Delyth Jewell: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau diogelwch menywod mewn ardaloedd trefol ar ôl iddi dywyllu?
Delyth Jewell: Diolch, Llywydd. Rwy'n hapus i gyfrannu ar ran y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol, a diolch i’r tîm clercio ac i’r Aelodau a phawb sydd wedi rhoi gwybodaeth inni sydd wedi bwydo i mewn i’n hargymhellion ni. Yn ein hadroddiad ar y gyllideb ddrafft, ein prif neges yn llythrennol yw: diwedd y gân yw’r geiniog. Yn anffodus, mae gennym...
Delyth Jewell: 5. Pa feini prawf y mae'r Gweinidog yn eu rhoi ar waith wrth benderfynu a ddylid gwyrdroi penderfyniad awdurdod lleol i wrthod caniatâd cynllunio? OQ59082
Delyth Jewell: Weinidog, yn 2017, fe wnaeth Llywodraeth Cymru wrthdroi penderfyniad cyngor Caerffili i wrthod cais i godi 260 o gartrefi yn Hendredenni. Gwrthwynebwyd y cais gan drigolion, cynrychiolwyr ward, yr Aelod o'r Senedd a'r Aelod Seneddol lleol, ond eto fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddiystyru'r consensws lleol. Yn y llythyr penderfynu, fe wnaeth y Gweinidog ar y pryd argymell amod y dylai'r cynllun...
Delyth Jewell: Mae yna gost i wneud dim. Mae i absenoldeb gweithredu ganlyniadau i'n cymdeithas, ac mae ein dadl heddiw i gyd yn ymwneud â chostau. Nid yn unig pa gostau y dylai pobl eu talu i gyfrannu at ein cymdeithas, ond hefyd y gost o beidio â gwneud mwy i ffurfio cymdeithas decach, oherwydd nid yw'r system dreth yng Nghymru yn adlewyrchu'n ddigonol incwm a phroffil cymdeithasol ein gwlad nac...
Delyth Jewell: Diolch am yr ymyriad, Mark. Yn amlwg, ni all gwneud newid fel hyn fod yn—. Rwy'n credu inni glywed yn gynharach, mewn dadl wahanol efallai, nad oes un ateb sy'n datrys pob dim. Ni all hyn ar ei ben ei hun chwyldroi'r economi. Mae angen inni gael llawer mwy o fuddsoddiad hefyd i wneud yn siŵr fod yna swyddi da ar gyflogau uwch, ond nid wyf yn credu y byddai unrhyw un yn edrych ar y system...
Delyth Jewell: Diolch, Gweinidog. Roeddwn i wedi gobeithio y byddai pawb yn y Siambr yn cytuno mai mynd i'r afael â newid hinsawdd yw un o heriau mwyaf ein hoes. Mae'r wyddoniaeth yn eglur: os na wnawn ni gymryd camau beiddgar i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, ni fydd gennym ddyfodol. Felly, mae'n rhaid gweld yr adolygiad ffyrdd a'r holl benderfyniadau anodd y mae hynny'n eu golygu yn y cyd-destun...
Delyth Jewell: 1. Pa sicrwydd wnaiff y Gweinidog ei ddarparu na fydd symud i ffwrdd o gyllido’r cynllun brys ar gyfer bysiau yn arwain at gau llwybrau bysiau ac yn golygu bod gwasanaethau bysiau gwledig yn anhyfyw? TQ727
Delyth Jewell: Diolch, Weinidog. Rwy’n derbyn bod yr ychydig ddyddiau diwethaf wedi bod yn eithriadol o brysur i chi. Mae'r ansicrwydd rydych wedi sôn amdano ynghylch y cyllid hwnnw yn y dyfodol yn achosi llawer iawn o bryder, ac rwy'n croesawu'r ffaith eich bod wedi ymestyn y cyfnod pontio hwn am dri mis. Fodd bynnag, nid yw'r gohiriad dros dro'n mynd i wneud llawer i leddfu pryderon gweithredwyr...
