Huw Irranca-Davies: Pwynt o drefn—
Huw Irranca-Davies: Pwynt o drefn ar yr union gwestiwn hwn?
Huw Irranca-Davies: A gawn ni ddatganiad am y gefnogaeth i blant ysgolion cynradd ag anghenion dysgu ychwanegol mewn addysg cyfrwng Cymraeg? Nawr, yn amlwg, mae'r Llywodraeth hon yng Nghymru wedi blaenoriaethu twf addysg cyfrwng Cymraeg yn rhan o'i thargedau uchelgeisiol ar gyfer 1,000,000 o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Ond, un o heriau tyfu addysg Gymraeg mewn ardaloedd sy'n dechrau o sylfaen isel yw y bydd...
Huw Irranca-Davies: Gydag ymddiheuriadau, os caf i ddyfynnu geiriau John F. Kennedy: mae gan bob un ohonom ni, yn ein gwythiennau yr un ganran union o halen...ag sydd yn y cefnfor...mae gennym ni halen yn ein gwaed, yn ein chwys, yn ein dagrau. Rydym ni wedi ein clymu wrth y cefnfor. A phan awn yn ôl i'r môr...rydym yn dychwelyd...i'r fan o ble y daethom ni. Nid yn unig y mae'r geiriau hynny wedi'u dyfynnu yma...
Huw Irranca-Davies: Gwyddom fod y nwyddau a gynhyrchir gan ffermwyr canolbarth Cymru yn mynd ymhell y tu hwnt i'r cynnyrch bwyd rhagorol y maent yn ei gynhyrchu ar eu tir. Hefyd, mae rheoli bryniau Pumlumon yn cael effaith uniongyrchol, boed hynny'n dda neu'n ddrwg, ar lifogydd i lawr yr afon, mewn rhannau o Gymru a rhannau o Loegr. Teimlaf yn gryf iawn y dylid eu gwobrwyo am reoli'r tir yn dda ac yn effeithiol....
Huw Irranca-Davies: Weithiau byddaf yn cydymdeimlo'n fawr â'r Gweinidog oherwydd mae John, Hefin, Aelodau eraill yma, a minnau, yn codi ac rydym yn parablu'n ddiddiwedd am fuddiannau penodol ein cymunedau ein hunain. Ond nid ydym yn gwneud unrhyw esgus am hyn oherwydd rwy'n teimlo weithiau fy mod yn cynnal cymorthfeydd wrth fynd pan fyddaf yn teithio yn ôl ac ymlaen bob dydd o Faesteg i Gaerdydd. Rwy'n eistedd...
Huw Irranca-Davies: A gaf i ofyn am ddau ddatganiad neu ddadl—un ohonynt ar y pwnc hwnnw, fel mae'n digwydd, o gyngor ar ddyledion a'r swyddogaeth hynod gadarnhaol ac allweddol y mae cynghorwyr dyled yn ei chwarae mewn llawer o sefydliadau—canolfannau Cyngor ar Bopeth, elusen dyled StepChange, Christians Against Poverty a llawer o rai eraill? Yr wythnos diwethaf, mewn digwyddiad a drefnwyd gan Hefin David,...
Huw Irranca-Davies: Rwy'n credu y caiff hyn ei groesawu nid yn unig gan bob un o'r cyd-Aelodau Llafur yn y fan hon, ond gan gyd-Aelodau Llafur a Phlaid Cydweithredol Cymru hefyd. Mae'r syniad o ddatblygu mentrau i ennill cyfoeth cymunedol sy'n cael eu gwreiddio'n ddwfn yn eich cymuned yn rhywbeth yr ydym ni wedi ei gefnogi ers amser maith. Felly, roeddwn i'n awyddus i holi am ddau faes penodol yr hoffwn i'r...
Huw Irranca-Davies: Y cyfan yr oeddwn i am ei ofyn oedd sut y bydd y rheoliad hwn—diwygiad i'r rheoliad—yn gwneud yn siŵr bod dull cymesur o weithredu, a bod dull rhesymol yn cael ei ddefnyddio ar gyfer dirwyon a chosbau. Rwy'n anghytuno â'r pwynt y mae Mark wedi'i wneud; rwy'n credu bod systemau SuDS yn gwbl hanfodol bellach—rydym wedi dysgu hyn, mae'n rhaid iddyn nhw fod ar waith, ac mae'n iawn bod yna...
