Mark Isherwood: Diolch yn fawr am eich datganiad yn ystod Wythnos Ffoaduriaid. Nid wyf i'n credu y cewch unrhyw anghytundeb gwirioneddol â'r wybodaeth a'r teimladau a fynegwyd gennych. Rydych yn dweud y dylai pob un ohonom yn y Siambr yma wneud un peth syml i ddangos ein cefnogaeth i ffoaduriaid a cheiswyr lloches drwy gofleidio'r cysyniad o Gymru yn Genedl Noddfa. Rwy'n falch i mi wneud yn siŵr fod hynny...
Mark Isherwood: Diolch, Llywydd. Mewn datganiad ar y cyd ar ôl i bobl Cymru a'r DU bleidleisio i adael yr UE ar 23 Mehefin 2016, dywedodd Llywyddion y Comisiwn Ewropeaidd, Cyngor Ewrop a Senedd Ewrop eu bod yn disgwyl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig weithredu penderfyniad pobl Prydain cyn gynted â phosib, gan ddweud eu bod yn gobeithio y byddai'r DU yn un o bartneriaid agos yr UE yn y dyfodol hefyd. Nawr, yn...
Mark Isherwood: Ai 79 neu 80 Aelod Seneddol Llafur a aeth yn groes i chwip y Blaid Lafur yn Nhŷ'r Cyffredin yr wythnos diwethaf ynglŷn â'r Bil ymadael? Rhaid iddo fod yn hirhoedlog. Rhaid iddo ddiogelu swyddi a chynhaliaeth pobl. Rhaid iddo fod yn gyson â'r math o wlad rydym ni eisiau bod pan rydym yn gadael: democratiaeth fodern, agored, flaengar, oddefgar, Ewropeaidd. Ac wrth wneud y pethau hyn i...
Mark Isherwood: A ydych chi'n fodlon ildio ar y pwynt yna?
Mark Isherwood: Sut y mae Llywodraeth Cymru'n rhoi'r fframwaith gweithredu ar gyfer byw'n annibynnol ar waith er mwyn bodloni ei hamcanion cydraddoldeb?
Mark Isherwood: Diolch. Wel, diolch yn fawr iawn i bawb am gyfrannu, ac i Angela Burns am agor y ddadl—ei theyrnged i gyfraniad aruthrol y gweithlu iechyd a gwasanaethau cymdeithasol wrth nodi 70 mlynedd ers sefydlu'r GIG. Fel y dywedodd, nid yw hyd yn oed y GIG tu hwnt i her a gwelliant. Dywedodd Caroline Jones fod y sefyllfa'n cael ei gwneud yn waeth gan ddiffyg cynllunio ar gyfer y dyfodol, gan roi'r...
Mark Isherwood: Maent yn dweud bod yna 3,000 o swyddi'n wag, gan gynnwys y rhai yn y sector gofal annibynnol a'r sector meddygfeydd meddygon teulu. Felly, rwy'n galw arnoch i gefnogi'r cynnig heb ei ddiwygio, ac rwy'n gresynu, fel Angela, at y ffaith fod mis Ionawr wedi cael ei ddileu cyn 2019 yng ngwelliant Llywodraeth Cymru yn galw am strategaeth integredig ar gyfer ein gweithlu iechyd a gofal...
Mark Isherwood: Mae'r cylch gorchwyl ar gyfer yr ymchwiliad heddlu cudd, a lansiwyd yn 2015, rwy'n credu, gan yr Ysgrifennydd Cartref ar y pryd, yn dweud y byddai'r ymchwiliad yn cynnwys pa un a ac i ba ddiben, i ba raddau ac i ba effaith yr oedd ymgyrchoedd heddlu cudd wedi targedu ymgyrchwyr gwleidyddol a chyfiawnder cymdeithasol, ond ni fyddai wedi ei gyfyngu i hynny. Fodd bynnag, nid yw'n gwneud...
Mark Isherwood: Diolch. Wrth gwrs, rwyf wedi ymweld ag Airbus lawer gwaith. Rwyf wedi adnabod Katherine Bennett ers blynyddoedd lawer ac wedi trafod y mater hwn a materion eraill gyda hi. Rwyf hyd yn oed wedi bod i Toulouse ac wedi cyfarfod ag uwch-reolwyr a gweithwyr yno, rhai ohonynt wedi dod o Frychdyn ac yn gweithio ochr yn ochr â’u cydweithwyr yn Toulouse. Ar ôl cyhoeddiad Airbus ddydd Gwener,...
