Lesley Griffiths: Ydw, rydych yn hollol gywir. Mae’r llefydd hyn wedi elwa o gyfraniadau cyllid yr UE ar gyfer cynlluniau rheoli perygl llifogydd. Maent wedi ategu ein cyllid ein hunain hefyd, ac maent wedi ein galluogi i gynyddu nifer yr eiddo sy’n cael eu hamddiffyn rhag llifogydd yng Nghymru.
Lesley Griffiths: Ydy, cytunaf yn llwyr. Wrth i ni edrych ar ba gynlluniau y byddwn yn eu hariannu dros y blynyddoedd nesaf, mae’n rhywbeth y gallwn edrych arno—y mater penodol hwnnw. Mae yna bob amser dechnoleg ac ymchwil sy’n dangos ffyrdd newydd o wneud hynny i ni, ac mae’n bwysig iawn fod gennym yr hyblygrwydd i allu gwneud hynny.
Lesley Griffiths: Diolch. Mae cynllun adfer natur Cymru yn amlinellu ein hamcanion a’n camau gweithredu ar gyfer cyflawni ein huchelgais i wrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth erbyn 2020. Bydd hyn yn cyfrannu at les y genedl a rheolaeth gynaliadwy ar ein hadnoddau naturiol.
Lesley Griffiths: Roeddwn yn falch iawn o weld hynny yr wythnos diwethaf. Cefais gynnig y draenog, ond penderfynais y buaswn yn hyrwyddo holl fioamrywiaeth Cymru. [Torri ar draws.] Roeddwn yn tybio efallai ei fod braidd yn bigog. [Chwerthin.] Ond rwy’n cefnogi rôl hyrwyddwyr rhywogaethau. Rwy’n credu ei bod yn fenter wirioneddol dda, gan y bydd yn tynnu sylw at bwysigrwydd rhywogaethau, eu hanghenion...
Lesley Griffiths: Roeddwn am ddweud fod hwnnw, yn fy amser i, yn cael ei alw’n Tufty. Rwy’n credu eich bod yn nodi pwynt pwysig iawn, ac yn sicr, byddaf yn cyfarfod yn rheolaidd iawn gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i drafod coedwigaeth. Mae’n hynod bwysig i’n gwlad, felly rwy’n hapus iawn i fwrw ymlaen â hynny.
Lesley Griffiths: Diolch. Roedd hwn yn ddigwyddiad o lygredd dŵr difrifol a achoswyd gan gyfaint anhysbys o fiswail fferm yn llifo i mewn i gwrs dŵr o fferm leol, gan ladd 380 o bysgod. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystyried camau gorfodi ffurfiol yn dilyn adolygiad o ffeithiau’r achos a ffactorau budd y cyhoedd.
Lesley Griffiths: Diolch. Fe wyddom y bydd yr ocsid nitraidd mewn pysgod yn effeithio ar niferoedd wyau yn y dyfodol, ond y gobaith yw y bydd yr afon yn adfer yn naturiol ymhen amser. Soniais fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio gyda’r ffermwr i weithredu mesurau atal llygredd—er mwyn gwella’r seilwaith ar y fferm a lleihau’r tebygolrwydd o ddigwyddiadau pellach o lygredd. Maent wedi casglu...
Lesley Griffiths: Diolch. Yn gyffredinol, nid yw ardaloedd gwledig yn cael eu heffeithio gan lefelau sylweddol o lygredd o ganlyniad i draffig, oherwydd y cyfeintiau llai o draffig mewn lleoliadau gwledig. Mae gan nifer fach o drefi gwledig lefelau uchel o lygryddion a gynhyrchir gan draffig. Mae awdurdodau lleol yn rhoi cynlluniau gweithredu ansawdd aer ar waith er mwyn lleihau llygredd yn y lleoliadau hyn.
Lesley Griffiths: Wel, yn amlwg, cyfrifoldeb yr awdurdod lleol yw’r ffyrdd dan sylw. Gwn fod swyddogion wedi bod yn siarad â Chyngor Dinas Casnewydd, sydd wedi comisiynu asesiad traffig ac ansawdd aer yng Nghaerllion yn ddiweddar. Yr hyn y maent eisiau ei wneud yw nodi mesurau sy’n gysylltiedig â thraffig, a fuasai, pe gellid eu rhoi ar waith, yn gwella ansawdd aer, a sŵn hefyd o bosibl. Rwyf wedi gofyn...
Lesley Griffiths: Rwyf yn enwebu Lynne Neagle.
