Canlyniadau 41–60 o 2000 ar gyfer speaker:Andrew RT Davies

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau
(28 Meh 2016)

Andrew RT Davies: Brif Weinidog, ni ddywedais 'o dan glo yn y Trysorlys'. Dywedais y bydd model newydd ar gyfer y ffordd y bydd Llywodraeth yn gweithredu mewn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig. Rwyf wedi gofyn dau gwestiwn i chi heddiw. Y cwestiwn cyntaf oedd: a wnaethoch chi ymrwymo eich hun yn llawn i'r refferendwm? Ni wnaethoch ymateb i'r cwestiwn hwnnw. Gofynnais i chi pa waith modelu yr oedd Llywodraeth Cymru...

2. 2. Dadl: Canlyniad Refferendwm yr UE (28 Meh 2016)

Andrew RT Davies: Croesawaf y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw. Yn amlwg, oherwydd y refferendwm ddydd Iau diwethaf, mae mandad clir wedi ei roi i'r Llywodraethau ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig nawr i ddeddfu’r dymuniadau hynny. Roedd ymrwymiad clir gan Gymru a rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig eu bod yn dymuno ailgydbwyso eu perthynas â'r Undeb Ewropeaidd. Bydd y trafodaethau yn dechrau, ac yn...

2. 2. Dadl: Canlyniad Refferendwm yr UE (28 Meh 2016)

Andrew RT Davies: Rwy'n credu bod cyfleoedd enfawr—[Torri ar draws.]—buddsoddiad, arloesedd ac adeiladu dyfodol gwell, brafiach i Brydain fyd-eang, Cymru fyd-eang, a adeiladir ar ffyniant pob rhanbarth o'r Deyrnas Unedig a gwledydd y Deyrnas Unedig. Dyna beth mae pobl ei eisiau, a dyna beth y byddwn yn ei sicrhau os byddwn yn gwneud yn siŵr ein bod yn cydio yn y cyfleoedd sydd ar gael i ni. Byddwn yn...

2. 2. Dadl: Canlyniad Refferendwm yr UE (28 Meh 2016)

Andrew RT Davies: Siawns, mae hwnnw’n gwestiwn dilys i’w ofyn, a mater i ni yn y sefydliad hwn, fel gwleidyddion— [Torri ar draws.] Ac mae’n fater i ni yn y sefydliad hwn, a gwleidyddion o bob plaid, i wneud yn siŵr bod yr iaith yr ydym yn setlo arni mewn gwirionedd yn cynrychioli beth fydd yn sicrhau'r fargen orau i Gymru. Mae'n rhaid i ni ofyn y cwestiynau anodd i gael yr atebion sy'n ofynnol gennym.

7. 7. Datganiad: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol (28 Meh 2016)

Andrew RT Davies: Brif Weinidog, diolch am eich datganiad y prynhawn yma. Os caf hefyd ategu’r teimladau am y Bil awtistiaeth, mae hyn yn rhywbeth yr wyf wedi eich holi amdano yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'n braf gweld bod Llywodraeth Cymru yn gweithio i weld beth yn union yw’r ffordd fwyaf priodol i fwrw ymlaen â'r materion hyn. Rwy'n credu bod hwn yn un maes lle mae gennym gonsensws...

5. 5. Dadl Plaid Cymru: Y Cod Gweinidogol (29 Meh 2016)

Andrew RT Davies: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Cynigiaf yn ffurfiol y gwelliannau ar y papur trefn, yn enw Paul Davies. Croesawaf y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon. Gallaf gofio’n iawn, yn y Cynulliad diwethaf, y dadleuon, y trafodaethau a’r cwestiynau i’r Prif Weinidog yr arferai cyn-arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol eu defnyddio i berswadio’r Prif Weinidog i gyflwyno cod gweinidogol gwirioneddol...

5. 5. Dadl Plaid Cymru: Y Cod Gweinidogol (29 Meh 2016)

Andrew RT Davies: Rwy’n derbyn yr ymateb y mae’r Prif Weinidog wedi’i roi. Rwy’n derbyn y pwynt nad yw’n sefyllfa sy’n digwydd yn San Steffan, sef gwrandawiadau cadarnhau, ond onid ydych yn credu na ddylem geisio ailadrodd yr hyn a wna San Steffan bob amser? Byddai hyn yn torri tir newydd, oherwydd bod cynghorwyr arbennig yn rhan bwysig o bensaernïaeth y Llywodraeth, a byddai cael math o...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau
( 5 Gor 2016)

Andrew RT Davies: Diolch i chi, Lywydd. Brif Weinidog, cyfeiriwyd gennych yn gynharach at y ffaith eich bod chi ac Ysgrifennydd y Cabinet dros faterion gwledig wedi cyfarfod â'r undebau ffermio a busnesau eraill o'r cymunedau gwledig ddoe. Yn ystod cwestiynau, bythefnos yn ôl, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet nad oedd yn credu mai ffermwyr—ac mae hwn yn ddyfyniad uniongyrchol—yw’r 'bobl orau i redeg...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau
( 5 Gor 2016)

Andrew RT Davies: Mae'n ddyfyniad uniongyrchol.

