Canlyniadau 761–780 o 2000 ar gyfer speaker:Huw Irranca-Davies

8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Addysg Ysgol (11 Rha 2019)

Huw Irranca-Davies: Dyma'r flwyddyn gyntaf i ddisgyblion sefyll y TGAU newydd mewn Cymraeg ail iaith ar ôl dileu opsiwn y cwrs byr. Mae'n fwy heriol, ond mae'r cynnydd yn niferoedd y cofrestriadau wedi arwain at gynnydd o 12.5 y cant yn y dysgwyr a gafodd A* i C yn y cymhwyster cwrs llawn. Eleni, fe wnaeth 1,500 o ddysgwyr ychwanegol sefyll arholiadau TGAU mewn gwyddoniaeth, gan adeiladu ar y nifer sylweddol o...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Y Gronfa Ffyniant Gyffredin ( 7 Ion 2020)

Huw Irranca-Davies: 3. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Phrif Weinidog y DU ynghylch y Gronfa Ffyniant Gyffredin? OAQ54889

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Y Gronfa Ffyniant Gyffredin ( 7 Ion 2020)

Huw Irranca-Davies: Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna, ac mae wedi sefyll yn gadarn iawn, a hynny'n briodol, ar yr egwyddor 'dim ceiniog yn llai, dim un grym wedi'i golli' o ran y gronfa ffyniant gyffredin. Ac eto, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ychydig iawn o ymgysylltu, os o gwbl, a fu gan Lywodraeth y DU â Llywodraeth Cymru, a phrin fu'r manylion y tu hwnt i'r pennawd hwnnw. Yn y cyfamser, yn dawel...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol'): Cryfhau Undeb Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon ( 7 Ion 2020)

Huw Irranca-Davies: Waeth beth fo datblygiad hanesyddol undeb y Deyrnas Unedig, mae'r undeb fodern yn un o gydsyniad, ac mae'r cydsyniad hwnnw'n gofyn am barch ymysg llywodraethau cenedlaethol a rhanbarthol a seneddau'r Deyrnas Unedig. Ond mae'r undeb hwn hefyd yn gyfnewidiol ac yn llawn straen, sy'n gallu ei ddal gyda'i gilydd ond sy'n gallu yn yr un modd fygwth ei dynnu ar wahân, mewn ymateb i densiynau...

3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 7 Ion 2020)

Huw Irranca-Davies: A gaf i ofyn am un ddadl heddiw yn unig? Mae'n wych gweld y Gweinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yn ei le hefyd, oherwydd mae'r ddadl yr wyf i eisiau gofyn amdani'n ymwneud â threftadaeth ddiwylliannol gerddorol anhygoel Cymoedd y De. Roeddwn i'n falch iawn rai blynyddoedd yn ôl—mae'n rhaid bod hynny tua 13 mlynedd yn ôl—o ddadorchuddio plac i goffáu perfformiad cyhoeddus...

4. Dadl ar Ddatganiad: Cyllideb Ddrafft 2020-21 ( 7 Ion 2020)

Huw Irranca-Davies: A gaf i, wrth agor fy sylwadau, ddiolch i Lywodraeth Cymru, hyd yn oed gyda'r anawsterau o fethu â llwyddo i gwblhau setliad hirdymor amlflwydd, hyd yn oed gyda'r anawsterau o orfod aros tan fis Mawrth, ar ôl inni gyflawni ein cyllideb derfynol ni, ac yna gyflwyno cyllideb atodol i gynnwys yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud—yn wyneb y cyfan, hyd yn oed, dyma'r tro cyntaf mewn...

4. Dadl ar Ddatganiad: Cyllideb Ddrafft 2020-21 ( 7 Ion 2020)

Huw Irranca-Davies: Wel, unwaith eto—. Llywydd, rwy'n gallu gweld bod yr amser yn drech na mi. Unwaith eto, rwy'n wirioneddol siomedig, oherwydd bod y methiant i symud ymlaen—[torri ar draws.]

4. Dadl ar Ddatganiad: Cyllideb Ddrafft 2020-21 ( 7 Ion 2020)

Huw Irranca-Davies: Oherwydd bod methiant Llywodraethau olynol, ond gan gynnwys y Llywodraeth Geidwadol bresennol, i allu sicrhau consensws yn San Steffan yn golygu y bydd yn rhaid i ni wneud penderfyniadau llawn dychymyg, creadigol ac anodd ynghylch sut yr ydym yn ariannu nid dim ond iechyd, ond iechyd a gofal cymdeithasol gyda'i gilydd. Un o'r penderfyniadau, Darren, y bydd yn rhaid i ni ei wneud fel...

4. Dadl ar Ddatganiad: Cyllideb Ddrafft 2020-21 ( 7 Ion 2020)

Huw Irranca-Davies: Felly, mae'n drueni bod y wleidyddiaeth wrth arwain at etholiad nesaf—[torri ar draws.] Rydych yn gwneud yn union yr un fath ag y mae Llywodraethau Ceidwadol olynol wedi ei wneud—

4. Dadl ar Ddatganiad: Cyllideb Ddrafft 2020-21 ( 7 Ion 2020)

Huw Irranca-Davies: Yn wir. Rwy'n ymddiheuro, Llywydd. Roedd yn grwydriad diddorol. Ymddiheuraf.

4. Dadl ar Ddatganiad: Cyllideb Ddrafft 2020-21 ( 7 Ion 2020)

Huw Irranca-Davies: Diolch yn fawr iawn.

