Bethan Sayed: Dim ond ychydig o sylwadau sydd gen i ynglŷn â gwaith craffu'r pwyllgor ar ran diwylliant a'r iaith Gymraeg. [Anghlywadwy.]—y cyllid i gefnogi'r gwaith o weithredu rhai argymhellion allweddol a amlygwyd yn yr adolygiad wedi'i deilwra a gynhaliwyd y llynedd, ac mae'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu wedi bod yn tynnu sylw at yr angen am fwy o arian ar gyfer y llyfrgell...
Bethan Sayed: Sori am hynny. Gobeithio bydd e'n gweithio nawr.
Bethan Sayed: Rwy'n credu y byddai'n esgeulus i mi, fel Cadeirydd y pwyllgor diwylliant, beidio â chofnodi rhai o'n meddyliau am yr hyn sydd wedi bod yn digwydd yn ddiweddar gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Rydym yn croesawu'r cyhoeddiad am gyllid i gefnogi'r gwaith o weithredu rhai argymhellion allweddol a amlygwyd yn yr adolygiad wedi'i deilwra a gynhaliwyd y llynedd, ond mae ein pwyllgor wedi bod yn...
Bethan Sayed: Cwpwl o sylwadau ar yr iaith Gymraeg. Dŷn ni'n gwybod bod lot o fudiadau'n stryglo ar hyn o bryd—yr Eisteddfod, yr Urdd ac yn y blaen—a gwnaethon ni ofyn i Weinidog yr iaith Gymraeg a oedd hi'n mynd i apelio at y pot COVID ehangach ar gyfer arian yn y maes yma. Roedd hi'n dweud bod hwn yn opsiwn, ond gwnaethon ni ddim clywed a oedd hynny'n mynd i ddigwydd. Dŷn ni'n gwybod bod rhai o'r...
Bethan Sayed: Rwy'n sicr yn cytuno ei bod hi'n hanfodol cael rhyw fath o warant dioddefwyr llifogydd mewn perthynas â chymorth ariannol ar gyfer y dyfodol. Gwyddom fod yr Awdurdod Glo, yn Sgiwen, wedi rhoi rhyw fath o gymorth ariannol, ond dim ond ar gyfer gerddi allanol—unrhyw newidiadau sydd angen eu gwneud i'r gerddi, oherwydd yr effaith—ond nid yw hynny'n mynd hanner digon pell. Felly, byddai...
Bethan Sayed: Dwi wedi clywed yma heddiw y ffaith eich bod chi'n dweud pa mor dda mae'r coleg Cymraeg yn ei wneud yn y gwaith maen nhw'n ei wneud, a dwi'n cytuno ac wedi cwrdd â nhw i drafod y gwaith hynny. Ond, pan ddaeth y Gweinidog iaith Gymraeg i'n pwyllgor ni, y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, yn ddiweddar, fe wnaethon ni godi'r mater gyda hi nad oedd dim byd yn y gyllideb ddrafft er...
Bethan Sayed: 3. Pa gamau penodol y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i leihau effaith pandemig COVID-19 ar fenywod yn y gweithle? OQ56335
Bethan Sayed: Diolch am yr ymateb. Rydym ni'n gwybod bod menywod, yn anffodus, wedi cael eu heffeithio yn anghymesur gan y pandemig, gan fod menywod yn cynrychioli 80 y cant o wasanaethau gofal plant, gofal a hamdden, 75 y cant mewn gwasanaethau gweinyddol ac ysgrifenyddol, a 60 y cant yn gweithio ym maes gwerthu a gwasanaethau cwsmeriaid—sectorau sydd wedi eu taro'n galed. Rydym ni newydd siarad am ofal...
Bethan Sayed: Mae'n wir dweud, fel y dywedodd y Gweinidog, y bu'r maes hwn yn un wleidyddol ddadleuol a chymhleth dros y blynyddoedd, a chan fy mod bellach yn gorffen fy swydd etholedig, hoffwn hel atgofion a dweud mai dyma sut y dechreuais, drwy fod yn llywydd myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth ac ymgyrchu yn erbyn cyflwyno unrhyw ffioedd yma yng Nghymru, er gwaethaf y ffioedd ychwanegol a gyflwynwyd yn y...
