Caroline Jones: Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r effaith y mae toriadau i gyllidebau awdurdodau lleol yn ei chael ar wasanaethau yng Ngorllewin De Cymru?
Caroline Jones: Weinidog, hoffwn adleisio sylwadau David. Mae fy rhanbarth yn gartref i lawer o ryfeddodau naturiol, gan gynnwys gwarchodfa natur genedlaethol cors Crymlyn. Fel yr hyrwyddwr rhywogaethau ar gyfer corryn rafft y ffen, sydd â'i gartref yng nghors Crymlyn, a gaf fi ofyn pa drafodaethau a gawsoch gyda'r Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol ynglŷn â sut y gall ein bioamrywiaeth chwarae rhan yn...
Caroline Jones: Weinidog, mae pob un ohonom yn cytuno bod yn rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod pobl hŷn yn aros yn eu cartrefi am gyn hired â phosibl. Mae addasu cartrefi yn hanfodol er mwyn sicrhau hyn. Beth y mae eich Llywodraeth yn ei wneud i leihau'r amseroedd aros anarferol o hir ar gyfer addasiadau o'r fath?
Caroline Jones: Mae darparu gwasanaethau iechyd drwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol. I rai cleifion, nid mater o ddewis iaith ydyw—dyna eu hunig ddewis. Dyna pam fod fy ngrŵp a minnau'n cefnogi'r bwriad y tu ôl i'r rheoliadau hyn. Fel y mae Comisiynydd y Gymraeg yn ei ddweud yn gywir, mae'r rheoliadau hyn yn gam cyntaf pwysig tuag at ddarparu mwy o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol drwy gyfrwng y...
Caroline Jones: Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y ddadl hon. Er gwaethaf y gwahaniaeth barn, mae pob cyfraniad yn y ddadl hon wedi bod yn werthfawr ac yn haeddu parch. Wrth agor, tynnodd Mark Reckless sylw at gynnig 'dileu popeth' y Ceidwadwyr. Hoffwn ddweud bod dryswch ac anhrefn Llywodraeth Geidwadol y DU bellach wedi'i drosglwyddo i Gymru. Gwnaeth Helen Mary Jones bwynt dilys yn ei...
Caroline Jones: Mae gennyf dri munud, Darren; mae'n ddrwg gennyf. Felly, er bod llawer ohonoch efallai'n anghytuno â'n safbwynt, ac rydych chi'n anghytuno, rhaid i chi dderbyn bod pobl Cymru wedi pleidleisio yn un o'r prosesau democrataidd mwyaf yn hanes ein cenedl. Fe wnaethant bleidleisio'n bendant dros adael y fiwrocratiaeth a'r ddiffynnaeth ac o blaid dyfodol yn rhydd o fod yn yr UE. [Torri ar draws.]...
Caroline Jones: A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella cyfraddau brechu yng Nghymru?
Caroline Jones: Cwnsler Cyffredinol, fel menyw WASPI fy hun, gallaf i ddweud wrthych chi na chefais i wybod erioed am y newidiadau yn fy mhensiwn i, a chefais i wybod dim ond o ganlyniad i sylw ffwrdd-â-hi gan ffrind. Nid yw fy achos i yn unigryw o bell ffordd, ac mae cannoedd o fenywod Cymru yn yr un cwch. Roeddwn i hefyd yng nghyfarfod Port Talbot, ynghyd â chi a David Rees. Roedd y cyfarfod hwnnw'n dyst...
Caroline Jones: 7. A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau biliau'r dreth gyngor yng Ngorllewin De Cymru? OAQ54115
Caroline Jones: Weinidog, mae fy rhanbarth wedi wynebu cynnydd cyfartalog o 60 y cant yn y dreth gyngor band D ers 2007. Dros y cyfnod hwnnw, roedd chwyddiant oddeutu 2.5 y cant yn unig ar gyfartaledd. Dros yr un cyfnod, mae casgliadau sbwriel wedi eu haneru, mae canolfannau dydd wedi cau, mae llyfrgelloedd wedi cau ac mae gwasanaethau canolfannau hamdden wedi wynebu toriadau. Pam fod fy etholwyr yn talu...
Caroline Jones: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, mae hon yn ergyd arall i fy rhanbarth—y ddiweddaraf mewn cyfres o achosion o golli swyddi. Roedd Jistcourt yn ehangu, wedi iddo gael ei brynu gan reolwyr dair blynedd yn ôl yn unig. Ac mae'r ffaith bod y cwmni'n gwneud colledion sylweddol er gwaethaf llyfr archebion cryf yn adrodd cyfrolau am gyflwr y sector tai cymdeithasol yng Nghymru. Mae gennym...
Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i'r pwyllgor am ei adroddiad ac am waith ardderchog y Cadeirydd a'r pwyllgor. Mae'r ffaith nad yw ein democratiaeth yn adlewyrchu ein demograffeg yn fater a ddylai beri pryder mawr inni. Sut y gallwn obeithio cynyddu'r ymwneud â'r broses ddemocrataidd os bydd rhannau helaeth o'r etholwyr yn teimlo nad ydynt yn cael eu cynrychioli? Yn etholiadau diwethaf y cynghorau, dim ond 42...
Caroline Jones: Gwnaf, yn bendant.
Caroline Jones: A gaf fi ddweud rhywbeth wrthych? A wyf fi erioed wedi gwneud ymosodiad personol ar unrhyw un yn y fan hon?
Caroline Jones: Gadewch i mi ofyn rhywbeth i chi. Fe godoch ar eich traed a gwneud pwynt gwleidyddol yn erbyn un o'n haelodau yma, a dywedodd hi wrthych y tu allan nad oeddech wedi gwrando ar y frawddeg lawn cyn i chi sefyll a gwneud sylw o flaen y Siambr gyfan—
Caroline Jones: —ac nid oedd hynny'n iawn. A ydych wedi ysgrifennu at yr arweinydd gwleidyddol—
Caroline Jones: Nid wyf wedi edrych arno. Nid wyf wedi edrych ar yr hyn rydych chi'n sôn amdano—
Caroline Jones: Fe ddywedoch chi 'arweinydd gwleidyddol', ac rwy'n ystyried mai Mark Reckless yw fy arweinydd yma, mae'n ddrwg gennyf.
Caroline Jones: Wel, ef yw arweinydd ein plaid—
Caroline Jones: Ond nid yw yn y Cynulliad, ydy e?