Caroline Jones: Rwyf i hefyd yn cefnogi'r gwelliannau yn y grŵp hwn. Os ydym am gael unrhyw obaith o gyflawni'r ddyletswydd ansawdd, rhaid inni gael canllawiau statudol ar waith sy'n rhoi cyfarwyddyd i ddarparwyr iechyd a gofal cymdeithasol ynghylch sut y gallant fynd ati i weithredu'r ddyletswydd ansawdd. Heb ganllawiau statudol, byddwn yn ei adael yn agored i'w ddehongli gan y byrddau iechyd lleol a'r...
Caroline Jones: Rwy'n cefnogi'r gwelliant yn y grŵp hwn, ac rwy'n cytuno â Phlaid Cymru bod yn rhaid cael cofrestr ar gyfer rheolwyr y GIG. Rwyf wedi dweud sawl gwaith yn y Siambr hon bod yn rhaid inni sicrhau bod rheolwyr y gwasanaeth iechyd yn cadw at yr un rhwymedigaethau â staff clinigol. Mae clinigwyr yn cael eu cynnwys yn y dyletswyddau gofal a roddir iddynt gan eu colegau brenhinol a'r cyrff...
Caroline Jones: Er na allaf gefnogi'r prif welliant yn y grŵp hwn, mae gennyf rywfaint o gydymdeimlad â'r hyn y mae'r Gweinidog yn ceisio'i wneud. Fodd bynnag, credaf mai'r lle hwn, nid Gweinidogion Cymru, sydd yn y sefyllfa orau i benodi aelodau i gorff llais y dinesydd. Felly, rwyf yn dewis cefnogi gwelliannau Angela. Corff llais y dinesydd yw un o rannau pwysicaf y ddeddfwriaeth hon. Nid oeddwn erioed...
Caroline Jones: Un o'r beirniadaethau mwyaf o gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddisodli'r Cynghorau Iechyd Cymuned oedd colli'r llais lleol, rhanbarthol. Rydym ni wedi rhoi ein cefnogaeth i welliannau Angela oherwydd, yn ein barn ni, byddan nhw'n helpu i adfer y cysylltiadau lleol a fyddai'n cael eu colli drwy gael gwared ar y Cynghorau Iechyd Cymuned a'u disodli gan gorff cenedlaethol bach gyda swyddfa yng...
Caroline Jones: Diolch, Llywydd. I fod yn hyrwyddwr effeithiol, mae'n rhaid i'r corff llais y dinesydd gael ei glywed. Mae'r cynghorau iechyd cymuned wedi bod yn hyrwyddwr effeithiol i gleifion Cymru, yn rhannol, oherwydd eu hawl i gael eu clywed. Mae'n rhaid i gyrff cyhoeddus gymryd sylw o sylwadau sy'n cael eu gwneud gan Gynghorau Iechyd Cymuned. Mae'r gwelliannau a gyflwynwyd gan Angela a Rhun yn ymestyn...
Caroline Jones: Yn ein barn ni, gwelliant 45 yw un o'r gwelliannau pwysicaf yr ydym yn eu trafod heddiw. Mae'r gallu i gynnal ymweliadau dirybudd â chyfleusterau'r GIG wedi galluogi'r cynghorau iechyd cymuned i amlygu methiannau sydd wedi effeithio ar ofal cleifion. Roedd y ffaith bod gweledigaeth y Gweinidog i ddisodli'r cynghorau iechyd cymuned wedi cael gwared ar yr ymweliadau hyn yn peri pryder enfawr...
Caroline Jones: Credwn fod y ddau welliant yn y grŵp hwn yn hanfodol er mwyn i'r corff llais y dinesydd weithredu'n effeithiol. Heb ddyletswydd gyfreithiol ar gyrff y GIG ac awdurdodau lleol i gydweithredu, mae perygl na fydd llais y dinesydd yn cael ei glywed.
Caroline Jones: Er mwyn sicrhau bod y corff llais y dinesydd yn sefydliad effeithiol i ddisodli'r cynghorau iechyd cymuned, mae'n rhaid i ni sicrhau bod ganddo staff sydd wedi'u hyfforddi'n effeithiol. Gan eich bod ond cystal â'ch hyfforddiant, mae'n hanfodol bwysig ein bod yn rhoi dyletswydd ar y corff newydd i arfogi a hyfforddi ei holl staff a gwirfoddolwyr yn llawn i'w paratoi nhw ar gyfer cyflawni eu...
Caroline Jones: A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella gwasanaethau arennol yng Nghymru?