Huw Irranca-Davies: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddefnyddio'r gronfa weddnewid yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg?
Huw Irranca-Davies: A gaf fi groesawu’r adolygiad o drafnidiaeth addysg ôl-16, ond hefyd yr ymgysylltu y gwn ei fod yn mynd rhagddo ar hyn o bryd rhwng y Gweinidog a Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ar deithio llesol, ar syniadau dychmygus ynghylch y cydweithio hwnnw? Ond a gaf fi ofyn, y tu hwnt i'r siwrneiau byr hynny i'r ysgol, teithiau y mae angen inni annog mwy o blant i'w gwneud ar eu beiciau...
Huw Irranca-Davies: Diolch i Suzy am godi'r cwestiwn hwn, ac efallai y gallaf roi rhywfaint o gymorth, ond hoffwn ofyn am ychydig o help gan y Gweinidog wrth symud ymlaen hefyd. Mae'r newidiadau i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi bod o gymorth, yn wir, mewn perthynas â dau fater pwysig y gwn ei fod wedi ymdrin â hwy dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf hefyd. Un, yn wir, oedd mater darpariaeth...
Huw Irranca-Davies: A wnewch chi ildio?
Huw Irranca-Davies: Hoffwn gofnodi fy mod yn digwydd cytuno ag ef fod y rheoleiddio llai llym yn rhy ysgafn, ond yn rhyfedd iawn, fe'i cefnogwyd gan George Osborne. Felly, tybed a hoffai ystyried hynny, oherwydd roedd consensws bryd hynny, roedd yn gonsensws cyfeiliornus, ond cafodd ei gefnogi gan y Blaid Geidwadol mewn gwirionedd.
Huw Irranca-Davies: Rwy'n mynd i geisio gwneud araith amhleidiol, anwleidyddol yma, sy'n anarferol yng nghanol etholiad, ond mewn gwirionedd, daw allan o rywbeth sydd wedi codi yng nghanol yr etholiad. Oherwydd cefais gopi o lythyr a anfonwyd, mae'n debyg, at bob ymgeisydd plaid seneddol ac fe'i llofnodwyd gan bennaeth materion allanol Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru; Dave Hagendyk, cyfarwyddwr Sefydliad Dysgu a...
Huw Irranca-Davies: Hoffwn orffen fy mhwynt, Mark, yna byddaf yn hapus i ildio. Ar brosiectau cefnogi cyflogadwyedd cronfa gymdeithasol Ewrop, gallem nodi'r ffaith eu bod 46 y cant yn fwy tebygol o ddod o hyd i waith dros 12 mis na phobl a oedd yn ddi-waith yn yr un modd ac yn derbyn mathau eraill o gymorth neu ddim cymorth o gwbl; fod cymorth busnes cronfa datblygu rhanbarthol Ewrop yn cael effaith gadarnhaol...
Huw Irranca-Davies: Mae'n ddrwg gennyf, mae fy amser wedi dod i ben. Byddai'n eglurhad buddiol, Mark, pe bai unrhyw Lywodraeth newydd, ar y diwrnod cyntaf, yn dweud yn gwbl glir yn yr ansicrwydd presennol a diffyg unrhyw wybodaeth ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd gyda chronfa ffyniant gyffredin y DU, eu bod yn rhoi arian yn lle'r £370 miliwn bob blwyddyn, fod hwnnw'n dod i Gymru ac y byddai'n cael ei gynnwys yn y...
Huw Irranca-Davies: Pwynt o drefn.
Huw Irranca-Davies: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd.
Huw Irranca-Davies: Tybed a wnewch chi ildio. Tybed a hoffech ailadrodd yr hyn a ddywedoch chi'n gynharach, oherwydd roeddwn i'n credu fy mod wedi eich cam-glywed yn dweud rhywbeth tebyg i, 'Roedd Llywodraeth Lafur ar gael i lobïwyr ei llogi.' Efallai eich bod yn cyfeirio at y Llywodraeth roeddwn yn aelod ohoni ar y pryd. A wnewch chi gofnodi'n union beth rydych yn ei ddweud er mwyn i mi ddeall.