Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid am eu hadroddiad. Cyflwr ein ffyrdd yw un o'r cwynion cyson a gaf fel Aelod Cynulliad. Bydd y sawl sy'n defnyddio unrhyw un o'r 21,000 milltir o ffyrdd yng Nghymru yn dweud wrthych fod llawer o'r ffyrdd hyn mewn cyflwr gwael. Mae osgoi tyllau yn y ffyrdd wedi dod yn rhan o batrwm ein teithiau cymudo dyddiol. Yn ôl Asphalt Industry Alliance, bydd yn cymryd...
Caroline Jones: Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd dros y 12 mis nesaf i wella gwasanaethau cyhoeddus yng Ngorllewin De Cymru?
Caroline Jones: Rydym ni'n prysur agosáu at argyfwng mewn gwasanaethau cyhoeddus. Mae cyllidebau awdurdodau lleol wedi'u cwtogi i'r eithaf yn y blynyddoedd diwethaf, ac ni fydd setliad cyllid llywodraeth leol eleni yn gwneud dim i leddfu'r pwysau ar wasanaethau cyhoeddus lleol. Ar ôl setliad y flwyddyn hon, mae awdurdodau lleol Cymru yn cynllunio toriadau enfawr i wasanaethau cyhoeddus lleol ac i ddiswyddo...
Caroline Jones: Weinidog, mae fy rhanbarth yn dibynnu ar Tata, Ford a Sony, sydd oll yn gyflogwyr mawr ac yn rhan hanfodol o'r gadwyn gyflenwi. Ni all fy rhanbarth fforddio colli rhagor o swyddi. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae'r holl gyflogwyr mawr hyn wedi cwtogi eu gweithgarwch, gan arwain at golli llawer iawn o swyddi. Mae hon yn adeg arbennig o bryderus i weithwyr yn ffatri Ford Pen-y-bont ar Ogwr, ac...
Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i Paul Davies am ei ymdrechion parhaus i wneud Deddf awtistiaeth ar gyfer Cymru yn realiti. Bydd y Bil hwn yn helpu i gyflawni'r hyn y mae pobl ag anhwylderau sbectrwm awtistig wedi bod yn galw amdano ers blynyddoedd—camau gweithredu i wella gwasanaethau awtistiaeth yng Nghymru, camau y mae'r cynllun gweithredu ar anhwylderau'r sbectrwm awtistig wedi methu eu cyflawni hyd...
Caroline Jones: Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gwella iechyd y cyhoedd yng Ngorllewin De Cymru?
Caroline Jones: Weinidog, a ydych yn derbyn nad oes angen 22 awdurdod lleol ar wahân ar Gymru a bod ymdrechion Gweinidogion blaenorol i ddatrys y broblem heb ad-drefnu llywodraeth leol wedi arwain at wastraff sylweddol a biwrocratiaeth? Ddydd Llun, cyfarfûm â grŵp o benaethiaid o fy rhanbarth i drafod yr argyfwng ariannu mewn addysg, ac roedd un o'u prif bryderon yn ymwneud â'r haen ychwanegol o...
Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i Darren am gyflwyno'i gynnig ar gyfer Bil ar hawliau pobl hŷn. Rwy'n cefnogi'r bwriad sy'n sail i gynigion Darren yn llawn, ac fe wnaf bopeth a allaf i helpu i sicrhau bod y Bil hwn yn dod yn Ddeddf y Cynulliad hwn. Rwy'n teimlo'n angerddol ynglŷn â threchu unigrwydd ac arwahanrwydd ac rwyf wedi siarad yn y Siambr hon droeon ar y pwnc. Bydd diogelu hawliau pobl hŷn yn mynd...
Caroline Jones: Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Mae gordewdra yn un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu ein cenedl, ac rwy’n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’r strategaeth hon, oherwydd ni yw’r genedl fwyaf gordew yn Ewrop. Felly, mae croeso mawr i strategaeth. Gweinidog, rwy’n cefnogi llawer o’ch cynllun ac rwy’n croesawu'r pwyslais ar atal, yn enwedig...
Caroline Jones: Diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog. Mae digartrefedd a chysgu allan yn gywilydd mawr i'r genedl. Mae'r ffaith nad oes gennym ni ddigon o dai ar gyfer ein dinasyddion yn beth digon gwael, ond mae'r ffaith ein bod yn esgeuluso rhai â phoen meddwl, gan arwain atyn nhw'n cysgu yn nrysau siopau, yn warthus, ac rwy'n gobeithio y byddwch chi'n cytuno â mi. Mae canran fawr o'r rhai sy'n cael...
