Vikki Howells: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ganed Griffith Morgan, a gâi ei alw’n Guto, yn 1700, ac roedd yn byw ar fferm Nyth Brân yn Llanwynno. Roedd Guto’n rhedwr heb ei ail, a gallai gorlannu defaid y teulu ar ei ben ei hun, a hyd yn oed dal adar wrth iddynt hedfan. Mae un stori’n ei ddisgrifio’n rhedeg y 7 milltir i Bontypridd ac yn ôl adref cyn i’r tegell ferwi. Yn ei ras fwyaf, rhedodd Guto...
Vikki Howells: 2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i gefnogi clybiau cinio a chlybiau hwyl mewn ysgolion cynradd yn ystod gwyliau haf yr ysgolion? OAQ(5)0063(EDU)
Vikki Howells: Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae llawer o grwpiau, gan gynnwys Ymddiriedolaeth Trussell, wedi nodi mater newyn gwyliau, pan fo’r plant sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a’u rhieni yn aml yn mynd heb fwyd yn ystod gwyliau hir yr haf. Yn wir, dywed yr elusen fod y galw yn ei 35 o fanciau bwyd yng Nghymru ar ei uchaf yn ystod mis Gorffennaf a mis Awst. Gall darparu’r cyllid hwn...
Vikki Howells: Gallai cefnogaeth Llywodraeth Cymru i brosiect Cwm Yfory, yn Llwydcoed yn fy etholaeth i, olygu y bydd gwastraff bwyd yn darparu digon o bŵer ar gyfer 1,500 o gartrefi, trwy gynhyrchu dros 1 MW o drydan gwyrdd. Pa werthusiad dros dro y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o’r prosiect hwn?
Vikki Howells: Arweinydd y tŷ, a gaf i os gwelwch yn dda ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar y polisi ar gyfer darparu nofio am ddim i blant? Mae 10 mlynedd wedi bod ers cyflwyno’r polisi nofio am ddim i blant yng Nghymru, sydd efallai’n adeg dda i ni fyfyrio ar y polisi. Mae nofio am ddim wedi bod yn bwysig o ran cynnig mynediad at gyfleoedd hamdden, i fynd i'r afael â gordewdra neu...
Vikki Howells: Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad yma heddiw. Fel cyn athro fy hun, yn union fel fy nghyd-Aelod Rhiannon Passmore, yr Aelod dros Islwyn, rwy’n gwybod o brofiad personol bod hwn yn fater allweddol i fy nghydweithwyr i mewn ystafelloedd dosbarth ledled Cymru. Rwyf hefyd yn gwybod bod maint dosbarthiadau yn fater pwysig iawn ar stepen drws fy etholaeth i, ac rwy'n siŵr...
Vikki Howells: Weinidog, fel y byddwch yn gwybod, mae cynigion i ddatblygu cylchffordd Cymru wedi bod yn cylchredeg ers peth amser. Hyd yn hyn, mae’r tîm prosiect wedi methu codi’r arian angenrheidiol ar gyfer y prosiect. A fuasech yn gallu amlinellu pa ddatblygiadau a gafwyd yn ddiweddar?
Vikki Howells: Diolch, Lywydd. Canolbwyntiodd fy natganiad 90 eiliad cyntaf ychydig cyn y Nadolig ar Guto Nyth Brân a Nos Galan. Gyda marwolaeth drist Bernard Baldwin MBE ychydig ddyddiau ar ôl Nos Galan 2016, nid yw ond yn briodol fy mod yn defnyddio ail ddatganiad i dalu teyrnged i etifeddiaeth Bernard fel crëwr digwyddiad rasio enwocaf Cymru. Ganed Bernard yn y Barri yn 1925, a chafodd ei...
Vikki Howells: Hoffwn ddechrau heddiw drwy ddiolch i’r Aelodau y mae’r cynnig hwn yn ymddangos yn eu henwau ar yr agenda heddiw. Mae hwn yn bwnc pwysig iawn, lle y mae gennym gyfle i alw am iawndal i’r rhai y mae eu bywydau wedi’u cyffwrdd gan y drychineb gwaed halogedig. Ar gyfer fy nghyfraniad heddiw, hoffwn ganolbwyntio ar hanes dau o fy etholwyr yr effeithiwyd arnynt yn y ffordd hon. Daw’r...