Mark Isherwood: Fel y dywedais yn y fan yma ym mis Ionawr, bydd pawb ar eu colled hyd nes inni nodi a diwallu anghenion llety Sipsiwn, Teithwyr a Roma, gan alluogi darpariaeth safleoedd preswyl a thramwy awdurdodedig. Ni all fod yn dderbyniol fod, yn ôl Cyfrifiad 2011, 62 y cant o Sipsiwn, Roma a Theithwyr yng Nghymru heb unrhyw gymwysterau, fod 51 y cant yng Nghymru a Lloegr mewn cyflogaeth o'i gymharu â...
Mark Isherwood: Mae gen i un sylw a chwestiwn syml. Roeddwn i'n falch iawn o weld y bydd yr angen am dai yn cael ei roi wrth wraidd iechyd a gofal cymdeithasol a chydnabyddiaeth am adfywio cymunedol ehangach—pwynt yr oeddwn i'n sôn o hyd amdano yn ôl yn 2003 yn y lle hwn, pan oedd rhybuddion pe na byddai camau brys yn cael eu cymryd, y byddai Cymru yn wynebu'r argyfwng cyflenwad tai sydd gennym yn...
Mark Isherwood: 10. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn dyrannu adnoddau i ysgolion yng Nghymru? OAQ52408
Mark Isherwood: Diolch. Fel y gwyddoch, mae'r premiwm disgyblion lluoedd arfog ar gael yn Lloegr i gefnogi addysg plant y lluoedd arfog, ac mae'r Lleng Brydeinig Frenhinol yn galw am gronfa debyg i ysgolion yng Nghymru ar gyfer oddeutu 2,500 o blant sy'n mynychu ysgolion yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae'n gadarnhaol iawn fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £200,000 o gyllid eleni i ysgolion wneud cais...
Mark Isherwood: Dim ond er eglurder: fe ddywedoch na fyddai'n berthnasol ar gyfer adeiladau a rennir, ond byddai'n berthnasol i dai preswyl. Sut y byddech yn mynd i'r afael â rhydd-ddeiliadaethau sy'n crogi dros neu islaw rhan o eiddo lesddaliad?
Mark Isherwood: Rhydd-ddeiliadaeth sy'n crogi dros neu islaw eiddo lesddaliad, lle mae gennych bobl wahanol yn byw yn eu cartrefi eu hunain, ond o fewn adeiladau sy'n gorgyffwrdd ag adeiladau eraill. Felly, mae rhydd-ddeiliadaethau'n peryglu eu gallu i fynd i'r afael â gwaith atgyweirio.
Mark Isherwood: Sut y mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi personél y lluoedd arfog yng Nghymru?
Mark Isherwood: Diolch, Llywydd. Ar ôl dau ddegawd o Lywodraeth Lafur yng Nghymru, canfu adroddiad 'Tlodi yng Nghymru 2018' Sefydliad Joseph Rowntree bod cyfran yr aelwydydd sy'n byw mewn tlodi incwm yng Nghymru yn dal yn uwch nag yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, a bod tlodi ymhlith parau â phlant wedi bod yn cynyddu ers 2003-06. Yn y cyd-destun hwnnw, sut ydych chi'n ymateb i'r datganiad gan...
Mark Isherwood: Diolch am eich datganiad. Fel cadeirydd grwpiau trawsbleidiol, gan gynnwys anabledd ac awtistiaeth, rwy'n cymeradwyo eich datganiad: ceir ardaloedd bychan o arfer da, ond mae gormod o bobl yn gorfod brwydro i gael cymorth ac addasiadau i'r gwasanaethau sydd eu hangen i'w caniatáu i fyw bywydau cyffredin. Rydych yn cyfeirio at weithio gyda'r Gweinidog Tai ac Adfywio. Sut, ochr yn ochr â hi,...
Mark Isherwood: Hoffwn yn fawr iawn ategu'r sylwadau yr ydych chi newydd eu gwneud. Ymwelais â'r ysgol gwyddorau eigion ym Mangor y llynedd. Fe wnaethon nhw siarad â mi am eu cwch, y Tywysog Madog. Wrth gwrs, mae mewn perchenogaeth ddeuol, ac fe grybwyllais hyn wrth Lywodraeth Cymru. Dywedasant fod hynny'n rheswm i beidio ag ymyrryd, yn hytrach na mecanwaith y mae angen iddynt ei ddilyn i sicrhau bod y...
Mark Isherwood: A wnewch chi ildio?