Canlyniadau 601–620 o 2000 ar gyfer speaker:Huw Irranca-Davies

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad: Teithio Llesol ( 3 Ebr 2019)

Huw Irranca-Davies: Diolch yn fawr i David am yr ateb hynod gynhwysfawr hwnnw. Mae'n rhaid i mi ddweud bod y Cynulliad yn arwain y ffordd yma o ran teithio llesol, ond mae bob amser mwy i ni ei wneud, felly byddaf yn codi fy mhen yn rheolaidd fel cyfaill beirniadol. Rwyf eisiau gofyn i chi, David, a ydych wedi ystyried, neu a wnewch chi ystyried, defnyddio dewisiadau amgen yn lle'r tryciau gwaith trwm sy'n dod...

Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad — Adroddiad 01-19 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9 ( 3 Ebr 2019)

Huw Irranca-Davies: Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Ac mewn gwirionedd, mae hyn wedi dangos y pwynt roeddwn am ei wneud. Yn gyntaf oll, a gaf fi gymeradwyo'r adroddiad a gyflwynwyd? Mae'n benderfyniad anodd pryd bynnag y caiff honiadau o'r fath eu gwneud yn erbyn unrhyw Aelod a hefyd i'r unigolyn, rhaid imi ddweud, sydd wedi bod yn destun y cwynion gwreiddiol yn ogystal. A chredaf fod y ffordd rydych chi, Neil,...

8. Dadl Plaid Cymru: Newid Hinsawdd ( 1 Mai 2019)

Huw Irranca-Davies: Gwnaf y pwynt o'r cychwyn nad oes gennym amser i'w wastraffu bellach yn dadlau â'r rhai sy'n gwadu newid hinsawdd; mae gennym bethau pwysicach i'w gwneud yn awr, a hynny ar fyrder. Rwy'n gobeithio y bydd y Cynulliad hwn yn cefnogi'r prif gynnig heddiw a gwelliant y Llywodraeth sy'n adlewyrchu realiti'r argyfwng hinsawdd sy'n ein hwynebu, ond hefyd ymrwymiad a pharodrwydd Llywodraeth Cymru i...

8. Dadl Plaid Cymru: Newid Hinsawdd ( 1 Mai 2019)

Huw Irranca-Davies: Bydd angen arweinyddiaeth genedlaethol ddewr i wneud y newidiadau sydd eu hangen arnom ni a'r blaned, oherwydd byddant yn effeithio ar y ffordd y byddwn ni a'n hetholwyr yn byw ac yn gweithio, sut y teithiwn, sut yr awn ar wyliau, beth a brynwn, beth a fwytawn, a mwy. Byddant yn effeithio ar y ffordd y byddwn ni fel Llywodraeth yn blaenoriaethu buddsoddiad, yn rheoleiddio ac yn deddfu i newid...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Egwyddorion Cydweithredol ( 7 Mai 2019)

Huw Irranca-Davies: 5. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn helpu i sefydlu egwyddorion cydweithredol ar lefel leol a chenedlaethol ledled Cymru? OAQ53795

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Egwyddorion Cydweithredol ( 7 Mai 2019)

Huw Irranca-Davies: Diolch i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Wrth i ni ddathlu ugeinfed pen-blwydd y sefydliad democrataidd hwn, mae hefyd yn gyfle i ddathlu'r twf o ran Aelodau a Gweinidogion y Cynulliad, yn wir, dros yr 20 mlynedd hynny sy'n gyd-weithredwyr ac yn aelodau o'r Blaid Gydweithredol yn ogystal â'r Blaid Lafur. Mewn gwirionedd, er bod y Blaid Gydweithredol, wrth gwrs, yn chwaer-blaid i'r Blaid...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit): Paratoi am Brexit heb Gytundeb ( 8 Mai 2019)

Huw Irranca-Davies: Credaf fod Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu ymagwedd eithaf cyfrifol a diwyd tuag at baratoi ar gyfer 'dim bargen', ond nid yw hynny wedi digwydd heb rywfaint o gostau uniongyrchol real hyd yma, a chostau anuniongyrchol real hefyd yn sgil dargyfeirio adnoddau o flaenoriaethau eraill. Fodd bynnag, nid yw hyn yn ddim o gymharu â chost gadael ar sail 'dim bargen' a'r difrod parhaol y gwnaiff...

4. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol: Llwybr Arfordir Cymru (14 Mai 2019)

Huw Irranca-Davies: Cefais fy ngeni yn Nhre-gŵyr, a phan oeddwn yn blentyn, pe byddech chi'n troi i'r chwith wrth adael fy nghartref i—roedd y gwaith dur yn union gyferbyn, ond, pe byddech chi'n troi i'r chwith, fe fyddech chi'n cerdded i lawr yr hen lwybr camlas—mae wedi diflannu bellach— lle cariwyd bachgen enwog o Geidwadwr o Abertawe o gyfarfod Plaid Lafur a'i hyrddio i mewn i'r gamlas. Mae'r gamlas...

4. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol: Llwybr Arfordir Cymru (14 Mai 2019)

Huw Irranca-Davies: Yr unig ofid sydd gennyf i wrth ddathlu, fel y gwnes i'r penwythnos diwethaf gyda'r Cerddwyr, Parc Cenedlaethol Sir Benfro, Cyfoeth Naturiol Cymru, grŵp o gerddwyr lleol, fy hen gydweithiwr Andrew Campbell o Gynghrair Twristiaeth Cymru—. Fe wnaethom gwrdd yno yn Saundersfoot gan droedio amrywiaeth o lwybrau arfordirol a llwybrau treftadaeth, gan fynd ychydig bach i berfedd gwlad—rhai o'r...

5. Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Teithio Llesol (14 Mai 2019)

Huw Irranca-Davies: Diolch, Llywydd dros dro. A gaf i groesawu'r datganiad, ond hefyd y ffordd y mae'n cael ei fframio—nid dim ond hyrwyddo seiclo a cherdded y mae'n ei wneud, ond mae yng nghyd-destun yr argyfwng sydd gennym gyda'r newid yn yr hinsawdd, mae'n ymwneud â'r argyfwng gordewdra sydd gennym ni, ac mae'n ymwneud â phroblemau ansawdd aer? Oherwydd rwyf o'r farn mai dyna'r cyd-destun cywir, ac, mewn...

6. Dadl: Adroddiad Blynyddol 2018-19 Prif Swyddog Meddygol Cymru — Gwerthfawrogi ein Hiechyd (14 Mai 2019)

Huw Irranca-Davies: A gaf i hefyd ddiolch i'r prif swyddog meddygol am yr adroddiad? Mae'n rhyfedd ein bod ni wedi cael prynhawn yn trafod rhai o'r elfennau sy'n ymddangos yn yr adroddiad hwn—newid ymddygiad a ffyrdd o fyw egnïol, boed hynny drwy deithio llesol neu ryw fodd arall. Rydym yn ymwybodol iawn o'r ffaith bod 'Cymru Iachach', y strategaeth y cyflwynodd y Gweinidog y llynedd ac y mae'n bwrw ymlaen â...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Colledion Mewn Bioamrywiaeth (15 Mai 2019)

Huw Irranca-Davies: 4. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i atal a gwrthdroi colledion mewn bioamrywiaeth? OAQ53864

1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Colledion Mewn Bioamrywiaeth (15 Mai 2019)

Huw Irranca-Davies: Rwy'n croesawu eich ymateb. Fel cynifer o bobl eraill, rwy'n hyrwyddwr rhywogaeth. Fi yw hyrwyddwr rhywogaeth y gornchwiglen yma yn y Cynulliad, a gwyddom ein bod wedi mynd o 7,500 o barau nythu yng Nghymru yn y 1980au i lai na 700 yn awr, er gwaethaf gwaith da gan bobl fel yr Ymddiriedolaethau Natur ac eraill. Mae adroddiad IPBES yn dangos maint yr her, ac rydym yn wynebu—. Pa ffordd...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Colledion Mewn Bioamrywiaeth (15 Mai 2019)

