Canlyniadau 801–820 o 2000 ar gyfer speaker:Mark Isherwood

6. Dadl: Yr Adroddiad Blynyddol ar Gamddefnyddio Sylweddau (12 Chw 2019)

Mark Isherwood: Diolch. Wel, yn ôl ei adroddiad blynyddol 2018 ar gamddefnyddio sylweddau, mae strategaeth camddefnyddio sylweddau 10 mlynedd Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd yn 2008, yn nodi agenda genedlaethol a chlir ar gyfer mynd i'r afael a lleihau'r niwed sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau yng Nghymru. Mae'n ychwanegu ei bod wedi dechrau ar waith i ddatblygu blaenoriaethau o ran...

6. Dadl: Yr Adroddiad Blynyddol ar Gamddefnyddio Sylweddau (12 Chw 2019)

Mark Isherwood: A wnewch chi ildio?

6. Dadl: Yr Adroddiad Blynyddol ar Gamddefnyddio Sylweddau (12 Chw 2019)

Mark Isherwood: Ydych chi wedi edrych ar y ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, sy'n dangos bod y ffigurau, y rhai diweddaraf a gyhoeddwyd, yn cynyddu? Hynny yw, ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Ffordd Osgoi Caernarfon i Bontnewydd (13 Chw 2019)

Mark Isherwood: Diolch, Lywydd. Fel y dywedoch, a phan dorroch y dywarchen gyntaf ar 17 Ionawr, roeddech yn rhagweld y byddai'r gwaith wedi'i gwblhau erbyn Hydref 2021. Pa fesurau diogelu cytundebol a sicrhawyd gennych mewn perthynas â hynny, ac o ystyried y pryderon a fynegwyd gan rai busnesau mawr lleol pan gyhoeddwyd y ddau lwybr cyntaf a ffafrir na chynhaliwyd asesiad o'r effaith ar fusnesau lleol, pa...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit): Porthladd Caergybi (13 Chw 2019)

Mark Isherwood: Yn ei lythyr at y Prif Weinidog ar 13 Ionawr, rhoddodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru wahoddiad i'r Prif Weinidog fynychu cyfarfodydd y pwyllgor newydd ar barodrwydd i ymadael â'r UE, a gadeirir gan Brif Weinidog y DU, pan fydd materion sy'n berthnasol i Gymru ar yr agenda. Roeddent hefyd yn dweud: 'Rwyf wedi gofyn i swyddogion rannu'r profiadau mewn perthynas â'r ymarferion diweddar yng...

7. Dadl Plaid Cymru: Grant Byw’n Annibynnol Cymru (13 Chw 2019)

Mark Isherwood: Diolch, Lywydd. Mae byw'n annibynnol yn galluogi pobl anabl i gyflawni eu nodau eu hunain a byw eu bywydau eu hunain yn y ffordd y maent yn dewis drostynt eu hunain. Roedd y gronfa byw'n annibynnol yn galluogi pobl anabl iawn i ddewis byw bywyd annibynnol yn y gymuned, yn hytrach nag mewn gofal preswyl. Rwy'n cynnig gwelliant 2, sy'n galw ar Lywodraeth Cymru 'i sicrhau bod pobl anabl yn...

7. Dadl Plaid Cymru: Grant Byw’n Annibynnol Cymru (13 Chw 2019)

Mark Isherwood: Nid oes gennym amser i drafod lles yn ei gyfanrwydd yma, ond gwneuthum y pwynt fod Llywodraeth y DU, nad ydych yn hoff iawn ohoni, wedi atal pobl ag anableddau difrifol serch hynny rhag gorfod cael eu hailasesu ar gyfer amrywiaeth o fudd-daliadau—y taliad annibyniaeth personol, lwfans cyflogaeth a chymorth, credyd cynhwysol—ac eto rydym ni wedi dweud wrth bobl ag anableddau difrifol y...

7. Dadl Plaid Cymru: Grant Byw’n Annibynnol Cymru (13 Chw 2019)

Mark Isherwood: A wnaiff yr Aelod ildio?

7. Dadl Plaid Cymru: Grant Byw’n Annibynnol Cymru (13 Chw 2019)

Mark Isherwood: O ystyried bod y rhai a arferai dderbyn y gronfa byw'n annibynnol yn gorfod bod yn gymwys i'w gael drwy brofi eu bod yn ddifrifol anabl, pam y dylent orfod ei brofi eto a ninnau, yn briodol, wedi beirniadu Llywodraeth y DU pan ddywedasant wrth bobl y byddai'n rhaid iddynt ei brofi eto?

7. Dadl Plaid Cymru: Grant Byw’n Annibynnol Cymru (13 Chw 2019)

Mark Isherwood: A gaf fi ofyn cwestiwn? Os yw'n anghywir, fel y mae, i Lywodraeth y DU ddatgan wrth berson ag anabledd difrifol fod yn rhaid iddynt gael eu hailasesu am fod y budd-daliadau wedi newid, i weld a ydynt yn gymwys ar gyfer y budd-dal olynol, pam y mae'n iawn yng Nghymru i ddweud wrth rywun a oedd yn gymwys i gael budd-dal ar sail eu hanabledd difrifol fod yn rhaid iddynt gael eu hailasesu? Rwy'n...