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau
( 5 Gor 2016)

Andrew RT Davies: Brif Weinidog, roedd y dyfyniad a roddais i chi yn ddyfyniad uniongyrchol o Gofnod y Trafodion yma ac rwy’n nodi na wnaethoch chi ymbellhau eich hun o’r dyfyniad hwnnw. Pe gallwn i hefyd ofyn cwestiwn i chi ar y llythyr a gyhoeddwyd gennych chi ar ddiwrnod y refferendwm, sef 23 Mehefin, am y cytundeb sydd gennych chi gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol ac, yn benodol, yr honiad a wnaed gan...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau
( 5 Gor 2016)

Andrew RT Davies: Mae'n gwbl ryfeddol eich bod chi wedi gwastraffu cymaint o'ch amser—ond rwy'n ddigon hapus eich bod chi’n defnyddio fy nyfyniadau i, gan fod gennych chi cyn lleied i'w ddweud, Brif Weinidog. Rwy’n cadw at fy nyfyniadau ac rwy'n ddigon hapus i roi hynny ar y cofnod. Rwy'n eithaf hapus i ddadlau gyda chi ar unrhyw bryd, mewn unrhyw fan, Brif Weinidog, ar y buddion a welaf, a chymeradwywyd...

3. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 5 Gor 2016)

Andrew RT Davies: Diolch i chi, Lywydd. Arweinydd y tŷ, a yw'n bosibl cael datganiad gan Ysgrifennydd yr economi ar ardrethi busnes. Roedd maniffesto y Llywodraeth newydd yn nodi’n glir iawn y byddai’n gwneud ymrwymiad ar ardrethi busnes, yn benodol i godi, yn amlwg, y ffin, neu'r trothwy, dylwn i ddweud, ar gyfer cynnwys busnesau yn y gyfundrefn ardrethi busnes. Mae tymor y sioeau haf,...

12. 11. Dadl: Ailenwi Cynulliad Cenedlaethol Cymru ( 5 Gor 2016)

Andrew RT Davies: Rwyf yn croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth yn symud y ddadl y prynhawn yma. Byddaf yn fwy na thebyg yn gwneud yr un fath â'r Prif Weinidog o ran cadw fy sylwadau'n fyr, oherwydd bod y Llywydd, yn ei chyflwyniad, yn fy marn i, wedi amlygu'r broses a oedd ar gael i'r Senedd hon, neu 'parliament', neu Gynulliad—galwch ef yr hyn a fynnoch, oherwydd bydd trafodaeth ynglŷn â hynny. Ond, rai...

12. 11. Dadl: Ailenwi Cynulliad Cenedlaethol Cymru ( 5 Gor 2016)

Andrew RT Davies: Gwnaf, rwy'n fodlon.

12. 11. Dadl: Ailenwi Cynulliad Cenedlaethol Cymru ( 5 Gor 2016)

Andrew RT Davies: Wel, fel yr wyf wedi ei ddweud, o fy safbwynt i, nid wyf wedi cael problem â hyn, oherwydd, yn amlwg, rwyf yn gweithio yn yr amgylchedd hwn ac rwyf yn llwyr ddeall ystyr y gair Senedd yn y cyd-destun y caiff ei ddefnyddio yn y Gymraeg, ond, yn amlwg, i lawer o bobl nad ydynt yn gyfarwydd â'r ffordd y mae'r ddeddfwrfa'n gweithio, y ffordd y mae'r Llywodraeth yn gweithio yma, ac os meddyliwch...

QNR: Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ( 6 Gor 2016)

Andrew RT Davies: A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei blaenoriaethau ariannu ar gyfer addysg yn y Pumed Cynulliad ar gyfer Canol De Cymru?

2. 1. Dadl ar Araith y Frenhines ( 6 Gor 2016)

Andrew RT Davies: Rwy’n croesawu’r Ysgrifennydd Gwladol yma heddiw. Fel rhywun sydd wedi eistedd ar y meinciau gyda chi, gallaf eich cofio’n dweud ‘clywch, clywch’ ac yn curo ar ddesgiau pan oeddech yma, ond gallaf weld eich bod yn ymddwyn yn llawer gwell yn awr eich bod yn Ysgrifennydd Gwladol. Ond rydym yn estyn croeso cynnes iawn i chi o feinciau’r Ceidwadwyr, gan mai hwn yw eich ymweliad cyntaf...

2. 1. Dadl ar Araith y Frenhines ( 6 Gor 2016)

Andrew RT Davies: Mae’n amlwg ei fod wedi cael cinio da iawn, buaswn yn tybio. Rwy’n croesawu’r ffaith fod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi cydnabod corff penodol o gyfraith i Gymru ar wyneb y Bil, o fewn awdurdodaeth Cymru a Lloegr. Mae hwn yn gymhwysiad synhwyrol; a bydd sefydlu gweithgor cyfiawnder i edrych ar drefniadau penodol yn llywio gwaith pellach yn y maes hwn. Gallai’r Bil Cymru drafft fod yn...

2. 1. Dadl ar Araith y Frenhines ( 6 Gor 2016)

Andrew RT Davies: Gwnaf, yn sicr.

2. 1. Dadl ar Araith y Frenhines ( 6 Gor 2016)

Andrew RT Davies: Ni ddylai fod unrhyw niwed i fformiwla cyllido Cymru—mae hynny’n glir fel grisial. Credaf fod y Prif Weinidog wedi dweud hynny ar goedd, ac rwy’n credu bod nifer o Ysgrifenyddion Gwladol, a’r Ysgrifennydd Gwladol hwn, wedi gwneud hynny’n gwbl glir. Mae gennym hanes da iawn mewn perthynas â chyllido Cymru, yn enwedig o ran cyflwyno’r cyllid gwaelodol, a byddwn yn parhau gyda’r...

<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.