Caroline Jones: Diolch ichi am eich datganiad, Gweinidog, ac mae'n dda eich gweld yn ôl yma gyda ni a chlywed bod eich teulu'n ddiogel ac yn iach. Hefyd, unwaith eto, ar ran fy mhlaid a minnau, rwy'n cydymdeimlo â phawb sydd wedi colli anwyliaid oherwydd y clefyd hwn.
Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i'n staff gwych yn y GIG a phawb sy'n ymwneud â'r gwaith ac yn helpu i gyfyngu ar ledaeniad y clefyd ofnadwy hwn. Rhaid i ni fel unigolion wneud popeth a allwn ni, oherwydd mae gan bob un ohonom ni ran i'w chwarae yn hyn. Gweinidog, mae gennych fy nghefnogaeth barhaus i a'm plaid yn ystod y cyfnod anodd hwn, ac mae gennyf ychydig o gwestiynau yr hoffwn eu gofyn. Rwyf wedi...
Caroline Jones: Mae'r pwerau hyn yn wirioneddol ddidostur, ac, ydyn, maen nhw'n gyrru ias i lawr yr asgwrn cefn. Mae'r pwerau sy'n cael eu caniatáu i Weinidogion y Llywodraeth ym mhob un o'r pedair gwlad yn effeithio ar ryddid sifil pob un ohonom ni, ac ni allai'r rhan fwyaf o bobl fod yn ddim ond pryderus. Ac o dan amgylchiadau arferol, ni fyddwn i hyd yn oed yn ystyried trosglwyddo pwerau o'r fath. Yn...
Caroline Jones: Diolch am eich datganiad, Brif Weinidog, a fy nghydymdeimlad hefyd â phawb sydd wedi colli anwyliaid i'r clefyd dychrynllyd hwn. Mae'r newyddion hefyd mai bachgen 13 oed heb unrhyw broblemau iechyd amlwg yw'r ieuengaf i farw o'r clefyd hwn yn ategu difrifoldeb y pandemig. Bob dydd gwelwn pa mor gyflym y mae'r sefyllfa'n newid, ac yn wir, ers eich diweddariad diwethaf i'r Siambr mae nifer y...
Caroline Jones: Diolch am eich datganiad, Weinidog. Mae llawer o feirniadaeth wedi bod am y diffyg profi yng Nghymru, ac mae cymariaethau'n cael eu gwneud â gwledydd eraill. Nid wyf am ailadrodd y dadleuon ynghylch methiant y cytundeb i sicrhau profion ychwanegol i Gymru, ond pa sicrwydd a gawsoch gan Lywodraeth y DU, a'r gwledydd cartref eraill, nad ydym yn cystadlu am yr un cyflenwad cyfyngedig? Mae’r...
Caroline Jones: Diolch am eich datganiad, Prif Weinidog. Hoffwn anfon fy nghydymdeimlad at deuluoedd a chyfeillion y rhai sydd wedi colli anwyliaid i COVID-19, ac fy nymuniadau gorau hefyd i Brif Weinidog y DU, ein cyd-Aelod Alun Davies, ac, yn wir, pawb sy'n brwydro'r clefyd hwn ar hyn o bryd; a diolch i bawb sy'n rhan o'r frwydr yn erbyn y clefyd: gweithwyr iechyd a staff gofal cymdeithasol, gweithwyr...
Caroline Jones: Mae'n drueni bod Llywodraeth Cymru wedi dewis bwrw ymlaen â'r ddeddfwriaeth hon, ac rwy'n teimlo mai annoeth iawn yw dargyfeirio adnoddau ar hyn o bryd pan allem ni ohirio hyn nes bod ein gwlad mewn sefyllfa well yn dilyn pandemig y coronafeirws. Oherwydd ar hyn o bryd, mae gwthio ymlaen â deddfwriaeth hefyd yn amhoblogaidd iawn ymhlith y cyhoedd. Rwyf wedi gwneud fy marn am Fil Llywodraeth...
Caroline Jones: Yn erbyn.
Caroline Jones: Diolch am eich datganiad, Weinidog, ac am ymdrechion parhaus eich adran i helpu i frwydro yn erbyn y clefyd hwn—clefyd sydd wedi lladd bron 200,000 o bobl ym mhob rhan o'r byd. Mae pob un o'r rheini'n annwyl i rywun, ac mae fy nghalon yn gwaedu dros bawb sydd wedi dioddef colled dan law'r lladdwr anweledig hwn. Heb ymdrechion ein GIG, arwyr gofal cymdeithasol a gwirfoddolwyr, byddai llawer...
Caroline Jones: Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Ddoe, fe gawsom ni funud o dawelwch i'n harwyr yn y meysydd gofal cymdeithasol ac iechyd a gollodd eu bywydau i felltith COVID-19, a hoffwn ddiolch ar goedd unwaith eto i'n gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol ymroddedig, sy'n ein cadw ni i gyd yn ddiogel, a chydymdeimlo â'r rheini sydd wedi colli anwyliaid. Nid ydym yn gwybod digon o hyd am y feirws yma,...
