Canlyniadau 661–680 o 2000 ar gyfer speaker:Mark Isherwood

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 2 Hyd 2018)

Mark Isherwood: A gaf i alw am ddatganiad unigol ar gyflwyno mesuryddion clyfar yng Nghymru? Yfory, byddaf yn cynnal digwyddiad gyda Smart Energy GB, lle bydd modd galw i mewn yn Ystafell Giniawa 1 rhwng 11.00 a.m. ac 1.30 p.m. Rwy'n annog yr Aelodau i ddod yno i ddathlu Diwrnod Coffi Rhyngwladol, ac i ddarganfod sawl cwpan o goffi y gallai eich etholwyr eu darparu drwy arbed ynni, ond hefyd, yn fwy...

3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid: Cyllideb Ddrafft 2019-20 ( 2 Hyd 2018)

Mark Isherwood: Yn amlwg, fe wnaethoch chi gyfeirio—dro ar ôl tro hyd syrffed —at gyni. Pa bryderon a godoch chi pan rybuddiodd Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ynghylch y cynnydd yn niffyg cyllideb y DU ym mis Ionawr 2004? Cyflwynir economeg Keynes yn aml fel dewis amgen i gyni. Nid wyf yn gwybod beth yw natur eich economeg bersonol chi, ond yn sicr mae eich cyd-Aelodau wedi...

QNR: Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus ( 3 Hyd 2018)

Mark Isherwood: Sut y mae Llywodraeth Cymru'n sicrhau tryloywder ac atebolrwydd mewn llywodraeth leol?

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 3 Hyd 2018)

Mark Isherwood: Diolch, Lywydd. Y bore yma, fe gyhoeddoch chi ddatganiad ysgrifenedig ar y cyd â'r Gweinidog Tai ac Adfywio ar y grant ymyrraeth gynnar, atal a chymorth. Fe sonioch chi am gynllunio, comisiynu a darparu gwasanaethau sy'n adlewyrchu cymhlethdod bywydau pobl, a'r gydberthynas rhwng eu hanghenion cymorth. Fe gadarnhaoch chi'r hyn a ddywedodd yr Ysgrifennydd cyllid ddoe: y byddai'r grant yn...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 3 Hyd 2018)

Mark Isherwood: Wel, rwy'n edrych ymlaen at archwilio'r mater hwnnw ymhellach gyda chi yn y dyfodol er mwyn sefydlu beth y mae 'cyfanrwydd' yn ei olygu yn y cyd-destun hwnnw. Nawr, fe wyddom—a gwn nad yw'n rhan uniongyrchol o'ch briff, ond fe ddof at y rheswm pam ei fod yn berthnasol—fod Rhan 2 o god ymarfer a chanllawiau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn rhoi system ar waith...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 3 Hyd 2018)

Mark Isherwood: Wel, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn helpu awdurdodau lleol i ddeall yn well sut y dylent gysoni gofynion comisiynu a chaffael â chydgynhyrchu a chydgynllunio gwasanaethau gyda phobl leol, lle mae'r cydgynllunio'n wahanol o bosibl i'r dewis comisiynu. Mae fy nghwestiwn olaf yn ymwneud â thlodi—unwaith eto, nid yw'n rhan o'ch briff, ond mae llawer o'r asiantaethau a'r...

4. Datganiadau 90 Eiliad ( 3 Hyd 2018)

Mark Isherwood: Diolch, Lywydd. Mae mis Hydref yn Fis Ymwybyddiaeth Parlys yr Ymennydd, a bydd yn ddiwrnod ymwybyddiaeth ddydd Sadwrn nesaf. Parlys yr ymennydd yw'r anabledd plentyndod mwyaf cyffredin yn y byd, ac mae'n effeithio ar un o bob 400 o blant ledled y DU. Bydd tua 70 o fabanod a enir yng Nghymru eleni yn dioddef o barlys yr ymennydd. Mae'n effeithio ar osgo a symudiad o ganlyniad i niwed i'r...

8. Dadl Plaid Cymru: Pleidlais y Bobl ( 3 Hyd 2018)

Mark Isherwood: Diolch. Rydych chi wedi bod yn onest, yn onest iawn, yn dweud eich bod am ymgyrchu i wrthdroi Brexit. A fyddwch chi hefyd yn onest yn cyfaddef, pe baem yn cyhoeddi bod ail refferendwm yn mynd i fod, y byddai hynny'n rhoi'r golau gwyrdd i negodwyr yr UE ddarparu bargen wael neu ddim bargen gan ddisgwyl y byddai pobl wedyn yn pleidleisio dros aros?

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru ( 9 Hyd 2018)

Mark Isherwood: Sut y mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi sector y celfyddydau yng Nghymru?

