Canlyniadau 61–80 o 2000 ar gyfer speaker:Russell George

7. 6. Datganiad: Band Eang Cyflym Iawn yng Nghymru (11 Hyd 2016)

Russell George: Diffiniad o 'cyflym a dibynadwy', os gwelwch yn dda, hefyd, Weinidog

2. Cwestiwn Brys: Masnachfraint Cymru a'r Gororau (18 Hyd 2016)

Russell George: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am rôl Trafnidiaeth Cymru yn y broses gaffael i weithredu gwasanaethau rheilffordd yng Nghymru, yn dilyn y cyhoeddiad bod pedwar ymgeisydd yn cystadlu am fasnachfraint nesaf Cymru a'r Gororau? EAQ(5)0055(EI)

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Metro De Cymru
(18 Hyd 2016)

Russell George: Brif Weinidog, tybed a allech chi amlinellu pa drafodaethau yr ydych chi wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU yn benodol, yn uniongyrchol â nhw, ynghylch y prosiect wrth symud ymlaen.

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Metro De Cymru
(18 Hyd 2016)

Russell George: Ynghylch y prosiect wrth symud ymlaen.

2. Cwestiwn Brys: Masnachfraint Cymru a'r Gororau (18 Hyd 2016)

Russell George: Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n siomedig, rwy’n credu, bod datganiad wedi ei wneud i’r cyfryngau yr wythnos diwethaf, nodyn briffio wedi ei roi ar gael i'r cyfryngau hyd yn oed, cyn cyflwyno datganiad yma gerbron yr Aelodau. Dyma un o'r ymarferion caffael mwyaf a welodd Cymru erioed a dylwn ddweud bod llawer iawn o gonsensws trawsbleidiol ar yr angen i roi sylw i seilwaith trafnidiaeth...

5. 4. Datganiad: Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i Gymru (18 Hyd 2016)

Russell George: Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad heddiw. Nid yw’r comisiwn seilwaith arfaethedig ar gyfer Cymru, byddwn yn dweud, yn ymddangos yn debyg iawn i'r cynnig gwreiddiol a gyflwynwyd gan Blaid Cymru—cynnig, wrth gwrs, a oedd yn ffurfio’r sail ar gyfer cefnogaeth Plaid Cymru i Lywodraeth Cymru. Rydych hefyd wedi cynnig corff cynghori anstatudol nad yw'n ymddangos i fod...

7. 6. Datganiad: Dyfodol Gwasanaethau Bysiau yng Nghymru (18 Hyd 2016)

Russell George: Rwy'n croesawu eich datganiad heddiw yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n ddatganiad cadarnhaol iawn, ac rwy'n edmygu’r hyn yr ydych wedi'i ddweud heddiw. Mae gen i nifer o gwestiynau. Yn gyntaf, byddwn yn ddiolchgar pe gallech amlinellu'r cyllid sydd ynghlwm wrth yr ymrwymiadau a wnaed heddiw, ac a ydych wedi ystyried cytundeb ariannu amlflwyddyn a fydd yn rhoi sicrwydd i...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol:
Cyllid Llywodraeth Leol
(19 Hyd 2016)

Russell George: Bob blwyddyn am y 10 mlynedd diwethaf, mae cyngor sir Powys neu gyngor sir Ceredigion wedi cael y cyllid gwaethaf, neu gydradd waethaf, gan Lywodraeth Cymru. Rwyf wedi clywed eich atebion i gwestiynau yn gynharach heddiw, ond yr hyn y byddwn yn ei ofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, yw: a ydych yn derbyn bod angen i chi ystyried y farn leiafrifol sydd i’w chlywed yn aml ymysg awdurdodau...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Digwyddiadau Mawr yng Nghanolbarth Cymru
( 1 Tach 2016)

Russell George: 1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i ddigwyddiadau mawr yng Nghanolbarth Cymru? OAQ(5)0228(FM)

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Digwyddiadau Mawr yng Nghanolbarth Cymru
( 1 Tach 2016)

Russell George: Diolch yn fawr, Brif Weinidog, rwy’n gwerthfawrogi eich ateb. Mae sioe awyr y Trallwng yn dathlu ei degfed pen-blwydd fis Mehefin nesaf. Sioe Awyr Goffa Bob Jones yw ei henw erbyn hyn. Dros y naw mlynedd diwethaf, mae'r digwyddiad wedi mynd o nerth i nerth ac erbyn hyn mae’n denu miloedd o ymwelwyr i’r canolbarth bob blwyddyn. Yn y gorffennol, mae wedi croesawu’r Red Arrows, tîm...

7. 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Mynediad i Fand Eang ( 2 Tach 2016)

Russell George: Diolch i chi, Lywydd. Hoffwn gynnig y cynnig yn enw Paul Davies a dangos cefnogaeth fy mhlaid i ddau welliant Plaid Cymru heddiw. Ni fyddwn yn cefnogi gwelliant y Llywodraeth heddiw, ar y sail nad yw’n adlewyrchu nac yn cydnabod yn ddigonol y methiant i gyflwyno ymrwymiad rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru ar gyfer 2011 i ddarparu band eang y genhedlaeth nesaf i bob eiddo erbyn 2015.