Caroline Jones: Diolch, Lywydd. Weinidog, dywedodd Dr Andrew Goodall wrth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ddydd Llun ei fod yn siomedig iawn fod gan dri o saith bwrdd iechyd lleol Cymru ddiffyg o filiynau o bunnoedd. A ydych yn rhannu ei siom fod Betsi Cadwaladr, Hywel Dda a Bae Abertawe yn rhagweld diffyg cyfunol o dros £92 miliwn ar gyfer 2019 i 2020? Rhagwelir y bydd bwrdd Betsi Cadwaladr £41 miliwn yn y...
Caroline Jones: Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Wrth gwrs, mae'n rhaid i bob un ohonom fyw o fewn ein modd, ond ni allwn dorri cyllid i fyrddau iechyd heb effeithio ar ofal cleifion. Cymerwch y gronfa feddyginiaethau newydd, er enghraifft: mae Llywodraeth Cymru yn ariannu triniaethau newydd am y 12 mis cyntaf, ac yna mae'n rhaid i fyrddau iechyd ddod o hyd i arian ar gyfer blynyddoedd i ddod. Felly,...
Caroline Jones: Yn ffurfiol.
Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i David am gyflwyno'r ddadl hynod bwysig hon. Fel rhywun sydd wedi goroesi canser, gallaf dystio i'r ffaith bod diagnosis cynnar yn achub bywydau, oherwydd heb feddyg ymgynghorol anhygoel, gyda chefnogaeth tîm o nyrsys a staff diagnostig yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, ni fuaswn yma heddiw. Oherwydd ar ôl cael mamogram, pan oeddwn yn dawnsio allan drwy'r drws am eu bod...
Caroline Jones: Diolch, Llywydd. Hoffem ninnau hefyd gofnodi ein diolch i holl staff y GIG a thu hwnt sy'n ymdrechu i weithio drwy'r cyfnod hwn, a hoffwn ddiolch i chithau, Prif Weinidog, am y sesiynau briffio yr ydych chi'n eu darparu. Gallwch fod yn sicr o'n cefnogaeth barhaus. Hefyd, anfonwn ein cydymdeimlad at deulu a chyfeillion y person a fu farw yn sgil y feirws hwn. Prif Weinidog, rydym ni'n...
Caroline Jones: Diolch, Prif Weinidog. Hoffwn barhau gyda'r syniad o'r mater o brofi, os caf i. Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi dweud bod angen profi, profi, profi, ac rwy'n derbyn y rhesymeg am beidio â phrofi pob achos ar hyn o bryd. Ond a oes gennych chi strategaeth ar gyfer cynyddu cyfleusterau profi yn ystod y misoedd nesaf? Mae hwn yn feirws cwbl newydd nad ydym ni'n gwybod fawr ddim amdano, a'r mwyaf...
Caroline Jones: Diolch i chi am gyflwyno'r datganiad, Prif Weinidog, ac a gawn ni ddymuno'r gorau i'r Gweinidog Iechyd a'i deulu yn ystod y cyfnod hwn o brysur bwyso? Diolchwn i chi hefyd am yr ymdrech yr ydych yn mynd iddi i'n diweddaru ni a'r cyhoedd yng Nghymru yn ystod y pandemig hwn. Diolch eto i bawb sy'n helpu—o staff y GIG i'r llu o wirfoddolwyr yr ydym ni'n dibynnu cymaint arnyn nhw. Hefyd, hoffwn...
Caroline Jones: 1. Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei darparu i'r diwydiant twristiaeth i liniaru'r effaith y gallai coronafeirws ei chael yng Nghymru? OAQ55252
Caroline Jones: Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y system addysg yn arfogi pobl ifanc â sgiliau bywyd angenrheidiol?
Caroline Jones: Diolch, Weinidog. Pan gyflwynais y cwestiwn hwn yr wythnos diwethaf, pwy allai fod wedi dychmygu y byddai'r tymor twristiaeth yn cael ei ganslo i bob pwrpas cyn iddo ddechrau hyd yn oed? Weinidog, gobeithio y bydd y mesurau rydym yn eu cymryd i atal lledaeniad y coronafeirws yn golygu y gall bywyd ddychwelyd i ryw fath o normalrwydd ymhen mis neu ddau. Yn y cyfamser, mae'r effaith y mae'r...
Caroline Jones: Diolch am eich datganiad, Prif Weinidog, a hefyd am yr holl wybodaeth yr ydych chi wedi ei rhoi i mi. Hoffwn hefyd gydymdeimlo â theulu a chyfeillion y rhai sydd wedi colli'r frwydr yn erbyn y clefyd ofnadwy hwn. Rwyf eisiau diolch ar fy rhan fy hun ac ar ran fy mhlaid i bawb sy'n peryglu eu bywydau er mwyn ein gwarchod rhag pandemig y coronafeirws. Pwy a feddyliodd ychydig wythnosau yn ôl...