Bethan Sayed: 5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddefnyddio ymwelwyr iechyd yng Nghymru? OQ56331
Bethan Sayed: Diolch i chi am yr ymateb hwnnw. Rwyf wedi codi'r cwestiwn hwn ar sawl achlysur oherwydd fy mod wedi cynnal arolwg o famau newydd yn ystod y pandemig, lle roeddent yn lleisio nifer o bryderon ynghylch mynediad at ymwelwyr iechyd yn ystod y cyfnod pwysig hwn. Ond yn ôl yr hyn a ddeallaf, ddoe, ar ôl cyfarfod â'r Gweinidog iechyd meddwl—a diolch eto am y cyfarfod hwnnw—fel y dywedoch...
Bethan Sayed: Nid yw Llywodraeth Cymru wedi ennill bri mawr ar fater prydau ysgol am ddim yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac mae'r ddarpariaeth wedi bod yn ad hoc, heb arweinyddiaeth ddigon clir. Ers dechrau'r pandemig, mae fy nhîm wedi ymgyrchu i sicrhau bod plant yng Ngorllewin De Cymru yn cael mynediad cyfartal at y lwfans prydau ysgol am ddim, ac mae pob awdurdod lleol ond tri ledled Cymru wedi dewis...
Bethan Sayed: 7. Beth yw blaenoriaethau'r Prif Weinidog ar gyfer gwella addysg sy'n seiliedig ar ymchwil yng Nghymru? OQ56375
Bethan Sayed: Diolch am yr ateb yna. Yn amlwg, argymhellodd adolygiad Reid, oherwydd tanfuddsoddiad hanesyddol Cymru mewn ymchwil a diffyg sylfaen economaidd ymchwil breifat, y dylai Llywodraeth Cymru arwain ar hyn drwy gynyddu cyllid drwy gronfa dyfodol Cymru gyda chyllid mwy sylweddol—o leiaf tua £30 miliwn. Ond, y llynedd, dim ond £7 miliwn wnaeth eich Llywodraeth ei roi yn y gronfa benodol hon. Y...
Bethan Sayed: Yn gyntaf, roeddwn i eisiau codi pryderon gyda chi ynglŷn â sylwadau a wnaeth gwas cyhoeddus y GIG yr wythnos diwethaf. Gwnaeth James Moore, a oedd ar secondiad ar y pryd i Addysg a Gwella Iechyd Cymru, sylwadau ofnadwy yn cymharu triniaeth siaradwyr Saesneg ag apartheid. Felly, ymgyrch yn erbyn ysgol Gymraeg newydd yng ngorllewin Cymru oedd hon. Nawr, er gwaethaf y ffaith bod hyn yn gwbl...
Bethan Sayed: Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer ehangu llwybrau yn ôl i waith i'r rhai sydd wedi colli cyflogaeth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf?
Bethan Sayed: Cefais fy nhemtio, ond ddim heddiw. Yr wythnos hon, rydym yn nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta 2021. Rwyf wedi ymgyrchu ar y mater hwn ers blynyddoedd lawer, ac ers imi gael fy ethol gyntaf yn 2007, mae hwn yn fater rwyf wedi’i flaenoriaethu. Yn yr amser hwn, rydym wedi gwneud cryn dipyn o gynnydd, yn enwedig ar ymwybyddiaeth ac ar ehangu dealltwriaeth o'r holl faterion sy'n...
Bethan Sayed: Ni wnaeth llawer o'r materion a nodwyd yn y gwaith yn arwain at y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru), yn anffodus, gael eu datblygu fel rhan o'r Bil terfynol, yn benodol nifer yr Aelodau yn y Siambr hon. Un ffordd o wella llwyth gwaith a chraffu, problemau a nodwyd yn glir dros y blynyddoedd diwethaf, byddai ystyried o ddifrif y mater o rannu swyddi. Mae hyn yn dod yn fwy cyffredin ym myd...
Bethan Sayed: Yr ail gais am ddatganiad yr hoffwn i ei wneud yw hwn: bydd llawer ohonom ni wedi gweld datblygiadau gofidus yn achos y dyn croenddu Mohamud Hassan, fel y gwyddoch chi, a bu farw yn dilyn arhosiad yn nalfa'r heddlu yn gynharach eleni. Cawsom wybod heddiw gan y cyfreithiwr teuluol, Lee Jasper, fod pedwar o swyddogion yr heddlu bellach yn wynebu ymchwiliad ffurfiol yn yr achos hwn, ac mae...
Bethan Sayed: 12. Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog yn ei rhoi i iechyd meddwl wrth ddyrannu cyllid i'r portffolio iechyd meddwl, llesiant a'r Gymraeg? OQ56461