Canlyniadau 761–780 o 2000 ar gyfer speaker:David Melding

9. Dadl ar NNDM6985 — Trafodaethau ar Ymadael â'r UE ( 5 Maw 2019)

David Melding: Rwy'n credu ein bod ni'n sôn am ein diwylliant democrataidd yn y fan yma a'r hyn y mae rhan fwyaf o bobl yn ei feddwl. Mae'r rhain yn ddyddiau o brysur bwyso. Byddant yn penderfynu sut y mae pobl yn meddwl, ac rwy'n credu bod y rhan fwyaf o bobl a bleidleisiodd dros Brexit, yn credu y byddem ni wedi gadael amser maith cyn hyn. Dyna'r gwir amdani. Nid wyf yn hoffi hynny, ond rydym ni wedi...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Brexit heb Gytundeb ( 6 Maw 2019)

David Melding: Wel, Weinidog, mae'n rhaid imi ddweud eich bod braidd yn rhagrithiol yn rhybuddio am y trychinebau a fyddai'n deillio o Brexit 'dim bargen'. Cytunaf y byddai pethau'n datgymalu ac ni wyddom i ba raddau, ac ni fuaswn i byth yn cymryd y risg honno, ond yr unig ffordd o atal hynny yw cael cytundeb. Un cytundeb yn unig a negodwyd gan Lywodraeth Prydain a—cofiwch—gan yr Undeb Ewropeaidd, ac os...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Cyswllt Gyda Gwledydd y tu allan i'r UE ( 6 Maw 2019)

David Melding: Weinidog, yn y strategaeth ryngwladol rydych yn ei datblygu, gwn y byddwch yn rhoi sylw i 'Gwerthu Cymru i'r Byd', adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, a chredaf ei bod yn hynod bwysig, wrth ddatblygu'r strategaethau allforio hyn, ein bod yn sylweddoli, yn ogystal â'r cwmnïau mawr—maent yn bwysig iawn—fod BBaChau ym maes gweithgynhyrchu uwch gwerth uchel a'r diwydiannau...

8. Dadl Plaid Cymru: Adeiladu Tai Cymdeithasol yng Nghymru ( 6 Maw 2019)

David Melding: Rwy'n falch iawn fod y ddadl hon yn cael ei chynnal prynhawn yma a diolch i Blaid Cymru am ei chyflwyno, ac rwy'n meddwl bod angen inni ddatgan bod tai cymdeithasol yn elfen hanfodol o'r cyflenwad tai sydd ei angen arnom. Mae'n aml wedi arwain arloesi gwych yn ein hanes, wedi rhyddhau pobl a rhoi cartrefi addas iddynt allu byw ynddynt, ac mae'n bryd inni ailddatgan gwerth yr egwyddor o dai...

8. Dadl Plaid Cymru: Adeiladu Tai Cymdeithasol yng Nghymru ( 6 Maw 2019)

David Melding: Yn gyntaf oll, mae'r dystiolaeth allan yno, felly nid yw'r rhain yn ffigurau rwyf wedi'u creu o ddim byd, neu eich bod chi wedi gwneud hynny. Gwn eich bod chi hefyd wedi cael eich dylanwadu'n fawr, fel y cefais i dair blynedd yn ôl, gan adroddiad yr Athro Holmans. Fy asesiad bras yw bod angen tua 40 y cant o gartrefi nad ydynt ar gyfer y farchnad a 60 y cant ar gyfer y farchnad, ac mae'n...

9. Dadl ar ddeiseb P-05-849 Dylai pob dyn yng Nghymru gael mynediad drwy'r GIG at y profion diagnostig gorau posibl ar gyfer canser y prostad ( 6 Maw 2019)

David Melding: A gaf fi ddweud faint yw fy ngwerthfawrogiad o'r broses o gyflwyno deiseb? Yn y Cynulliad hwn, mae gennym Bwyllgor Deisebau arbennig o gryf a deisebau diddorol iawn yn cael eu cyflwyno. Rwy'n llongyfarch y ffordd yr amlinellodd David yr achos mewn modd grymus iawn. Mae'n iawn ein bod yn trafod y materion hyn y mae ein hetholwyr yn teimlo eu bod yn arbennig o bwysig a gofyn i'n hunain a ydynt...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cydlyniant Cymdeithasol (12 Maw 2019)

