Caroline Jones: A wnewch chi ildio?
Caroline Jones: Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Staff y GIG yw ein hadnodd pwysicaf. Ofer yw pwmpio miliynau o bunnau yn ychwanegol i ofal iechyd oni chawn y meddygon, y nyrsys, y radiograffyddion, y technegwyr labordy a'r cynorthwywyr gofal iechyd sydd eu hangen i ddarparu gofal o'r radd flaenaf. Croesawaf y cynnydd y mae 'Hyfforddi. Gweithio. Byw' yn ei wneud, ac mae'r ffaith eich bod wedi llwyddo i...
Caroline Jones: Diolch i'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon am ei adroddiad ar wasanaethau nyrsio cymunedol a nyrsio ardal. Mae nyrsio cymunedol yn wasanaeth hanfodol sy'n helpu i gadw cleifion allan o'r ysbyty ac yn caniatáu iddynt aros yn eu cartrefi eu hunain. Wrth i'n demograffeg newid, wrth i ni gyd fyw'n hwy gyda salwch cronig mwyfwy cymhleth, mae'r gwasanaethau a ddarperir gan nyrsys...
Caroline Jones: Hoffwn gofnodi fy niolch i glercod y pwyllgor a phawb a gymerodd ran yn ein hymchwiliad i eiddo gwag. Nid oeddwn ar y pwyllgor ar ddechrau'r ymchwiliad ac ni chefais gyfle i holi'r rhan fwyaf o'r tystion, ond rwy'n ddiolchgar i bawb a roddodd o'u hamser i'n goleuo. Mae gennym argyfwng tai yng Nghymru, ac mae dros 60,000 o aelwydydd ar restr aros, ond llond dwrn yn unig o dai cymdeithasol...
Caroline Jones: 1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu a gwella bioamrywiaeth yng Ngorllewin De Cymru? OAQ54847
Caroline Jones: Diolch, Prif Weinidog. Gan fod fy rhanbarth i yn gartref i un o'r cytrefi olaf sy'n weddill o'r pryf cop fen raft, ac fel yr hyrwyddwr rhywogaeth dros y pryf cop prinnaf hwn ym Mhrydain, mae gen i ddiddordeb brwd mewn cynnal bioamrywiaeth Gorllewin De Cymru. Mae fy rhanbarth i hefyd yn gartref i un o'r enghreifftiau gorau o gynefin twyni tywod yn Ewrop—gwarchodfa natur genedlaethol Cynffig,...
Caroline Jones: Er ein bod yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddefnyddio'r mynegai pris defnyddwyr yn hytrach na'r mynegai prisiau manwerthu, bydd hyn yn dal yn arwain at gynnydd mewn ardrethi busnes i fusnesau sy'n ei chael hi'n anodd ledled Cymru. Mae defnyddio'r mynegai pris defnyddwyr yn dal i arwain at gynnydd o 1.7 y cant ar gyfer ardrethi busnes ledled Cymru, ac, ar adeg pan fo busnesau'n ei...
Caroline Jones: Diolch, Llywydd. Rai wythnosau yn ôl, cynhaliodd Sefydliad y Merched Cwm Brombil ddigwyddiad i Age Connects Castell-nedd Port Talbot yn Abaty Margam, fel rhan o ymgyrch Sefydliad y Merched i greu cysylltiadau er mwyn lleddfu unigrwydd. Rwy'n falch o fod yn aelod o Sefydliad y Merched Cwm Brombil. Yn ogystal â gweithio'n galed i fynd i'r afael ag unigrwydd ac unigedd, mae'r menywod yng Nghwm...
Caroline Jones: Diolch i Helen, Dai a David am gyflwyno'r ddadl hon. Fel rwyf wedi'i ddweud sawl gwaith o'r blaen, nyrsys yw asgwrn cefn ein GIG. Yn anffodus, mae Llywodraethau olynol wedi methu recriwtio a chadw digon o nyrsys, ac mae gan Gymru hanes gwael o gynllunio'r gweithlu, ac rydym yn gweld y canlyniadau, oherwydd mae mwy o nyrsys yn gadael y proffesiwn na sy'n ymuno. Mae'r ffaith bod angen inni...
