David Melding: Wel, Weinidog, pan gyflwynwyd y polisi hwn, roedd yn dilyn llwybr gwahanol i'r opsiwn a oedd ganddynt yn Lloegr. Yno, mae prynwyr tro cyntaf yn cael rhyddhad hyd at £300,000, ac ar eiddo sydd wedi'i brisio ar y lefel honno, nid oes treth stamp o gwbl. Rydych yn nodi pris tŷ cyfartalog—rwy'n credu eich bod wedi dweud £140,000; nid wyf yn credu bod hynny'n gywir. Ar hyn o bryd, rwy'n credu...
David Melding: Wel, mae rhyddhad naill ai'n ddefnyddiol, neu nid yw'n ddefnyddiol, felly rwy'n credu bod angen i chi benderfynu ynglŷn â hynny. Ac ni fuaswn yn hoffi mynd allan ar strydoedd Caerdydd, neu i Fynwy neu Ynys Môn, a dweud wrth y prynwyr tro cyntaf yno, sy'n talu llawer mwy na'r hyn y byddent yn ei dalu pe baent yn Lloegr, fod y dreth ychwanegol hon nac yma nac acw. Credaf fod honno'n neges...
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, ychydig yn ôl, rhoddodd yr Arglwydd Laming gyflwyniad ar ei adolygiad o'r system cyfiawnder troseddol ieuenctid i grŵp cynghori'r Gweinidog ar ganlyniadau i blant. Soniodd am y canfyddiad brawychus fod plant sy'n derbyn gofal yn llawer mwy tebygol o ddod i gysylltiad â'r system cyfiawnder ieuenctid o gymharu â'u cyfoedion, yn aml oherwydd bod y rhai sy'n...
David Melding: A beth fyddai wedi digwydd pe bai'r Llywodraeth Lafur wedi cael eu hethol drachefn yn 2010 a bod cynlluniau gwariant Mr Darling wedi'u rhoi mewn grym? Sut y byddai hynny wedi effeithio ar eich gwariant presennol?
David Melding: Ddirprwy Lywydd, nid wyf wedi arfer â'r fath groeso cynnes. Yn y 24 awr diwethaf neu oddeutu hynny rydym wedi trafod y gyllideb, rydym wedi trafod Brexit ac rydym newydd fod yn trafod record Llywodraeth Cymru, ond yn awr fe gawn ysbaid dawel, ac rwyf am droi at y Neolithig yn stori Cymru—
David Melding: Bwm bwm. [Chwerthin.] Cafwyd llwyddiannau mawr yn yr oes Neolithig, fel rydych ar fin darganfod. Yng ngogledd-orllewin Ewrop, lle rydym ni, digwyddodd yr oes Neolithig rhwng tua 4,500 BC a 1,700 BC, er nad yw'n arbennig o ddefnyddiol inni fod yn rhy fanwl yn y materion hyn. Ni wnaeth neb ddeffro un dydd a dweud, 'A, mae'r oes Neolithig ar ben a'r Oes Efydd wedi dechrau', ond rydym yn hoffi...
David Melding: 'Dyma agwedd ar 'bersonoliaeth Cymru' y gellir colli golwg arni wrth ystyried y wlad yn ddim ond rhan o Ranbarth Ucheldir Prydain. Wyneba Cymru wastadeddau Lloegr tua'r dwyrain, ond wyneba hefyd lwybrau'r môr tua'r gorllewin. Derbyniodd bobl a dylanwadau o'r naill gyfeiriad a'r llall, a bu'r cydadwaith rhwng yr hyn a ddaeth dros dir a'r hyn a ddaeth dros fôr yn thema gyffrous yn hanes...
David Melding: 5. A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am gysylltedd 5G yng Nghaerdydd? OAQ53095
David Melding: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau na chaiff apwyntiadau eu methu yn GIG Cymru?
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf yn credu bod hwn yn faes pwysig o bolisi cyhoeddus. Gan ddibynnu ar sut yr ydych chi'n cyfrif cartrefi gwag—p'un a ydyn nhw'n wag ar ôl chwe mis, neu gyfnod byrrach—mae rhywle rhwng 23,000 a 43,000 o gartrefi gwag yng Nghymru. Yn fy ardal i, mae gan Rhondda Cynon Taf bron i 500 o adeiladau sydd wedi bod yn wag am bum mlynedd—dyna'r gwaethaf o unrhyw...