Lesley Griffiths: Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i’r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno’r ddadl hon ar y mater pwysig hwn, ac rwy’n hapus iawn i gefnogi’r cynnig gwreiddiol. Mae’n ddrwg iawn gennyf nad yw David Melding, yr Aelod dros Ganol De Cymru, heb gael digon o sicrwydd yr wythnos diwethaf gan fy ateb iddo, mai fy nghyfrifoldeb i, ie, mai fy nghyfrifoldeb i yn llwyr yw ansawdd aer; mae yn fy...
Lesley Griffiths: Gwnaf.
Lesley Griffiths: Wel, rwy’n meddwl ei fod yn ymwneud â chael cydbwysedd rhwng llygredd aer a llygredd sŵn, ond mae’n ymwneud, fel y dywedais, â sicrhau’r cydbwysedd hwnnw. Nid yw hynny wedi cael ei ddwyn i fy sylw o’r blaen, ond rwy’n hapus iawn i edrych arno. Y tu hwnt i Gymru, mae yna nifer o feysydd gweithgaredd heb eu datganoli sydd eu hangen er mwyn lleihau allyriadau cyn gynted â phosibl....
Lesley Griffiths: Diolch, Gadeirydd. Mae achosion o glefydau anifeiliaid yn ddinistriol i bawb dan sylw, a gallant gael canlyniadau eang a chostus ar gyfer anifeiliaid ac iechyd y cyhoedd, yr economi a'r amgylchedd. Mae sicrhau sefyllfa o barodrwydd ar gyfer ymlediad clefyd egsotig anifeiliaid hysbysadwy, felly, yn flaenoriaeth. Mae’n rhaid hysbysu’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion am...
Lesley Griffiths: Diolch, Simon Thomas, am y cwestiynau yna. O ran brechu, soniais fod brechlyn ar gael a dyma'r unig ddull effeithiol o amddiffyn anifeiliaid a allai fod yn agored i’r tafod glas. Yr amser gorau i frechu yw yn gynnar yn y flwyddyn, cyn i'r tywydd cynnes ddod, a gwn ein bod yn dal, o bosibl, i aros amdano. Bydd hynny wedyn yn darparu amddiffyniad. Felly, rwy’n meddwl bod y math hwnnw o...
Lesley Griffiths: Diolchaf i Paul Davies am ei gyfres o gwestiynau. Dim ond i gyfeirio at eich pwynt cyntaf ynghylch y rhaglen dileu TB, rwyf wedi ymrwymo i ddod â datganiad gerbron yn yr hydref ar y ffordd ymlaen. Byddwn yn parhau i fod â dull gwyddonol ac, yn ystod yr haf, bydd cryn dipyn o waith yn mynd ymlaen yn gysylltiedig â'n rhaglen. Defnyddiais enghraifft y tafod glas i ddangos bod gennym...
Lesley Griffiths: Rwy'n credu bod yr egwyddor o reoli afiechydon heintus—ac mae hyn yn berthnasol i bob clefyd a dyma'r neges yr ydym yn ei roi i'n pobl sy’n cadw da byw a ffermwyr—yw eich bod yn cadw haint allan, yn ei ganfod yn gyflym, yn ei atal rhag lledaenu, ac, os oes gennych glefyd, eich bod yn cael gwared arno, a dyna yn sicr y neges y byddwn ni’n bwrw ymlaen â hi ar bob un o'r clefydau hyn...
Lesley Griffiths: Ar 28 Gorffennaf, cyflwynais ddatganiad ysgrifenedig ar gyhoeddi cynllun gweithredu fframwaith Cymru ar iechyd a lles anifeiliaid 2016-17. Mae’r cynllun yn cynnwys blaenoriaethau ar gyfer y 12 mis nesaf, a chamau gweithredu. Cytunwyd ar y rhain mewn partneriaeth â grŵp fframwaith Cymru ar iechyd a lles anifeiliaid.
Lesley Griffiths: I refer Members to the statement I sent to all Assembly Members yesterday concerning the consultation process on proposed measures to improve air quality across Wales. In parallel to this, my officials will continue to work closely with local authorities, industrial operators and regulators across Wales to improve air quality.
Lesley Griffiths: Mae’r ffigurau dros dro ar gyfer 2015-16 yn dangos bod Cymru wedi cyrraedd cyfradd ailgylchu o 60 y cant. Mae gennym y gyfradd ailgylchu uchaf ym Mhrydain, newyddion gwych yn ystod Wythnos Genedlaethol Ailgylchu. Mae’n dangos ymrwymiad ein cynghorau lleol a thrigolion Cymru, a pholisïau Llywodraeth Cymru.