Delyth Jewell: Mae teuluoedd dros Gymru yn wynebu dyfodol agos sy'n eithriadol o ansicr fel canlyniad i'r sefyllfa benagored ynghylch a fydd San Steffan yn parhau gyda'r help sydd ar gael i aelwydydd gyda'u biliau ynni, ac mae'r sefyllfa'n mynd o ddrwg i waeth. Ddoe, ges i sgwrs â rhywun sy'n rhedeg banc bwyd yn fy rhanbarth, ac mi wnaeth e ddweud bod nifer y bobl sy'n mynychu'r banc bwyd wedi cynyddu 20 y...
Delyth Jewell: 1. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynglŷn â'r camau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i gynorthwyo menywod a anwyd yn y 1950au y gwrthodwyd eu pensiynau iddynt? OQ59187
Delyth Jewell: Rwy'n datgan buddiant oherwydd mae fy mam yn rhan o’r ymgyrch menywod yn erbyn anghydraddoldeb pensiwn y wladwriaeth (WASPI). Mae menywod WASPI—menywod a amddifadwyd o'u pensiwn—wedi bod yn ymgyrchu ers saith mlynedd hir ac maent yn dal i aros am adroddiad penderfyniad yr ombwdsmon seneddol i ymdriniaeth yr Adran Waith a Phensiynau o’u sefyllfa. Disgwylir i'r adroddiad gael ei ryddhau...
Delyth Jewell: Daw unrhyw urddas sy’n gynhenid yn ein cymdeithas o’r dyheadau sydd gennym nid dros ein hunain ond dros eraill. Dyna ogoniant a mantais y mudiad undebau llafur: y ffaith ei fod yn cael ei gynnal nid gan farusrwydd unigolion ond gan ymdrech gyfunol, y penderfynoldeb y gellir sicrhau hawliau i bawb. Mae pob un ohonom wedi elwa o hawliau gweithwyr a enillwyd drwy frwydrau caled y...
Delyth Jewell: Trefnydd, fe hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch chi'n dda. Yn gyntaf, fe hoffwn i ofyn am ddatganiad o eglurhad o ran y Bil aer glân. Mae datganiad busnes yr wythnos diwethaf yn cyfeirio at y Gweinidog Newid Hinsawdd yn gwneud datganiad ynglŷn â Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru). Nawr, mae'r Prif Weinidog a'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cyfeirio at hwnnw...
Delyth Jewell: Mae rasio milgwn yn greulon. Mae'n niweidio cŵn; mae'n achosi dioddefaint aruthrol iddynt; yn eu hanafu, weithiau'n ddi-droi'n-ôl, y tu hwnt i unrhyw obaith o adferiad; ac mae'n lladd cŵn, weithiau'n syth, weithiau flynyddoedd yn ddiweddarach—cŵn sydd wedi dod yn anifeiliaid anwes teuluol annwyl, sy'n byw bywydau byrrach nag y dylent oherwydd y trawma a'r toriadau a'r poen cronig sy'n...
Delyth Jewell: Gwnaf, yn sicr.
Delyth Jewell: Diolch am y cyfraniad hwnnw. Yn amlwg, hoffwn adleisio'r pwynt a wnaeth Buffy yn gynharach, fod yna lawer iawn o berchnogion milgwn sy'n gofalu am eu cŵn. Nid wyf yn ceisio awgrymu mewn unrhyw ffordd fod hyn yn ddisgrifiad o bob perchennog milgwn. Diolch am y cyfraniad hwnnw. Ond rwy'n siŵr y byddech yn cytuno â mi fod unrhyw gi sy'n gorfod mynd drwy'r anafiadau erchyll hyn—mae hynny'n...
Delyth Jewell: Diolch, Llywydd. Mae'n bleser gen i gynnig ein gwelliant. Mae angen inni wneud pethau'n wahanol os ydyn ni am gyrraedd net zero erbyn 2050—yn sicr os ydyn ni am fod yn fwy uchelgeisiol a'i chyrraedd erbyn 2035, fel rŷn ni ym Mhlaid Cymru yn datgan. Mae'n rhaid gwneud penderfyniadau anodd. Cyn imi fanylu ar y pwyslais rŷn ni eisiau ei weld ar wella dewisiadau pobl o ran darpariaeth...
Delyth Jewell: 5. Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i gyfyngu ar faint o amser y mae ambiwlansys yn cael eu gorfodi i aros mewn ciwiau y tu allan i ysbytai? OQ59276
Delyth Jewell: Diolch am hwnna.