Huw Irranca-Davies: Rwy'n cydnabod y ddadl a roddwyd gennych—eich bod am ei gael yn awr, ac rydych am iddo gael ei gyflwyno yn 2021—ond yn yr ymrwymiad a gefnogwyd gan gryn nifer o Aelodau trawsbleidiol presennol heddiw i wneud hyn, yn sicr, ond ei wneud erbyn 2026, gan gydnabod ychydig o realpolitic er mwyn cyflawni hynny, nid dim ond Llafur ac un neu ddau o Aelodau Ceidwadol a Democratiaid Rhyddfrydol ac...
Huw Irranca-Davies: Mwy ohonoch chi.
Huw Irranca-Davies: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Gadewch imi ddechrau drwy ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at yr adroddiad, 'Senedd sy'n Gweithio i Gymru'. Mae'n waith cadarn a thrylwyr, ac mae'n amserol ac yn angenrheidiol, wrth i'n sefydliadau Llywodraeth a chraffu a democratiaeth yng Nghymru barhau i dyfu er mwyn ymateb i heriau newydd a chyflawni'n well ar gyfer pobl Cymru. Mae'r teitl, 'Senedd sy'n Gweithio i...
Huw Irranca-Davies: Gadewch imi dynnu sylw at rai egwyddorion allweddol. Fe ddof yn ôl mewn munud os caf fi. Dewis pleidleiswyr, lle dylai'r system etholiadol a ddewisir ar gyfer y dyfodol alluogi pleidleiswyr i ddethol neu nodi ffafriaeth dros ymgeiswyr unigol; lle dylai'r system etholiadol gyflwyno Aelodau â mandadau sy'n cyfateb yn fras ac sy'n rhoi statws cyfartal; lle mae gennym o leiaf y lefel bresennol...
Huw Irranca-Davies: Diolch am yr ymyriad hwnnw, Leanne. Soniais yn fy ymyriad yn gynharach ar Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, fod yna realpolitic hefyd, ac mae'n fater o gael hyn o fewn mandad maniffestos wrth edrych tuag at yr etholiad. Felly, dyna eich ateb. [Torri ar draws.] P'un a ydych yn cytuno ai peidio, dyna yw realpolitic bwrw ymlaen â hyn. Ac unwaith eto, hoffwn apelio—
Huw Irranca-Davies: Rwyf am barhau; fe anwybyddaf y sylw hwnnw a pharhau. Mae'r adroddiad yn cyfeirio ato'i hun droeon fel galwad i weithredu, ac rwy'n cytuno. Ond rhaid i'n gweithredoedd lifo o adeiladu deialog a chonsensws yma ac ar draws Cymru gan gydnabod yr heriau a wynebwn a bod yn barod i gyflwyno diwygiadau democrataidd ac etholiadol er lles Cymru. Ond gadewch i ni fod yn glir hefyd ynglŷn â beth nad...
Huw Irranca-Davies: Croeso nôl ichi i gyd yma heddiw.
Huw Irranca-Davies: Mae'r Prif Weinidog, wrth gwrs, yn iawn o ran nad ydym ni wedi gweld ceiniog o'r arian hwn eto. Rydym ni'n aros i'w weld. Rydym ni'n gobeithio y caiff ei weld, ond nid yw'n gwneud dim i gau'r bwlch cyni cyllidol cynyddol sydd wedi dod i'r amlwg dros ddegawd. Ond mae hyn hefyd yn ychwanegu, wrth gwrs, at y diffyg sicrwydd ynghylch dyfodol y gronfa ffyniant gyffredin, y diffyg cadarnhad,...
Huw Irranca-Davies: Rwy'n falch iawn o gael siarad o blaid egwyddorion cyffredinol y Bil hwn, gan gyd-fynd â barn y mwyafrif o aelodau'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, a gyflwynodd adroddiad trwyadl a chytbwys. Mae'r pwyllgor wedi archwilio'r dystiolaeth, ysgrifenedig a llafar, y gwersi rhyngwladol a gwersi eraill fel y bo'n briodol, ac wedi dod i'r casgliad drwy fwyafrif clir ei bod yn bryd dileu'r...
Huw Irranca-Davies: Byddech chi'n cytuno gyda fi, Gweinidog, dwi'n siŵr, bod hi'n bwysig mewn ardaloedd lle nad oes gan y Gymraeg wreiddiau mor ddwfn, sy'n gwneud mwy i helpu i dyfu'r gwreiddiau hynny. Felly, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol a chymunedau lleol yn Ogmore i hyrwyddo'r Gymraeg? A pha mor uchelgeisiol fydd targedau addysg ar flynyddoedd cynnar i helpu gyda hyn?
