Canlyniadau 61–80 o 400 ar gyfer speaker:Samuel Kurtz

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Deintyddion y GIG ( 3 Tach 2021)

Samuel Kurtz: Diolch, Weinidog. Mae mynediad at ddeintyddiaeth y GIG wedi bod yn broblem barhaus, ac mae'r 18 mis diwethaf wedi gwaethygu'r broblem oherwydd COVID. Fel llawer o gyd-Aelodau, mae'n fater y caf lawer o waith achos rheolaidd yn ei gylch, ac mae'n fater sy'n achosi llawer iawn o rwystredigaeth a phryder i lawer o fy etholwyr. Fel gyda phopeth, er mwyn deall yn well sut i fynd i'r afael â...

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Adferiad gwyrdd ( 3 Tach 2021)

Samuel Kurtz: Diolch yn fawr, Lywydd dros dro. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau y prynhawn yma, ond rwy'n teimlo braidd yn rhwystredig, fel y mae'r Aelod dros Fynwy, o gofio'r angen am gydweithrediad, partneriaeth a gwaith tîm i fynd i'r afael â newid a sicrhau economi werdd, fod y cynnig a gyflwynwn, sy'n ceisio gwneud yr holl bethau hynny gyda Llywodraeth Cymru er lles ein gwlad, yn...

8. Dadl: Cofio a chefnogi cymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru ( 9 Tach 2021)

Samuel Kurtz: A wnaiff yr Aelod ildio?

8. Dadl: Cofio a chefnogi cymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru ( 9 Tach 2021)

Samuel Kurtz: Nodaf eich bod chi'n sôn am gefnogaeth i gyn-filwyr. A wnewch chi ymuno â mi i longyfarch Barry John MBE o Oriel VC yn fy etholaeth i? Mae'n arwain tîm o wirfoddolwyr sy'n helpu cyn-filwyr a'r gymuned ehangach sy'n ymdrin â materion iechyd meddwl drwy gelf a chrefft, sy'n gymorth gwych yn fy nghymuned wledig.

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Addysg Gymraeg yn Nwyrain De Cymru (10 Tach 2021)

Samuel Kurtz: Weinidog, mae'r cwricwlwm newydd yn gosod disgwyliad ar athrawon i allu addysgu rhywfaint drwy gyfrwng y Gymraeg. Er budd y disgybl, mae angen athrawon o safon uchel yma yng Nghymru gydag ystod eang o brofiadau a chefndiroedd yn addysgu yn ein hysgolion. Mewn ardaloedd megis de-ddwyrain Cymru, lle mae staff yn aml yn cael eu recriwtio neu hyd yn oed yn cymudo o dros y ffin yn Lloegr, gallai'r...

6. Dadl Plaid Cymru: Pysgodfeydd a dyframaethu (10 Tach 2021)

Samuel Kurtz: Rwy’n ddiolchgar i’r Aelod dros Arfon am gyflwyno'r cynnig hwn y prynhawn yma ar ran grŵp Plaid Cymru. Yr wythnos diwethaf, codais yma i hyrwyddo'r angen am gydweithredu, partneriaeth a gwaith tîm wrth fynd i'r afael â rhai o'r heriau mwyaf sy'n wynebu'r wlad hon. Ac yn wir, heddiw, rwyf fi a fy nghyd-Aelodau ymhlith y Ceidwadwyr Cymreig yma yn arddel yr un ymagwedd gydweithredol. Dyna...

8. Dadl Fer: Canolbwyntio ar ymladd llifogydd: Archwilio opsiynau i gryfhau'r dull o leihau'r perygl o lifogydd a'r ymateb i lifogydd (10 Tach 2021)

Samuel Kurtz: Rwy'n hynod ddiolchgar i'r Aelod dros Aberconwy am roi munud o'i hamser i mi heno. Mae llawer o drefi ledled Cymru wedi'u hadeiladu ger afonydd sy'n ymladd brwydr reolaidd yn erbyn y digwyddiadau glaw eithafol cynyddol sy'n digwydd ymhellach i fyny'r afon. Mae tref hynafol Caerfyrddin yn fy etholaeth i, Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, yn un dref felly, sy'n dioddef yn rheolaidd yn sgil...

3. Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd: Y Rhaglen Dileu TB Buchol (16 Tach 2021)

Samuel Kurtz: Fe hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog am roi golwg ymlaen llaw i mi ar ddatganiad heddiw, ac rwy'n cyfeirio at fy nghofrestr buddiannau. Fe hoffwn i ddechrau, yn y lle cyntaf, drwy roi teyrnged i'n ffermwyr ni ledled Cymru am barhau i fwydo cenedl hyd yn oed yn wyneb y straen corfforol, meddyliol ac economaidd a achosir gan TB buchol. Yn anffodus, i rai ffermwyr, mae'r frwydr barhaus hon yn erbyn...

3. Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd: Y Rhaglen Dileu TB Buchol (16 Tach 2021)

Samuel Kurtz: Gweinidog, rydych chi'n sôn yn eich datganiad am ostyngiad o 48 y cant mewn achosion newydd o TB ers 2009, ond fe fyddai hi'n dda gennyf gael gwybod beth mae'r ystadegau yn ei ddweud am ailymddangosiad y clefyd mewn buchesi sydd wedi'u heintio a faint o fuchesi a ddiffiniwyd yn rhai sy'n rhydd o TB ar ôl cyfnod maith dan gyfyngiadau. Mae atal buchesi newydd rhag cael y clefyd yn bwysig, ond...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (17 Tach 2021)

Samuel Kurtz: Diolch, Lywydd. Weinidog, yn y datganiad ar y strategaeth ar gyfer dileu TB buchol ddoe, fe ddywedoch chi mai un o'r rhesymau pam eich bod yn rhoi'r gorau i ddal moch daear a chynnal profion arnynt, yn eich geiriau chi, yw oherwydd ei fod yn amhoblogaidd gyda ffermwyr. Fodd bynnag, gellid dadlau mai un o'r rhesymau a gyfrannodd at fethiant y rhaglen oedd bod rhestr o'r ffermydd a gymerodd ran...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (17 Tach 2021)

Samuel Kurtz: Wel, Weinidog, bydd hynny'n siomedig, gan fod Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru yn credu bod cael gwared ar y cynllun dal a phrofi yn gam yn ôl. Ond i symud oddi wrth TB a chanolbwyntio ar gymorth ariannol, yr wythnos diwethaf, clywodd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig dystiolaeth gan yr undebau ffermio, pan ofynnwyd iddynt am eu pryderon ynghylch y ffaith bod cyllid rhaglen...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (17 Tach 2021)

Samuel Kurtz: Diolch. Fe sonioch chi am y prosiectau amgylcheddol, ac ar fater taliadau rhaglen datblygu gwledig effeithiol a thryloyw, mae ffigurau a ryddhawyd gan Lywodraeth Cymru wedi cadarnhau bod cyfran gynyddol o gronfa creu coetir Glastir Llywodraeth Cymru yn cael ei defnyddio i ariannu prosiectau plannu coed ar dir fferm yng Nghymru a brynwyd gan fusnesau tramor, heb unrhyw fudd i Gymru na'n...

6. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Y Cynllun Tai mewn Cymunedau Cymraeg (23 Tach 2021)

Samuel Kurtz: Diolch, Llywydd, a gwnaf i ddiolch i'r Gweinidog am y cyfle i weld y datganiad o flaen amser, a hoffwn hefyd ddatgan fod gen i ddiddordeb bersonol yn y mater hwn.

6. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Y Cynllun Tai mewn Cymunedau Cymraeg (23 Tach 2021)

Samuel Kurtz: Roedd y datganiad heddiw wedi ei drefnu'n flaenorol ar gyfer yr wythnos diwethaf, ond cafodd ei ohirio. Mae'n amlwg bellach o'r datganiad heddiw ein bod ni mewn gwirionedd yn aros am fanylion terfynol y glymblaid Llafur/Plaid Cymru cyn i chi wneud unrhyw gyhoeddiad ffurfiol mewn cysylltiad â'ch polisi cynllun tai mewn cymunedau Cymraeg. Mae problem unigryw mewn rhai ardaloedd yng Nghymru lle...

6. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Y Cynllun Tai mewn Cymunedau Cymraeg (23 Tach 2021)

Samuel Kurtz: Nid yw adeiladu tai ledled Cymru wedi cadw i fyny â'r galw, ac, er bod y Llywodraeth yn addo adeiladu 20,000 o gartrefi carbon isel, nid yw, o’r hyn a welaf, yn nodi ble yng Nghymru y bydd y cartrefi hyn yn cael eu hadeiladu. Mae angen adeiladu cartrefi lle mae eu hangen, nid lle mae hawsaf.

6. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Y Cynllun Tai mewn Cymunedau Cymraeg (23 Tach 2021)

Samuel Kurtz: Hoffwn i dynnu sylw hefyd at y ffaith bod mwy o eiddo gwag yn bodoli ledled Cymru nag ail gartrefi, ac felly byddai gen i ddiddordeb mewn gwybod beth y mae'r Gweinidog a'i gyd-Aelodau yn y Cabinet yn bwriadu ei wneud wrth fynd i'r afael â'r materion hyn. Beth fydd yn cael ei wneud i sicrhau bod yr eiddo hyn yn cael eu defnyddio eto, gan ganiatáu i fwy o bobl gael cartref? Gall eiddo sy'n...

6. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Y Cynllun Tai mewn Cymunedau Cymraeg (23 Tach 2021)

Samuel Kurtz: Yn ystod y 18 mis diwethaf, mae patrymau gwaith wedi newid, gyda llawer o bobl yn dychwelyd i’r ardaloedd lle cawsant eu magu, ac, wrth i ni drosglwyddo i ffwrdd o’r pandemig, mae’n annhebygol y bydd dychwelyd i’r ffyrdd traddodiadol o weithio wrth ddesg swyddfa. Mae yna enghreifftiau o weithwyr proffesiynol ifanc yn dychwelyd i’r ardaloedd y cawsant eu magu i barhau â'u swyddi...

6. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Y Cynllun Tai mewn Cymunedau Cymraeg (23 Tach 2021)

Samuel Kurtz: Mater arall yr wyf i wedi ei godi yn y Siambr hon yw prynu tir fferm o Gymru ar gyfer plannu coed gan sefydliadau a busnesau o'r tu allan i Gymru. Felly, byddwn i'n ei groesawu pe gellid ymestyn yr elfen mentrau cydweithredol a mentrau cymdeithasol a arweinir gan y gymuned i gynnwys tir amaethyddol. Mae gan amaethyddiaeth ganran uwch o siaradwyr Cymraeg na diwydiannau eraill, a bydd cefnogi'r...

6. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Y Cynllun Tai mewn Cymunedau Cymraeg (23 Tach 2021)

Samuel Kurtz: Weinidog, wrth gloi, mae sicrhau bod gan Gymru wledig ddigon o gartrefi a swyddi o ansawdd i bobl leol, a bod cefnogaeth i'r iaith a diwylliant, yn her, ac mae angen mynd i'r afael â hi. Rwy'n gobeithio bod ymatebion i'r consultation yn darparu strategaeth hirdymor i sicrhau nad ydym yn siarad am y mater hwn mewn blynyddoedd i ddod. Diolch.

10. Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg 2020-21 ac ail adroddiad 5 mlynedd y Comisiynydd (23 Tach 2021)

Samuel Kurtz: Hoffwn i groesawu'r ddadl heddiw ar y ddau adroddiad gan Gomisiynydd y Gymraeg, a hoffwn ddatgan buddiant. Dyma'r cyfle cyntaf i mi wneud sylwadau ar waith y comisiynydd a hoffwn dalu teyrnged i'r gwaith caled y mae ef a'i dîm wedi'i wneud i gyflawni eu rolau, nid yn unig dros y 18 mis diwethaf, ond cyn hynny hefyd. Fel rydw i a llawer ohonom ni yn y Siambr hon wedi dweud, a chi hefyd,...


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.