David Melding: 4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau iechyd yng Nghanol De Cymru? OAQ52782
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wedi bod yn llywodraethwr ysgol ers 1992, ac rwyf wedi bod yn ddigon lwcus i weithio gyda'r timau uwch reoli mwyaf rhagorol. Yn yr adolygiad annibynnol sydd wedi rhoi cyngor ichi ynglŷn â sut y gellir defnyddio'r pwerau hyn, rwy'n sylwi y gallai'r ffordd y caiff penaethiaid eu cyflogi newid yn sylweddol, fel eu bod yn cael eu cyflogi ar sail ranbarthol a...
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, efallai eich bod wedi gweld adroddiad diweddar sy'n dweud bod diwydiant technoleg Cymru yn tyfu'n gyflymach nag yn unrhyw ardal arall ac eithrio Llundain. Yn 2016, tyfodd nifer y cwmnïau digidol a lansiwyd yng Nghymru o 3,000 i 3,275, neu dwf o 9.1 y cant, ac mae Caerdydd ac Abertawe bellach yn arwain y cynnydd technolegol hwn. Mae'n bwysig iawn inni adlewyrchu hyn yn...
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, mae Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi gweithio gyda phartneriaid mewn gofal cymdeithasol, gwasanaeth ambiwlans Cymru a'r sector gwirfoddol i ddatblygu cynllun gaeaf i reoli'r cynnydd yn y galw ar wasanaethau, yn Ysbyty Athrofaol Cymru ac yn Llandochau. Mae'r argymhelliad yn cynnwys 32 o welyau ychwanegol ar gyfer pwysau'r gaeaf a 12 o welyau eraill yn...
David Melding: Mae'n bleser gennyf gymryd rhan yn y ddadl bwysig hon ac rwy'n falch ein bod yn y pumed Cynulliad hwn wedi canolbwyntio ar hyn, holl fater yr economi sylfaenol, oherwydd ers yr argyfwng ariannol credaf fod gwir angen edrych eto ar sut yr edrychwn ar yr economi, gan fod yn rhaid iddi fod yn llawer mwy na'r hyn y gellir ei ddisgrifio fel 'globaleiddio', 'marchnadoedd rhesymegol' ac 'uchafswm...
David Melding: 3. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddiogelu a hyrwyddo hawliau pobl ag anableddau yng Nghanol De Cymru? OAQ52836
David Melding: Rwy'n ddiolchgar am yr ateb yna. Efallai y gwyddoch, yn rhan o adfywio Aberpennar, bod canolfan gymunedol yn cael ei datblygu, ac mae pobl ag anableddau wedi cysylltu â mi i ddweud ei bod hi'n hanfodol bod cyfleusterau parcio i bobl anabl yn y ganolfan. Nid oedd hynny erioed ar gael yn y ganolfan ddydd, na man gollwng pobl. Rwy'n cymeradwyo cyngor Rhondda Cynon Taf am eu hymarfer ymgynghori....
David Melding: Rwy'n nodi bod consensws eang ynghylch y maes hwn o bolisi cyhoeddus yn y Siambr hon ac nid wyf mewn unrhyw ffordd eisiau i hyn ddod i ben. Fodd bynnag, hoffwn bwysleisio yn fy ymateb i'ch datganiad fod angen cael sicrwydd ansoddol yn ogystal â sicrwydd meintiol. Nid wyf yn gwybod a ydych wedi gweld adroddiad diweddar y Swyddfa Archwilio ar ailgylchu plastigau—mae hyn yn Lloegr—ond mae...
David Melding: A gaf fi gymeradwyo Llywodraeth Cymru a chyngor Caerdydd, a'r sector preifat, am y cydweithio rhagorol sy'n gwneud cymaint i weddnewid canol Caerdydd ar hyn o bryd? Yr unig ddrwg yn y caws a welaf ar hyn o bryd yw'r tir ar Sgwâr Callaghan sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru, sydd wedi bod yn barod i'w ddatblygu ers peth amser rwy'n credu. Yn sicr, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn berchen arno...
David Melding: Mae'n bleser cael dilyn ein Cadeirydd rhagorol. Dywedaf 'ein' Cadeirydd rhagorol—bellach rwyf wedi gadael y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, ond fe fwynheais fy amser yn aelod ohono, ac roeddwn yn credu bod hwn yn adroddiad arbennig o bwysig, ac yn un addas i orffen fy amser ar y pwyllgor. Mae tai'n faes allweddol ar gyfer lleihau allyriadau carbon, ac os ydym yn mynd...
