Huw Irranca-Davies: 9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch a fydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno mesurau i gefnogi awdurdodau lleol a chymunedau lleol i chwarae mwy o ran mewn prosiectau ynni? OAQ54460
Huw Irranca-Davies: Diolch i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw, ac rwy'n cydnabod y gwaith sy'n mynd rhagddo, yn enwedig fel Aelod Llafur a Chydweithredol, ar y berchenogaeth gymunedol honno. Ond yn ôl yn 2017, cafodd Canolfan Ymchwil Ynni y DU olwg ar draws awdurdodau lleol ledled y DU, gan gynnwys Cymru, a darganfu fod eu hymgysylltiad â'r gwaith o reoli ynni yn gyfyngedig, a chapasiti cyfyngedig oedd ganddynt,...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'r adroddiad ar gyflwr byd natur yn rhoi'r darlun cliriaf hyd yma o gyflwr rhywogaethau ar draws y tir a'r môr, ac mae'n seinio rhybudd i fyd natur. Mae un rhywogaeth o bob chwech yng Nghymru mewn perygl o ddiflannu. Mae nifer y gloÿnnod byw wedi gostwng 52 y cant ers 1976, ac ar draws y DU ceir 40 miliwn yn llai o adar o gymharu â 50 mlynedd yn ôl. Mae 30 y...
Huw Irranca-Davies: 2. Pa gymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru ar gyfer adfywio tai yng nghymoedd Ogwr? OAQ54534
Huw Irranca-Davies: Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Rwy'n siŵr y bydd yn cytuno â mi, pan fydd eiddo gwag yn sefyll yn wag nid yn unig am fisoedd, ond flwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn, eu bod nhw'n falltod ar gymunedau—maen nhw'n eu llusgo i lawr yn economaidd, maen nhw'n niweidio ymdrechion i adfywio, ac maen nhw'n cyfrannu at deimlad o anobaith mewn cymunedau ac ar strydoedd. Fel dannedd...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Llywydd. Ac a gaf i, wrth groesawu'r datganiad a hefyd naws y cyfraniadau sydd yma heddiw, ddweud—mae hwn yn ddatganiad cryno, nid dyma'r hiraf a welsom ni yn y fan yma—pa mor bellgyrhaeddol a blaengar yw hi i gael Prif Weinidog Cymru yn sefyll ac yn cyflwyno rhai cynigion manwl, gyda pheth eglurder, ger ein bron, ond hefyd i lunio'r ddadl ynghylch diwygio cyfansoddiadol gydag...
Huw Irranca-Davies: 4. I ba raddau y mae'r Gweinidog wedi ymgysylltu â sefydliadau yn Ogwr ynghylch blaenoriaethau masnach ryngwladol Llywodraeth Cymru? OAQ54535
Huw Irranca-Davies: Mae'n braf iawn clywed hynny, a chydag wyth diwrnod i fynd i gwblhau'r strategaeth ryngwladol ddrafft ar gyfer Cymru, roeddwn yn awyddus i sicrhau bod pob busnes, mawr a bach, a darparwyr addysg a hyfforddiant, yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr ac Ogwr wedi cymryd rhan lawn yn y broses, fel bod cwmnïau fel y datblygwr a chyhoeddwr gemau digidol arobryn, Wales Interactive, Airborne Systems o Felin...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Lywydd. Mae Cymru mewn sefyllfa wych i arwain yn fyd-eang ar leihau gwastraff plastig untro yn sylweddol, gan ddefnyddio'r arferion, y dystiolaeth a'r gwaith ymchwil gorau yn rhyngwladol, a'n pwerau newydd dros drethi ac ardollau i ysgogi newid ymddygiad, a thrwy gyflwyno cynllun gweithredu trawslywodraethol gyda chyfres gynhwysfawr o fesurau, targedau a cherrig milltir. Gallwn atal y...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Lywydd. Weinidog, diolch yn fawr. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'm cyd-Aelodau Delyth Jewell, Jenny Rathbone, David Rowlands, Rhianon Passmore, Llyr Gruffydd, Jayne Bryant ac Alun Davies—
Huw Irranca-Davies: O, mae'n ddrwg gennyf—am eu holl gyfraniadau, oherwydd credaf fod ansawdd y ddadl hon a gawsom heddiw wedi dangos y Cynulliad ar ei orau, a hoffwn ddiolch hefyd i'r rheini sydd wedi cefnogi ond sydd heb siarad heddiw. Ceir cefnogaeth drawsbleidiol gref iawn gyda llawer o faterion sydd o ddiddordeb cyffredin. Weinidog, os yw hynny'n helpu i'ch cefnogi ac yn eich annog i roi cynigion ar...
Huw Irranca-Davies: Sut y bydd y Prif Weinidog yn bwrw ymlaen â chynigion Llywodraeth Cymru ar ddiwygio cyfansoddiadol y DU?
Huw Irranca-Davies: Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gymdeithas Anemia Dinistriol ynghylch cynigion i wella diagnosis a thriniaeth?
Huw Irranca-Davies: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith y gostyngiad yn y grant bloc ers 2010?
Huw Irranca-Davies: A gaf i ofyn am ddatganiad ar fesurau i fynd i'r afael â hen eiddo masnachol gwag, gan gynnwys gorsafoedd petrol segur fel yr un sydd wrth y fynedfa i Fro Ogwr, neu'r gragen o ffatri wag ac adfeiliedig wrth y fynedfa i Evanstown yn fy etholaeth i, sydd, yn union fel tai gwag a thai wedi'u gadael, yn gallu anharddu cymunedau'n ofnadwy. Eto i gyd, gall perchenogion busnes a landlordiaid...
Huw Irranca-Davies: A wnewch chi ildio?
Huw Irranca-Davies: Gobeithio na wneuthum ymyrryd yn rhy gynnar, ond mewn gwirionedd, cytunaf â'r pwynt rydych newydd ei wneud, sef mai un o'r problemau yw'r diffyg unffurfiaeth, gan fod gennyf ardaloedd yn fy etholaeth lle mae'r ddarpariaeth yn eithriadol o dda o ran gofal sylfaenol, yn ogystal â'r ymgysylltiad â thimau gofal iechyd cymunedol. Mae gwaith anhygoel yn digwydd. Ond mae gennyf broblemau mewn...
Huw Irranca-Davies: Diolch i chi am ildio. Mae gennyf ddiddordeb bob amser yn y dadleuon hyn i glywed syniadau ynglŷn â sut y gallwn ddatrys rhai o'r sefyllfaoedd eithaf cymhleth hyn. Mae nifer o aelodau o fy nheulu'n gweithio ym maes radiograffeg—rhai ohonynt yn diwtoriaid clinigol ym maes radiograffeg hefyd—ac rydym yn hyfforddi llawer o bobl, ac eto, mae gennym rannau o Gymru o hyd, gan gynnwys lleoedd...
Huw Irranca-Davies: A wnewch chi ildio, Weinidog?
Huw Irranca-Davies: Diolch i’r Gweinidog am ildio, a’r rheswm rwy’n gofyn iddo ildio yw er mwyn gofyn iddo ategu fy nghroeso i rywbeth y bu’n sefyll yma yn y ddadl gyda mi o’r blaen, sef darpariaeth gofal sylfaenol yn Llanharan. Rwy'n gobeithio y bydd yn ategu fy nghanmoliaeth i Ganolfan Feddygol Pencoed sydd wedi gwneud y penderfyniad yn awr, gan weithio gyda'r bwrdd iechyd lleol, ac ar ôl dod o hyd...