Ann Jones: Diolch. Nid oes yr un Aelod wedi nodi eu bod yn dymuno gwneud ymyriad; felly, galwaf ar Darren Millar i ymateb i'r ddadl.
Ann Jones: Mae angen i chi ddirwyn i ben yn awr, os gwelwch yn dda.
Ann Jones: Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Ydw, rwy'n gweld gwrthwynebiadau, felly, fe ohiriwn y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Ann Jones: Symudwn ymlaen at eitem 22, sef y ddadl fer, a symudaf yn awr at ddadl fer heddiw i ofyn i Mark Isherwood siarad am y pwnc y mae wedi'i ddewis—Mark Isherwood.
Ann Jones: Wel, diolch. Ac mae'r gêm newydd ddechrau, felly fe fyddaf yn gyflym. [Chwerthin.] Lywydd, fe ymunais â'r sefydliad ifanc hwn 22 mlynedd yn ôl fel cynrychiolydd cyntaf erioed Dyffryn Clwyd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn ôl bryd hynny, roeddem wedi ein cyfyngu i drafod is-ddeddfwriaeth gyffrous, megis Rheoliadau Esgyrn Cig Eidion (Diwygio) (Cymru), Gorchymyn Iechyd Planhigion...
Ann Jones: —Rheoliadau Tatws sy'n Tarddu o'r Aifft (Diwygio) (Cymru). Nawr, er mor bwysig oedd y rheini, nid oes lle iddynt mewn llawer o faniffestos etholiadol. Felly, yn 1999, y Cynulliad oedd yr wyneb newydd; y sefydliad newydd a oedd yn dal i brofi ei werth, a hyd yn oed ei hawl i fodoli, a rhywbeth y mae'n rhaid inni barhau i brofi ein hunain yn deilwng ohono bob dydd. Felly, mae unrhyw un sy'n...