Huw Irranca-Davies: Diolch am ildio ac mae'n ddrwg gennyf dorri ar draws eich sylwadau agoriadol. Pa mor bell y credwch y dylem fynd fel deddfwyr a llunwyr polisi i gydnabod yr her y mae hi wedi'i nodi mewn perthynas â dinasyddion unigol hefyd, o ran presgripsiynu pethau megis teithio llesol o amgylch ysgolion, y tu hwnt i ddarparu llwybrau'n unig, ond dweud mewn gwirionedd, 'Bydd rhieni'n gweithio gyda'r...
Huw Irranca-Davies: 1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn helpu i gynnal swyddi a datblygu economaidd yn Ogwr? OAQ54381
Huw Irranca-Davies: Mae hynny'n newyddion i'w groesawu, Prif Weinidog. Croesawyd cyhoeddiad yr wythnos diwethaf—cadarnhad o fuddsoddiad Ineos yn sedd fy nghymydog ym Mhen-y-bont ar Ogwr—ledled Pen-y-bont ar Ogwr ac Ogwr a'r rhanbarth cyfan, gan ddangos unwaith eto bod Llywodraeth Cymru, yn wir, wedi camu i'r adwy i gefnogi ein sylfaen gweithgynhyrchu a swyddi. Er na all hyn ddisodli'n llwyr y 1,700 o swyddi,...
Huw Irranca-Davies: A fyddai modd i mi ofyn am ddatganiad neu ddadl ar dri mater pwysig, yn gyntaf ar fater gwrthsefyll ac ymateb i lifogydd? Unwaith eto, mae rhannau o Aberogwr a sawl rhan o Gymru wedi cael eu boddi dros nos, a dyma batrwm y gwelwn fwy a mwy ohono yn y blynyddoedd i ddod, diolch i'r newid yn yr hinsawdd a pha mor gyffredin yw arwynebau caled, anhydraidd yn ein cymunedau? Felly, byddai croeso i...
Huw Irranca-Davies: Rwyf hefyd yn croesawu'r uchelgais yn hyn o beth. Dyna yw hanfod datganoli; mae ynglŷn â chymryd y pwerau hynny a'r cyllid i gyd-fynd â'r pwerau hynny i drawsnewid y rhwydwaith rheilffyrdd ymhellach, ac i gael pobl i newid eu ceir am fathau eraill o drafnidiaeth. A gaf i ofyn dim ond un cwestiwn, Llywydd—un cwestiwn yn unig? A gawn ni'r newyddion diweddaraf, os gwelwch yn dda, ynghylch y...
Huw Irranca-Davies: Mae'n hyfryd cael y datganiad hwn a gweld hyn yn gwneud cynnydd mor dda, a hefyd gweld bod Llywodraeth Cymru yn wir yn gwrando ac yn addasu'r cynnig wrth symud ymlaen. Mae hynny'n arwydd o Lywodraeth dda, mae'n rhaid i mi ddweud. Ond dydw i ddim yn gwybod a fyddai hi'n cytuno â mi y byddai rhieni'r 16,000 o blant sy'n elwa ar hyn o bryd yn anghytuno â disgrifiad Siân Gwenllian funudau'n...
Huw Irranca-Davies: Diolch. Rwy'n dirprwyo ar ran Jenny. Na, na—rydw i yma yn fy rhinwedd fy hun. Diolch, Llywydd. A gaf i, yn gyntaf, groesawu'r datganiad heddiw, ond hefyd naws a sylwedd yr ymatebion a gyflwynwyd gan gyd-Aelodau'r Cynulliad, ac ymateb y Gweinidog hefyd? Fe wnaethom ni gynnal yma yr wythnos diwethaf—roeddwn yn un o gyd-noddwyr digwyddiad mewn ymateb i'r argyfwng yn yr hinsawdd. Roedd yn...
Huw Irranca-Davies: 8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith traws-lywodraethol sy'n ystyried ardoll gofal cymdeithasol? OAQ54380
Huw Irranca-Davies: Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael mewn perthynas â chyfraniad Sony UK ym Mhencoed i ddatblygu sgiliau codio mewn ysgolion ar draws de Cymru?
Huw Irranca-Davies: Rwy'n enwebu Dawn Bowden, Lywydd.