Huw Irranca-Davies: Yn wir. A gaf fi ofyn, felly, ar ôl yr awgrymiadau defnyddiol hynny—? Diolch, Lywydd. Mae'n ddrwg gennyf. Rwyf wedi profi eich amynedd. A gaf fi ofyn, felly: gyda'i chyd-aelodau o'r Cabinet, a wnaiff hi ystyried camau radical a allai gynnwys defnyddio ein pwerau amrywio trethi yng Nghymru i ystyried gwahardd, trethu neu osod ardollau amgylcheddol hyd yn oed ar bethau sy'n amgylcheddol wael...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cynnig Gofal Plant (21 Mai 2019)

Huw Irranca-Davies: 5. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno'r cynnig gofal plant a gaiff ei gyllido gan Lywodraeth Cymru? OAQ53887

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cynnig Gofal Plant (21 Mai 2019)

Huw Irranca-Davies: Rwy'n croesawu'r newyddion hynny a'r ffaith ein bod ni wedi cael darpariaeth y cynnig gofal plant uchelgeisiol ac arloesol iawn hwn y mae fy nghyd-Aelod, Julie Morgan, yn bwrw ymlaen ag ef yn fedrus iawn, nid yn unig yn brydlon, ond yn unol â'r gyllideb hefyd. Ond, a gaf i ofyn i'r Prif Weinidog a fydd ei Weinidogion a swyddogion Llywodraeth Cymru yn cyfarfod â swyddogion ac aelodau cabinet...

3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (21 Mai 2019)

Huw Irranca-Davies: A gaf i ofyn am un ddadl? Rwy'n gwybod ein bod wedi cael dadl ar rygbi'n ddiweddar, a oedd yn canolbwyntio'n bennaf ar y lefel ranbarthol. Ond hoffwn ofyn am ddadl ar ryw bwynt ar rygbi cymuned a rygbi ar lawr gwlad. Byddai hyn wedyn yn ein galluogi ni i sôn am yr heriau, ond hefyd am y llwyddiannau, nid lleiaf y penwythnos diwethaf, pan gafodd y Maesteg 7777s, yr Hen Blwyf, yr wyf yn falch...

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad: Beiciau Cargo (22 Mai 2019)

Huw Irranca-Davies: 3. A wnaiff y Comisiwn ystyried y posibilrwydd o ddefnyddio beiciau cargo ar gyfer danfoniadau i'r Cynulliad? OAQ53888

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Tai Parod (22 Mai 2019)

Huw Irranca-Davies: Nid mor bell â Japan, ond mewn gwirionedd yn fwy lleol o lawer, roeddwn yn falch iawn, David, o gael ymuno â'r Gweinidog Tai Julie James ddydd Llun ar ymweliad â phrosiect o dan arweiniad Cymoedd i’r Arfordir a'r arbenigwyr ar adeiladu modiwlar, Wernick Buildings, sy’n darparu wyth cartref modiwlar newydd yn Sarn a Thondu, ar ôl cael cyllid gan grant tai arloesol £90 miliwn...

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad: Beiciau Cargo (22 Mai 2019)

Huw Irranca-Davies: Rwy'n croesawu'r ateb hwnnw a'r optimistiaeth sydd ynddo. Fel y gwyddoch, David, nid yw'r beiciau cargo hyn yn bethau arbenigol, rhyfedd, maent i'w gweld yn llawer o brifddinasoedd Ewrop bellach. Maent wedi dod yn rhan sylfaenol o ddosbarthu 'milltir olaf' mewn dinasoedd ac ardaloedd trefol. Nid oes rhaid iddynt ymdopi â thocynnau parcio. Nid oes rhaid iddynt ymdopi â phroblemau tagfeydd....


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.