Rhianon Passmore: Diolch yn fawr, ac rwyf hefyd yn croesawu'r datganiad heddiw. Yn gynharach y mis hwn, siaradais ag aelodaeth fy Mhlaid Lafur yn Islwyn ynglŷn â gwaith y comisiwn a'r adroddiad interim, a'm synnwyr o'r cyfarfod hwnnw a thrafodaethau ehangach yw bod llawer i'w wneud o hyd yn gyfan gwbl i gyfleu gwaith y comisiwn annibynnol ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru. Gan fod pobl yn naturiol yn ceisio...
Rhianon Passmore: A wnewch chi gymryd ymyriad?
Rhianon Passmore: O ran diffyg cyllid cyfalaf llwyr i Gymru a'r diffyg cyllid seilwaith llwyr dros y 10 mlynedd diwethaf, sut allwch chi esbonio hynny?
Rhianon Passmore: 4. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i godi safonau addysgol yn Islwyn? OQ59097
Rhianon Passmore: Diolch am yr ymateb hwnnw, Weinidog. Mae Ysgol Gynradd Markham yn etholaeth Islwyn, a adeiladwyd dros 110 mlynedd yn ôl ym 1913, yn gwasanaethu'r gymuned leol. Mae'n faestref werdd ond nid yw'n ddeiliog. A wnewch chi ymuno â mi i longyfarch pennaeth ysgol Markham, Mrs Lindsey Pritchard, ei staff, y llywodraethwyr a'r disgyblion ar adroddiad disglair gan Estyn sydd wedi canu clodydd yr ysgol...
Rhianon Passmore: 4. Sut mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi dyfodol llyfrgelloedd cyhoeddus yn Islwyn? OQ59143
Rhianon Passmore: Mae Deddf Llyfrgelloedd Cyhoeddus ac Amgueddfeydd 1964 yn ei gwneud yn ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru—
Rhianon Passmore: Fe wnaf. Diolch. Ac fe ddof at hynny yn y man.
Rhianon Passmore: Diolch, ac rwyf am droi at fy nghwestiwn atodol. Mae Deddf Llyfrgelloedd Cyhoeddus ac Amgueddfeydd 1964 yn ei gwneud yn ddyletswydd i Lywodraeth Cymru 'oruchwylio a hybu gwelliant y gwasanaeth llyfrgell cyhoeddus a ddarperir gan yr awdurdodau lleol... a sicrhau y cyflawnir mewn modd priodol... y swyddogaethau a roddwyd iddynt fel awdurdodau llyfrgell mewn perthynas â llyfrgelloedd' o dan y...
Rhianon Passmore: Rwyf i hefyd yn croesawu'r gyllideb derfynol a ddaeth gan Lywodraeth Cymru ar ôl llawer o waith craffu a llawer o gydweithio, a diolch i'r Gweinidog, Rebecca Evans. Ond ar ôl degawd o gyni, Brexit a phandemig COVID, nid yw'r economi a gwasanaethau cyhoeddus erioed wedi bod mewn cyflwr mwy bregus ar hyd a lled y Deyrnas Unedig. Yn fy marn i, mae Prydain yn chwalu. Yn y bôn, nid yw...
Rhianon Passmore: 5. Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r heriau iechyd y mae gaethiwed i gamblo yn eu cyflwyno yn Islwyn? OQ59228
Rhianon Passmore: Diolch. Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth rhaglen wleidyddol ITV Cymru, Sharp End, dynnu sylw at broblemau gamblo yng Nghymru, ac mae'r elusen GambleAware yn amcangyfrif bod 1.4 miliwn o bobl Prydain â phroblem gamblo, sy'n syfrdanol. Nid yw argaeledd a hygyrchedd gamblo erioed wedi bod yn fwy. Heddiw, nid oes angen ymweld â siop fetio yng nghanol trefi bellach, ac mae gan bob unigolyn sydd...
Rhianon Passmore: A ydych chi'n deall bod Cymru a'r Deyrnas Unedig yn eithriad yn fyd-eang, a bod hyd yn oed yr Unol Daleithiau, mewn 41 talaith, wedi gwahardd rasio milgwn? Ac onid ydych chi'n deall, drwy wahardd rasio milgwn, y byddwch yn cael gwared ar ddioddefaint ar unwaith ac y byddwch hefyd yn mynd lawer iawn o'r ffordd tuag at ddileu masnach anghyfreithlon o Ogledd Iwerddon?
Rhianon Passmore: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rhianon Passmore: Diolch yn fawr iawn. A fyddech yn cytuno, felly, mewn perthynas â'r ystadegau rydych newydd eu rhannu ac sy'n wybodaeth gyffredin i bawb yn y Siambr hon, po hiraf yr arhoswn am waharddiad, y mwyaf o anifeiliaid a gaiff eu niweidio?
Rhianon Passmore: Gweinidog, diolch am y datganiad, ac rwyf wedi fy nghalonogi eich bod yn datgan bod deintyddiaeth yn un o'ch prif flaenoriaethau. A hyd yn oed cyn COVID-19, bu tipyn o hanes hir ac amrywiol ers dadgofrestru. Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn sylweddoli hynny. Er hynny, i lawer o fy etholwyr, mae deintyddiaeth y GIG yn annealladwy o hyd ar adegau. Rwy'n croesawu'r llu o fentrau newydd ym maes...
Rhianon Passmore: A minnau'n gyn-athrawes, darlithydd ac aelod cabinet cyngor dros addysg a chadeirydd consortia, rydw i'n hen gyfarwydd ers blynyddoedd lawer â'r heriau addysgol sy'n wynebu ein hathrawon bob dydd, ddydd ar ôl dydd, ond byth mewn amgylchiadau economaidd a chymdeithasol mwy heriol. Mae athrawon, yn ogystal â ni, yn wynebu'r anghydraddoldeb mwyaf yn y DU ers i gofnodion ddechrau, wrth i'n...
Rhianon Passmore: Fel un sy'n cael ei enwi fel cefnogwr yn y ddadl Aelodau hon, rwyf am gofnodi gwaith Jack Sargeant yn codi'r mater allweddol hwn, fel y dywedodd nifer, yn y lle hwn a thu hwnt. Ac fel y mae llawer wedi dweud heddiw, y sâl a'r anabl a'r henoed a'r ifanc sy'n cael eu heffeithio fwyaf gan y mater hwn. Dyma yw canlyniad gosod elw'n uwch na phobl, a dyma wyneb afiach preifateiddio heb ei...
Rhianon Passmore: Diolch am dderbyn yr ymyriad. Sut y byddech yn ymateb i'r sylw hwn gennyf fi—nad ydych, drwy wneud hyn heddiw a chefnogi'r cynnig hwn, yn chwarae dwy ochr y ffens yma? Ar y naill law, rydych yn llwyr gydnabod yr anawsterau o ran y diffyg buddsoddiad yng Nghymru, amhosibilrwydd yr hyn y ceisir ei wneud yma yn eich barn chi, ond nawr, heddiw, rydych yn cefnogi agenda sy’n bersonol ac yn...
Rhianon Passmore: A wnewch chi dderbyn ymyriad?