4. Dadl ar Ddatganiad: Cyllideb Ddrafft 2020-21 ( 7 Ion 2020)

Huw Irranca-Davies: A wnaiff y Gweinidog ildio? A gaf i nodi ar hynny, pan fyddwch yn ystyried elfen ddynol y stori honno—rwy'n siarad ag etholwyr mewn teuluoedd sy'n gweithio am gyflog isel iawn sydd, waeth beth fo'r feirniadaeth ynghylch faint ymhellach y gallem ni fynd â'r cynnig gofal plant, yn dweud wrthyf eu bod £200 neu £250 yr wythnos yn well eu byd oherwydd nad ydyn nhw'n talu am ofal plant mwyach...

QNR: Cwestiynau i Y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd ( 8 Ion 2020)

Huw Irranca-Davies: Beth yw blaenoriaethau gwario Llywodraeth Cymru yn Ogwr?

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Hawliau Dynol ( 8 Ion 2020)

Huw Irranca-Davies: Yr hyn y buaswn yn cytuno â Darren yn ei gylch yw y dylai pob Llywodraeth—y Llywodraeth hon, Llywodraeth y DU, yr Undeb Ewropeaidd, pob Llywodraeth—sicrhau, fel y bo'n briodol, eu bod yn codi materion ynghylch hawliau dynol gydag unrhyw genedl—unrhyw genedl a phob cenedl. Ond mae'r un mor briodol, ac mae'n rhaid i ran o hynny, mae'n rhaid i mi ddweud, ymwneud â datblygu cysylltiadau...

6. Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Waith y Pwyllgor ( 8 Ion 2020)

Huw Irranca-Davies: A gaf fi groesawu'r datganiad gan y Cadeirydd heddiw, ac wrth wneud hynny, hoffwn ddiolch iddi hi a fy nghyd-Aelodau ar y pwyllgor am y ffordd golegol, agored, ddidwyll ac ymgysylltiol iawn yr aethom ati gyda'n gilydd i wneud gwaith y pwyllgor? Er y gallwn oll gyflwyno ein syniadau ein hunain, ac weithiau, ein rhagdybiaethau ein hunain, mae pawb ohonom wedi ymrwymo i fod yn agored ac i...

6. Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Waith y Pwyllgor ( 8 Ion 2020)

Huw Irranca-Davies: Nawr, fel y dywedodd y Cadeirydd yn ei sylwadau agoriadol, bydd unrhyw argymhellion a wnawn yn fwyaf effeithiol os ydynt wedi'u gwreiddio mewn cefnogaeth wleidyddol a chyhoeddus eang ei sail. Felly, mae ymgysylltu â'r cyhoedd ar y cam hwn a thrwy'r cyfan yn hollbwysig, ond mae'r ymgysylltiad gwleidyddol yn bwysig hefyd, mae'n rhaid i mi ddweud. Felly, fy ail gwestiwn i'n Cadeirydd yw holi a...

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Adfywio Cymunedol ( 8 Ion 2020)

Huw Irranca-Davies: Diolch i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r ddadl hon o dan y teitl 'adfywio cymunedol', ac am resymau y byddaf yn ymhelaethu arnynt mewn munud, ni fyddaf yn cefnogi'r cynnig yn eu henw; byddaf yn cefnogi cynnig y Llywodraeth. Ond mewn gwirionedd, nid yw rhai o'r nodweddion rydych wedi sôn amdanynt sy'n effeithio ar drefi arfordirol—nid pob un ohonynt, ond rhai trefi arfordirol—yn annhebyg i'r...

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Adfywio Cymunedol ( 8 Ion 2020)

Huw Irranca-Davies: Ac yn wir, mae'n ddadl y mae cyn-gydweithwyr i mi yn San Steffan a gynrychiolai'r ardaloedd glan môr hynny wedi ei chyflwyno'n eithaf cryf, dro ar ôl tro. Ac mae rhai o'r rhain yn ardaloedd ariannu thematig, a heb fod yn gyfyngedig i gyrchfannau gwyliau arfordirol. Felly, mae pethau fel yr hyn a fodolai unwaith—Cronfa Swyddi'r Dyfodol, a phethau fel hynny, gyda Llywodraeth y DU—roedd y...

8. Dadl Plaid Cymru: Teuluoedd Incwm Isel ( 8 Ion 2020)

Huw Irranca-Davies: Efallai eich bod yn iawn, a chroesawaf y ffordd gynhwysfawr yr aethoch drwy rai o'r polisïau sydd gan San Steffan. Efallai eich bod yn iawn na fyddant yn newid, ond mae'n ddiddorol fod rhai o'r ASau hynny a etholwyd mewn ardaloedd Llafur yn flaenorol yn mynd i gael etholwyr yn heidio i'w cymorthfeydd yn awr gan ddangos realiti hyn yn glir iddynt. Felly, nid wyf yn credu y dylem anobeithio,...

8. Dadl Plaid Cymru: Teuluoedd Incwm Isel ( 8 Ion 2020)

Huw Irranca-Davies: Yn fyr. Tybed a yw wedi cael amser i fyfyrio ar un o'r cynigion mwy radical neu drafodaethau a gododd, sef: os yw'r undeb yn parhau fel y mae, ymddengys nad yw nofio yn erbyn y llif fel hyn yn erbyn yr hyn a wna Llywodraeth y DU yn barch cydradd, yn parchu'r hyn sy'n digwydd, yn cydweddu â'n polisïau. Felly, byddai'n ddiddorol gweld, ar fecanweithiau'r cyd-Weinidogion ac yn y blaen, a oes...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.