David Melding: Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n cynnig gwelliant 3 yn enw Darren Millar. Ac a gaf fi ddiolch i Blaid Cymru, a Llyr Gruffydd yn benodol, am gyflwyno'r cynnig heddiw? Credaf ei bod yn ddadl bwysig iawn, ac rydym wedi clywed dau gyfraniad angerddol iawn a bod yn deg. Ac nid yw'n syndod, o ystyried yr heriau y gwyddom ein bod yn eu hwynebu o ran tystiolaeth wyddonol ddiamheuol. Mae...
David Melding: Os oes gennyf amser. Rwy'n sylweddoli bod y Dirprwy Lywydd yn llawer mwy goddefgar nag y bûm innau erioed yn y materion hyn.
David Melding: Sylwaf fod ynni adnewyddadwy bellach yn dod yn ddewis y farchnad, a dyna'n sicr y dylem fod yn anelu tuag ato, ac i gyflawni hynny y lluniwyd y cymhellion hyn. Roeddwn yn mynd i orffen gyda'r pwynt fod arnom angen mwy o goetir a choedwigoedd, gan gynnwys strategaeth ar gyfer gorchudd canopi coed trefol o 20 y cant, a rhaid i deithio llesol, unwaith eto, fod yn elfen allweddol—teithio llesol...
David Melding: A gaf i ddweud y byddwn ni yn grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi cynnig heddiw? Dros y degawd diwethaf, tyfodd y sector rhentu preifat o ran niferoedd absoliwt a chyfesuredd, yn bennaf ar draul lefelau perchen-feddiannaeth. Os bydd y duedd yn parhau, y sector rhentu preifat fydd yr ail fath o lety cyffredin ar ôl perchentyaeth; disgwylir iddo gyrraedd 20 y cant o gyfanswm y stoc dai...
David Melding: [Anghlywadwy.]—ildio ar hyn. Pam na wnewch chi ddilyn yr arferion a nodir yn y Bil yn Lloegr, sy'n caniatáu i awdurdodau lleol wneud hyn?
David Melding: Dyma ddadl ac adroddiad defnyddiol, ac mae'r rhain yn faterion pwysig y dylid myfyrio arnynt yn ofalus iawn. Credaf fy mod am ddechrau gyda'r ddadl ynglŷn â siarter hawliau dynol yr UE, sydd—. Fy nealltwriaeth i yw ei bod yn rhestru'r hawliau sy'n bodoli o dan gyfraith yr UE, ac am nad yw'n ddogfen sylfaenol fel y cyfryw, ac ond yn dwyn ynghyd yr hawliau yn neddfwriaeth bresennol yr UE,...
David Melding: 4. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith codi'r cap benthyg ar y cyfrif refeniw tai? OAQ52932
David Melding: Rwyf innau hefyd yn croesawu'r ffaith bod y cap hwn wedi ei godi. Bydd hefyd yn galluogi awdurdodau lleol i weithio'n effeithiol gyda sefydliadau eraill, yn enwedig cymdeithasau tai. Nodaf y model partneriaeth diddorol sy'n bodoli yng nghyngor Warrington, lle maen nhw wedi rhoi cannoedd o filiynau o bunnoedd yn fwy i gyfanswm y benthyciadau i gymdeithasau tai. Gallem weld y math hwnnw o...
David Melding: Rwy'n siarad fel cadeirydd grŵp cynghori'r Gweinidog, sy'n gwneud fy ymateb o feinciau'r Ceidwadwyr ychydig yn afreolaidd. Felly, bydd gennyf gyfuniad doeth o ddwy swyddogaeth, rwy'n credu. Ond mae'n bwynt difrifol yn y fan yma fy mod i'n credu bod gwaith yn y maes hwn, sy'n heriol iawn, ond y mae llawer o arfer da a chanlyniadau da i'w gweld hefyd, yn ei gwneud hi'n ofynnol cael dull...
David Melding: A gaf fi gymeradwyo gwaith Ymddiriedolaeth St Giles, a roddodd gyflwyniad ddoe i'r grŵp hollbleidiol ar blant sy'n derbyn gofal am y prosiect llinellau cyffuriau a weithredir mewn cydweithrediad â phrosiect yng Ngwent? Clywsom dystiolaeth wirioneddol frawychus ynglŷn â sut y mae'r cylchoedd cyffuriau hyn yn defnyddio plant sy'n derbyn gofal, unigolion sy'n gadael gofal, a llawer o bobl...