Vikki Howells: 4. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i wella cyfleoedd ar gyfer chwarae hygyrch ledled Cymru? OAQ(5)0096(CC)
Vikki Howells: Diolch i chi am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae Sense, yr elusen genedlaethol ar gyfer rhai sydd â nam ar y synhwyrau, wedi darganfod bod 92 y cant o rieni sydd â phlant anabl yn teimlo nad yw eu plant yn cael yr un cyfleoedd i chwarae â’u cyfoedion nad ydynt yn anabl. Mae canllawiau cyfredol, fel yr ydych yn ei ddweud yn hollol gywir, yn datgan bod rhaid i awdurdodau lleol roi...
Vikki Howells: Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael â thlodi yng Nghymru?
Vikki Howells: 7. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi disgyblion i astudio pynciau STEM mewn ysgolion? OAQ(5)0084(EDU)
Vikki Howells: Diolch i chi am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae ‘Menywod Dawnus ar gyfer Cymru Lwyddiannus’ wedi nodi nad oes digon o ferched yn dilyn y rhan fwyaf o bynciau STEM ar gyfer Safon Uwch, er eu bod yn perfformio cystal neu’n well ar lefel TGAU na’u cymheiriaid gwrywaidd, gyda heriau penodol, er enghraifft, mewn ffiseg, lle nad oes ond 20 y cant o’r myfyrwyr Safon Uwch yn...
Vikki Howells: Arweinydd y tŷ, hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad heddiw, os gwelwch yn dda. Yn gyntaf, byddwn yn croesawu datganiad gan yr Ysgrifennydd Iechyd ynghylch unrhyw drafodaethau y gallai fod wedi eu cael â Llywodraeth y DU ynglŷn â mynediad at yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd yn y dyfodol. Yn Llundain y mae hon wedi’i lleoli ar hyn o bryd ond bydd hi’n symud i Ewrop o ganlyniad i...
Vikki Howells: Hoffwn ddiolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad heddiw. Mewn sawl ffordd, mae hon yn adeg chwerwfelys, a hoffwn i ymuno â chi a’r siaradwyr blaenorol i gydnabod y modd y mae Cymunedau yn Gyntaf wedi gwella cymaint o fywydau yn rhai o'n cymunedau mwyaf heriol a’r rhai sy’n wynebu heriau, ond nid yw natur a ffurf tlodi yn gysyniad statig. Mae'n hollol iawn, felly, y...
Vikki Howells: Rwy’n croesawu'n fawr y cyfle i siarad o blaid y cynnig hwn heddiw. Mae morlynnoedd llanw yn cynnig cyfle i ddatblygu polisi ynni glân, modern, hirdymor sy'n ddiogel ac yn gynaliadwy, gyda rhychwantau oes rhagamcanol o leiaf 120 mlynedd. Dyna 120 mlynedd o gynhyrchu ynni glân a gwyrdd, â’r cyfrifiad y gallai'r rhwydwaith o forlynnoedd llanw o amgylch yr arfordir gynhyrchu digon o...
Vikki Howells: Gwnsler Cyffredinol, rwy’n gwybod y byddwch yn gwybod am achos fy etholwr sy’n wladolyn Awstraidd a ddaeth i Aberdâr yn 1996 fel cynorthwyydd iaith dramor, cyn astudio ar gyfer TAR, dod yn athrawes a sefydlu ei busnes ei hun, ond oherwydd ei bod wedi penderfynu aros gartref i fagu ei phlant—sy’n wladolion y DU—mae hi bellach yn deall nad yw’n cymhwyso fel preswylydd parhaol. Yn...
Vikki Howells: Mae mis hanes LHDT yn rhoi cyfle i edrych yn ôl a myfyrio ar y cynnydd a wnaed yn hyrwyddo cydraddoldeb i bobl LHDT+. Fel y nododd siaradwyr eraill, mae 2017 yn nodi 60 mlynedd ers cyhoeddi adroddiad Wolfenden, a 50 mlynedd ers pasio Deddf Troseddau rhywiol 1967 yn dad-droseddoli gweithredoedd rhywiol yn breifat rhwng dau ddyn. Ac wrth gofio’r ddau ddigwyddiad, gallwn dystio i bwysigrwydd...
Vikki Howells: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog preswylwyr Cwm Cynon i wneud y dewisiadau cywir o ran cael gafael ar ofal iechyd?