Caroline Jones: [Anhyglyw.]—datganiad, Gweinidog. Hoffwn i ddiolch i'r miloedd o weithwyr llywodraeth leol sydd wedi parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol yn ystod y cyfyngiad symud hwn. Mae wedi bod yn her enfawr ac mae ein hawdurdodau lleol wedi ymateb iddi, ond mae meysydd lle mae angen gwneud mwy. Rydym ni wedi gweld cynnydd enfawr mewn tipio anghyfreithlon; beth all awdurdodau lleol ei wneud i...
Caroline Jones: Gweinidog, nos Lun, gwyliodd llawer ohonom ni weithredoedd arwrol staff yr uned gofal dwys yn Ysbyty Brenhinol Gwent wrth iddyn nhw ymladd i achub bywydau'r rhai a heintiwyd â COVID-19. Roedd yn wirioneddol dorcalonnus ac yn codi'r galon ar yr un pryd. Roedd yn amlygu erchylldra llwyr y clefyd a thynnodd sylw at gymaint yw gofal a thosturi'r holl staff sy'n gweithio yn ein hadrannau gofal...
Caroline Jones: Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Er gwaethaf eich haeriad, nid oedd yr hyn a welsom ni yr wythnos hon yn enghraifft o liniaru'r cyfyngiadau symud yn sylweddol. Mewn gwirionedd, newid bach ydyw, oherwydd i'r mwyafrif helaeth o bobl sy'n byw yng Nghymru, bydd teulu'n byw mwy na 5 milltir i ffwrdd. Wrth gyhoeddi'r newidiadau, dywedodd y Prif Weinidog fod y penderfyniad i osod egwyddor...
Caroline Jones: Diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog, ac rwy'n croesawu'r cynlluniau i roi terfyn ar ddigartrefedd. Ond, Gweinidog, a wnewch chi gadarnhau y bydd y cynlluniau yn berthnasol i bawb sy'n ddigartref yn ystod y pandemig hwn, ac nid y rhai sydd mewn llety brys yn unig? Rwyf i wedi bod yn siarad â grwpiau cyn-filwyr yn ystod yr wythnosau diwethaf sy'n pryderu bod llawer o gyn-filwyr digartref...
Caroline Jones: Diolch am eich datganiad, Weinidog, ac am y gwaith rydych yn parhau i'w wneud, ac fe wnawn ni i gyd weddïo am heddwch ar draws y byd. Mae economi fy rhanbarth, fel sawl rhan o Gymru, yn dibynnu'n drwm ar y sector twristiaeth, sector sydd wedi'i ddifetha gan y pandemig coronafeirws. Microfusnesau yw'r rhan fwyaf o'r gweithredwyr yn fy rhanbarth, ac mae'r enillion a gollwyd wedi bod yn...
Caroline Jones: Ni fydd fy ngrŵp yn cefnogi'r cynnig i ddirymu a gyflwynwyd gan Suzy Davies heddiw. Er bod democratiaeth yn agos at galon pob un ohonom ac er ein bod yn gwneud popeth a allwn i gynnal egwyddorion democrataidd, rhaid inni ystyried y cyd-destun ehangach. Mae miliynau o bobl yn fyd-eang wedi cael eu heintio â feirws sydd wedi costio llawer o fywydau ac sy'n cael ei ledaenu drwy gyswllt wyneb...
Caroline Jones: Yn sgil clywed y newyddion am farwolaeth Oscar ddoe, rwy'n estyn fy nghariad at ei wraig, Firdaus; Natasha, ei ferch; ei deulu estynedig a'i gyfeillion; ei gyfeillion yn y grŵp Ceidwadol a phob cyfaill arall. Fe wnes i gyfarfod Oscar a Natasha yn 2011, a gwelsom ein gilydd droeon cyn imi gael fy ethol yn 2016. Cefais fy llongyfarch yn syth gan Oscar, a chefais fy nghroesawu’n gynnes i'r...
Caroline Jones: 1. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r proffesiwn deintyddol yng Nghymru yn ystod y pandemig coronafeirws? OQ55332
Caroline Jones: Diolch, Lywydd.
Caroline Jones: Diolch, Brif Weinidog. Mae'r proffesiwn deintyddol, fel pob sector yn economi Cymru, yn dioddef yn ddifrifol o ganlyniad i’r cyfyngiadau symud. Er y bydd dod allan o lefel y rhybudd coch yn rhywfaint o ryddhad, ni fydd yn ddigon i gefnogi llawer o bractisau, ac ni allwn fforddio colli unrhyw bractis deintyddol yng Nghymru. Mae nifer o bractisau wedi cysylltu â mi, unig berchnogion yn aml,...