Huw Irranca-Davies: A wnewch chi ei ddweud eto?
Huw Irranca-Davies: A hoffech chi ailadrodd hynny y tu allan i'r Siambr?
Huw Irranca-Davies: A hoffech chi ailadrodd hynny y tu allan i'r Siambr?
Huw Irranca-Davies: Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd, ac rwyf o ddifrif yn gofyn am eich help a'ch cymorth yma, oherwydd dyna a glywais innau hefyd. Roedd yn ddatganiad ysgubol am Gabinet Llywodraeth Lafur a oedd ar gael i'w logi. Nawr, gallwn ddeall pe bai erlyniadau boddhaol wedi bod, naill ai gan gomisiynydd safonau neu mewn llys barn, yn erbyn unigolion sy'n euog o lygredd neu anonestrwydd mewn swydd gyhoeddus,...
Huw Irranca-Davies: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i gryfhau a datblygu partneriaeth gymdeithasol yng Nghymru?
Huw Irranca-Davies: A gawn ni ddatganiad, neu ddadl, ar fagiau siopa plastig, a all helpu i lywio ystyriaethau'r Gweinidog wrth iddi benderfynu ar y ffordd ymlaen i wneud Cymru yn arweinydd byd-eang o ran lleihau plastigau defnydd untro? Byddai'n caniatáu inni wedyn drafod yr astudiaeth wyddonol hirdymor gyntaf o blastigau bioddiraddadwy, oxo-diraddadwy a phlastig y gellir ei gompostio, sydd wedi dangos, ar ôl...
Huw Irranca-Davies: A gaf fi ddweud wrth y Gweinidog fod pobl ym mhob gorsaf o Faesteg i Gaerdydd yn edrych ymlaen yn fawr at weld y cerbydau 170 wedi'u hadnewyddu yn cael eu cyflwyno, a'r gwasanaeth ar ddydd Sul o ganol y mis hwn ymlaen? Bydd yn hwb gwirioneddol i'r rheilffordd honno ac i amlder gwasanaethau, yn enwedig ar ddydd Sul. A diolch iddo am yr ateb ysgrifenedig a gefais ganddo heddiw ar fy ymgyrch...
Huw Irranca-Davies: Un o feysydd allweddol cydweithredu trawsffiniol ar ôl Brexit, ond ar ôl yr etholiad cyffredinol mewn gwirionedd, fydd faint o ymgysylltu a geir rhwng Llywodraeth Cymru, Gweinidogion Swyddfa Cymru ac adrannau Whitehall ar fater ffrydiau cyllido sy'n berthnasol i Gymru a'r DU. Nawr, wrth gwrs, prin yw'r manylion sydd gennym ar hyn o bryd ynglŷn â chronfa ffyniant gyffredin y DU, ac yn...
Huw Irranca-Davies: A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i fy nghyd-Aelodau ar y pwyllgor a hefyd i'r Cadeirydd am ei stiwardiaeth ragorol ar hyn, fel bob amser? Roedd yn wych fod y Cadeirydd a'r pwyllgor wedi penderfynu dychwelyd at y mater hwn yn hytrach na gwthio adroddiadau blaenorol i'r naill ochr a gadael iddynt, ond yn hytrach, eu bod wedi dychwelyd ato gyda'r bwriad o annog, cynorthwyo, dangos i'r Llywodraeth...
Huw Irranca-Davies: A wnaiff y Gweinidog ildio yn y fan honno? Tybed a fyddai'r Gweinidog yn edrych yn ogystal ar fodelau adfywio ymddiriedolaethau cymunedol llai o faint. Bûm yn ymwneud â'r rhain yn y gorffennol, ac ar lefel y stryd, mae eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth leol, a rhai pobl sydd â bwriadau da—os oes ganddynt yr arbenigedd iawn y tu ôl iddynt a'r cymorth ariannol cywir i'w roi ar ben ffordd,...
