Sarah Murphy: 1. Pa fentrau y mae Llywodraeth Cymru yn ymgymryd â hwy i roi terfyn ar y stigma sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl ym Mhen-y-bont ar Ogwr? OQ57728
Sarah Murphy: Diolch. Mae wedi bod yn ysbrydoliaeth gweithio gyda sefydliadau ym Mhen-y-bont ar Ogwr i gyd-lunio ein prosiect llwybr iechyd meddwl Pen-y-bont ar Ogwr sydd ar y gweill—un pwynt mynediad ar gyfer gwasanaethau sydd â'r nod o wella hygyrchedd a gwella cydweithio rhwng grwpiau cymorth ar draws fy etholaeth i. Hoffwn i ddiolch i chi, Prif Weinidog, oherwydd fy mod i wrth fy modd o glywed hefyd...
Sarah Murphy: Gweinidog, mae plant yn fy etholaeth i mor ifanc â 11 a 12 oed yn gorfod cerdded 45 munud i'r ysgol ac yn ôl o Gorneli i Ysgol Gyfun Cynffig yn y Pîl. Rwyf i wedi cyfarfod â dros 20 o rieni sydd wedi dweud wrthyf i na fydden nhw fel arfer yn caniatáu i'w plant adael y pentref heb eu goruchwyliaeth, ac felly maen nhw'n poeni'n fawr am eu diogelwch wrth i'r plant orfod cerdded i'r ysgol ar...
Sarah Murphy: 3. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o gasglu a defnyddio data biometrig disgyblion mewn ysgolion? OQ57698
Sarah Murphy: Diolch. Ym mis Mawrth 2020, gosododd Bwrdd Diogelu Data Ewrop ddirwy ar ysgol Bwylaidd am ddefnyddio data biometrig, neu olion bysedd, ar gyfer 680 o blant yn ffreutur yr ysgol yn gyfnewid am eu prydau ysgol. Er y nodwyd bod yr ysgol wedi cael caniatâd ysgrifenedig gan rieni, pwysleisiodd y bwrdd nad oedd data biometrig yn hanfodol ar gyfer arferion amser cinio. Ni chaent ddefnyddio dulliau...
Sarah Murphy: 4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi awdurdodau lleol i groesawu a chefnogi ffoaduriaid sy'n ffoi o Wcráin? OQ57778
Sarah Murphy: Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Mae Cymru'n genedl noddfa, ac mae hyn yn cynnwys croesawu'r rhai sy'n ffoi o Wcráin i fy nghymuned ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl. Ar draws Pen-y-bont ar Ogwr, mae trigolion wedi mynd y tu hwnt i'r disgwyl i gasglu rhoddion, codi arian, a hoffwn ddiolch i'r Cynghorydd Cymuned Heidi Bennett, y Cynghorydd David White a'r Parchedig Wheeler, yn arbennig, am...
Sarah Murphy: 6. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o gynigion Llywodraeth y DU i ddisodli Deddf Hawliau Dynol 1998? OQ57783
Sarah Murphy: Weinidog, yng nghwestiynau'r Prif Weinidog ddoe, diolchais i Lywodraeth Cymru am ei hymrwymiad i helpu'r rhai sy'n ffoi rhag yr erchyllterau a welwn yn Wcráin ac am gynnal y gwerthoedd sy'n gwneud Cymru'n cenedl noddfa. Dywedais fod y caredigrwydd a'r haelioni a welwn ledled ein cymunedau yn dangos Cymru ar ei gorau, a phan fydd pobl yn dioddef amgylchiadau mor drawmatig a dinistriol, fe...
Sarah Murphy: 8. Sut mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo perthnasoedd iach yng nghwricwlwm yr ysgol? OQ57899
Sarah Murphy: Diolch yn fawr, Weinidog. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i chi hefyd am eich taith ddiweddar i Ysgol Gynradd Llangrallo ym Mhen-y-bont ar Ogwr i weld disgyblion yn cymryd rhan mewn sesiwn Sbectrwm Cymru i ddysgu am deimlo'n ddiogel a mynegi emosiynau. Fel Aelod cymharol newydd o'r Senedd, un o fy hoff rannau o fy swyddogaeth yw ymweld ag ysgolion a siarad â phobl ifanc am eu blaenoriaethau, ac...