David Melding: Diolch ichi, Ysgrifennydd y Cabinet, am yr ateb hwnnw. Yn wir, cyhoeddodd EE fod Caerdydd yn un o chwe dinas yn y DU a fyddai'r cyntaf i gael rhwydweithiau symudol 5G. Mae hyn yn argoeli'n dda ar gyfer gwella gwasanaethau, nid yn unig drwy ddyfeisiau personol, a bydd hynny'n drawsnewidiol, ond i gynnig seilwaith integredig ar gyfer adeiladau, trafnidiaeth, cyfleustodau cyhoeddus, darparu...
David Melding: Paul Davies.
David Melding: Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy'n cymeradwyo'r Aelod. Gwn fod ganddi ddiddordeb angerddol yn y maes hwn, a'i bod ymysg y lleisiau mwyaf diffuant a chynnar, yn wir, i annog polisi cyhoeddus gwell. Rwy'n cytuno'n llwyr â chysyniadau sylfaenol yr economi gylchol, ac mae deunydd pacio, yn benodol, yn her go iawn, ac mae angen i ni ailystyried. Rwy'n ddigon hen i gofio'r adeg pan oeddech yn mynd i...
David Melding: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. A gaf i ddweud nad yw'r sylwadau yr wyf yn mynd i'w gwneud yn adlewyrchu ar yr unigolyn mewn unrhyw ffordd, sy'n rhywun y mae gennyf lawer o barch tuag ato? Ond mae Jeremy Miles wedi'i restru ar wefan Llywodraeth Cymru fel, ac rwy'n dyfynnu, 'y Darpar Gwnsler Cyffredinol a Gweinidog Brexit'. Mae ei ddyletswyddau fel Gweinidog, hyd y gwelaf i, yn cynnwys cadeirio...
David Melding: Weinidog, rwyf innau hefyd yn bryderus ynglŷn â cholli dysgu, sydd wedi'i nodi fel problem ers peth amser, yn enwedig mewn ardaloedd difreintiedig, lle y mae plant sydd wedi gwneud cynnydd gwych yn dal i fyny ar sgiliau allweddol—er enghraifft, llythrennedd a rhifedd—ar eu colled wedyn yn ystod yr haf. Pan adolygodd Prifysgol Caerdydd y rhaglen hon yn 2016, gwn eu bod wedi dweud ei bod...
David Melding: Efengylwr.
David Melding: Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy'n falch iawn o agor y ddadl hon ac a gaf fi ddechrau gyda gorchwyl hapus iawn a chroesawu'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James, i'w swydd? O ddifrif, mae'n fater y gallwn ei ddathlu, yn fy marn i, fod gennym swydd Gweinidog Cabinet unwaith eto wedi'i dynodi'n arbennig ar gyfer tai—ac er ei bod hi'n gyfrifol am adran arall hefyd, mae'n un sy'n...
David Melding: Rwy'n mynd i agor y ddadl hon gyda dyfyniad gan gyn-brif weithredwr y Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi, ac rwy'n dyfynnu: Heb weithredu effeithiol yn awr, mae'r holl arwyddion yn dynodi bod Cymru'n anelu am argyfwng tai sydd cyn waethed, neu o bosibl yn waeth, nag yng ngweddill y DU... Oni roddir camau ar waith ar frys, rydym yn pwysleisio wrth Gynulliad Cymru y bydd argyfwng tai'r wlad yn...
David Melding: Mae'r galw am dai yn fwy na'r cyflenwad yng Nghymru, fel y mae ledled y DU. Mae hyn wedi bod yn wir ers blynyddoedd lawer. Cododd y galw ychwanegol am dai yn bennaf o ganlyniad i'r cynnydd yn nifer yr aelwydydd, yn enwedig aelwydydd un person, sy'n adlewyrchu ffordd o fyw mwy modern, a ffactorau eraill hefyd, megis y cynnydd yn y boblogaeth. Mae'r Blaid Geidwadol yng Nghymru wedi cyhoeddi ei...
David Melding: Rydym wedi cael y ddadl am yr hawl i brynu a gwnaeth y Cynulliad ei benderfyniad. Yr hyn sy'n hollbwysig yn fy marn i yw cael deiliadaeth gymysg. Mae llawer o sylw wedi ei roi i hyn—mai dyna sydd wrth wraidd cymunedau cynaliadwy. Yn union fel y byddem o blaid gwerthu tai cyngor dan amodau, byddem o blaid gweld cynghorau'n prynu'r hyn sydd yn y stoc breifat ar hyn o bryd a'i osod wedyn ar...