7. 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Mynediad i Fand Eang ( 2 Tach 2016)

Russell George: Nid yw ei gwelliant ychwaith yn dangos unrhyw fath o frys i ddefnyddio’r dulliau sydd ar gael iddi i fynd ati i ddatrys y diffyg signalau ffonau symudol mewn ardaloedd helaeth o Gymru. Y tu hwnt i fwriad llac i weithio gyda’r rheoleiddiwr a gweithredwyr rhwydwaith, a bwriad i ddiwygio’r system gynllunio, a bwriad i bwyso a mesur cynllun gweithredu ffonau symudol Llywodraeth yr Alban,...

7. 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Mynediad i Fand Eang ( 2 Tach 2016)

Russell George: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i’r holl Aelodau am gyfrannu at y ddadl hon heddiw. Fe sylwais nad oedd unrhyw Aelodau o feinciau cefn Llafur wedi cyfrannu, ar wahân i David Rees yn neidio ar ei draed unwaith neu ddwy i ymyrryd, felly efallai fod hynny’n arwydd fod band eang yn dda ym mhob un o’r etholaethau hynny, a byddai hynny’n newyddion da. A dylwn ddweud yn...

7. 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Mynediad i Fand Eang ( 2 Tach 2016)

Russell George: Diolch i chi, David, am eich trydydd ymyriad yn ein dadl heddiw—mae i’w groesawu. Dylwn ddweud, er mwyn bod yn garedig wrth y Gweinidog, fy mod yn cytuno’n llwyr â Janet Finch-Saunders: credaf fod y Gweinidog yn angerddol iawn ynglŷn â’i maes yma ac rwy’n croesawu hynny’n fawr. Mae hi wedi cytuno i ddod i wahanol etholaethau gydag Aelodau ac esbonio’r sefyllfa. Hyd yn oed os...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Ardaloedd Dim Galw Diwahoddiad
( 8 Tach 2016)

Russell George: Brif Weinidog, rwy’n sicr yn credu bod angen gwneud mwy i ddiogelu defnyddwyr rhag post na ofynnwyd amdano a galwadau niwsans. Yn ôl y Swyddfa Masnachu Teg, amcangyfrifir bod y mathau hyn o sgamiau yn costio tua £3.5 biliwn y flwyddyn i'r dioddefwyr. A gaf i ofyn, a yw’r Llywodraeth wedi ystyried cyflwyno ardoll ar anfonwyr post, yn debyg i'r tâl am fagiau siopa, gan ganiatáu i'r...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Ardrethi Busnes
( 8 Tach 2016)

Russell George: Brif Weinidog, cyfarfu ymgeiswyr Llafur yn etholiadau'r Cynulliad eleni gyda busnesau bach ledled Powys yn ystod yr ymgyrch etholiadol a dywedasant wrthynt, 'Pleidleisiwch Lafur i gael gostyngiad treth'. Rwy’n dyfynnu un ymgeisydd a ddywedodd: Mae ardrethi busnes yn tueddu i fod yn gyfran uwch o gyfanswm y costau gweithredu ar gyfer busnesau bach ac...mae llawer o fusnesau Powys o dan...

6. 5. Datganiad: Band Eang Cyflym Iawn — Y Camau Nesaf ( 8 Tach 2016)

Russell George: Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw, a diolch am y datganiad ysgrifenedig ddoe, sydd, wrth gwrs, yn ddefnyddiol cyn y datganiad heddiw. Rwy'n ddiolchgar iawn am hynny. Hoffwn feddwl fod canlyniad y cyhoeddiad heddiw yn ganlyniad y cyfraniadau a wnaed yn nadl y Ceidwadwyr Cymreig yr wythnos diwethaf. Rwy’n gobeithio y caiff llawer o'r trigolion rhwystredig iawn hynny sydd...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
( 9 Tach 2016)

Russell George: Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, buaswn yn ddiolchgar pe gallech amlinellu’r manteision a’r costau sy’n gysylltiedig â’r penderfyniad i leoli pencadlys banc datblygu Cymru yng ngogledd-ddwyrain Cymru ac yn amlinellu pa drafodaethau rydych wedi’u cael ar hyn gyda Cyllid Cymru.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
( 9 Tach 2016)

Russell George: Wel, Ysgrifennydd y Cabinet, ni fyddwch yn clywed unrhyw anghytundeb oddi wrthyf fi. Credaf yn gryf y dylem fod yn symud allan o’r lle hwn i bob rhan o Gymru. Roedd Cyllid Cymru yn dweud wrth Bwyllgor yr Economi, y Seilwaith a Sgiliau y bore yma ei bod yn fwyfwy anodd cadw a recriwtio staff. Nawr, mae pryder y gallai’r sgiliau hynny gael eu colli o ganlyniad i adleoli arfaethedig i...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
( 9 Tach 2016)

Russell George: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n credu bod cwestiwn arall yno mae’n debyg ynglŷn â beth y mae ‘pencadlys’ yn ei olygu. A yw’n golygu symud staff ar raddfa eang i ran arall o Gymru, neu ai teitl yn unig ydyw? Felly, efallai y gallech ateb y pwynt hwnnw. Ond y pwynt olaf yr hoffwn ei wneud yw hwn: yn yr adroddiad blynyddol ar gyfer 2015-16, mae Cyllid Cymru yn cadarnhau...

<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.