Sarah Murphy: Gadewch imi ddechrau drwy ddiolch i fy nghyd-Aelodau a chlercod y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, yn ogystal â phawb yr ymgynghorodd y pwyllgor â hwy i allu llunio'r adroddiad hwn. Fel Aelod o'r pwyllgor, roeddwn eisiau dweud pa mor hanfodol yw hi ein bod, fel cymdeithas, yn blaenoriaethu gofal plant ac yn sicrhau nad oes neb yn gorfod gwneud penderfyniadau ariannol neu...
Sarah Murphy: Diolch yn fawr, Gweinidog. Rwy'n croesawu eich datganiad chi heddiw. Mae Amy, sy'n etholwraig i mi, wedi rhannu fideo yn ddiweddar o'i gwesteion hi o Wcráin yn cyrraedd Maes Awyr Bryste, sydd wedi cael ei wylio dros 3.2 miliwn o droeon ar y cyfryngau cymdeithasol, ac fe wnaeth hi hyn i ddangos i bobl Wcráin a phobl ledled y byd fod Cymru yn wir genedl noddfa. Mae hi'n drist iawn, mewn...
Sarah Murphy: Fy nghwestiwn i'r Gweinidog felly—. Fe hoffwn i ddiolch yn fawr iawn i chi, oherwydd rydych chi wedi ymgysylltu mewn gwirionedd â'r holl faterion a'r ymholiadau a ofynnais i chi. Rydych chi wir yn gwrando ar y noddwyr a'r gwesteion. Fy nghwestiwn i'r Gweinidog yw: os gwelwch chi'n dda, a wnewch chi barhau i weithio gyda Llywodraeth y DU ac awdurdodau lleol i fynd i'r afael â'r materion...
Sarah Murphy: Diolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon yn y Siambr heddiw. Mae ansicrwydd ynghylch tai yn parhau i fod yn broblem allweddol sy’n wynebu trigolion ledled Cymru, fel y clywsom, ac yn enwedig ar draws Pen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl, fy nghymuned i. Mae hyn, heb os, wedi’i waethygu gan argyfwng costau byw Llywodraeth Geidwadol y DU. Mae’r adroddiad gan End Youth Homelessness Cymru yn...
Sarah Murphy: Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gofalwyr di-dâl ledled Pen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl?
Sarah Murphy: Mae'r diwygiadau i hawliau dynol gan Lywodraeth Dorïaidd y DU wedi codi pryderon mawr ynghylch ein hawliau sifil, ac yn arbennig hawliau y rhai hynny o gymunedau lleiafrifol. Yr hyn sy'n drawiadol iawn yn Neddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd oedd y byddai'n mynd ar lwybr carlam drwy'r Senedd yn San Steffan, ond, yn amlwg, nid yw cyhoeddi Bil 300 tudalen ar ddydd Mawrth ac yna...
Sarah Murphy: Weinidog, hoffwn ddiolch i chi eto am roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ar y mater hwn a’ch ymrwymiad i helpu’r noddwyr sydd wedi bod o dan gymaint o bwysau ac mor awyddus i sicrhau bod eu gwesteion yn cyrraedd yma’n ddiogel, yn ogystal ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod Cymru’n genedl noddfa. Mae cynllun Cartrefi i Wcráin Llywodraeth y DU wedi sefydlu system sy’n rhoi'r...
Sarah Murphy: Prif Weinidog, yn nigwyddiad yr Ymddiriedolaeth Hepatitis C yma yn y Senedd yr wythnos diwethaf, cefais gyfle i siarad â Kieren, sy'n dod o Borthcawl yn fy etholaeth i, am y gwaith cefnogaeth gan gymheiriaid y mae ef ac eraill yn ei wneud ar draws ein cymunedau. Mae pobl fel Kieren yn gwneud gwahaniaeth i'r rhai sy'n agored i glefydau fel hepatitis C, a rhannodd ei brofiad o weithio ar lawr...
Sarah Murphy: Gweinidog, rwyf i'n gofyn am ddatganiad busnes heddiw ynghylch Bil Diogelwch Ar-lein Llywodraeth y DU, oherwydd iddo gael ei godi yn y Senedd, yn y Siambr, yr wythnos diwethaf. Ym mis Chwefror eleni, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ddau ychwanegiad i'r Bil Diogelwch Ar-lein a oedd yn anymarferol ac yn cymryd cam yn ôl. Mae llawer o grwpiau ymgyrchu hawliau dynol a hawliau digidol wedi dweud bod...