David Melding: Prif Weinidog, un ffordd o hybu cydlyniant cymdeithasol yw sicrhau bod mynediad llawn a phriodol at raglenni diwylliant a chelfyddydau. Tybed a ydych chi wedi gweld rhywfaint o'r rhaglen Fusion, y mae eich Llywodraeth, er tegwch, wedi ei hyrwyddo i ehangu mynediad at y celfyddydau a diwylliant, ac mae prosiect ailddarganfod treftadaeth Caerau a Threlái yn eich etholaeth chi, ar hyn o bryd,...

Enwebiadau ar gyfer Cadeirydd Pwyllgor (13 Maw 2019)

David Melding: Rwy'n enwebu Janet Finch-Saunders.

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Canllawiau i Ysgolion ar Hunanladdiad (13 Maw 2019)

David Melding: Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch yn awyddus i ymuno â mi i ganmol y gwaith y mae'r Cynulliad wedi'i wneud yn y maes hwn, yn enwedig o dan arweinyddiaeth Lynne Neagle yn 'Cadernid Meddwl', ond Dai Lloyd hefyd ar y pwyllgor iechyd. Y neges syml yw: mae gormod lawer o bobl yn marw o ganlyniad i hunanladdiad. Mae'n gannoedd bob blwyddyn yng Nghymru. Mae'n rhaid inni osod targedau i leihau nifer y...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Teithio Llesol (13 Maw 2019)

David Melding: Weinidog, mae'n galonogol clywed sut rydych yn siarad â'ch cyd-Aelodau, oherwydd ymddengys i mi fod hwn yn faes sy'n berthnasol i fethodoleg Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, oherwydd, yn amlwg, gallwch wella iechyd. Os ydym yn gwneud hynny, y peth allweddol arall yw ein bod yn gwella'r amgylchedd, oherwydd mae hebrwng plant i'r ysgol ac oddi yno yn rhywbeth a ddechreuodd...

5. Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Effaith Brexit ar y celfyddydau, y diwydiannau creadigol, treftadaeth a'r Gymraeg (13 Maw 2019)

David Melding: Diolch i'r Cadeirydd am wneud y datganiad ac am godi'r materion pwysig hyn; hoffwn dynnu sylw'r Gweinidog at ddau fater, os caf. Y cyntaf yw sut y bydd rhwydweithiau amrywiol yn gweithredu: Ewrop Greadigol, Horizon 2020, Erasmus+ ac agweddau ar gronfa datblygu rhanbarthol Ewrop a ddefnyddiwyd ar gyfer prosiectau cymunedol a chreadigol. Mae'r rhwydweithiau hyn—pob un ohonynt, rwy'n credu,...

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cyfoeth Naturiol Cymru (13 Maw 2019)

David Melding: A gaf fi eich sicrhau nad yw'n rhoi unrhyw bleser i'r ochr hon i'r Cynulliad orfod tynnu sylw at y materion dadleuol hyn a nodi'r materion sydd wedi cyfyngu ar Cyfoeth Naturiol Cymru ers ei greu? Oherwydd mae rôl y corff yn hollbwysig ac mae ei ddiben yn hanfodol ar gyfer rheoli ein hamgylchedd naturiol yn effeithiol ac yn gynaliadwy yma yng Nghymru. Yn ôl yn 2011, pan gyhoeddwyd y manylion...

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cyfoeth Naturiol Cymru (13 Maw 2019)

David Melding: Wel, mae'n amlwg mai'r hyn sy'n rhaid iddynt—mae'n rhaid iddynt gydbwyso eu pwerau rheoleiddio, a roddwyd ar waith ganddynt gyda pheth synnwyr o ddiben yn fy marn i, a bod yn deg, gyda'u pwerau masnachol. Mae rhai o'r penderfyniadau masnachol yn herio unrhyw fath o ddadansoddi cyn gynted ag y bydd rhywun yn edrych arnynt, heb sôn am yr archwilydd yn edrych arno ac yn nodi'r methiannau...

