Hannah Blythyn: A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i arloesi mewn diwydiant?
Hannah Blythyn: Ysgrifennydd y Cabinet, yn eich datganiad, rydych chi’n dweud eich bod yn awyddus i weld y banc datblygu yn gweithio gyda Busnes Cymru i greu porth sy’n un pwynt mynediad. A gaf i bwysleisio pa mor hanfodol bwysig yw hi bod y banc datblygu yn gweithio'n adeiladol, yn rhagweithiol ac yn effeithiol gyda Busnes Cymru, a hefyd bod y banc datblygu a'i swyddogaethau yn hawdd i ficrofusnesau...
Hannah Blythyn: 2. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i wella amddiffynfeydd rhag llifogydd? OAQ(5)0080(ERA)
Hannah Blythyn: Diolch. Mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i fuddsoddi mewn rhaglenni rheoli perygl llifogydd ac arfordiroedd, gan wario dros £50 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon ar leihau peryglon a chynnal asedau cyfredol. Mae’r buddsoddiad parhaus hwn i’w groesawu ac mae’n hanfodol er mwyn sicrhau bod cartrefi teuluol a busnesau’n cael eu hamddiffyn rhag llifogydd. Dros ddegawd yn ôl, cafodd...
Hannah Blythyn: Rwy'n croesawu'r gyllideb hon a'r cyfle i gyfrannu at fy nhrafodaeth gyntaf ar y gyllideb derfynol fel Aelod Cynulliad dros Delyn. Croesawaf yn arbennig nifer o'r dyraniadau refeniw a chyfalaf diweddar, gan gynnwys £10 miliwn ychwanegol y flwyddyn ar gyfer gofal cymdeithasol. Rwy'n credu ei bod yn iawn i ni fynd i'r afael â'r pwysau sydd ar ofal cymdeithasol—y pwysau cynyddol wrth i bobl...
Hannah Blythyn: Rwy’n siarad heddiw fel Aelod sy’n falch o fod wedi gwasanaethu gweithwyr yn fy rôl flaenorol fel swyddog undeb llafur, ac sy’n falch o fod wedi ymrwymo, fel Aelod Cynulliad, i barhau i ddadlau dros weision cyhoeddus gweithgar nad ydynt yn cael eu gwerthfawrogi’n ddigon aml. Golyga hynny hefyd fy mod yn deall y materion ychydig yn well, efallai, na rhai o’r bobl eraill sydd wedi...
Hannah Blythyn: Diolch, Ddirprwy Lywydd, am y cyfle i allu siarad unwaith eto dros weithwyr dur yn fy nghymuned ar safle Shotton ac wrth gwrs, ar draws y wlad. Ar fater cynllun pensiwn Dur Prydain, o’r sgyrsiau a’r ohebiaeth a gefais, ceir pryder nad yw Tata yn darparu ar gyfer y gweithlu yr holl fanylion sydd eu hangen arnynt i wneud penderfyniad gwybodus ar y goblygiadau ar gyfer eu dyfodol. Deallaf...
Hannah Blythyn: Roeddwn am fynd ymlaen i ddweud nad geiriau’n unig sydd eu hangen arnom yn awr: rydym angen gweld gweithredu heb oedi. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n gwybod bod y gweithlu a’r rheolwyr yn Shotton yn cydnabod y cymorth a’r camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru, ond buaswn yn gofyn i chi a chyd-Aelodau ac eraill yma i ymuno â ni i osod pwysau ychwanegol er mwyn gwneud yn siŵr ein bod o...
Hannah Blythyn: Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n falch o fod yn aelod o blaid a sefydliad sydd wedi arwain y ffordd ar bwysigrwydd cynrychiolaeth menywod mewn bywyd gwleidyddol. Ond fel ym mhob achos, gallwn bob amser wneud mwy, ac mae'n bwysig ein bod yn parhau i wneud felly, i sicrhau bod lleisiau dros hanner y boblogaeth nid yn unig yn cael eu clywed, ond yn cael eu cynrychioli yn weithredol ac yn llawn yn...