Caroline Jones: 7. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael ag apwyntiadau a gollwyd yn y GIG? OAQ53351
Caroline Jones: Weinidog, yn ddiweddar, cefais wahoddiad i ymweld a'r ysgol newydd yng nghysgod gwaith dur Port Talbot, un o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Er y bydd yr adeilad newydd yn helpu i fynd i'r afael ag anfanteision cyfleusterau'n dadfeilio, y cwricwlwm a sut y caiff ei ddarparu sy'n mynd i gynorthwyo pobl ifanc i ddianc rhag anfantais. Mae'r gwaith dur yn un o gyflogwyr mwyaf y...
Caroline Jones: Weinidog, yn ddiweddar, cafodd fy apwyntiad ysbyty ei aildrefnu ar fyr rybudd. Yn ffodus, cefais y llythyr hysbysu y noson cyn yr apwyntiad. Fodd bynnag, gwn nad yw eraill wedi bod mor ffodus. O gofio ein bod yn cael ein hatgoffa'n gyson o'r gost i'r GIG pan fo apwyntiadau'n cael eu colli, beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod cleifion yn cael eu hysbysu am unrhyw newidiadau i'w...
Caroline Jones: Yn gyntaf oll hoffwn ddiolch i David Rees am gyflwyno'r ddadl hon heddiw, ac mae'n bleser gennyf gymryd rhan. Mae dur yn y gwaed yn fy rhanbarth. Roedd wrth wraidd y chwyldro diwydiannol, a thrawsnewidiodd dde Cymru yn bwerdy'r byd. Heb y gwaith dur, ni fyddai rhannau mawr o Orllewin De Cymru yn bodoli. Tyfodd Port Talbot allan o'r chwyldro i ddod yn un o gynhyrchwyr dur pwysicaf Prydain....
Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am gyflwyno'r ddadl hon, ac rwyf yn cydnabod y cynnydd a wnaed. Fodd bynnag, mae gennym gymaint mwy i'w wneud. Mae camddefnyddio sylweddau yn effeithio ar bob rhan o'n cymdeithas; yfodd 34 y cant o ddynion a 28 y cant o fenywod fwy na'r terfynau a argymhellir ar o leiaf un diwrnod yn ystod yr wythnos diwethaf. Mae oedolion sy'n byw mewn cartrefi yn y grŵp incwm...
Caroline Jones: Weinidog, roeddwn yn falch o weld y contract economaidd newydd, o ystyried agwedd elyniaethus arweinyddiaeth eich plaid yn y DU tuag at fentrau preifat, yn enwedig canghellor yr wrthblaid. Weinidog, a wnewch chi gadarnhau mai gwir bartneriaeth rhwng y cyhoedd a'r sector preifat, a'r Llywodraeth yn darparu'r amgylchedd gorau i fentrau preifat ffynnu, yw'r allwedd i lwyddiant economaidd yng Nghymru?
Caroline Jones: Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn bodoli i wneud y defnydd gorau o'n hadnoddau, i warchod ein hamgylchedd, i ddiogelu ein treftadaeth naturiol ac i orfodi amddiffyniadau amgylcheddol. Yn anffodus, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gamweithredol, fel yr amlygwyd gan Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i gyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2017-18. Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Cyfrifon...
Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i Brif Arolygydd ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru am ei adroddiad blynyddol. Mae'n gerdyn adroddiad ar berfformiad system addysg Cymru, ac ymddengys nad ydym yn gwneud yn ddigon da. Er y bernir bod wyth o bob 10 o ysgolion cynradd yn dda neu'n well, dim ond 8 y cant o ysgolion cynradd Cymru a fernir yn ysgolion rhagorol. Mae pob plentyn yng Nghymru yn haeddu...
Caroline Jones: Weinidog, nid llygredd aer yw'r unig beth sydd gennym i boeni amdano ym Mhort Talbot a fy rhanbarth ehangach. Mae llygryddion eraill hefyd yn cael effaith. Amlygodd adolygiad diweddar yng nghyfnodolyn Biological Conservation yr effaith roedd plaladdwyr yn ei chael ar rywogaethau infertebratau. Fel hyrwyddwr rhywogaethau ar ran corryn rafft y ffen sydd â'i gynefin yng nghysgod y gwaith...
Caroline Jones: Cefais y fraint o fod yn aelod o'r pwyllgor tra oedd yr ymchwiliad i atal hunanladdiad yn cael ei gyflawni. Hoffwn ddiolch i'r Cadeirydd, cyd-aelodau ar y pwyllgor, y clercod a'r rhai a roddodd dystiolaeth yn ystod yr ymchwiliad. Fel y mae Dai'n nodi'n gwbl briodol yn y rhagair i'r adroddiad, mae nifer y marwolaethau drwy hunanladdiad yng Nghymru yn wirioneddol syfrdanol. Yn 2017, dewisodd...