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (19 Maw 2019)

David Melding: Pa gymorth ariannol a roddodd Llywodraeth Cymru i awdurdodau lleol i gefnogi gwelliannau diogelwch tân ar adeiladau uchel?

Grŵp 3: Ad-dalu taliadau gwaharddedig (Gwelliannau 55, 57) (19 Maw 2019)

David Melding: O ran y ddau welliant hyn, sy'n ymwneud â'r llys yn gorchymyn ad-dalu ffioedd gwaharddedig, mae gennyf welliant pellach eisoes yn y Bil hwn yn grŵp 10, gwelliant 44. Bydd hwnnw'n cyflawni hyn ar yr un pryd ag y telir hysbysiad cosb benodedig, pwy bynnag sy'n cyflwyno'r hysbysiad cosb benodedig. Dan welliannau'r Llywodraeth yng ngrŵp 9, bydd yr awdurdod trwyddedu, Rhentu Doeth Cymru, yn...

Grŵp 4: Dirymu trwyddedau (Gwelliannau 56, 58) (19 Maw 2019)

David Melding: Unwaith eto, mae gennyf lawer o gydymdeimlad â safbwynt Leanne yma, ond ni fyddaf yn cefnogi'r gwelliant hwn. Fel y dywedais yng Nghyfnod 2, rydym mewn sefyllfa unigryw yng Nghymru fod gennym Rhentu Doeth Cymru ar waith, ac mae Llywodraeth Cymru wedi gwthio a hyrwyddo'r corff hwn i fod yn drawsnewidiol yn y sector rhentu preifat. Mae un o'm gwelliannau diweddarach—gwelliant 45 yng ngrŵp...

Grŵp 5: Taliadau a ganiateir (Gwelliannau 9, 64) (19 Maw 2019)

David Melding: Dirprwy Lywydd, os caf i siarad yn gyflym am welliant 64 Plaid Cymru yn y grŵp hwn, sy'n egluro ansicrwydd ynghylch taliadau'r Fargen Werdd. Cofiaf fod peth dryswch yng Nghyfnod 2, gan fy mod i hefyd wedi cyflwyno gwelliant ar y mater hwn. Penderfynais dynnu'r gwelliant yn ôl er mwyn osgoi unrhyw orgyffwrdd. Am resymau tebyg, nid wyf wedi ailgyflwyno'r gwelliant ar hyn o bryd, ac rwyf yn...

Grŵp 6: Blaendaliadau cadw (Gwelliannau 29, 30, 31, 36, 37, 65, 66, 38, 67, 39, 40, 41, 42) (19 Maw 2019)

David Melding: Os gallaf drafod gwelliannau Plaid Cymru yn y grŵp hwn, nad wyf yn barod i'w cefnogi, gan nad wyf yn credu bod y cydbwysedd yn iawn rhwng buddiannau tenantiaid a landlordiaid. Siaradais am y gwelliannau hyn yng Nghyfnod 2, ond credaf ei bod yn briodol imi fynegi fy ngwrthwynebiad i'r Siambr gyfan yn awr. Drwy weithredu cyfnod 48 awr o bwyllo ar gyfer y blaendal cadw, fel y mae gwelliannau...

Grŵp 7: Diffygdaliadau (Gwelliannau 32, 33, 62, 34, 63, 59, 27) (19 Maw 2019)

David Melding: A gaf i gofnodi eto pam na fyddwn ni'n cefnogi gwelliant 62 Plaid Cymru yn y grŵp hwn? Unwaith eto, nid wyf yn meddwl ei fod yn cynnwys y cydbwysedd iawn rhwng tenantiaid a landlordiaid, ac fel y dywedais eisoes, dylai ceisio datblygu marchnad dai sy'n deg i bawb fod yn ganolog i'r hyn yr ydym ni'n ei wneud. Drwy ddiffinio ffioedd diffygdaliad yn benodol fel y gwnaiff y gwelliant hwn a drwy...

Grŵp 7: Diffygdaliadau (Gwelliannau 32, 33, 62, 34, 63, 59, 27) (19 Maw 2019)

David Melding: Gwrthwynebu.


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.