Hannah Blythyn: 5. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o gau banciau yng Ngogledd Cymru? OAQ(5)0413(FM)
Hannah Blythyn: Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Dim ond yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd HSBC ei fwriad i gau ei gangen yn Nhreffynnon, yn dynn ar sodlau NatWest yn gwneud yr un penderfyniad i gau ei ddrysau yn yr un dref, ac mae canlyniad hynny’n mynd i daro’r stryd fawr yn galed. Ymunodd aelodau o'r gymuned a’m cydweithiwr seneddol â mi ddydd Gwener diwethaf i wneud safiad yn erbyn y cau diweddaraf...
Hannah Blythyn: Mae'n gadarnhaol ein bod yn cael y ddadl hon yn y Cyfarfod Llawn heddiw, ac efallai yn fwy pwysig a rhagweledol, o ystyried beth sy'n digwydd y tu allan i'r Siambr hon. Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gydraddoldeb a’i dull trawsbynciol o hyrwyddo'r agenda hon i'w canmol, ond yr her i bob un ohonom, ac nid yn unig i Lywodraeth Cymru, yw sicrhau bod yr amcanion a'r egwyddorion cyffredinol...
Hannah Blythyn: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i brif-ffrydio cydraddoldeb yn y sector cyhoeddus?
Hannah Blythyn: Roeddwn yn gobeithio gwneud cyfraniad mwy cynhwysfawr i’r ddadl hon heddiw, ond mae peswch ofnadwy’n golygu fy mod yn mynd i orfod ei gwtogi, fel nad wyf yn rhannu fy mheswch epig, cras â’r Siambr. Rwyf am ddechrau drwy groesawu’r buddsoddiad ychwanegol o £10 miliwn i ofal cymdeithasol, i gydnabod y galwadau ychwanegol ar ofal cymdeithasol, ond rydym i gyd yn gwybod bod angen i ni...
Hannah Blythyn: Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i siarad yn y ddadl hon heddiw, a byddaf yn ceisio cadw yn gryno ar Brexit, gan gadw mewn cof ei bod yn iawn caniatáu i gynifer ohonom â phosibl gael cyfle i gyfrannu at y ddadl hon ar fater, heb amheuaeth, sydd yn mynd i fod yn un o faterion mwyaf diffiniol ein cyfnod. Mae’r Papur Gwyn ‘Diogelu Dyfodol Cymru’ yn amlinellu rhywfaint o eglurder ac yn...
Hannah Blythyn: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddefnyddio technolegau digidol mewn ysgolion cynradd yng Nghymru?
Hannah Blythyn: Rwy’n falch ein bod yn trafod yr angen am strategaeth ddiwydiannol heddiw. O’m rhan i, mae wedi cymryd llawer gormod o amser i gyrraedd y pwynt hwn, pan fo’n ymddangos bod y mwyafrif llethol ohonom yn cytuno y dylai fod yn flaenoriaeth wleidyddol. Mae’n rhywbeth y gwn o fy mywyd blaenorol cyn cael fy ethol yma fod yr undebau llafur wedi bod yn pwyso amdano ers nifer o flynyddoedd, mor...
Hannah Blythyn: 1. Pa drafodaethau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u cael â swyddogion eraill y gyfraith ynghylch achos 24 Amwythig? OAQ(5)0023(CG)
Hannah Blythyn: Diolch, Gwnsler Cyffredinol. Fe fyddwch yn gyfarwydd—ond efallai na fydd yr Aelodau’n gyfarwydd, o’r sgyrsiau a gefais yr wythnos hon—ag achos 24 Amwythig. Yn y 1970au cynnar, cafwyd y streic genedlaethol gyntaf, a’r unig un erioed gan weithwyr adeiladu, pan aeth gweithwyr ar streic am 15 diwrnod, ac ar adeg pan oedd gweithwyr adeiladu ar waelod y raddfa gyflog a phan nad oedd...
Hannah Blythyn: Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i gyd-Aelodau am gefnogi’r ddadl hon gan Aelodau unigol, sy’n ein galluogi i gael cyfle i ddathlu Mis Hanes LHDT am y tro cyntaf ar y lawr Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae Mis Hanes LHDT yn cael ei ddathlu ym mis Chwefror ar draws y DU ac yn ddigwyddiad blynyddol bellach sy’n rhoi cyfle i hyrwyddo amrywiaeth a chydraddoldeb ar draws Cymru a chydnabod y...