David Melding: Llywydd, roedd llais Steffan yn llais cryf ar y cyfansoddiad. Roedd ganddo ddealltwriaeth ddofn a oedd yn caniatáu iddo droedio uchelfannau syniadaeth wleidyddol. Llywydd, cafodd y ddau ohonon ni ein hethol yn 1999, ac nid wyf yn meddwl i mi erioed glywed rhywun yn traethu mor hael ar faterion sylfaenol. Roedd ei wybodaeth am y broses seneddol a'i ddefnydd ohoni yn caniatáu iddo hyrwyddo...
David Melding: Prif Weinidog, ymunaf â chi i ganmol gwaith Lynne Neagle a'i phwyllgor, sydd wedi bod yn allweddol yn y maes hwn. A gaf i dynnu sylw at y pwysau cynyddol a achosir gan ddefnyddio'r rhyngrwyd, yn enwedig y cyfryngau cymdeithasol? Mae plant yn y DU yn treulio mwy o amser ar y rhyngrwyd erbyn hyn nag unrhyw wlad arall ar wahân i Chile yn y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad...
David Melding: Fe hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar achos fy etholwr, Mr Barry Topping-Morris. Mr Topping-Morris oedd y pennaeth nyrsio yng Nghlinig Caswell yn Ymddiriedolaeth GIG Bro Morgannwg, fel yr oedd hi bryd hynny, pan gafodd ei ddiswyddo yn 2005. Soniodd wrth uwch-reolwyr am yr hyn a ystyriai yn afreoleidd-dra mewn asesu a thrin claf. Daeth y...
David Melding: Weinidog, rwy'n gobeithio eich bod chi a'ch dirprwy addawol iawn wedi cael cyfle i ddarllen strategaeth y grŵp Ceidwadol ar ddinasoedd byw. Yn wir, os ydych chi a'ch tîm ehangach eisiau inni gynnal seminar ar eich cyfer, byddem yn falch iawn o roi ein syniadau i chi. Credaf mai un peth a'n trawodd oedd bod rhai dinasoedd o gwmpas y DU wedi bod yn wirioneddol allweddol i ddatblygiad...
David Melding: Os caf ymhelaethu ar bwynt Vikki Howells, gwir eironi ein sefyllfa bresennol yw y bydd mwyafrif helaeth y busnesau sy'n allforio i'r farchnad sengl yn dymuno parhau i lynu wrth y fframwaith rheoleiddio sydd wedi'i osod heddiw, ac ar gyfer y dyfodol, gan yr UE. Rwyf wedi clywed yr hyn rydych wedi'i ddweud am y paratoadau, ond a wnewch chi hefyd weithio gyda sefydliadau tebyg i Gydffederasiwn...
David Melding: Rwy'n credu bod cyhoeddi'r adroddiad hwn yn garreg filltir i bawb sy'n gysylltiedig i sicrhau bod pobl sy'n byw mewn adeiladau fel Tŵr Grenfell, ond yn y sector preifat, yn ddiogel ac yn teimlo'n ddiogel, ac rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad hwn yn barhaus am y cynnydd y mae'r Llywodraeth yn ei wneud tuag at weithredu'r argymhellion. Credaf mai...
David Melding: A gaf fi ddiolch i Jack am godi mater pwysig cymorth cyntaf iechyd meddwl yn y gweithle? Rwy'n siarad fel rhywun sydd wedi cael problemau iechyd meddwl fy hun yn eithaf cyson drwy gydol fy oes fel oedolyn, ac mae wedi cael effaith yn y gweithle, nid oes unrhyw amheuaeth am hynny. Mewn ffordd anffurfiol credaf fy mod wedi cael cefnogaeth ac rwyf wedi brwydro drwyddi a'r rhan fwyaf o'r amser...
David Melding: Rydym ni'n gresynu'n fawr bod yr hawl i brynu wedi ei ddiddymu. Cafwyd y dadl honno, ac rydym yn symud ymlaen. Yn sicr, mae angen inni ganolbwyntio a ffurfio consensws newydd ynghylch y cynnydd cyflym mewn adeiladu tai, a dyma fydd ein prif bwyslais bellach, ond rydym ni yn gresynu'r ddeddfwriaeth hon yn fawr iawn, ac, ar yr ochr hon i'r Cynulliad, byddwn yn ceisio ailgyflwyno'r hawl i brynu...
David Melding: Weinidog, a ydych yn croesawu penderfyniad diweddar Llywodraeth y DU i ymrwymo i safonau ansawdd aer sy'n seiliedig ar argymhellion Sefydliad Iechyd y Byd, sy'n llawer llymach nag argymhellion yr UE, ac yn wir, i ymrwymo i leihau nifer y bobl sy'n byw mewn ardaloedd sy'n mynd yn groes i ganllawiau Sefydliad Iechyd y Byd a haneru'r nifer, o leiaf, erbyn 2025? Rwy'n deall bod Llywodraeth y DU...
