Rhianon Passmore: Nodaf y gwelliannau a gynigiwyd gan y Torïaid ac rwy'n croesawu'r ddadl hon yn fawr. Mae llawer o'r cyfraniadau yma heddiw wedi bod yn ddiddorol iawn. Nid oes ond raid inni edrych dros y ffin ar Loegr ac ar weithredoedd Llywodraeth y DU i weld y gwrthgyferbyniad llwyr rhwng agweddau at bolisi tai. Datgelwyd yr wythnos hon fod y teicŵn eiddo a'r biliwnydd John Bloor wedi rhoi £150,000 i'r...
Rhianon Passmore: 7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddefnyddio amgylchedd naturiol Islwyn er budd ei phobl? OQ56644
Rhianon Passmore: Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Ddoe, fel y dywedasoch chi, ailagorodd ffordd goedwig Cwmcarn am y tro cyntaf ers 2014 yn dilyn buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd. Prif Weinidog, mae yno faes gwersylla newydd a gwell, llyn, nifer o lwybrau newydd i bob gallu gyda mynediad i bawb, tri man chwarae newydd, llwybr cerfluniau coetir a chaban pren gyda golygfeydd panoramig—gwir, mewn...
Rhianon Passmore: Mike Hedges.
Rhianon Passmore: 8. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyfraddau brechu COVID-19 yn Islwyn? OQ56757
Rhianon Passmore: Diolch. Agorodd canolfan frechu dorfol Trecelyn ei drysau ddydd Sadwrn diwethaf ar gyfer clinig galw i mewn i'r holl oedolion hynny yn Islwyn nad ydyn nhw wedi cael dos cyntaf hyd yma. Mae Gweinidog iechyd Cymru, Eluned Morgan, wedi dweud yn gywir y bydd yn rhaid i ni fyw gyda'r feirws. Er hynny, mae llwyddiant ysgubol cyflymder cyflwyno brechiadau yng Nghymru, diolch i'n GIG yng Nghymru,...
Rhianon Passmore: Rwy'n croesawu'r gyllideb atodol gyntaf hon ar gyfer 2021-22 yn fawr iawn. Mae'n gyfnod eithriadol i'r ddeddfwrfa hon ac i bobl Cymru na welwyd erioed o'r blaen mewn cyfnod o heddwch. Wrth i ni fynd i'r afael â'r argyfwng newid hinsawdd a thrawsnewid, mae Cymru yn parhau i gael cyllid bloc 3 y cant yn is y pen nag yn 2010. Rydym yn wynebu ansicrwydd gwirioneddol o ran pontio ar ôl ymadael...
Rhianon Passmore: Ail-etholwyd Llywodraeth Lafur Cymru ym mis Mai eleni am dymor arall o bum mlynedd gan bobl Cymru. I mi, y man cychwyn yw'r trafodaethau hynny ar baratoadau cyllideb 2022-23. Mae modd eu gweld ar dudalennau'r contract hwnnw rhwng y Llywodraeth Lafur a phobl Cymru. Rydym ni'n gwybod—pob un ohonom ni yn y lle hwn—bod yn rhaid i ni ddod â'r pandemig hwn i ben ac ailgodi'n gryfach yn decach...
Rhianon Passmore: A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed o ran cyflwyno'r cwricwlwm newydd i Gymru yn Islwyn?
Rhianon Passmore: 2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i liniaru tlodi bwyd yn Islwyn? OQ56842
Rhianon Passmore: Diolch, Prif Weinidog. Cyhoeddwyd yr wythnos diwethaf bod dros £1.9 miliwn o gyllid yn cael ei ddyfarnu i sefydliadau ledled Cymru, fel yr ydych chi'n ei ddweud, i helpu i fynd i'r afael â thlodi bwyd ac i roi sylw i ansicrwydd bwyd mewn cymunedau lleol. Yn Islwyn, ym Mhantside, lle cefais i fy ngeni, fe wnaeth gwirfoddolwyr lleol sefydlu banc bwyd Panstide ym mis Chwefror 2020, ac mae...