Huw Irranca-Davies: A wnaiff y Gweinidog ildio?
Huw Irranca-Davies: Mae enghraifft ddiddorol iawn sydd eisoes wedi dod i sylw'r pwyllgor, dan gadeiryddiaeth alluog David Rees, sef negodi, neu ail-negodi, cytundeb masnach rhwng y DU a Korea, o'i gymharu â'r cytundeb masnach blaenorol rhwng yr UE a Korea. Yng nghytundebau masnach yr UE, mae wedi dod yn arfer cyffredin i roi hawliau dynol yn rhan o'r cytundeb cyfreithiol rwymol. Mae'n arfer cyffredin. Yn y...
Huw Irranca-Davies: Fel hyn y bydd hi bob amser arnaf i. Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. A gaf i roi croeso cyffredinol i'r datganiad a'r cyhoeddiadau heddiw, ond, fel i lawer o unigolion a mudiadau y tu allan, mae hyn yn debyg i'r foment yn y rhaglen deledu 'Bake Off', lle maen nhw'n disgrifio'r hyn y maen nhw am ei bobi a ninnau'n llyfu ein gweflau wrth feddwl am hynny, ond rydym yn aros mewn gwirionedd i weld...
Huw Irranca-Davies: Ac yn olaf—. Yn olaf—bobl bach, fel hyn y bydd hi arnaf i bob amser pan wyf i'n gwybod bod eraill wedi siarad am—. Mae'n flin gennyf. Fy mhwynt olaf i, felly, yw: a ydych chi wedi cael amser i ystyried y cynigion ynglŷn ag egwyddor cynllunio cymdogaeth 20 munud Sustrans, sef y syniad na ddylid datblygu unrhyw gymuned yng Nghymru lle mae mwy nag 20 munud o waith teithio ar feic i...
Huw Irranca-Davies: Rwy'n falch iawn, yn eich ymateb i Nick, eich bod wedi sôn am brynu'n lleol, a dyna roeddwn am ganolbwyntio arno. Gobeithio y bydd y Gweinidog—os nad yw wedi'i weld eto, fe'i anfonaf ati—wedi gweld yr adroddiad a gomisiynwyd yn ddiweddar gan Blaid Gydweithredol Cymru ac aelodau o'r grŵp Cydweithredol yma yn y Cynulliad, gan Athrofa Lleoedd Cynaliadwy Prifysgol Caerdydd, o'r enw 'Working...
Huw Irranca-Davies: Gofynnodd Mohammad Asghar, wrth agor hyn, i’r Gweinidog edrych ar achosion sylfaenol digartrefedd, a buaswn yn ymestyn hynny i gynnwys cysgu allan hefyd. Dywedodd Shelter, mewn astudiaeth yn gynharach y mis hwn, er gwaethaf, mae'n rhaid imi ddweud, er gwaethaf y mesurau a oedd yn cael eu cymryd mewn lleoedd fel Cymru a'r Alban, y bydd cymaint â 4,000 neu fwy o blant yn cael eu gwneud yn...
Huw Irranca-Davies: Rwy'n dweud hyn fel bachgen ysgol gyfun balch: ni allwn fyth fod yn hunanfodlon ynglŷn ag ymdrechu i gael canlyniadau uwch o'n haddysg ysgol a choleg, ac mae angen i ni weld gwelliant parhaus a chyflym ar y llwybr rydym bellach yn ei weld. Ond wrth inni agosáu at dymor y dathlu ac ewyllys da, nid wyf am ladd ar gyflawniadau ein myfyrwyr a'n hathrawon a'n llywodraethwyr a'n consortia...
Huw Irranca-Davies: Yn ystod y chwe wythnos ddiwethaf?
Huw Irranca-Davies: A ydych chi'n golygu yn ystod yr ymgyrch etholiadol?
Huw Irranca-Davies: Rwyf wedi ymweld â phob ysgol yn fy etholaeth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.