David Melding: Weinidog, mae'r diffyg BBaChau sy'n adeiladu tai yn ffenomen yn y DU, ac mae'n wirioneddol syfrdanol. Yn y 1980au, y sector BBaChau oedd yn gwneud tua 40 y cant o'r gwaith adeiladu tai; mae'r ffigur hwnnw mor isel â 10 y cant mewn rhai rhannau o'r wlad bellach. Yn amlwg, mae angen inni wrthdroi hyn, a chredaf eich bod yn iawn i edrych ar y safleoedd segur. Nododd ymchwil Llywodraeth Cymru yn...
David Melding: Prif Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch chi eisiau canmol gwaith Archwilydd Cyffredinol Cymru, sydd wedi tynnu sylw at y ffaith bod 82 y cant o'r gwariant hwn ar gyfer swyddi gwag. Ac mae hefyd yn dweud bod problem wirioneddol o brinder sgiliau a data gwael, yn enwedig y diffyg data cyson a chymaradwy, sy'n amharu ar yr arweinyddiaeth sydd ei hangen arnom gan y byrddau iechyd. Beth ydych chi'n...
David Melding: A gaf i ddechrau drwy ddiolch i'n Cadeirydd, David Rees, am y ffordd y mae wedi arwain y pwyllgor? Rwy'n credu ei fod wedi gwneud hynny â pharodrwydd mawr. Mae hyn yn waith brys a difrifol iawn ac rwyf yn gwerthfawrogi'r ffordd yr ydych chi wedi cadeirio ein cyfarfodydd a cheisio cael consensws ymhlith aelodau'r Pwyllgor. Ond y peth cyntaf i'w bwysleisio yw, os byddwn yn gadael yr UE heb...
David Melding: 6. Pryd y gwnaiff y Gweinidog gyhoeddi canllawiau cylch cyflog 2019 ar gyfer cyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru? OAQ53309
David Melding: Weinidog, yn amlwg felly, mae'n rhaid rhoi hyn ar waith o 1 Ebrill ymlaen, a chredaf ei bod yn wirioneddol bwysig eu cyhoeddi cyn gynted â phosibl. Nid yw diwedd mis Chwefror yn rhoi llawer o amser iddynt roi mesurau amrywiol ar waith fel y gallant weithredu'r dyfarniadau cyflog hyn yn effeithiol. A oes unrhyw obaith y gallwch gyflymu'r cyhoeddiad, sydd eisoes yn eithaf hwyr yn y cylch,...
David Melding: Weinidog, i ddathlu cynnal Cwpan Rygbi'r Byd, mae Llywodraeth Japan wedi lansio tymor o ddiwylliant rhwng Japan a'r DU. Mae pwyllgor gweithredol yng Nghymru yn hyrwyddo digwyddiadau yma. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd rhan fawr yn hyn o beth gan y dylem ddathlu ein cysylltiadau â Japan. Maent wedi gwneud cymaint yn economaidd, ac mae gennym lawer o gysylltiadau...
David Melding: A wnewch chi ildio?
David Melding: Diolch i chi am ildio. Roeddwn yn cefnogi'r cytundeb. Roeddwn am aros yn yr Undeb Ewropeaidd ac fe ymladdais yn galed i gyflawni hynny, ac fe fethais. Ond nid wyf yn meddwl ei fod yn fethiant yn wyneb wal o gelwyddau, er bod llawer o siarad slic wedi'i wneud gan bobl. Ond rwyf wedi derbyn y canlyniad. Rwy'n gresynu'n fawr at y ffaith y byddai'r cytundeb hwnnw wedi pasio o un bleidlais pe bai...
David Melding: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
David Melding: Diolch iddo am ildio, oherwydd cefais fy ethol yn 1999. Roeddwn yn derbyn y canlyniad yn 1997. Gwnaeth uwch aelodau'r grŵp, ar ôl inni symud o dan arweinyddiaeth Nick Bourne, lawer o waith ar y pryd, ac nid oedd ein haelodau'n diolch i ni bob amser. Credaf eich bod yn cyfeirio at faniffesto'r DU—roedd y geiriad yn llac yn hwnnw—ond ni fu erioed—erioed—yn bolisi gan Blaid Geidwadol...
David Melding: Rwy'n credu, a bod yn blaen, Prif Weinidog, mai rhywbeth pitw iawn fyddai datganoli gweinyddol yn y maes hwn. Nawr, ers 1945, y contract cymdeithasol a fu'n sylfaen i'r wladwriaeth les yw bod gan ddinesydd berthynas uniongyrchol â'r wladwriaeth ar gyfer lefel o ddiogelwch economaidd ac, ni waeth ble mae ef neu hi yn byw yn y Deyrnas Unedig, bod ganddo'r un hawliau economaidd sylfaenol i...