Rhianon Passmore: 1. Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i ddiogelu swyddi sgiliau uchel yn Islwyn? OQ56941
Rhianon Passmore: Diolch, Prif Weinidog. Mae pobl Islwyn yn briodol falch o natur ragweithiol eu Llywodraeth Lafur yng Nghymru o ran symud yn bendant i gefnogi Hawker Siddeley Switchgear, gyda buddsoddiad o £0.5 miliwn i adleoli o fewn etholaeth Islwyn, o'u safle presennol ym Mhontllanfraith i hen ffatri cydosod seddi mewnol British Airways gerllaw yn y Coed Duon. Prif Weinidog, mae'r ymateb i gamau eich...
Rhianon Passmore: Wel, mae 'Dim ceiniog yn waeth ei byd' yn adleisio braidd yn wag o amgylch y Siambr ddatganoledig hon. Ddeufis wedi i Lywodraeth y DU ddweud y byddai prosiectau oedd wedi'u cymeradwyo yn cael eu cyhoeddi, bu distawrwydd. Ac, fel y gwnaethoch chi ei ddweud yn gywir, Gweinidog, mae ardal awdurdod lleol Caerffili wedi'i heithrio o'r rhestr ariannu â blaenoriaeth, o blaid—o blaid—ardaloedd...
Rhianon Passmore: Mae'r ddadl hon heddiw yn un hynod bwysig ac yn addas o ran ei hamseriad. Hyd yn oed cyn y pandemig, roedd un o bob pedwar o bobl yng Nghymru yn profi problemau iechyd meddwl, ac mae data'n dangos bod lefelau pryder o fewn y boblogaeth yn uwch nag yr oeddent chyn y pandemig. Mae COVID-19, wrth gwrs, wedi effeithio ar les meddyliol pob un ohonom, ond i'r rhai sydd â chyflyrau iechyd meddwl a...
Rhianon Passmore: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella rhagolygon cyflogaeth pobl ifanc rhwng 16 a 18 oed yn Islwyn, nad ydynt mewn hyfforddiant na gwaith ar hyn o bryd?
Rhianon Passmore: Diolch am y datganiad. Gweinidog, etholodd pobl dda Islwyn a Chymru Lywodraeth Lafur Cymru yn ôl ym mis Mai oherwydd eu hawydd democrataidd i ymddiried yn Llywodraeth Lafur Cymru i dyfu economi Cymru yn ôl yn decach, yn gryfach ac yn wyrddach. Rwyf hefyd yn croesawu gwarant pobl ifanc Llywodraeth Cymru, sy'n rhoi'r cynnig o waith, addysg, hyfforddiant neu hunangyflogaeth i bawb dan 25 oed...
Rhianon Passmore: Gweinidog, mae'r weledigaeth ar gyfer economi Cymru wedi'i nodi'n glir gennych o dan ymbarél 'tîm Cymru'. Felly, Gweinidog, wrth inni nesáu at strategaeth ddi-garbon y DU a'i hystyried wrth agosáu at COP26, beth yw'r heriau, a beth yw'r rhwystrau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hwynebu er mwyn parhau i greu dyfodol tecach, cryfach a gwyrddach i'r holl bobl sy'n ystyried Islwyn yn gartref?
Rhianon Passmore: Diolch, Llywydd. Diolch, Dirprwy Weinidog, am eich datganiad, ac rwy'n croesawu hynny. Rwy'n sylwi eich bod chi wedi dweud yn deg fod y pandemig yn effeithio ar ein diwydiannau creadigol mewn gwahanol ffyrdd, gyda'r gwahanol sectorau cerddoriaeth yn cael ergyd drom iawn gyda lleoliadau wedi cau am gyfnodau estynedig, ymarferion cerddoriaeth wedi cau, corau, bandiau a cherddorfeydd yn segur, a...
Rhianon Passmore: —yn codi. Yn allweddol i hynny bydd addysg gerddoriaeth fywiog gyda seilwaith canolfannau dysgu ledled Cymru. Gweinidog, pryd y caiff cysyniad y gwasanaeth cerddoriaeth genedlaethol ei wireddu, yn unol â'n maniffesto ni? Pryd y bydd strategaeth gerddoriaeth genedlaethol yng Nghymru—rhan o'r strategaeth ddiwylliannol honno—yn cael ei mynegi o fewn Cymru Greadigol, a sut y byddwch chi'n...