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Lles Anifeiliaid yng Ngogledd Cymru ( 9 Hyd 2018)

Mark Isherwood: Rwy'n siŵr y gwnewch chi ymuno â mi i longyfarch enillwyr gwobrau ôl troed lles anifeiliaid cymunedol RSPCA Cymru yn y gogledd—cyngor Conwy, cyngor sir Ddinbych, cyngor Wrecsam, cyngor Ynys Môn, Cymdeithas Tai Clwyd Alyn a Cartrefi Cymunedol Gwynedd—a hefyd i gydnabod y ffaith fod y ddarpariaeth o les anifeiliaid trwy awdurdodau lleol yn ofyniad pwysig gan yr awdurdodau lleol hynny....

7. Dadl: Adroddiad Canolfan Lywodraethiant Cymru — Carcharu yng Nghymru — Ffeil Ffeithiau ( 9 Hyd 2018)

Mark Isherwood: Diolch. Wel, fel y dengys yr adroddiad hwn, mae bron i ddwy ran o dair o droseddwyr Cymru yn cael eu cadw yng Nghymru ac roedd gan 70 y cant o'r holl droseddwyr a gadwyd yng Nghymru gyfeiriad yng Nghymru cyn mynd i'r ddalfa. Wrth gyfeirio at raddau'r problemau pellter sy'n wynebu pobl Cymru mewn carchardai, mae'n darparu enghraifft o 44 o droseddwyr gwrywaidd o sir y Fflint a gedwir mewn...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid: Gwasanaethau Ataliol (10 Hyd 2018)

Mark Isherwood: 1. Pa ystyriaeth a roddodd Ysgrifennydd y Cabinet i wasanaethau ataliol wrth benderfynu ar y gyllideb ddrafft? OAQ52717

QNR: Cwestiynau i Arweinydd y Ty a'r Prif Chwip (Julie James) (10 Hyd 2018)

Mark Isherwood: Sut y mae Llywodraeth Cymru yn goruchwylio cydymffurfiaeth â dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus?

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid: Gwasanaethau Ataliol (10 Hyd 2018)

Mark Isherwood: Er hynny, dro ar ôl tro, rydych wedi ymrwymo eich hun, yn ddiffuant rwy’n credu, i hyrwyddo dulliau ataliol mewn iechyd a gofal yng Nghymru. Roedd ffigurau dros dro’r setliad llywodraeth leol ddoe yn dangos gostyngiad cyffredinol o 1 y cant ar gyfer llywodraeth leol, gyda phob awdurdod lleol yng ngogledd Cymru yn wynebu gostyngiad, er bod saith yn ne Cymru wedi aros yr un fath neu wedi...

2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (10 Hyd 2018)

Mark Isherwood: Mae eich cyfrifoldebau, fel y gwyddoch, yn cynnwys diogelu'r nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a hawliau dynol mewn perthynas â chonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau—

2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (10 Hyd 2018)

Mark Isherwood: Fe wnaf ei ailadrodd. Fe siaradaf ychydig yn arafach. Mae eich cyfrifoldebau yn cynnwys cydraddoldeb, diogelu'r nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a hawliau dynol mewn perthynas â chonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau feddwl ymlaen llaw a chymryd camau i fynd i'r afael â rhwystrau i bobl anabl,...

2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (10 Hyd 2018)

Mark Isherwood: Diolch. Wel, gobeithiaf y bydd hynny'n helpu awdurdodau lleol a byrddau iechyd i gael gwell dealltwriaeth o sut i gysoni eu rhwymedigaethau caffael â'u rhwymedigaethau i gynllunio a darparu gwasanaethau ar gyfer pobl leol, oherwydd mae'r ddau beth yn gwrthdaro. Unwaith eto, gan nodi eich cyfrifoldebau, fe wyddoch fod yna uchelgais yng nghynllun 'Cymru Iachach: Ein Cynllun ar gyfer Iechyd a...

2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (10 Hyd 2018)

Mark Isherwood: Wel, o ystyried eich cyfrifoldeb am Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig, buaswn yn dadlau bod gennych rywfaint o gyfrifoldeb trosfwaol, er nad yw, yn amlwg, yn un o'ch cyfrifoldebau adrannol.

2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (10 Hyd 2018)

Mark Isherwood: Iawn. Ac yn olaf, cwestiwn tebyg eto, sy'n ymwneud â rhan arall o'ch maes cyfrifoldeb: cymunedau Sipsiwn, Roma, Teithwyr, Ffair, Syrcas, Sioe a Chychwyr. Maent wedi cyhoeddi bod diwrnod hyfforddi'n cael ei gynnal yng Nghaerdydd ar 5 Rhagfyr, ac rwy'n meddwl tybed sut rydych yn ymateb i hyn, sydd yn y wybodaeth yn yr hysbysiad a aeth allan: Bydd y gweithdy'n canolbwyntio ar sut y mae'r...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.