyrchol â’r ffaith nad wyf bellach yn Gadeirydd y gellir ymddiried ynom yn awr i gyflawni’r fath waith craffu ac adborth yn y Siambr. Credaf fod y ffordd y mae’r...
David Melding: Beth yw asesiad Llywodraeth Cymru o'r tai newydd sydd angen eu hadeiladu i ddiwallu'r galw ym marchnad dai Cymru?
David Melding: 9. Pa fesurau sydd ar waith i wella presenoldeb mewn ysgolion, yn enwedig o ran disgyblion sy’n cael prydau ysgol am ddim? OAQ(5)0025(EDU)
David Melding: Mae’n ddrwg gennyf.
David Melding: Weinidog, er bod y sefyllfa’n gwella’n raddol, mae absenoldeb yn parhau i fod yn bryder mewn bron i draean o’n hysgolion uwchradd. Mae’r rhai sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim ddwywaith yn fwy tebygol o fod yn absennol na’r rhai nad ydynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, ac mae ychydig o dan un rhan o bump o’r rhai sy’n cael prydau ysgol am ddim yn absennol yn...
David Melding: Rwy’n teimlo fel pe bawn mewn sefyllfa freintiedig, fel y llefarydd tai, gan fod yna ymrwymiad—ymrwymiad penodol—yn y rhaglen lywodraethu y gallaf ymateb iddo. A dweud y gwir, roeddwn yn falch iawn—wedi cynhyrfu hyd yn oed—pan ddarllenais fod Llywodraeth Cymru yn anelu i ddarparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol yn ystod tymor y Cynulliad hwn. Yna, edrychais yn fanylach ar...
David Melding: Diolch i chi am ildio. Mewn cyfnod o bum mlynedd, sut y gallwch chi ymrwymo i adeiladu 20,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol ac eto mae eich targed blynyddol yn parhau i fod yr un fath, sef 8,700? Mae’n drech na fy ngallu i’w resymu. Eglurwch os gwelwch yn dda.
David Melding: 10. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella cyfranogiad pleidleiswyr, yn arbennig pobl ifanc? OAQ(5)0184(FM)
David Melding: Brif Weinidog, a ydych chi’n cytuno efallai mai awdurdodau lleol sydd yn y sefyllfa orau i fod yn alluogwyr trwy ryddhau tir, neu, fodel sy'n cael ei ffafrio mewn llawer o wledydd Ewropeaidd yw cynorthwyo grwpiau cymdogaeth a chymunedol sydd eisiau dod at ei gilydd i adeiladu eu cynlluniau eu hunain? Rwy'n gweld hon fel ffordd ymlaen i lawer o bobl ifanc y dyddiau hyn sydd wedi eu hallgau...
David Melding: Un defnydd allai fod gostwng yr oedran pleidleisio i 16 oed ar gyfer ein hetholiadau. Credwyd bod hyn wedi gweddnewid cyfranogiad pleidleiswyr ymhlith pobl iau yn yr Alban pan newidiwyd y gyfraith ar gyfer refferendwm yr Alban. Byddai hefyd yn caniatáu i ni hyrwyddo mewn modd gwych iawn, yn y grŵp oedran 14 i 18 oed, y cysyniad hollol newydd o addysg dinasyddiaeth a chyfranogiad...
David Melding: Weinidog, rwy’n meddwl ein bod ni i gyd eisiau mwy o gydweithio yn y sector treftadaeth. Rwy’n credu bod hynny'n rhywbeth a fyddai'n dda bawb ohonom, yn enwedig o ran mentrau marchnata. Ond, wyddoch chi, rydym ni’n wynebu rhai ffeithiau caled iawn yma. Mae'r amgueddfa genedlaethol wedi bod yn gorff annibynnol ers y 1920au, wedi’i sefydlu gan siarter frenhinol. Y rheswm y sefydlwyd y...
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, nid yw’r hen fodel gofal sylfaenol mor ddeniadol i lawer o feddygon ifanc, yn enwedig y gost gyfalaf uchel, er enghraifft, sy’n rhaid iddynt ymrwymo iddi mewn partneriaeth. Hefyd, mae llawer o feddygon teulu ifanc eisiau parhau at lefel o arbenigedd ac unwaith eto, oni bai bod yna bractisau mwy o faint, gall hyn fod yn anodd iawn. Mae’n ymddangos i mi fod y ddau...