8. Dadl Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Carchardai a Charcharorion (13 Chw 2019)

Mark Isherwood: Diolch, Lywydd. Dylai carchardai fod yn lleoedd o ddiwygio ac adsefydlu, ac mae carchar yn gosb i'r rhai a geir yn euog o drosedd. Mae Gweinyddiaeth Gyfiawnder y DU yn canolbwyntio ar wasanaethau adsefydlu, dedfrydau cymunedol a lleihau aildroseddu. Fis Awst diwethaf, mynychais y digwyddiad yn Wrecsam a gynhaliwyd gan Wasanaeth Carchardai a Phrawf ei Mawrhydi yng Nghymru i drafod y papur...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cyflwyno'r Credyd Cynhwysol (19 Chw 2019)

Mark Isherwood: Bob blwyddyn, mae cynghorau yng Nghymru yn cael arian taliad disgresiwn at gostau tai gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, ac, y llynedd, beirniadwyd Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf ac Ynys Môn am roi arian yn ôl a ddylai fod wedi mynd i bobl sy'n cael budd-dal tai neu gredyd cynhwysol ac angen cymorth ychwanegol gyda chostau rhent neu dai. Gan wneud sylwadau ar hyn, dywedodd Merthyr Tudful:...

Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Gwella Diogelwch Cymunedol (19 Chw 2019)

Mark Isherwood: Mae gwefan Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn dweud bod partneriaethau diogelwch cymunedol, sy'n cynnwys cynghorau, yr heddlu, yn ogystal â gwasanaethau tân ac achub, byrddau iechyd a gwasanaethau prawf, yn gweithio i gynnig dull amlasiantaeth effeithiol. Ond heblaw am gyfeirio at weithio gyda chynghorau a chymunedau, nid oes unrhyw gyfeiriad at y trydydd sector. Fodd bynnag, dywedodd...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (19 Chw 2019)

Mark Isherwood: Mae’n rhaid imi ddweud bod fy ngyrrwr tacsi i, sy’n byw yng Nghei Connah, wedi codi’r gêm gyda mi hefyd, felly roeddwn i’n cadw llygad barcud arni. Roeddwn i yng Ngholeg Cambria ddoe ar gyfer digwyddiad cymunedol a dweud y gwir—digwyddiad colli golwg Vision Support Sir y Fflint—ac roedd rhai o'ch cydweithwyr a’ch ffrindiau chi yno hefyd, felly rwy'n cefnogi eich sylwadau yn...

5. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Y Rhaglen Cartrefi Clyd (19 Chw 2019)

Mark Isherwood: Diolch am eich datganiad. Fe wnaethoch ddechrau unwaith eto drwy gyfeirio at gynhadledd National Energy Action Cymru ddydd Iau diwethaf sef 'Mynd i'r Afael â Thlodi Tanwydd ac Anghydraddoldeb: Y Ffordd Ymlaen', o flaen Diwrnod Ymwybyddiaeth o Dlodi Tanwydd ddydd Gwener ac roeddwn innau'n siarad hefyd yn y digwyddiad hwnnw yn ystod y prynhawn, ac yn eistedd ar banel holi wrth i ni symud...

10. Dadl Fer: Cartrefi i'n Harwyr: A ydym yn diwallu anghenion cartrefu ein cyn-filwyr? (20 Chw 2019)

Mark Isherwood: Diolch. Ddoe, cyhoeddodd Ysgrifennydd amddiffyn y DU y bydd pobl sy'n gadael gwasanaeth a'u teuluoedd bellach yn gallu cael llety milwrol am hyd at flwyddyn ar ôl gadael, gan roi mwy o amser iddynt chwilio am gartref parhaol wrth iddynt newid i fywyd fel sifiliaid, gan fod cael cartref yn allweddol i gyn-filwyr a'u teuluoedd. Cyflwynodd Cymdeithas Tai Dewis Cyntaf, sydd wedi arwain y ffordd...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Gwasanaethau Fascwlaidd Brys yn Ysbyty Gwynedd ( 5 Maw 2019)

Mark Isherwood: Mae'r pryder yn parhau ynghylch y problemau eraill y gall cleifion eu dioddef, hyd yn oed os byddan nhw'n manteisio ar wasanaethau fasgwlaidd, ac mai Ysbyty Gwynedd yw'r pwynt cyswllt cyntaf. Fis Chwefror diwethaf, dywedodd y bwrdd iechyd wrthym y byddai gwasanaethau fasgwlaidd brys yn aros yn ddiamod yn y tri ysbyty cyffredinol dosbarth yn y gogledd, wedi ei gefnogi gan ddeiseb a lofnodwyd...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol): Y Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ( 5 Maw 2019)

Mark Isherwood: Mae cod ymarfer Rhan 2 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn datgan, Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn adran 149 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn ei gwneud hi’n ofynnol i bob awdurdod lleol roi sylw priodol i nodweddion gwarchodedig wrth gyflawni eu swyddogaethau. a hefyd, Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ei gwneud hi’n ofynnol i addasiadau rhesymol gael eu...

QNR: Cwestiynau i Y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Twristiaeth ( 6 Maw 2019)

Mark Isherwood: Sut y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo Gogledd Cymru fel cyrchfan i dwristiaid?

9. Dadl ar ddeiseb P-05-849 Dylai pob dyn yng Nghymru gael mynediad drwy'r GIG at y profion diagnostig gorau posibl ar gyfer canser y prostad ( 6 Maw 2019)

Mark Isherwood: Mae uned wroleg Ysbyty Maelor Wrecsam yn un o 11 o unedau ledled Cymru a Lloegr a gymerodd ran yn nhreial astudiaeth ddelweddu'r prostad MRI PROMIS i ganfod ffyrdd gwell o wneud diagnosis o ganser y prostad. Dangosodd y canlyniadau nad oedd angen i 27 y cant o'r dynion a gafodd mpMRI negyddol gael biopsi o gwbl, ond yn hollbwysig, cafodd 93 y cant o ganserau ymledol eu canfod drwy...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.