Huw Irranca-Davies: A gaf innau hefyd ganmol David am ddigwyddiad ardderchog, yn cynnal cymdeithas Tyddynwyr Morgannwg? Edrychwn ymlaen at ei weld yn dod yn ôl y flwyddyn nesaf yn fwy ac yn well eto. Ond a gaf i ofyn i'r Prif Weinidog: beth yw ei weledigaeth, ar gyfer tyddynwyr a rheolwyr tir eraill mewn sefyllfa ôl-Brexit? Dim ond ychydig flynyddoedd yn ôl y dathlwyd hanner canmlwyddiant y polisi amaethyddol...
Huw Irranca-Davies: A gaf i ailadrodd fy ngalwad am ddatganiad amserol— ar yr adeg briodol—i roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am y gwaith ar Ford a'r tasglu'n benodol? Byddai'n caniatáu inni, felly, godi'r mater o hyd at 25 o weithwyr yn Ford, y mae rhai ohonynt yn etholwyr imi, a dderbyniodd becyn diswyddo sylfaenol ddechrau mis Mai, ac a geisiodd sicrwydd gan Ford ar y pryd nad oedd unrhyw gynlluniau i...
Huw Irranca-Davies: Amser maith yn ôl, pan oeddwn i mewn lle arall, mewn Siambr arall, yn ôl yn 2015, roeddwn yn cadeirio Pwyllgor Archwilio Amgylcheddol San Steffan, ac fe wnaethom ni edrych ar fater maes awyr Heathrow. Ac ar y pwyllgor hwnnw roedd ystod o safbwyntiau—roedd yn bwyllgor cryf o 17—o amheuwyr newid hinsawdd digyfaddawd i ecolegwyr ac amgylcheddwyr digyfaddawd. Ond daethom i gasgliad diddorol...
Huw Irranca-Davies: 4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am drafodaethau diweddar a gynhaliwyd rhwng Llywodraeth Cymru a dirprwyaeth o Tsieina? OAQ54128
Huw Irranca-Davies: Diolch i'r Gweinidog am ei hateb ar yr amrywiaeth o bethau a drafodwyd. Tybed a oedd newid hinsawdd yn un o'r eitemau hynny, a sut y gall y ddwy genedl ar raddfa wahanol iawn, gyda gwahanol lefelau o gymhlethdod, ddysgu oddi wrth ei gilydd a dangos arweinyddiaeth. Gwyddom fod Tsieina, yn y degawd diwethaf, wedi buddsoddi'n sylweddol mewn ynni adnewyddadwy, ond ar yr un pryd, maent hefyd yn...
Huw Irranca-Davies: A gaf fi ddechrau drwy gymeradwyo'r adroddiad—credaf ei fod yn adroddiad da—a'r gwaith a wnaeth aelodau'r pwyllgor a chyd-Aelodau, a gwaith y Cadeirydd ac wrth gwrs, y clercod a'r tîm cymorth hefyd? Un o'r pethau sy'n amlwg o'r adroddiad hwn, ac mae'n cael ei adleisio yn y sylwadau sydd newydd gael eu gwneud, yw'r cyflwyniad cefndirol lle mae'n dweud bod dadansoddiad blaenorol gan grŵp...
Huw Irranca-Davies: A wnaiff y Gweinidog ildio?
Huw Irranca-Davies: Wrth wneud hynny, tybed a wnaiff y Gweinidog edrych ar rywbeth a godwyd gennyf ar y pwyllgor unwaith neu ddwy—yr enghraifft ragorol a welwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a wnaeth waith hyrwyddo aruthrol ar sail amhleidiol ar ymgyrch ynglŷn â sefyll fel cynghorydd os nad ydych erioed wedi meddwl am wneud hynny, ac yna aeth drwy hyfforddiant helaeth gyda phobl ynglŷn â...
Huw Irranca-Davies: 8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnydd y cynnig gofal plant yn Ogwr? OAQ54142
Huw Irranca-Davies: Mae'n newyddion gwirioneddol wych nid yn unig bod y cynnig gofal plant nid yn unig yn cydymffurfio â'r amserlen ond yn rhagori ar hynny, gan ei fod yn caniatáu i ni feddwl, nawr, beth allai ddod nesaf mewn dull mwy cydgysylltiedig o ymdrin â darpariaeth y blynyddoedd cynnar hefyd. Mae gennym ni amser i feddwl nawr. Ond mae'n newyddion da iawn. A gaf i ofyn—a diolchaf i'r Gweinidog am y...
Huw Irranca-Davies: 3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau i ddathlu 70 mlynedd ers addysg cyfrwng Cymraeg yn y Llynfi? OAQ54143
Huw Irranca-Davies: Wel, diolch yn fawr iawn am yr ateb hwn.
Huw Irranca-Davies: Diolch yn fawr am yr ateb hwnnw. Cawsom ddathliad aruthrol fel rhan o hyn, a dweud y gwir, gwta bythefnos yn ôl, yn Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd, lle cawsom gyngerdd gwych, gyda chantorion a thelynorion, ysgolion o bob rhan o'r ardal, cyn-rieni a disgyblion a llywodraethwyr, ac yn y blaen, ynghyd ag uchelgais go iawn i edrych tua'r dyfodol.
Huw Irranca-Davies: Gaf i ofyn sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf hefyd, i sicrhau twf parhaus addysg gynradd ac uwchradd cyfrwng Cymraeg yng Nghymru? A sut y gallai hyn helpu i gyrraedd targedau uchelgeisiol miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050?
Huw Irranca-Davies: Diolch, Lywydd. Mae'n Bythefnos y Mentrau Cydweithredol, a drefnir gan Co-operatives UK, sy'n dwyn ynghyd, am bythefnos o gydweithredu torfol, y gweithwyr, yr aelodau, y rebeliaid, y dinasyddion, y preswylwyr, y perchnogion, y cyfranwyr a'r miliynau o gyd-weithredwyr ledled y DU i nodi Pythefnos y Mentrau Cydweithredol ac i ddathlu—ac mae'r datganiad hwn yn rhan o hynny—yr hyn y gellir...
Huw Irranca-Davies: A wnewch chi ildio?
Huw Irranca-Davies: Diolch yn fawr iawn. Fe fyddaf yn gyflym iawn. O'r ymweliad ag Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd—ac rwy'n ymweld â'r ysgol yn fuan am fy mod yn gwybod eu bod yn gryf iawn y tu ôl i fagloriaeth Cymru—roeddwn yn meddwl tybed beth a ddysgoch y gallwn i ei ddysgu pan af yno am yr hyn y maent yn ei wneud yn dda iawn y gallwn ei drosglwyddo i ysgolion eraill?
Huw Irranca-Davies: A hoffech dderbyn ymyriad i'ch arbed rhag codi eich llais?
Huw Irranca-Davies: Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu busnesau yn Ogwr i baratoi at y posibilrwydd o Brexit heb gytundeb?
Huw Irranca-Davies: Nid dyma'r achos cyntaf, wrth gwrs, lle mae buddiannau democrataidd cynrychioliadol Cymru a Llywodraeth Cymru wedi cael eu hanwybyddu, i ryw raddau, neu eu rhoi o'r neilltu wrth i Lywodraeth y DU fwrw ymlaen â rhywbeth heb drafod nac ymgynghori. Mae i'w weld yn rhyfedd iawn. Roedd yr un blaenorol, wrth gwrs, yr un mor arwyddocaol, ar gronfa ffyniant gyffredin y DU. Felly, tybed—yn amlwg,...