Caroline Jones: Fe hoffwn innau hefyd gydymdeimlo ar goedd â'r holl deuluoedd yr effeithiwyd arnynt. Diolch am eich datganiad, Gweinidog, ac am hwyluso'r briffio gyda'r panel annibynnol a'ch swyddogion. Rwy'n croesawu'r cynnydd sy'n cael ei wneud i sicrhau bod gwasanaethau mamolaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn ddiogel i'm hetholwyr. Fel y mae'r panel yn tynnu sylw ato, mae ffordd bell i fynd. Mae'r...
Caroline Jones: 3. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i gefnogi pobl ag awtistiaeth yng Ngorllewin De Cymru? OAQ55009
Caroline Jones: Diolch am eich geiriau caredig, Gweinidog, a diolch am eich ateb i'm cwestiwn. Mewn cyfarfod ddydd Gwener diwethaf, er gwaethaf y mesurau a amlinellwyd gennych, mae fy etholwyr yn dal i'w chael yn anodd cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw. Mae'n ddigon drwg i deuluoedd sy'n chwilio am gymorth i'r plant ag awtistiaeth, ond maen nhw wedi tynnu sylw at y ffaith y gall fod yr un mor drawmatig...
Caroline Jones: Diolch am eich datganiad, Dirprwy Weinidog, ac rwy'n croesawu ymrwymiad newydd Llywodraeth Cymru i ganol ein trefi. Mae siopau gwag yn annog siopwyr posibl i gadw draw a, phan fyddant yn wag, gellir eu fandaleiddio, yn enwedig yn hwyr yn y nos, gan wneud y dref yn ardal lle nad yw'n bosibl cerdded drwyddi. Mae llawer o siopau gwag yng nghanol ein trefi ledled Cymru, ac felly rwy'n croesawu'r...
Caroline Jones: 1. A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r camau y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a GIG Cymru yn eu cymryd i amddiffyn y cyhoedd rhag coronafeirws? 387
Caroline Jones: Diolch, Weinidog. Mae'r bygythiad sy'n ein hwynebu yn sgil y math newydd hwn o coronafirws yn achos cryn bryder, ac rwy'n ddiolchgar eich bod wedi amlinellu'r camau y mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i'n cadw'n ddiogel. Mae'n achos pryder y credir bod dros 5 miliwn o bobl wedi gadael Wuhan cyn i'r cwarantin gael ei roi ar waith. Yn anffodus, yn ystod yr wythnosau canlynol, rydym wedi gweld...
Caroline Jones: Diolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw. Ar ddechrau degawd newydd, pan fydd ein meddyliau'n troi at y dyfodol, mae ein GIG unwaith eto'n cael ei lethu gan broblemau'r gorffennol. Mae adrannau damweiniau ac achosion brys Cymru newydd weld eu hamseroedd aros gwaethaf erioed. Yn ôl ffigurau amseroedd aros y mis diwethaf, dim ond 72 y cant a dreuliodd lai na phedair awr mewn...
Caroline Jones: Gwnaf, yn sicr.
Caroline Jones: Rwy'n deall, Mike, fod y fferyllfa'n broblem mewn llawer o ysbytai, oherwydd ni allant ddosbarthu'r feddyginiaeth ar adeg addas i bobl fynd adref, ac mae llawer yn y pen draw yn dod gyda'r nos a chaiff pobl eu cadw'n hwy na'r angen. Felly, yn bendant mae angen edrych ar hynny, a diolch ichi, Mike, am godi hynny. Mae Llywodraethau olynol wedi methu cynllunio ar gyfer y dyfodol, felly mae...
Caroline Jones: 6. A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio digwyddiadau mawr i hyrwyddo twristiaeth yng Ngorllewin De Cymru? OAQ55052
Caroline Jones: Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Mae Cymru'n datblygu fel cyrchfan twristiaeth, ac yn 2017, amcangyfrifir bod trosiant Cymru yn £4.8 biliwn. Mae twristiaeth yn rhan bwysig o economi fy rhanbarth, gan fod yno harddwch Gŵyr a thref glan môr Porthcawl. Mae'n ymddangos nad yw Stadiwm Liberty yn cael ei ddefnyddio'n ddigonol ac nid yw'n gweld yr un nifer o wyliau chwaraeon a cherddoriaeth a...